Swydd Wag -- Arolygydd Gofal Plant a Chwarae - Cymraeg Hanfodol X2

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Arolygiaeth Gofal Cymru
HEO - £32,460 - £39,690
Gellir ystyried cyflog cychwynnol o hyd at bwynt 3 (£35,180) ar gyfer ymgeiswyr sy'n dangos y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad hanfodol i lefel eithriadol.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Lleoliad arall
Y lleoliad swyddfa y cytunwyd arno yw naill ai swyddfa AGC ym Merthyr neu ei swyddfa yng Nghyffordd Llandudno. Y swyddfa hon fydd eich man gwaith parhaol ar gyfer y rhan helaeth o’ch gwaith. Fel arolygydd, byddwch yn gweithio o gyfuniad o leoliadau, gan gynnwys rhywfaint o amser yn gweithio gartref, rhywfaint o amser yn y lleoliad swyddfa y cytunwyd arno, a rhywfaint o amser yn safle'r gwasanaeth yr ydych yn ei arolygu. Y lleoliad swyddfa y cytunir arno fydd y man gwaith dynodedig ac nid yw unrhyw drefniant gweithio o bell neu gartref yn golygu newid i’ch man gwaith dynodedig neu’ch telerau ac amodau contractiol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus dalu am gostau cymudo i'w fan gwaith arferol. Bydd AGC yn talu costau teithio i leoliadau eraill nad ydynt y man gweithio arferol cytunedig.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gwasanaethau gofal cymdeithasol a gofal plant. Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er llesiant pobl Cymru. Mae arolygu a gorfodi yn swyddogaethau allweddol wrth ddarparu gwasanaethau rheoledig diogel o ansawdd uchel i ddinasyddion Cymru. 

Prif dasg arolygydd yw sicrhau bod gwasanaethau gofal rheoleiddiedig yn darparu gofal diogel o ansawdd da ac yn annog ac ysgogi gwelliant. Mae arolygwyr yn cael y cyfle i ddefnyddio eu gwybodaeth a’u sgiliau i ddiogelu ac amddiffyn llesiant pobl sy’n defnyddio gwasanaethau rheoleiddiedig ac i gasglu gwybodaeth am ganlyniadau i bobl. Gall AGC ddefnyddio'r wybodaeth hon yn ei gwerthusiad o gynghorau lleol ac i lywio datblygiad polisi.

Bydd arolygwyr yn atebol i reolwr tîm. Mae ganddynt swyddogaeth hollbwysig i’w chyflawni i sicrhau bod cyfrifoldebau craidd AGC yn cael eu cyflawni’n effeithiol ac mewn modd amserol ar draws sbectrwm llawn gwasanaethau gofal rheoleiddiedig.

Prif dasgau

  • Goruchwylio a rheoli llwyth achosion o wasanaethau rheoleiddiedig, gan sicrhau bod yr arolygiadau gofynnol yn cael eu cynnal, fod lefelau risg yn cael eu monitro, fod y pryderon sy'n dod i law yn cael eu hasesu, a bod yr holl gofnodion yn cael eu diweddaru.
  • Cynnal arolygiadau yn unol â rhaglen y cytunwyd arni (gan gynnwys arolygiadau ar y cyd ag Estyn mewn lleoliadau gofal plant a chwarae), arsylwi ac adrodd ar lesiant y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth, nodi a monitro meysydd o ddiffyg cydymffurfio, a chodi pryderon o ran diogelu ac ymateb iddynt.
  • Cymryd cyfrifoldeb am ddilyn a datblygu camau gweithredu mewn perthynas â gwasanaethau sy’n peri pryder a chysylltu â rhanddeiliaid allweddol eraill, gan gynnwys comisiynwyr, cyrff rheoleiddio eraill ac arweinwyr diogelu.
  • Paratoi a chyflawni gweithgarwch gorfodi, gan gynnwys drafftio hysbysiadau statudol.
  • Coladu a darparu tystiolaeth ar gyfer gwrandawiadau o’r Tribiwnlys Safonau Gofal, a bod yn bresennol yn y gwrandawiadau hyn.
  • Gweithio gyda rheolwyr i gyfrannu at osod a chyflawni amcanion perfformiad sefydliadol, gan gynnwys mesurau meintiol ac ansoddol.
  • Sicrhau cyfathrebu effeithiol ar draws y tîm i sicrhau bod arferion da yn cael eu rhannu a meysydd o bryder yn cael eu cofnodi.
  • Cyfrannu at ddatblygu a gwella arferion i sicrhau safonau rheoleiddio cadarn a chyson lle mae materion amrywiaeth a chydraddoldeb yn cael sylw llawn a’u hintegreiddio.
  • Sicrhau'r wybodaeth ddiweddaraf am newidiadau mewn deddfwriaeth, canllawiau, polisïau, gweithdrefnau a datblygiad arferion gorau.
  • Sicrhau datblygiad ac ymgysylltiad effeithiol parhaus â rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys y bobl sy'n defnyddio gwasanaethau a gofalwyr.
  • Paratoi gohebiaeth mewn perthynas â materion penodol a gaiff eu codi am wasanaethau.
  • Rheoli cofnodion cywir, gan gynnwys defnyddio cronfa ddata Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid (CaSSI).

