Swydd Wag -- Y Swyddog Nyrsio ar gyfer Profiad y Claf

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyfarwyddiaeth Nyrsio
Gradd 6 - £67,100 - £76,990
£62,320
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
Yw Gadarnhau

Pwrpas y swydd

Byddwch yn rhoi cyngor proffesiynol ar arferion nyrsio i Lywodraeth Cymru, ac yn gweithio fel arweinydd polisi ar gyfer y canlynol: adborth a phrofiad cleifion; rheoli digwyddiadau difrifol yn ymwneud â nyrsio gan gynnwys adolygu achosion ac ysgogi gwelliannau yn y system lle y bo'n briodol; datblygu safonau gofal iechyd mewn perthynas ag arferion nyrsio a hanfodion gofal; mynd i'r afael â materion ansawdd a diogelwch mewn gofal iechyd sy'n ymwneud â nyrsio; swyddogaethau sicrhau llywodraethu clinigol; a datblygu ac adolygu metrigau nyrsio fel rhan o Fframwaith Perfformiad y GIG.

Byddwch yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu dogfennau nyrsio electronig ar draws Cymru, ac yn eu gweithredu yn sefydliadau GIG Cymru.

Byddwch yn aelod o dîm o swyddogion nyrsio proffesiynol o fewn y Gyfarwyddiaeth Nyrsio, a byddwch yn cyfrannu at rôl Llywodraeth Cymru i graffu ar berfformiad o fewn GIG Cymru, gan ganolbwyntio'n benodol ar wasanaethau nyrsio.

Prif dasgau

  • Bod yn arweinydd polisi a'r proffesiwn ar gyfer profiad cleifion, gan gynnwys cynrychioli'r proffesiwn nyrsio yn y Grŵp Gwrando a Dysgu oddi wrth Adborth Cymru Gyfan.
  • Cydweithio â grwpiau cenedlaethol perthnasol megis y fforwm ymataliaeth Cymru gyfan a'r fforwm hyfywedd meinwe Cymru gyfan i sicrhau bod gofal nyrsio o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael profiad cadarnhaol
  • Gweithio gyda mudiad Cymorth Canser Macmillan i sicrhau bod yr Arolwg o Brofiad Cleifion Canser a gynhelir ddwywaith y flwyddyn ac a ariennir ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Macmillan, yn cael ei reoli'n effeithiol
  • Darparu arweinyddiaeth nyrsio wrth ddatblygu Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROM) a Mesurau Profiad a Adroddir gan Gleifion (PREM) fel rhan o'r rhaglen Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth
  • Darparu arweinyddiaeth nyrsio wrth ddatblygu metrigau nyrsio ar y cyd â thîm Ansawdd a Diogelwch Llywodraeth Cymru
  • Arwain y gwaith o weithredu'r system adrodd digwyddiadau difrifol rhwng GIG Cymru a Llywodraeth Cymru
  • Cydweithio gyda'r grwpiau cenedlaethol perthnasol i sicrhau gofal nyrsio sylfaenol o ansawdd uchel
  • Goruchwylio'r gwaith o graffu ar y sut y caiff y safonau maeth mewn ysbytai eu gweithredu, a chadeirio'r fforwm maeth ac arlwyo Cymru Gyfan.
  • Darparu cyngor proffesiynol i Lywodraeth Cymru (gweinidogion a swyddogion) ar y materion canlynol: profiad cleifion, adrodd digwyddiadau difrifol, maeth mewn ysbytai a meysydd eraill y portffolio
  • Darparu cyngor a chymorth proffesiynol i dîm Ansawdd a Diogelwch Llywodraeth Cymru i'w helpu i gyflawni'r rhaglen waith.
  • Cynrychioli Prif Swyddog Nyrsio Cymru yn y cyfarfodydd Iechyd a Lles Ysbrydol (SHAW) a darparu arweinyddiaeth broffesiynol wrth weithredu'r safonau gofal ysbrydol
  • Chwarae rhan weithredol yn y broses rheoli perfformiad dan arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru mewn perthynas â GIG Cymru.
  • Gweithredu ar ran y Prif Swyddog Nyrsio yn ei habsenoldeb yn ôl yr angen
  • Arwain y gwaith o ddatblygu cynhadledd arddangos flynyddol y Prif Swyddog Nyrsio yn ôl yr angen

Cyfleoedd datblygu

Byddwch yn cael y cyfle i ddatblygu sgiliau negodi a dylanwadu ar lefel uwch, ac yn gallu dylanwadu i sicrhau newid ar lefel system gyfan; byddwch yn meithrin dealltwriaeth o sut i gynghori gweinidogion a'r rheini sy'n llunio polisïau; cewch y cyfle i ddatblygu rhwydweithiau proffesiynol allanol helaeth; a chyfle i ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu drwy ystod o gyfryngau.

Cewch eich cefnogi i ymgymryd â'r gofynion a luniwyd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth i gwblhau'r broses ailddilysu.

Dyddiad Cau

13/02/20 17:30

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

1. Arwain a Chyfathrebu - Egluro strategaethau a chynlluniau, cyfathrebu diben a

chyfeiriad mewn modd clir a brwdfrydig

2. Ymddygiad Effeithiol - Sicrhau bod partneriaid yn cael eu cynnwys yn y broses o wireddu canlyniadau busnes, drwy gydweithredu a chyd-gynhyrchu mewn ffordd sy’n sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer y cyhoedd.

3. Rheoli Gwasanaeth Safonol - Gwneud cynlluniau clir, ymarferol a hawdd eu rheoli ar gyfer cyflenwi gwasanaethau, gan ddefnyddio disgyblaethau rheoli rhaglenni a phrosiectau

4. Rheoli Gwasanaeth Safonol - Sicrhau bod y gwasanaeth a gynigir yn ystyried anghenion cwsmeriaid yn eang, a bod ystod eang o ddulliau ar gael i gyflawni hyn, gan gynnwys technoleg newydd lle y bo'n berthnasol

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

1. Y gallu i reoli nifer o elfennau o waith, gan flaenoriaethu a sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni

2. Nyrs brofiadol gydag arbenigedd mewn gweithredu a goruchwylio safonau mewn safleoedd gofal, iechyd ac wedi cael addysg hyd at lefel meistr.

3. Sgiliau cyfathrebu ardderchog mewn amrywiaeth o ffurfiau yn addas ar gyfer y gynulleidfa; sgiliau uwch yn y maes dylanwadu a negodi. 

Proses Asesu

Cyfweliad (5 Munud)

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Rebecca Isted - Rebecca.Isted@gov.wales - 03000 256341

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.