Swydd Wag -- Pennaeth Rheoli Busnes a Gwasanaethau Digidol a Chorfforaethol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
£51,380
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Gan adrodd i’r Prif Weithredwr, byddwch yn gwneud y canlynol:

  • Arwain a rheoli pob agwedd ar swyddogaethau a pharhad busnes craidd
  • Arwain a rheoli gwasanaethau corfforaethol a swyddogaethau pobl AGIC
  • Datblygu a goruchwylio’r gwaith o gynnal a chadw’r systemau a phrosesau corfforaethol sydd eu hangen i gefnogi busnes AGIC
  • Rheoli ac arwain yr ymateb i ymchwiliadau cyhoeddus, gan gynnwys yr ymchwiliad i bandemig COVID-19
  • Arwain a rheoli'r cynlluniau blynyddol a chwarterol ar gyfer arolygiadau gofal iechyd y GIG a gwasanaethau annibynnol
  • Gweithredu fel rheolwr cysylltiadau ar gyfer byrddau iechyd y GIG a chynnal cyfathrebu effeithiol a chyson â rhanddeiliaid allweddol
  • Arwain a rheoli pob agwedd ar swyddogaethau digidol AGIC, gan gynnwys defnyddio meddalwedd a chaledwedd arolygu benodol.

Prif dasgau

Tasgau penodol i’r swydd:

  1. Goruchwylio swyddogaethau pobl ar gyfer AGIC, gan gynnwys dysgu a datblygu a recriwtio a defnyddio adolygwyr cymheiriaid ac adolygwyr lleyg.
  2. Mae gan AGIC amrywiaeth o offer digidol i gefnogi ei swyddogaethau arolygu a gwybodaeth. Mae hyn yn cynnwys system Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid, arolygiadau di-bapur, offeryn talu ar-lein, a dangosfyrddau gwybodaeth fusnes. Mae'r tîm digidol yn gyfrifol am gynnal a datblygu'r offer hyn yn unol ag anghenion y sefydliad. Bydd deiliad y swydd yn gwneud y canlynol: Sicrhau bod yr offer digidol sy’n cael eu darparu ar gyfer yr arolygiadau'n ddibynadwy ac yn darparu system hawdd ei defnyddio ar gyfer casglu tystiolaeth. Cadeirio’r Panel Dylunio Digidol ar ran y Cyfarwyddwr Strategaeth ac Ymgysylltu, gan sicrhau bod camau gweithredu’n cael eu cofnodi a’u cymryd. Arwain ar y gwaith o adolygu a datblygu’r offer digidol a ddefnyddir o fewn AGIC, gan sicrhau bod newidiadau brys a blaenoriaeth uchel yn cael eu gweithredu.
  3. Goruchwylio, cydlynu a rheoli'r ymateb i unrhyw ymchwiliad cyhoeddus.
  4. Goruchwylio a rheoli parhad busnes cyffredinol ar draws AGIC a sicrhau bod y Prif Swyddog Gweithredol yn cael gwybod ac yn cael ei friffio ar faterion allweddol.
  5. Arwain, dadansoddi'n feirniadol a datblygu'r cynllun arolygu cyffredinol ar gyfer pob sector. Defnyddio gwybodaeth am y GIG a gwasanaethau annibynnol i ddadansoddi a chynllunio yn unol â risg a rhwymedigaethau statudol.
  6. Goruchwylio cytundebau a chontractau AGIC gyda sefydliadau statudol eraill a chontractwyr, gan sicrhau eu bod yn cael eu cynnal a’u gweithredu fel y bwriadwyd.
  7. Sicrhau rheolaeth ariannol gadarn o fewn AGIC drwy'r canlynol: gweithio gydag uwch-reolwyr i osod a rheoli cyllidebau, datblygu cynlluniau, adrodd a monitro gweithgareddau'n drylwyr, a gweithredu fel goruchwyliwr cadarn o arian cyhoeddus.
  8. Sicrhau bod gan AGIC drefniadau cynllunio a monitro corfforaethol effeithiol ar waith a’i bod yn adrodd o leiaf unwaith y flwyddyn ar ei pherfformiad a’i chyflawniadau. 
  9. Sicrhau bod AGIC yn cynnal ac yn gweithredu prosesau a gweithdrefnau corfforaethol sy’n bodloni gofynion arferion gorau Llywodraeth Cymru o ran rheolaeth a llywodraethu mewnol.
  10. Rheoli cysylltiadau â Llywodraeth Cymru ar brosesau a chomisiynau canolig, gan gynnwys y rhai sy’n gysylltiedig ag amrywiaeth, cydraddoldeb, dwyieithrwydd, cynaliadwyedd, a gwella gwasanaethau cyhoeddus.
  11. Goruchwylio’r gwaith o reoli adnoddau dynol sy’n benodol i AGIC, gan gynnwys cydymffurfio â rheoli perfformiad, iechyd a diogelwch, gwiriadau gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a pharhad busnes.
  12. Darparu arweinyddiaeth effeithiol i'r Tîm Rheoli Busnes a Gwasanaethau Digidol a Chorfforaethol, gan gynnal prosiectau ac adolygiadau yn unol â chais y Prif Weithredwr a'r cyfarwyddwyr ac er mwyn cefnogi AGIC a Grŵp y Prif Swyddogion Gweithredu yn gyffredinol.
  13. Cynghori Uwch-grŵp Arwain AGIC yn rhagweithiol ar y meysydd lle mae gan y swydd gyfrifoldeb arweiniol, gan amlygu cryfderau a gwendidau a mynnu bod y sefydliad yn atebol fel y bo’n briodol.
  14. Bod yn aelod o Uwch-grŵp Arwain AGIC. Cefnogi’r Prif Weithredwr ac uwch-reolwyr eraill i hyrwyddo arweinyddiaeth weledol, ymgysylltiol a chorfforaethol i gyflawni busnes AGIC.
  15. Rheoli'r gwaith o ymchwilio ac ymateb i gwynion a fynegir am berfformiad AGIC.
  16. Gweithredu fel dirprwy Berchennog Asedau Gwybodaeth i AGIC.
  17. Gweithredu fel Rheolwr Cysylltiadau AGIC yn ôl yr angen.

