Swydd Wag -- Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
Cymru Greadigol
SEO - £41,700 - £49,370
£41,700
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
2 blwyddyn
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Gan adrodd i'r Arweinydd Marchnata, Cyfathrebu a Phartneriaeth, y Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu fydd yr arweinydd cyffredinol ar gyfer gweithgareddau marchnata a chyfathrebu Cymru Creadigol ac is-frandiau eraill fel Sgrin Cymru. 

Bydd deiliad y swydd hon yn sicrhau bod rhaglen farchnata Cymru Greadigol yn cael ei gweithredu mewn modd cyson, a bydd yn gyfrifol am gryfder a gwelededd brand Cymru Greadigol yng Nghymru ac yn rhyngwladol.  

Gan weithio ochr yn ochr gyda Swyddfa'r Wasg Gweinidogion a thimau marchnata eraill Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Cysylltiadau Rhyngwladol a Mewnfuddsoddiadau, un o'r prif bethau y bydd y swydd hon yn canolbwyntio arno fydd sicrhau canlyniadau sy'n cyfrannu at y gwaith o gyflawni strategaeth a nodau Cymru Greadigol. 

Bydd y Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu yn gyfrifol hefyd am gyfrannu at y strategaeth frand gyffredinol a gweithredu'r canlyniadau mewn cynlluniau gweithredu ar gyfer technoleg ddigidol, y wefan a'r cyfryngau cymdeithasol ar gyfer Cymru Greadigol. 

Prif amcanion y swydd fydd:

  • Cynllunio a rhoi ar waith rhaglen farchnata a chyfathrebu sy'n edrych tua'r dyfodol; 
  • Manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus wrth iddynt godi, a hynny mewn modd rhagweithiol, er mwyn sicrhau bod Cymru yn lleoliad allweddol ar gyfer y diwydiannau creadigol;
  • Gweithio'n agos gyda'r tîm marchnata a chyfathrebu ehangach yn yr Is-adran Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ac ar draws Llywodraeth Cymru i ddarparu swyddogaeth effeithiol a chydgysylltiedig;
  • Sicrhau bod Cymru Greadigol mewn sefyllfa dda i fanteisio ar ddatblygiadau marchnata digidol newydd er mwyn hyrwyddo brand Cymru Greadigol yn y ffordd orau posibl a sicrhau bod brand Cymru Greadigol yn cael ei adnabod ar unwaith yn y wlad hon a thramor, fel y prif sefydliad ar gyfer y diwydiannau creadigol yng Nghymru.

Prif dasgau

  • Helpu'r Arweinydd Marchnata, Cyfathrebu a Phartneriaeth i weithredu strategaeth farchnata Cymru Greadigol. 
  • Datblygu a gweithredu dull cyson ar gyfer defnyddio brand Cymru Greadigol ar gyfer yr holl weithgareddau marchnata a chyfathrebu;
  • Trafod â chydweithwyr marchnata a chyfathrebu eraill ar draws Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn gweithredu mewn ffordd gydgysylltiedig a chyson;
  • Monitro'r buddsoddi mewn gweithgareddau marchnata a chyfathrebu mewn perthynas â chanlyniadau. Gellir defnyddio'r data hwn i lywio gweithgareddau marchnata yn y dyfodol; 
  • Rheoli cyllidebau mewn perthynas â gweithgareddau marchnata.  Rhagweld, cofnodi ac adrodd ar wariant cyllideb i sicrhau bod costau'n yn unol â chymeradwyaeth ariannol;
  • Sicrhau'r caniatadau sydd eu hangen i ddefnyddio cynnwys oddi wrth sefydliadau partneriaid a rhanddeiliaid;
  • Datblygu rhaglen marchnata a chyfathrebu a fydd yn creu syniadau y gellir eu datblygu yn brosiectau;
  • Nodi, datblygu a meithrin cysylltiadau â dylanwadwyr allweddol yn y sector;
  • Llinell-reoli'r Wefan a’r Gweithredwr Cyfryngau Cymdeithasol.

Cyfleoedd datblygu

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o dîm marchnata a chyfathrebu Cymru Greadigol, a fydd yn cynnig nifer o gyfleoedd i gynnal llawer o waith marchnata a chyfathrebu ar lefel uchel a fydd yn codi proffil y diwydiannau creadigol yng Nghymru ac yn gwella eu delwedd. Bydd nifer o gyfleoedd i gydweithio â rhanddeiliaid allanol yn y diwydiannau creadigol ynghyd â llawer o weithgarwch Gweinidogol. Bydd mynediad at gyfleoedd gyrfaol a datblygu amrywiol sydd ar gael i staff marchnata ar draws Llywodraeth Cymru.

Dyddiad Cau

21/02/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Gallu darllen y rhan fwyaf o ddeunydd mewn sefyllfa waith
Gallu sgwrsio yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gwaith
Deall y rhan fwyaf o sgyrsiau mewn sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda rhywfaint o wirio

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

Gosod y Trywydd - Gwneud Penderfyniadau Effeithiol:  Sicrhau bod holl wybodaeth a data’r llywodraeth a data a gwybodaeth i’r cyhoedd yn cael eu trin yn ofalus ac yn unol â gweithdrefnau a phrotocolau diogelwch

Ymwneud â Phobl - Arwain a Chyfathrebu:  Cyfathrebu’n brydlon drwy ddefnyddio arddulliau a chyfryngau priodol, gan gynnwys sianeli digidol, er mwyn sicrhau bod gymaint o ddealltwriaeth ac effaith â phosibl

Ymwneud â Phobl - Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth:  Meithrin cysylltiadau ag amrywiaeth o randdeiliaid i gefnogi’r broses o wireddu canlyniadau busnes

Gwireddu Canlyniadau - Cyflawni’n Brydlon: Bod yn gadarnhaol drwy hoelio eu sylw hwy eu hunain a sylw’r tîm ar y nodau sy’n wirioneddol bwysig

Meini Prawf Penodol i’r Swydd:

  1. Profiad o ddatblygu a defnyddio asedau marchnata a chyfathrebu
  2. Sgiliau cyfathrebu cadarn
  3. Dealltwriaeth o reolau eiddo deallusol a sut i’w defnyddio'n briodol

Proses Asesu

Bydd ceisiadau'n cael eu sifftio, yna bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Gerwyn Evans, gerwyn.evans@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.