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn rhoi'r cyfle i weithio mewn sefydliad deinamig sy'n hyrwyddo gwelliannau mewn gofal cymdeithasol trwy ddull sydd â phwyslais penodol ar y dinesydd.

Dyddiad Cau

29/09/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Rhugl
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Gan fod sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno tystiolaeth ar gyfer o leiaf dau gwestiwn o'r cymwyseddau neu'r meini prawf benodol i’r swydd yn yr iaith arall. Er enghraifft, os yw'r cais yn cael ei gyflwyno yn Saesneg, dylid ysgrifennu o leiaf dwy o'r enghreifftiau yn Gymraeg. Os yw'r cais yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg, dylid ysgrifennu o leiaf dwy o'r enghreifftiau yn Saesneg.

Sgroliwch i lawr ar gyfer y cyfieithiadau Saesneg.

Cymwyseddau

  • Gweld y Darlun Cyflawn - Ceisio deall sut y mae’r gwasanaethau, y gweithgareddau a’r strategaethau yn y maes yn ategu ei gilydd i greu gwerth am arian ar gyfer y cwsmer/defnyddiwr.
  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Sylwi ar batrymau neu dueddiadau mewn amrywiaeth eang o dystiolaeth/data a dod i gasgliadau allweddol, gan amlinellu’r costau, y manteision, y risgiau a’r ymatebion posibl.
  • Arwain a Chyfarthrebu - Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen.
  • Cyflawni'n Brydlon - Cynllunio ymlaen llaw ond gan ailystyried llwythau gwaith a blaenoriaethau os bydd sefyllfaoedd yn newid neu os bydd y galwadau ar unigolion yn gwrthdaro.

Meini Prawf Pendol i'r Swydd

  1. Byddai cymhwyster gofal cymdeithasol / addysg cydnabyddedig, ochr yn ochr â phrofiad perthnasol, yn cael ei ffafrio. Serch hynny, croesewir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau lefel gradd neu uwch (mewn unrhyw bwnc) ac sydd â phrofiad sylweddol mewn diogelu a/neu wella canlyniadau ar gyfer pobl mewn cyd-destun iechyd neu ofal cymdeithasol. Dyma enghreifftiau o gymwysterau gofal cymdeithasol / addysg derbyniol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):
    • Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gymhwyster cyfatebol Gofal Cymdeithasol Cymru)
    • Cymhwyster nyrsio neu berthynol i ofal iechyd
    • Cymhwyster addysgu neu addysg
    • Gradd mewn Astudiaethau Blynyddoedd Cynnar / Plentyndod
    • Diploma Lefel 5 mewn naill ai Arweinyddiaeth ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol neu Ofal, Dysgu a Datblygiad Plant
  2. Tystiolaeth o arwain ac ysgogi gwelliant i safon a diogelwch gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion a gofynion amrywiol y defnyddiwr gwasanaeth / cwsmer / defnyddiwr terfynol.
  3. Gallu profedig i gyfathrebu'n ysgrifenedig ac ar lafar wrth weithio gydag ystod o randdeiliaid.

