Swydd Wag -- Uwch Swyddog y Wasg ar gyfer Prif Weinidog Cymru

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Swyddfa'r Prif Weinidog
Cyfathrebu
SEO - £41,700 - £49,370
£38,355
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Caerdydd
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Gwasanaeth Cyfathrebu Llywodraeth Cymru

Mae Gwasanaeth Cyfathrebu Llywodraeth Cymru yn helpu Gweinidogion i sicrhau effeithiolrwydd yr hyn a gyfathrebir gan y sector cyhoeddus.

Mae'r gwasanaeth yn cefnogi'r Llywodraeth drwy roi gwybod i bobl am ddeddfwriaeth a pholisïau sy'n effeithio arnynt, a darparu gwybodaeth ymatebol 24 awr y dydd, 365 dydd y flwyddyn.


Gweithio yn swyddfa'r wasg Llywodraeth Cymru

Mae swyddfa’r wasg yn Llywodraeth Cymru yn rhan allweddol o Wasanaeth Cyfathrebu Llywodraeth Cymru, yn darparu gwasanaeth newyddion 24 awr y dydd.

Mae swyddfa'r wasg yn lle prysur a diddorol i weithio ynddo, sy'n ymdrin â llwyth o ymholiadau gan y cyfryngau, gan hefyd ddatblygu cyfleoedd rhagweithiol a chreadigol i hyrwyddo'r Llywodraeth. 

Fel swyddog y wasg i'r Prif Weinidog, byddech yn arwain ar y gwaith o gyfathrebu rhai o'r materion pwysicaf ac uchaf eu proffil sy'n wynebu Cymru heddiw. Byddech yn gweithio ochr yn ochr â'n tîm cyfryngau digidol i ddatblygu cynnwys digidol creadigol ac effeithiol ar ran y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru yn ehangach.

Drwy weithio gyda chydweithwyr ym meysydd polisi, marchnata a'r maes digidol, byddwch yn arwain ar y gwaith o gyfleu ein negeseuon drwy'r cyfryngau, gan ymgysylltu â gwahanol gynulleidfaoedd a datblygu ymgyrchoedd cyffrous. 

Byddwch yn darparu cyngor a chymorth i'r Prif Weinidog, Gweinidogion ac uwch swyddogion ar faterion yn ymwneud â'r cyfryngau. Drwy fonitro a gwerthuso eich gwaith mewn perthynas â’r cyfryngau, byddwch yn sicrhau bod amcanion yn cael eu cyflawni.

Mae datblygu cydberthnasau gwaith cryf ac adeiladol gyda newyddiadurwyr yn allweddol i'r rôl hon, yn ogystal â chreu cysylltiadau â dylanwadwyr ac arbenigwyr allanol allweddol.

Mae rhoi sylw cadarnhaol i Lywodraeth Cymru yn y cyfryngau yn rhan allweddol o'r swydd, felly mae ymdeimlad da o'r newyddion, creadigrwydd a brwdfrydedd yn hanfodol. Rhan fawr o hyn yw llwyddo i ddarparu straeon i olygyddion newyddion a newyddiadurwyr - felly, rydym yn chwilio am rywun sydd ag agwedd bositif, gwydn ac sy'n gweithredu'n hyderus.

Wrth ymateb yn gyflym ac yn gywir i storïau pwysig sy’n torri yn y newyddion, rhaid i allu sganio’r gorwel yn effeithiol i nodi unrhyw broblemau allai godi. Byddwch hefyd yn gyfrifol am weithredu strategaethau ar gyfer rheoli argyfyngau os bydd angen.

Hefyd, byddwch yn gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth i dîm bach yn swyddfa’r wasg, a’i helpu i ddatblygu.

Fel aelod o swyddfa’r wasg, disgwylir ichi gymryd rhan yn y rota dyletswyddau y tu allan i oriau, a byddwch yn cael tâl ychwanegol am y gwaith hwnnw.



Y Rôl

Dyma gyfle cyffrous i gyfathrebwr talentog, brwdfrydig a chreadigol weithio mewn rôl proffil uchel yng nghanol bwrlwm gweithgarwch cyfathrebu’r llywodraeth.

Er bod y penodiad hwn yn un i lenwi swydd wag bresennol ar ddesg y wasg y Prif Weinidog, mae’n ofynnol i swyddogion y wasg weithio ar wahanol ddesgiau’r wasg, ac i Weinidogion eraill, yn l yr angen busnes.

Prif dasgau

Gan weithio i'r Dirprwy Bennaeth Newyddion, byddwch yn gwneud y canlynol:

