Swydd Wag -- Swyddog y Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
Prif dasgau
• Hwyluso, rheoli a bod yn glerc i wrandawiadau tribiwnlysoedd ledled Cymru i ardaloedd lle y mae trafnidiaeth gyhoeddus yn gyfyngedig. Mae gofyn i ddeiliad y swydd deithio'n wythnosol.
• Sicrhau bod ceisiadau a ddaw i law yn swyddfa'r tribiwnlys yn cael eu gwneud yn briodol. Goruchwylio ac ysgwyddo cyfrifoldeb dros eich achosion eich hun sy'n cael eu dyrannu'n ddaearyddol. Mae gwybodaeth yn cael ei nodi a'i rheoli ar gronfa ddata rheoli achosion CRM gan roi sylw i gywirdeb.
• Trefnu gwrandawiadau tribiwnlysoedd a chanllawiau arferion gorau.
• Sicrhau bod ffeiliau'n cael eu paratoi ar gyfer gwrandawiadau a bod cais wedi cael ei wneud am yr adroddiadau oddi wrth yr awdurdod priodol. Rhaid i'r rhain dod i law o fewn yr amserlenni statudol a chydymffurfio â Rheolau Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru 2008 a Chod Ymarfer Cymru.
• Gwirio adroddiadau o safbwynt cydymffurfiad a'u dosbarthu i bob parti sy'n ymwneud â'r achos, cyn pen 3 diwrnod ar ôl iddynt ddod i law, ac i aelodau panel y tribiwnlys cyn pen 14 diwrnod ar ôl gwrandawiad tribiwnlys.
• Cymryd camau gweithredu ar ôl y gwrandawiad a chyhoeddi penderfyniad y tribiwnlys o fewn yr amserlenni statudol.
• Yn ogystal â'ch llwyth achosion eich hun, goruchwylio a rheoli gwaith achosion cydweithwyr eraill yn ystod cyfnodau o absenoldeb.
• Bod yn rheolwr llinell ar un Swyddog Cymorth Tribiwnlysoedd, neu roi cymorth i'r pwll o Swyddogion Cymorth Tribiwnlysoedd gan sicrhau eu bod yn gweithio hyd eithaf eu gallu.
• Rhoi cymorth gweinyddol i Reolwyr Busnes Gweithredol a Strategol yn ôl y gofyn.
Cyfleoedd datblygu
Dyddiad Cau
Cymhwystra
Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:
- Fisâu a Mewnfudo y DU - GOV.UK (Saesneg yn unig)
- Rheolau Cenedligrwydd – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.
Hyderus o ran Anabledd
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
Rheoli Gwasanaeth Safonol - Gweithio gyda’r tîm i osod blaenoriaethau, creu cynlluniau clir a rheoli’r holl waith er mwyn diwallu anghenion y cwsmer a’r busnes
Arwain a chyfathrebu - Gwrando ar wahanol safbwyntiau, syniadau a ffyrdd o weithio, yn ogystal â deall, parchu a derbyn bod gwerth i bob un ohonynt.
Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Bod yn barod i nodi cyfleoedd i rannu gwybodaeth a dysgu a gwella drwy weithio gyda chydweithwyr.
Cyflawni’n Brydlon - Dal ati i fod yn bositif a chanolbwyntio ar wireddu canlyniadau hyd yn oed os bydd pethau’n mynd o chwith
Meini Prawf Penodol i'r Swydd
Y gallu i weithio o dan bwysau, mewn amgylchedd prysur iawn, gyda blaenoriaethau sy'n newid o hyd.
Y gallu i ddefnyddio crebwyll ac i weithio o fewn rheolau a rheoliadau pendant iawn.
Y gallu i gyfathrebu, ar lafar ac yn ysgrifenedig, ag amrywiaeth eang o bobl, gan addasu'ch arddull yn ôl y gofyn
Proses Asesu
Gwybodaeth arall
- Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
- Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
- Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
- Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Anghydfod a Chwynion
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.