-----------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Competencies

  • Seeing the Big PictureSeek to understand how services, activities & strategies in the area work together to create value for the customer/end user.
  • Making Effective Decisions - Recognise patterns and trends in a wide range of evidence/data and draw key conclusions, outlining costs, benefits, risks and potential responses.
  • Leading and Communicating - Communicate in a straightforward, honest and engaging manner with all stakeholders and stand ground when needed. 
  • Delivering at Pace - Plan ahead but reassess workloads and priorities if situations change or people are facing conflicting demands. 

Job Specific Criteria

  1. A recognised social care/education qualification alongside relevant experience is preferred however, applications will be accepted from candidates who are qualified to degree level or higher (in any subject) with substantial experience in safeguarding and/or improving outcomes for people in a health or social care context. Examples of acceptable social care/education qualifications are (but not limited too):
    • a Diploma in Social Work (or Social Care Wales equivalent),
    • a nursing or allied health care qualification,
    • a teaching or education qualification,
    • a degree in Early Years/Childhood Studies
    • a Level 5 Diploma in either Leadership for Health and Social Services or Children’s Care, Learning and Development
  2. Evidence of leading and driving improvement in the quality and safety of services to meet the diverse needs and requirements of service user/customer/end user.
  3. Proven ability of both written and verbal communication skills when working with a range of stakeholders.

Proses Asesu

Ar ôl i'r ceisiadau gael eu sifftio, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gyfweliad. Caiff y cyfweliadau eu cynnal yn rhithwir drwy Microsoft Teams.

Y broses ymgeisio
Mae AGC yn dilyn prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru, sef ffurflenni cais a chyfweliadau ar sail cymhwysedd. Sicrhewch eich bod yn darllen Canllawiau Recriwtio Llywodraeth Cymru a Phecyn Ymgeisydd AGC cyn gwneud cais ac wrth baratoi ar gyfer cyfweliadau, a defnyddio dull STAR wrth ddarparu tystiolaeth.

Cyfweliadau
Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn rhithwir trwy Microsoft Teams. Os na allwch gynnal cyfweliad ar-lein am unrhyw reswm, rhowch wybod i ni a gallwn geisio gwneud trefniadau eraill lle bo modd.

Os ydych yn unigolyn anabl, â nam neu gyflwr iechyd, neu’n niwrowahanol, neu os ydych yn defnyddio BSL ac yn dymuno gwneud cais am addasiad rhesymol neu drefniadau amgen, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at CIWHR@llyw.cymru.

Bydd cyflwyniad ar ddechrau'r cyfweliad – darperir y testun yn y gwahoddiad i gael cyfweliad.

Gan fod sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y rôl hon, mae'n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno tystiolaeth ar gyfer o leiaf dau gwestiwn o'r meini prawf cymhwysedd neu swydd benodol yn yr iaith arall. Er enghraifft, os yw'r cais yn cael ei gyflwyno yn Saesneg, dylid ysgrifennu o leiaf dwy o'r enghreifftiau yn Gymraeg. Os yw'r cais yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg, dylid ysgrifennu o leiaf dwy o'r enghreifftiau yn Saesneg.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Cyflog a lwfansau

Bydd Lwfans Recriwtio a Chadw o hyd at £4,535 y flwyddyn yn daladwy. Mae'r lwfans ynghlwm i swydd yr arolygydd, ac mae'n ychwanegol at y cyflog parhaol.

Mae lwfans o £1,000 y flwyddyn ar gael os ydych yn defnyddio eich car eich hun ac yn teithio dros 2,000 o filltiroedd statudol y flwyddyn. Mae trwydded yrru ddilys ac yswiriant modur yn ofynnol.

Gellir ystyried cyflog cychwynnol o hyd at bwynt 3 (£35,180) ar gyfer ymgeiswyr sy'n dangos y sgiliau, gwybodaeth a phrofiad hanfodol i lefel eithriadol.