Tasgau cyffredin:

  1. Gweithredu o dan ddirprwyaethau gan y Prif Weithredwr.
  2. Gweithio gyda rheolwr y rhaglen ac uwch-reolwyr eraill i gytuno ar y rhaglen waith.
  3. Rheoli ei staff, gan ddilyn prosesau sefydledig Llywodraeth Cymru.
  4. Gweithio ar y cyd â chydweithwyr ledled AGIC.
  5. Cymryd rhan yng ngweithgareddau corfforaethol AGIC.
  6. Rheoli ei ddatblygiad proffesiynol parhaus ei hun a datblygiad aelodau ei dîm.
  7. Cynnal cenhadaeth, diben, rôl a gwerthoedd AGIC.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r rôl allweddol hon yn rhoi'r cyfle i gael dealltwriaeth gyflawn o bopeth sydd ei angen i redeg sefydliad bach.  Bydd yn golygu gweithio ochr yn ochr â'r dirprwy gyfarwyddwyr a'r Prif Weithredwr.

Mae angen hyfforddiant ar gyfer rhai agweddau o'r rôl a bydd yr hyfforddiant hwn yn cael ei ddarparu.

Dyddiad Cau

07/06/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

Gweld y Darlun Cyflawn:

  • Sicrhau bod materion perthnasol sy’n gysylltiedig â’u gweithgareddau/meysydd polisi yn cael eu bwydo’n effeithiol i drafodaethau ynghylch strategaethau a’r darlun cyflawn

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol:

  • Dehongli beth yw’r prif faterion mewn problemau cymhleth, a chadarnhau dealltwriaeth neu ddisgwyliadau rhanddeiliaid, er mwyn chwilio am yr opsiwn gorau

Gwella Gallu Pawb:

  • Blaenoriaethu a bod yn batrwm i eraill o unigolyn sy’n dysgu ac yn datblygu’n barhaus. Mae hyn yn cynnwys datblygu sgiliau arwain, sgiliau rheoli a sgiliau pobl

Sicrhau Gwerth am Arian:

Deall sefyllfa ariannol eu maes a’r sefydliad, a defnyddio eu dealltwriaeth i dorri ar weithgareddau busnes a buddsoddi neu i’w cefnogi


Meini Prawf Penodol i’r Swydd:

  1. Profiad o weithio gyda neu mewn corff arolygu gofal iechyd a dealltwriaeth o dirwedd iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru
  2. Profiad o ddarparu cymorth corfforaethol ar draws ystod o swyddogaethau rheoli o fewn corff hyd braich neu gorff cyfatebol
  3. Profiad o reoli tîm i gyflwyno rhaglen waith amrywiol i amserlenni heriol

Proses Asesu

Bydd ceisiadau'n cael eu sifftio a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Yn ystod y cyfweliad, bydd gofyn i ymgeiswyr wneud cyflwyniad 5 munud ar y canlynol: 

Beth yw'r prif heriau sy'n wynebu'r GIG wrth ddod allan o bandemig Covid-19, a sut ydych chi'n meddwl bydd y rhain yn effeithio ar raglenni gwaith AGIC?

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Mae hon yn swydd amser llawn sydd hefyd yn agored i ymgeiswyr rhan-amser a rhannu swydd. 

Efallai y bydd angen teithio ledled Cymru.

Bydd y swydd hon yn amodol ar wiriad datgelu manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Alun Jones - Alun.Jones39@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.