Swydd Wag -- Cyfarwyddwr Tir ac Adfywio - SCS2 ar draws / SCS1 ar ddyrchafiad

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Uwch Wasanaeth Sifil 2
£92,000
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae’r swydd hon yn un ar draws Cymru, a gall deiliad y swydd weithio o unrhyw un o swyddfeydd Llywodraeth Cymru er y bydd natur y swydd yn golygu y bydd angen i ddeiliad y swydd dreulio amser yng Nghaerdydd bob wythnos. Bydd disgwyl ichi deithio ledled Cymru i gwrdd â rhanddeiliaid a staff y gyfarwyddiaeth sy'n gweithio mewn gwahanol fannau.

Dyddiad Cau

07/01/20 23:55

Pwrpas y Swydd

Mae'r Gyfarwyddiaeth Tai ac Adfywio yn perthyn i'r Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus.

Prif ddibenion y swydd yw:


  • Cyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru am ddyfodol lle mae gan bawb gartref fforddiadwy sy’n diwallu eu hanghenion; lle nad oes digartrefedd yn bodoli; lle mae’r cartrefi yn cyrraedd y safonau gofynnol ar gyfer diogelwch, ansawdd ac arbed ynni; lle bo tai hygyrch yn helpu pobl anabl i fyw’n annibynnol a lle bo rhentu cartref oddi wrth landlord preifat neu gymdeithasol yn cael ei weld fel opsiwn da.
  • Cefnogi prosiectau sy’n hybu adfywio economaidd drwy fuddsoddiad wedi’i dargedu i helpu’r unigolion a’r cymunedau mwyaf anghenus, gan wasanaethu nodau datblygu cynaliadwy ehangach.
  • Arwain y gyfarwyddiaeth a chyfrannu at y broses o arwain Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus yn effeithiol.

Mae'r Gyfarwyddiaeth yn cefnogi'r dibenion hyn drwy ddatblygu polisi, darparu cymorth ariannol wedi’i dargedu, llunio deddfwriaeth a darparu cyngor i Weinidogion mewn meysydd fel:


  • Cyflenwad tai – cyflawni targed y llywodraeth o 20,000 o dai fforddiadwy gan fanteisio ar y Grant Tai Cymdeithasol, y Grant Tai Fforddiadwy a’r Grant Tai Arloesol. Cymorth ar gyfer tai ychwanegol ar y farchnad gan ddefnyddio Cymorth i Brynu. Gosod rhent landlordiaid cymdeithasol.
  • Safonau tai – buddsoddiad i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru erbyn diwedd 2020. Targedu buddsoddiad er mwyn gostwng nifer yr eiddo gwag. Gweithio gydag amrywiol bartneriaid ac ar draws y llywodraeth i ddatgarboneiddio stoc dai Cymru.
  • Gwasanaethau cymorth tai – gweithredu i atal digartrefedd gan gynnwys rheoli’r Grant Cymorth Tai. Rheoli elfen gyfalaf y Gronfa Gofal Integredig, cefnogi gwasanaethau gofal a thrwsio a gwella’r ddarpariaeth o gyfarpar i gynorthwyo pobl i fyw’n annibynnol.
  • Rheoleiddio tai – gwella diogelwch adeiladau yn dilyn trychineb Grenfell. Deddfwriaeth tai gan gynnwys mesurau newydd i godi safonau yn y sector rhentu preifat a diwygio cyfraith lesddaliad. Rheoleiddio’r sector cymdeithasau tai a chefnogi Bwrdd Rheoleiddiol Cymru.
  • Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio – datblygu polisi ar adfywio canol trefi a rheoli’r Gronfa Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio.
  • Goruchwylio Awdurdod Harbwr Caerdydd.

Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu mewn modd sy'n analluogi pobl sydd â nam neu gyflwr iechyd, neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pawb (neu'r rheini sy’n aelodau posibl o staff) berfformio ar eu gorau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd ("nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd").

Rydym yn gwarantu y byddwn yn cynnig cyfweliad i unrhyw un sy'n anabl os bydd ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod yn rhaid ichi ddarparu tystiolaeth yn eich cais i ddangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau sydd wedi eu nodi fel rhai hanfodol. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac i hwyluso datblygiad eu gyrfa.

Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddem yn eich cefnogi pe baech yn llwyddiannus, e-bostiwch DesgCymorthCydwasanaethau@llyw.Cymru cyn gynted â phosibl, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac i ateb eich cwestiynau.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Proses Asesu

Sut i ymgeisio

Dylid cyflwyno ffurflen gais wedi'i llenwi, CV diweddar, ynghyd â datganiad personol o'ch addasrwydd ar gyfer y swydd erbyn y dyddiad cau.  Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch SCSrecruitment@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.


I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru.  Fe fydd angen cyfeiriad e-bost arnoch i gofrestru.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio’r Uwch Wasanaeth Sifil o fewn Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol yr Uwch Wasanaeth Sifil (dolen).  Mae canllawiau pellach ar Baratoi eich Datganiad Personol (dolen) hefyd ar gael.


Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Gwybodaeth arall am y swydd

Bydd yr ymgeiswyr sy'n cael eu rhoi ar y rhestr fer yn cael profion seicometrig ar-lein a fydd yn cynnwys rhesymeg rifyddol a geiriol a thrafodaeth gyda seicolegydd. Byddwch yn cael dolen at y profion ar-lein ymhen 10 diwrnod i gyfarfod llunio'r rhestr fer. Cynhelir cyfarfod llunio'r rhestr fer ar 7 Ionawr 2020.

Os byddwch yn ymgeisio am y swydd hon fel swydd ar draws, ni fydd gofyn i chi wneud profion seicometreg ar-lein.

Os ydych chi wedi gwneud y profion seicometrig ar-lein yn y ddwy flynedd ddiwethaf, ni fydd angen ichi wneud y profion hyn eto ar gyfer yr ymarfer recriwtio hwn.

Bydd gofyn i ymgeiswyr ar y rhestr fer gymryd rhan mewn ymarfer ymgysylltu â staff - 30/31 Ionawr 2020. Manylion i ddilyn.

Gall ymgeiswyr ddisgwyl mynychu cyfarfod un-i-un gyda Gweinidog y Cabinet ar gyfer Tai a Llywodraeth Leol. Dyddiad i’w gadarnhau.

Bydd cyfweliadau'n cael eu cynnal ar 11 ac 14 Chwefror 2020. Cânt eu cynnal yn Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Bydd y cyfweliadau yn para rhyw 45 munud.  

Bydd y panel yn cael adborth ar ôl ichi gwblhau'ch profion seicometrig cyn ichi gael cyfweliad. Bydd eich cyfweliad yn un seiliedig ar gymwyseddau a fydd yn ystyried sut y bydd eich sgiliau a'ch profiad, fel y nodwyd yn eich CV a'ch datganiad personol, yn bodloni'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Os gofynnir i ymgeiswyr baratoi cyflwyniad ar gyfer eu cyfweliad, byddant fel arfer yn cael o leiaf un wythnos o rybudd ynglŷn â'r pwnc. Nodwch na ellir defnyddio taflenni na dyfeisiau electronig ar gyfer y cyflwyniad. Fodd bynnag, mae croeso ichi ddefnyddio cardiau i brocio'r cof.

11 & 14 Chwefror
Os hoffech drafod y rôl ymhellach cyn cyflwyno cais, cysylltwch â Tracey Burke ar 03000 258047 neu anfonwch ebost ati yn tracey.burke@llyw.cymru

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.