Bydd gwaith achlysurol y tu allan i oriau swyddfa arferol yn ofynnol er mwyn cwblhau archwiliadau.

Lleoliad

Y lleoliad swyddfa y cytunwyd arno yw naill ai swyddfa AGC ym Merthyr neu ei swyddfa yng Nghyffordd Llandudno. Y swyddfa hon fydd eich man gwaith parhaol ar gyfer y rhan helaeth o’ch gwaith. Fel arolygydd, byddwch yn gweithio o gyfuniad o leoliadau, gan gynnwys rhywfaint o amser yn gweithio gartref, rhywfaint o amser yn y lleoliad swyddfa y cytunwyd arno, a rhywfaint o amser yn safle'r gwasanaeth yr ydych yn ei arolygu. Y lleoliad swyddfa y cytunir arno fydd y man gwaith dynodedig ac nid yw unrhyw drefniant gweithio o bell neu gartref yn golygu newid i’ch man gwaith dynodedig neu’ch telerau ac amodau contractiol. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus dalu am gostau cymudo i'w fan gwaith arferol. Bydd AGC yn talu costau teithio i leoliadau eraill nad ydynt y man gweithio arferol cytunedig.

Y broses ymgeisio

Mae AGC yn dilyn prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru, sef ffurflenni cais a chyfweliadau ar sail cymhwysedd. Sicrhewch eich bod yn darllen Canllawiau Recriwtio Llywodraeth Cymru a Phecyn Ymgeisydd AGC cyn gwneud cais ac wrth baratoi ar gyfer cyfweliadau, a defnyddio dull STAR wrth ddarparu tystiolaeth.

Swyddi ar gael

Mae dwy swydd Arolygydd Gofal Plant a Chwarae ar gael ar draws y lleoliadau canlynol:

  • 1 x Arolygydd AGC – Swyddfa Merthyr
  • 1 x Arolygydd AGC – Swyddfa Cyffordd Llandudno

Rhestr fer / sifftio

Bydd ymgeiswyr yn cael eu rhoi ar y rhestr fer trwy asesu'r dystiolaeth a ddarparwyd yn y cais a’r CV a'r dystiolaeth a lanlwythwyd. Bydd yr wybodaeth yn cael ei hasesu gan ddefnyddio'r matrics sgorio (gweler y Canllawiau i Ymgeiswyr Allanol ym mharagraff 6) yn erbyn meini prawf y cymwyseddau penodol i'r swydd fel y nodir yn y swydd-ddisgrifiad / hysbyseb swydd. 

Os oes nifer uchel o geisiadau, mae’n bosibl mai dim ond ar sail eich ymatebion i’r tri maen prawf sy’n benodol i’r swydd y bydd y panel yn llunio rhestr fer. Sylwch, bydd angen i chi ddarparu ymateb ysgrifenedig mewn perthynas â’r pedwar cymhwysedd o hyd i basio cam y rhestr fer yn llwyddiannus. Byddwch yn cael gwybod am y canlyniad drwy'r system ar-lein.  

Mae dwy swydd wag ar gael ar hyn o bryd. Bydd rhestr wrth gefn yn cael ei chadw am 12 mis.

Cyfweliadau

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal yn rhithwir trwy Microsoft Teams. Os na allwch gymryd rhan mewn cyfweliad ar-lein am unrhyw reswm, rhowch wybod i ni a gallwn geisio gwneud trefniadau eraill lle bo modd. 

Os ydych yn unigolyn anabl, â nam neu gyflwr iechyd, neu’n niwrowahanol, neu os ydych yn defnyddio BSL ac yn dymuno gwneud cais am addasiad rhesymol neu drefniadau amgen, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at CIWHR@llyw.cymru.

Efallai y gofynnir i ymgeiswyr wneud asesiad neu gyflwyniad fel rhan o'r broses gyfweld. Os felly, byddwn yn rhoi rhybudd o’r gofynion o leiaf pum diwrnod gwaith ymlaen llaw.

