Swydd Wag -- ~~OPPORTUNITY_TITLE_B4697414-E2DA-4FA4-A28F-B6FFA7658DED~~
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
Sefydlwyd yr Is-adran Tir yn 2020 i hyrwyddo rôl asedau tir ac eiddo fel rhan allweddol o gynllunio busnes i ateb heriau ariannol a pholisi sefydliadau cyhoeddus ledled Cymru ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.
Gan reoli portffolio o safleoedd sydd â photensial ar gyfer datblygiadau preswyl, mae'r Is-adran hefyd yn cefnogi cydweithwyr sy'n rheoli ystâd weinyddol Llywodraeth Cymru ac yn darparu cymorth sicrwydd gwerth am arian ar draws adrannau'r llywodraeth a phartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus.
Gan ganolbwyntio ar gydweithio, un o nodau craidd yr Is-adran yw datgloi'r potensial o ddatblygu tir cyhoeddus er mwyn cyflawni blaenoriaethau allweddol y llywodraeth a sicrhau'r canlyniadau polisi gorau posibl. Mae'r ffocws uniongyrchol ar wireddu blaenoriaethau polisi o waredu safleoedd ar gyfer datblygiadau preswyl.
Mae'r Is-adran yn cynnwys tri thîm gweithredol: Ystadau; Gweithrediadau Tir ac Ystadau'r Sector Cyhoeddus.
Bydd y swyddi hyn yn cefnogi gwaith timau Ystadau a Thir y Sector Cyhoeddus o ran rheoli a gwaredu asedau tir ac eiddo presennol Llywodraeth Cymru o ddydd i ddydd.
Prif dasgau
- Gweithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i gyflawni yn erbyn y Strategaethau Rheoli Asedau Corfforaethol a'r Gweithle yn y Dyfodol.
- Mynd ati i ddatrys materion cyfreithiol, ariannol a chymhorthdal sy'n ymwneud â rheoli a throsglwyddo eiddo a safleoedd.
- Gweithio gyda chynghorwyr mewnol ac allanol i hwyluso'r broses o gaffael, rheoli a throsglwyddo safleoedd ac adeiladau Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau'r canlyniadau gwerth cyhoeddus mwyaf posibl.
- Hyrwyddo datblygiad safleoedd cyhoeddus ar gyfer canlyniadau polisi, yn enwedig tai fforddiadwy.
- Annog a chefnogi cydweithio mewn gweithgareddau tir ac eiddo ar draws y llywodraeth ac ystâd ehangach y sectorcyhoeddus.
- Cefnogi'r sector cyhoeddus ehangach o ran gwybodaeth ac arbenigedd proffesiynol.
Cyfleoedd datblygu
Dyddiad Cau
Cymhwystra
Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:
- Fisâu a Mewnfudo y DU - GOV.UK (Saesneg yn unig)
- Rheolau Cenedligrwydd – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.
Hyderus o ran Anabledd
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
Gweld y Darlun Cyflawn
- Bod yn effro i faterion a thueddiadau newydd a allai effeithio ar eu gwaith eu hunain a'u tîm, neu a allai fod o fudd i'r gwaith hwnnw.
Cyfathrebu a Dylanwadu
- Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy'n ennyn diddordeb gyda phobl a rhanddeiliaid a dal eu tir pan fo angen.
Cydweithio
- Sefydlu perthynas broffesiynol gydag amrywiaeth o randdeiliaid.
Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
- Cyflwyno argymhellion cryf mewn modd amserol yn amlinellu'r ystyriaeth o opsiynau, costau, manteision a risgiau eraill.
Meini Prawf Penodol i’r Swydd:
- Cymhwyso Gwybodaeth ac Arbenigedd: Cymhwyso profiad a dealltwriaeth berthnasol, gan gynnwys gwybodaeth dechnegol fel y bo'n briodol mewn maes, system, ffordd benodol o weithio neu amgylchedd i lywio penderfyniadau a phrosesau allweddol ym maes rheoli gweithredol ac i ysgogi arfer gorau
- Ymwybyddiaeth Fasnachol: Datblygu, gwerthuso a thrafod cynigion masnachol yn unol â strategaeth adrannol a phortffolio, gan ymgorffori gwybodaeth ehangach am y farchnad. Cefnogi'r gwaith parhaus o reoli contractau masnachol, ynghyd â chaffael gwasanaethau neu gynhyrchion yn unol â fframweithiau busnes perthnasol.
- Cynllunio strategol: Deall a defnyddio sbardunau busnes allweddol i ddatblygu a gweithredu strategaeth ystad/portffolio go iawn, strategaeth gwasanaeth neu strategaeth gweithle i gefnogi amcanion busnes.
Gellir dod o hyd I ganllawiau pellach yn: https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/862583/Government_Property_Career_Framework.pdf
Proses Asesu
Bydd proses sifftio dau gam yn cael ei chynnal ar gyfer ymgeiswyr.
Y Cam Sifftio 1:
Bydd y dystiolaeth a roddwch yn eich cais am fanylion y swydd yn cael ei hasesu gan banel recriwtio. Os byddwch yn llwyddiannus ar hyn o bryd, bydd eich cais yn symud ymlaen i Sifftio Cam 2
Y Cam Sifftio 2:
Bydd panel recriwtio yn asesu'r pedair Cymwyseddau sy'n weddill rydych wedi dangos tystiolaeth yn eich cais. Os llwyddwch i basio’r cam sifftio, cewch eich gwahodd i gyfweliad. Bydd y cyfweliad yn cynnwys ymarfer briffio.
Gwybodaeth arall
- Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
- Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
- Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
- Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Anghydfod a Chwynion
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.