Swydd Wag -- Uwch-gynghorydd Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol ar Driniaethau Arbennig

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Adran Iechyd Cyhoeddus
SEO - £41,700 - £49,370
£38,550 - £45,850
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Secondiad
2 flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Ar gyfer y swydd hon, mae’n ofynnol inni gael Swyddog Iechyd yr Amgylchedd (“Swyddog”) sy’n aelod o Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd. Bydd y Swyddog yn gweithio gydag arweinwyr polisi, a’r darpar Uwch-swyddog Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol, i barhau i ddatblygu cynllun trwyddedu’r Triniaethau Arbennig o dan Ran 4 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”). Bydd hyn yn ymwneud â datblygu manylion y system, cynghori ar gynnwys polisi y rheoliadau sy’n ofynnol i roi’r system ar waith a llywio’r gwaith o lunio canllawiau. Ymysg dyletswyddau eraill mae cynghori, cyfathrebu ac ymgysylltu â swyddogion gorfodi awdurdodau lleol, gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd y cyhoedd, busnesau a chymdeithasau masnachu, er mwyn paratoi ar gyfer y gwaith o sefydlu’r system.

Prif dasgau

Byddai disgwyl i’r Swyddog Iechyd yr Amgylchedd ddangos profiad o’r tasgau a amlinellir isod yng nghyd-destun sgiliau y gellir eu trosglwyddo y mae eu hangen i sefydlu cyfundrefn orfodi a thrwyddedu newydd yng Nghymru:

  • arolygu busnesau yng nghyswllt iechyd a diogelwch, hylendid bwyd a safonau bwyd
  • mynd ar drywydd cwynion ac ymchwilio i achosion o wenwyn bwyd, clefydau heintus neu blâu
  • casglu samplau ar gyfer profion labordai
  • gorfodi cyfreithiau iechyd yr amgylchedd
  • ymchwilio i ddamweiniau yn y gwaith
  • cynghori grwpiau cymunedol a rhoi sgyrsiau addysgiadol
  • rhoi tystiolaeth mewn achosion sy’n mynd i’r llys
  • cadw cofnodion a llunio adroddiadau
  • cynghori cyflogwyr ynghylch yr holl faterion sy’n ymwneud ag iechyd yr amgylchedd

Dylai fod gan y Swyddog ddigon o wybodaeth a phrofiad mewn perthynas â gofynion Rhan 4 (Triniaethau Arbennig) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 a/neu Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982.

Bydd Rhan 4 o Ddeddf 2017 yn gosod rheolau ar gyfer yr ymarferwyr hyn:

  • Aciwbigo
  • Tyllu’r corff
  • Electrolysis
  • Tatŵio

 

O dan Ddeddf 1982 (fel y’i diwygiwyd): mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am y canlynol:

  • rheoleiddio a monitro busnesau sy’n cynnig gwasanaeth tyllu’r corff cosmetig (gan gynnwys tyllu clustiau),
  • tatŵio parhaol
  • lliwio croen yn lled-barhaol, hy microbigmentiad, colur lled-barhaol a thatŵio dros dro)
  • electrolysis
  • aciwbigo

 

Bydd rhaid i’r Swyddog gynghori ar y canlynol yn benodol:

  • Llunio’r cynllun trwyddedu ar gyfer Triniaethau Arbennig
  • Pennu’r meini prawf trwyddedu a’r amodau trwyddedu gorfodol
  • Neilltuo unigolion at ddibenion gofynion trwyddedu
  • Esemptio unigolion penodol rhag gofynion trwyddedu
  • Gweithio gyda’r awdurdod sy’n cadw cofrestr o drwyddedau, cerbydau a lleoliadau cymeradwy
  • Gorfodi’r gofynion trwyddedu
  • Adolygu cwmpas arfaethedig Triniaethau Arbennig gyda Grŵp Gorchwyl a Gorffen

Cyfleoedd datblygu

Mae’r swydd hon yn darparu cyfle i Swyddog Iechyd yr Amgylchedd weithio gyda’r canlynol, a’u cyfarwyddo:

  • Ymarferwyr Triniaethau Arbennig sy’n fusnes / diwydiant sy’n tyfu ar y stryd fawr yng Nghymru. Nod proffesiynoli’r diwydiant hwn drwy’r gyfundrefn drwyddedu yw arwain at leihau’r risg o achosion o glefyd fel feirysau a gludir yn y gwaed, ac at arferion da ymysg ymarferwyr gyda gwell manteision i bobl Cymru
  • Dau ar hugain (22) o Awdurdodau Lleol o bob cwr o Gymru wrth iddynt geisio datblygu dull gorfodi cadarn a chymesur o orfodi sy’n diogelu iechyd y cyhoedd

Bydd deiliad y swydd hefyd yn ennill profiad o weithio i’r Prif Swyddog Meddygol a Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru. 

Dyddiad Cau

09/01/20 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

  1. Gweld y Darlun Cyflawn: Ceisio deall sut y mae’r gwasanaethau, y gweithgareddau a’r strategaethau yn y maes yn ategu ei gilydd i greu gwerth am arian ar gyfer y cwsmer/defnyddiwr.
  2. Newid a Gwella: Mynd ati i annog awgrymiadau gan amrywiaeth eang o ffynonellau a rhanddeiliaid, a’u defnyddio i ddylanwadu ar eu syniadau eu hunain.
  3. Gwneud Penderfyniadau Effeithiol: Nodi amrywiaeth eang o ffynonellau gwybodaeth berthnasol a dibynadwy a chydnabod, lle bo hynny’n angenrheidiol, bod angen casglu data newydd o ffynonellau mewnol ac allanol.
  4. Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth: Meithrin cysylltiadau ag amrywiaeth o randdeiliaid i gefnogi’r broses o wireddu canlyniadau busnes.

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

  1. Rhaid i ddeiliad y swydd fod yn Swyddog Iechyd yr Amgylchedd sy’n aelod o’r Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd.
  2. Rhaid i’r Swyddog ennyn hyder cyd-weithwyr, cymheiriaid a rhanddeilaid yng nghyd-destun Triniaethau Arbennig.
  3. Dylai’r Swyddog fod â phrofiad o gynghori ar bolisi gwreiddiol y mae ei angen i roi deddfwriaeth sylfaenol ar waith yn nhermau is-ddeddfwriaeth, canllawiau etc.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Bydd pob aelod o'r panel yn sifftio'r ceisiadau yn unigol cyn cyfarfod fel panel ar gyfer sifft ar y cyd. Yn dilyn y sifft, gofynnir i ymgeiswyr sy'n cael eu gwahodd i gyfweliad ddarparu cyflwyniad o 5 munud a gofynnir cyfres o gwestiynau iddynt ar y cymwyseddau a'r meini prawf penodol i'r swydd a nodir yn yr hysbyseb.
Chrishan Kamalan - chrishan.kamalan@gov.wales - 03000 258985

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.