Sgiliau Cymraeg

Gan fod sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, mae gofyn i ymgeiswyr gyflwyno tystiolaeth ar gyfer o leiaf ddau gwestiwn o'r meini prawf cymhwysedd neu swydd benodol yn yr iaith arall. Er enghraifft, os yw'r cais yn cael ei gyflwyno yn Saesneg, dylid ysgrifennu o leiaf dwy o'r enghreifftiau yn Gymraeg. Os yw'r cais yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg, dylid ysgrifennu o leiaf dwy o'r enghreifftiau yn Saesneg.

Gweithio hyblyg – Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg i'ch helpu i gael y cydbwysedd cywir rhwng bywyd a gwaith.

Gwyliau blynyddol – Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig 31 diwrnod o wyliau blynyddol os ydych yn gweithio’n llawn amser, pro rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser (e.e. 4 diwrnod = 25 diwrnod).

Gwyliau banc – Mae gweithwyr amser llawn yn cael 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint y flwyddyn, pro rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser.

Cyflog – Rydym yn gyflogwr Cyflog Byw gyda graddfeydd cyflog cynyddrannol. Mae gennym hefyd strwythur cyflog cyfartal, waeth beth fo'ch oedran, statws priodasol, anabledd, hil, crefydd neu gred, neu hunaniaeth rhywedd. Gellir cael rhagor o wybodaeth yma: https://llyw.cymru/datganiad-polisi-tal-llywodraeth-cymru-2020

Teithio a chynhaliaeth – Bydd Llywodraeth Cymru yn ad-dalu costau ychwanegol angenrheidiol i weithwyr ar gyfer teithio a chynhaliaeth wrth gymryd rhan mewn teithiau busnes swyddogol i ffwrdd o'r swyddfa arferol. Ni fydd treuliau y gellid bod wedi eu hosgoi trwy gynllunio gwell neu a oedd fel arall yn ddiangen at ddiben swyddogol yr ymweliad yn cael eu had-dalu.

Pensiwn – Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar gael yma: https://www.civilservicepensionscheme.org.uk/

Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant – Mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi ac yn cefnogi ei holl weithwyr. Mae gennym rwydweithiau staff cadarn a rhagweithiol a rhaglenni talent amrywiaeth i helpu pawb, waeth beth fo'u cefndir, i gyflawni eu llawn botensial.

Dysgu a datblygu – Mae pawb yn Llywodraeth Cymru yn cael eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau a’u galluoedd, sy’n cynnwys mynediad at ddysgu a datblygu gyda darparwyr o’r radd flaenaf. Mae AGC wedi ymrwymo i ddysgu a datblygu ac yn sicrhau bod ein staff yn cael o leiaf pum diwrnod o ddysgu bob blwyddyn. Cefnogir hyn gan raglen ddysgu wedi’i theilwra ar gyfer gweithwyr AGC. 

Cyfnod sefydlu – Mae pob dechreuwr newydd yn cael cyfnod sefydlu fel gweithiwr Llywodraeth Cymru. Cefnogir hyn gan raglen sefydlu wedi’i theilwra ar gyfer gweithwyr AGC.

Cod y Gwasanaeth Sifil – Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn nodi’r gwerthoedd a safonau craidd a ddisgwylir gan bob gwas sifil: uniondeb, gonestrwydd, gwrthrychedd a didueddrwydd. Disgwylir i bob gwas sifil ymddwyn yn unol â Chod y Gwasanaeth Sifil, https://llyw.cymru/cod-y-gwasanaeth-sifil

Gwerthoedd craidd AGC – Mae ein gwerthoedd craidd yn sicrhau bod pobl wrth wraidd popeth a wnawn a phopeth yr ydym yn anelu i fod fel sefydliad.

  • Gofalgar: rydym yn dosturiol ac mae’n hawdd mynd atom
  • Teg: rydym yn gyson, yn ddiduedd ac yn gynhwysol
  • Uniondeb: rydym yn onest ac yn ddibynadwy
  • Proffesiynol: rydym yn fedrus, yn wybodus ac yn arloesol
  • Parch: rydym yn gwrando ar bobl, yn ymgysylltu â nhw ac yn eu gwerthfawrogi
CIWHR@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.