Swydd Wag -- Cyfreithiwr y Llywodraeth

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Swyddfa'r Prif Weinidog
Gwasanaethau Cyfreithiol
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
£49,625 gyda profiad o mwy na 3 blynedd, £29,850 gyda llai na 3 blynedd
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Arall
Parhaol, cyfnod penodedig neu secondiad - Bydd yr ymarfer hefyd yn ceisio dod o hyd i sawl ymgeisydd llwyddiannus, naill ai i ddechrau swydd ar unwaith neu i gael cyfle i ddechrau swydd a fydd yn codi yn ystod y 12 mis wedi hynny.
1 - 2 blynedd neu parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae Llywodraeth Cymru yng nghanol cyfnod o newid na welwyd ei debyg erioed o'r blaen. Gyda phwerau newydd ac ychwanegol yn sgil setliad datganoli newydd i Gymru, a'r angen i ymgymryd â gwaith hollbwysig mewn perthynas ag ymadael â'r UE, mae'r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol o fewn Llywodraeth Cymru yn chwilio am nifer o gyfreithwyr hynod dalentog i atgyfnerthu ei gallu ar adeg allweddol o ran materion y DU a materion Cymreig.

 

Yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol yw'r fwyaf o'i bath yng Nghymru, gyda mwy na 100 o gyfreithwyr a staff cymorth wedi'u trefnu ar draws amrywiaeth eang o feysydd pwnc. Mae'n gyfrifol am ddarparu pob gwasanaeth cyfreithiol i Lywodraeth Cymru. Mae'r gwaith hwn yn gosod cyfreithwyr y llywodraeth wrth wraidd llywodraeth ddatganoledig. Maent yn rhoi cyngor ar faterion cymhleth sy'n ymwneud â chyfraith gyhoeddus, ar brosiectau o arwyddocâd cenedlaethol, ar ddatblygiadau cyfansoddiadol mawr ac ar fynd i'r afael â'r heriau sy'n gysylltiedig ag ymadael â'r UE, ac maent yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddatblygu deddfwriaeth Cymru.

 

Hysbysebir y swyddi o fewn nifer o feysydd pwnc sy’n ymwneud â chyfraith weinyddol gyhoeddus gan gynnwys: pysgodfeydd; gwaith sy’n gysylltiedig ag ymadael â’r UE; cyfraith gaffael; llywodraeth leol; tribiwnlysoedd; ac addysg.

 

Os yw gweithio ar flaen y gad ym maes y gyfraith yn apelio atoch, byddai Llywodraeth Cymru yn croesawu eich diddordeb. Gallech fod newydd gymhwyso, yn gyfreithiwr profiadol sydd am ddefnyddio eich sgiliau mewn cyd-destun newydd a gwahanol, neu'n rhywun sydd â diddordeb mewn gweithio mewn amgylchedd sy'n cynnig ac yn croesawu trefniadau gweithio hyblyg. Croesewir ceisiadau gan unigolion nad ydynt wedi cymhwyso eto hefyd, ond bydd eu penodiad yn amodol ar ennill cymhwyster cyn y dyddiad dechrau. Byddai ceisiadau gan unigolion sydd wedi mynegi diddordeb mewn ymuno â thîm cyfreithiol Llywodraeth Cymru o'r blaen yn cael eu croesawu hefyd.

Prif dasgau

Yn benodol, mae’r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol am benodi cyfreithwyr a all ddarparu capasiti ychwanegol ac arbenigedd mewn cyfraith gyhoeddus.

 

Byddwch yn darparu cyngor cyfreithiol mewn amgylchedd cyfraith gyhoeddus, lle mae’r gwaith yn digwydd yn gyflym a’r materion o dan sylw yn aml yn uchel eu proffil ac yn arwyddocaol o ran sut mae cyfansoddiad y DU yn datblygu. Byddwch yn gweithio mewn tîm, gan ennill profiad o gydweithio â chyfreithwyr, cleientiaid polisi a Gweinidogion Cymru i lywio polisi yng Nghymru.

 

I gael rhagor o fanylion ynghylch y rolau hyn, darllenwch y Pecyn Gwybodaeth (dolen).

Cyfleoedd datblygu

Fel un o gyfreithwyr y llywodraeth byddwch yn rhan o’r Gwasanaeth Sifil ac o Broffesiwn Cyfreithiol y Llywodraeth. Bydd eich profiad yn rhoi dealltwriaeth unigryw ichi o’r setliad datganoli yng Nghymru. Mae’n cynnig cyfle unigryw i gyfreithwyr weithio mewn amgylchedd deinamig sy’n eu rhoi yng nghanol llywodraeth ddatganoledig a phrosiectau o bwys cenedlaethol, ac yn y rheng flaen o ran datblygiadau cyfansoddiadol pwysig, gan gynnwys yr heriau mawr sy’n codi o ganlyniad i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, a’r broses o lunio polisi a chyfreithiau.

Dyddiad Cau

01/06/20 17:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

(Mwyafrif o 300 gair yr un)

1. Sgiliau datrys problemau a dadansoddi cyfreithiol cadarn gan gynnwys y gallu i nodi manteision, anfanteision a pheryglon camau gweithredu posibl.

2. Y gallu i gyfathrebu cysyniadau cyfreithiol anodd yn glir ac yn syml.

3. Y gallu i gydweithio ag eraill yn effeithiol.

4. Y gallu i gynnal perfformiad effeithiol a dangos uniondeb a didueddrwydd o dan amgylchiadau anodd a heriol, gan annog eraill i wneud yr un fath.

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

(Mwyafrif o 300 gair yr un)

1. Dealltwriaeth o gyfraith Gyfansoddiadol neu Weinyddol (e.e. y seiliau cyfreithiol dros herio penderfyniadau awdurdodau cyhoeddus), sy’n ddigonol i nodi peryglon cyfreithiol posibl.

2. Dealltwriaeth o gyfraith yr UE neu gyfraith Hawliau Dynol, sy’n ddigonol i nodi peryglon cyfreithiol posibl.

Proses Asesu

Yn sgil y pandemig Covid - 19 bydd y broses ddethol yn derbyn ystyriaeth manwl. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r cyngor a'r canllawiau a fydd ar gael ar yr adeg briodol a byddwn yn cynghori ymgeiswyr yn unol â hynny.

Y cam ymgeisio:

Ffurflen gais yn dangos tystiolaeth o’r holl gymwyseddau a meini prawf penodol i’r swydd.

CV

Y cam cyfweld (os ydych yn llwyddo yn sift y cam ymgeisio);

Os ydych yn llwyddo yn y sifft cewch eich gwahodd i gyfweliad. Caiff y meini prawf penodol i’r swydd a’r cymwyseddau hefyd eu hasesu yn ystod y cam hwn. Cynhelir prawf cyfreithiol cyn y cyfweliad. Bydd y prawf yn seiliedig ar Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Dyma ddolen iddi i’ch helpu i baratoi: http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2006/32/contents

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Y lleoliad yw Cymru Gyfan, fodd bynnag, byddai angen i'r ymgeiswyr llwyddiannus deithio'n aml i Gaerdydd i fynychu cyfarfodydd gyda rheolwyr / goruchwylwyr am hyd at 3 diwrnod yr wythnos.

Yn ogystal, ar gyfer y cyfnod sefydlu o chwe mis, mae disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus weithio yng Nghaerdydd am 3 diwrnod yr wythnos o leiaf.

Barbara Brown - 03000 625406 - barbara.brown@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.