Swydd Wag -- Uwch-swyddog Ymchwil (Ymchwil Iaith Gymraeg)
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
Prif dasgau
Efallai na fydd y tasgau allweddol a amlinellir isod i gyd yn angenrheidiol mewn un swydd benodol a gallai tasgau eraill gael eu gwneud hefyd.
Rhaglenni/prosiectau ymchwil
- Gweithio'n agos gyda chydweithwyr polisi a dadansoddwyr eraill i gefnogi'r cynlluniau tystiolaeth adrannol trwy nodi a blaenoriaethu anghenion ymchwil a bylchau yn y dystiolaeth, a datblygu prosiectau sy'n bodloni gofynion adrannol.
- Arwain a rheoli'r gwaith o ddatblygu a darparu prosiectau ymchwil a gwerthuso.
- Cefnogi cydweithwyr polisi a’u hannog i ddatblygu eu dealltwriaeth a'u gwerthfawrogiad o sut y gall ymchwil gymdeithasol gefnogi nodau ehangach Llywodraeth Cymru.
- Cyfrannu at ddatblygu sylfaen o dystiolaeth ar gyfer polisi a phenderfyniadau am y gyllideb, drwy ddarparu tystiolaeth berthnasol, prydlon a dibynadwy.
- Sicrhau bod canfyddiadau ymchwil yn cael eu cyfleu'n effeithiol, a'u bod yn cyfrannu at y gwaith o ddatblygu, cyflawni a gwerthuso polisïau a gwasanaethau.
Meithrin cysylltiadau
- Datblygu a chynnal cysylltiadau strategol â'r gymuned ymchwil ehangach yng Nghymru, yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
- Cydweithio â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus sydd â meysydd diddordeb cyffredin.
Gweithgareddau ymchwil arall
- Meddu ar wybodaeth gyfredol ynghylch tystiolaeth a dulliau perthnasol, a chyfleu'r canfyddiadau i gydweithwyr polisi perthnasol.
- Darparu cyngor a chymorth i gydweithwyr mewnol ar faterion technegol a phroffesiynol sy'n ymwneud ag ymchwil gymdeithasol.
- Cyfrannu at feysydd ymchwil a gwerthuso eraill, fel y pennir yn briodol gan y rheolwr llinell.
Rheoli
- Sicrhau bod unrhyw staff a reolir yn cael eu datblygu drwy ddarparu arweiniad, cyngor a chefnogaeth i dderbyn hyfforddiant a datblygiad proffesiynol.
- Sicrhau bod prosiectau a chontractau yn cael eu cyflawni o fewn terfynau amser, cyfyngiadau adnoddau, ac i'r safon broffesiynol briodol, drwy ddefnyddio technegau rheoli prosiectau.
- Sicrhau bod gweithdrefnau rheolaeth ariannol cadarn yn cael eu dilyn
Gweithgareddau corfforaethol Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth
- Hyrwyddo'r defnydd effeithiol o ymchwil gymdeithasol mewn strategaethau, datblygiadau polisi ac wrth gyflawni amcanion ar draws Llywodraeth Cymru ac yn allanol.
- Cyfrannu at weithgarwch sy'n ymwneud ag ansawdd/gwella o fewn y swydd, ac yn gorfforaethol drwy'r rhwydwaith GSR ehangach.
- Dirprwyo ar ran Prif Swyddogion Ymchwil yn ôl y gofyn.
Cyfleoedd datblygu
Mae'r holl swyddi'n cynnig cyfleoedd datblygu gwych, megis y cyfle i fod yn rhan o'r gwaith o ddatblygu a gwerthuso rhai o flaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru, ac i weithio Ochr yn ochr ag uwch swyddogion, ac mewn rhai achosion y Gweinidogion a Chynghorwyr Arbennig.
Bydd cyfleoedd i gyfrannu at waith timau dadansoddi eraill a gweithgareddau GSR corfforaethol. Bydd deiliaid y swyddi'n cael eu hannog i fanteisio ar gyfleoedd o ran hyfforddiant a datblygiad proffesiynol, fel y bo'n briodol.
Fel y nodir uchod, byddai'r swydd yn cynnig cyfleoedd i ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg ddefnyddio a datblygu'r sgiliau hyn.
Dyddiad Cau
Cymhwystra
Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:
- Fisâu a Mewnfudo y DU - GOV.UK (Saesneg yn unig)
- Rheolau Cenedligrwydd – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.
Hyderus o ran Anabledd
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
Cymwyseddau
- Newid a gwella - Mynd ati i annog awgrymiadau gan amrywiaeth eang o ffynonellau a rhanddeiliaid, a’u defnyddio i ddylanwadu ar eu syniadau eu hunain.
- Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Sylwi ar batrymau neu dueddiadau mewn amrywiaeth eang o dystiolaeth/data a dod i gasgliadau allweddol, gan amlinellu’r costau, y manteision, y risgiau a’r ymatebion posibl.
- Arwain a Chyfathrebu - Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen.
- Rheoli Gwasanaeth Safonol - Gwneud defnydd effeithiol o sgiliau a thechnegau rheoli prosiect i wireddu canlyniadau, gan gynnwys nodi risgiau a chamau i’w lliniaru.
Meini Prawf Penodol i'r Swydd
- Wedi derbyn isafswm o 2:1 mewn gradd israddedig neu 2:2 gyda gradd ôl-raddedig a naill ai; [llwybr cymhwyster] Pwnc gwyddor gymdeithasol berthnasol ar lefel israddedig neu ôl-raddedig, sy'n cynnwys hyfforddiant sylweddol mewn dulliau ymchwil cymdeithasol (byddai disgwyl i ddulliau ymchwil cymdeithasol gynrychioli tua thraean o'r modiwlau a gymerwyd) neu; [llwybr profiad] O leiaf 4 blynedd o brofiad ymarfer ymchwil cymdeithasol (byddai hyn yn brofiad o ddylunio, rheoli a chynnal ymchwil mewn asiantaeth ymchwil, asiantaeth ymchwil i'r farchnad neu dîm arbenigol ymchwil. Ar gyfer y llwybr hwn, rhaid i chi ddangos yn glir ehangder a dyfnder eich profiad a’ch sgiliau ymchwil).
- Profiad perthnasol ym maes ymchwil, gan gynnwys ymchwil feintiol ac ansoddol os oes modd. Dylech roi trosolwg o'ch profiad perthnasol fel tystiolaeth.
- Profiad o reoli neu gomisiynu gwaith ymchwil sy'n bodloni anghenion cydweithwyr polisi a/neu gwsmeriaid. Dylech roi trosolwg o'ch profiad perthnasol fel tystiolaeth.
Proses Asesu
Gwybodaeth arall
- Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
- Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
- Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
- Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Anghydfod a Chwynion
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.