  • Gweithio'n agos gyda Gweinidogion, uwch swyddogion polisi a thimau cyfathrebu i ddatblygu a chyflwyno ymgyrchoedd creadigol llawn dychymyg yn y cyfryngau;
  • Meithrin cysylltiadau cryf â’r cyfryngau yng Nghymru a’r DU, yn ogystal â’r cyfryngau rhanbarthol ac arbenigol, yn ogystal â phlatfformau digidol allweddol;
  • Ymateb yn gyflym ac yn gywir i ymholiadau ymatebol gan y cyfryngau a storïau sy’n torri yn y newyddion, drwy sicrhau bod prosesau sganio’r gorwel ar waith i nodi unrhyw faterion sy’n codi;
  • Defnyddio crebwyll a chydbwysedd o’r radd flaenaf i roi cyngor mewn modd sy’n ennyn hyder Gweinidogion ac uwch gydweithwyr polisi;
  • Meithrin cysylltiadau gweithio cadarn â newyddiadurwyr a phartneriaid eraill, gan ddarparu cyngor ac arweiniad pan fo angen;
  • Y cyfle i reoli tîm o swyddogion y wasg, gan bennu blaenoriaethau a rheoli’r llif gwaith, darparu arweinyddiaeth ac arweiniad, a chefnogi eu datblygiad;
  • Defnyddio ystod lawn o ddulliau ac adnoddau i ddeall a gwerthuso, er mwyn targedu’r wybodaeth a gyfathrebir ac asesu ei heffeithiau, gan ddefnyddio unrhyw ganlyniadau i wella’n barhaus;
  • Cadw at safonau proffesiynol uchel, gan gynnwys sgiliau ysgrifennu da iawn;
  • Bod yn ymwybodol o ddatblygiadau yn y maes cyfathrebu, yn enwedig y ffordd orau o ymgorffori cyfryngau digidol a chymdeithasol mewn cynlluniau cyfathrebu integredig a rhannu dysgu gyda chydweithwyr;
  • Gweithio gyda chydweithwyr cyfathrebu mewn meysydd eraill i ddarparu gweithgarwch cyfathrebu strategol trawsbynciol, a datblygu dealltwriaeth ehangach o'r holl weithgarwch cyfathrebu;
  • Cymryd rhan yn rota dyletswyddau swyddfa’r wasg, sy’n ymdrin â’r cyfryngau 24/7 ar ran Llywodraeth Cymru.

Cyfleoedd datblygu

Mae hon yn rôl ymestynnol ond yn un sy'n cynnig boddhad mewn maes cyfathrebu allweddol. Mae'r swydd yn cynnig y cyfle i ddatblygu sgiliau ym meysydd y wasg a'r cyfryngau ac ym meysydd cyfathrebu ehangach.

Dyddiad Cau

18/03/20 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda chymorth e.e. geiriadur
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda rhywfaint o wirio

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

  • Gosod y Trywydd - (Gweld y Darlun Cyflawn) - Bod yn effro i faterion a thueddiadau newydd a allai effeithio ar eu gwaith eu hunain a'u tîm, neu a allai fod o fudd i'r gwaith hwnnw.
  • Ymwneud â Phobl (Arwain a Chyfathrebu)Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy'n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen.
  • Syniadau (Gwasanaeth Cyfathrebu Llywodraeth Cymru) – Dangos ffordd hyblyg a chreadigol o feddwl. Profi a mireinio syniadau i ddatblygu atebion arloesol.
  • Gweithredu (Gwasanaeth Cyfathrebu Llywodraeth Cymru) – Dangos sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig cryf. Darparu cyngor ac arweiniad i gydweithwyr ar sut i ysgrifennu'n glir ar gyfer cynulleidfaoedd targed.

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

  1. Y gallu i gynllunio strategaethau ac ymgyrchoedd arloesol a dargedir i’w gweithredu drwy’r cyfryngau.
  2. Y gallu i feithrin cysylltiadau cadarn â newyddiadurwyr a rhanddeiliaid allanol/mewnol dylanwadol.
  3. Y profiad o weithio mewn modd sy’n cadw at amserlenni llym, gan ddarparu deunydd a chyngor cyfathrebu priodol ar faterion uchel eu proffil neu sydd ar dorri yn y newyddion, i bobl mewn swyddi uchel.

Proses Asesu

Creu rhestr fer o geisiadau

Ar ôl inni gael eich cais, bydd yn mynd drwy broses sifftio cychwynnol i’w wirio yn erbyn y dystiolaeth rydych wedi'i darparu o dan y Meini Prawf Penodol i’r Swydd. Os byddwch yn llwyddo i basio'r broses sifftio cychwynnol, bydd gweddill y cais yn cael ei asesu. Bydd hyn yn penderfynu a fyddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad.

Cyfweliadau

Bydd dwy elfen i’r cyfweliad ei hun, ymarfer ysgrifenedig a chyfweliad gan banel. Bydd manylion pellach am yr ymarfer ysgrifenedig ar gael i chi cyn eich cyfweliad.

Dim ond yr ymgeiswyr sy’n mynychu cyfweliad a fydd yn cael adborth ar eu cais.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Os hoffech drafod y swydd hon cyn gwneud cais, cysylltwch â Jo Sabin neu Simon Jenkins;

Rhwng XX Chwefror a 27: Chwefror Jo Sabin, Dirprwy Bennaeth Newyddion, Llywodraeth Cymru - e-bost: jo.sabin@gov.wales ffôn: 03000 25 1870 / 07815 699 699

Rhwng 28 a XX: Simon Jenkins, Pennaeth Newyddion, Llywodraeth Cymru - e-bost: simon.jenkins@llyw.cymru   ffôn: 03000258786

Jo Sabin - jo.sabin@gov.wales - 03000 251870 / Simon Jenkins - simon.jenkins@gov.wales - 03000 258786

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.