Swydd Wag -- Rheolwr Rhaglen y Polisi Cyflawnwyr Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
Prif dasgau
Bydd deiliad y swydd yn cadeirio ffrwd waith Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) y fframwaith i gefnogi newid positif ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o droseddu yng Nghymru 2018-2023. Mae’r fframwaith yn cefnogi blaenoriaethau Bwrdd Rheoli Integredig Troseddwyr Cymru a Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru Gyfan, sy’n cynnwys rhoi Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 ar waith yn effeithiol. Mae ffrwd waith Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol y fframwaith yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn y sector hyd yma, ac mae wedi alinio’i hamcanion â blaenoriaethau cysylltiedig Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi, y Cwmni Adsefydlu Cymunedol, y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, heddluoedd a’r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid.
Fel y dirprwy Brif Swyddog Cyfrifol, bydd deiliad y swydd yn arwain ffrwd waith Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (gan gadeirio cyfarfodydd y ffrwd waith a goruchwylio’r grwpiau gorchwyl a gorffen sy’n adrodd yn ôl i’r ffrwd waith) wrth fynd ati i ddatblygu pum maes allweddol o waith amlasiantaethol i sefydlu cymunedau mwy diogel drwy ddatblygu a chynnal dull effeithiol o atal a mynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled Cymru, gan ddiogelu’r cyhoedd ac adsefydlu’r rhai sy’n troseddu.
Bydd deiilad y swydd yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni amcanion y ffrwd waith:
Sefydlu dealltwriaeth o'r 'hyn sy'n gweithio' gyda chyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (er enghraifft, drwy gynnal/comisiynu ymchwil berthnasol, cymhwyso ymchwil genedlaethol a rhyngwladol, cefnogi’r broses o werthuso gwasanaethau sy’n gweithio gyda chyflawnwyr trais yn drylwyr, gan gynghori ar brosesau archwilio/sicrhau ansawdd gwasanaethau sy’n gweithio gyda chyflawnwyr trais)
Llywio'r gwaith o gomisiynu gwasanaethau effeithiol a chynaliadwy ar gyfer cyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (er enghraifft, drwy lywio gofynion ar gyfer grantiau sy'n gysylltiedig â chyflawnwyr trais a roddir gan Lywodraeth Cymru, adolygu ceisiadau/tendrau a chymeradwyo ceisiadau am gyllid, cynghori cyllidwyr/comisiynwyr eraill ar gomisiynu gwasanaethau i weithio gyda chyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru)
Datblygu dulliau atal ac ymyrryd yn gynnar (er enghraifft, drwy ddarparu cyngor sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar raglenni dargyfeiriol, llywio'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau i blant a phobl ifanc sydd mewn perygl o gyflawni trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, llywio ymgyrchoedd sydd wedi’u hanelu at gyflawnwyr trais)
Gwella cysylltiadau rhwng gwasanaethau, cyfathrebu ac arfer effeithiol (er enghraifft, monitro datblygiadau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol sy'n gysylltiedig â pholisi cyflawnwyr trais ac ystyried eu goblygiadau i Lywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol, gan sicrhau aliniad; trefnu a mynd i gyfarfodydd a digwyddiadau rhannu arferion sy'n cynnwys rhanddeiliaid amlasiantaethol er mwyn hwyluso dull o weithredu mewn partneriaeth)
Datblygu gweithlu medrus a chadarn (er enghraifft, drwy gynghori ar gomisiynu hyfforddiant a goruchwyliaeth glinigol ar gyfer staff gwasanaethau sy’n gweithio gyda chyflawnwyr trais).
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli rhaglen ffrwd waith trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol y fframwaith i gefnogi newid positif ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o droseddu yng Nghymru yn 2018–2023, yn ogystal ag unrhyw waith ehangach sy'n gysylltiedig ag unrhyw waith polisi a wneir gan Lywodraeth Cymru sy’n ymwneud â chyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Bydd hyn yn cynnwys pennu a monitro cerrig milltir ar draws amserlenni perthnasol, a nodi a monitro risgiau a manteision, gan ddefnyddio disgyblaeth gadarn o ran rheoli rhaglenni a phrosiectau.
Paratoi adroddiadau cynnydd a chyflwyniadau o ansawdd uchel ar gyfer Pennaeth y Polisi Cyflawnwyr Trais ac uwch randdeiliaid. Gall hyn gynnwys paratoi Cyngor Gweinidogol.
Dirprwyo ar gyfer Prif Swyddog Cyfrifol y ffrwd waith (Pennaeth y Polisi Cyflawnwyr Trais) mewn cyfarfodydd allweddol, gan gynnwys Bwrdd Rheoli Integredig Troseddwyr Cymru, Grŵp Strategaeth Cyfiawnder yng Nghymru, y Grŵp Lleihau Aildroseddu, cyfarfodydd fframwaith y Prif Swyddog Cyfrifol, cyfarfodydd tîm Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, cyfarfodydd strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol mewn perthynas â Covid-19, cyfarfodydd Swyddfa Gartref y DU, cyfarfodydd swyddfa Comisiynydd Cam-drin Domestig Cymru a Lloegr, y Panel Ymchwil a Dadansoddi Integredig.
Dirprwyo a goruchwylio gweithgareddau cysylltiedig gan aelodau o staff Llywodraeth Cymru i gefnogi ffrwd waith trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (e.e. Cymorth Tîm).
Bydd y rôl hon a'i dyletswyddau cysylltiedig yn hyblyg i ddiwallu anghenion Llywodraeth Cymru a'r sector trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol sy'n esblygu mewn perthynas â’r polisi cyflawnwyr trais.
Cyfleoedd datblygu
Mae'r swydd hon yn rhoi cyfle i:-
- arwain ar weithredu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys dylanwadu'n uniongyrchol ar bolisi
- gweithio ar draws meysydd polisi'r llywodraeth, gan gydweithio â phartneriaid mewnol ac allanol
- cael cipolwg ar fecanweithiau Llywodraeth Cymru.
Bydd deiliad y swydd yn gallu manteisio ar yr holl hyfforddiant perthnasol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i'w alluogi i gyflawni ei rôl yn effeithiol.
Os yw’n aelod o gorff proffesiynol perthnasol (ee Cymdeithas Seicolegol Prydain), yn amodol ar y costau a’r dystiolaeth o’r budd i Lywodraeth Cymru, caiff ei gefnogi i fanteisio ar gyfleoedd DPP arbenigol yn unol â’r gofynion
Dyddiad Cau
Hyderus o ran Anabledd
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
Cymwyseddau
Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth
Meithrin cysylltiadau ag amrywiaeth o randdeiliaid i gefnogi’r broses o wireddu canlyniadau busnes
Arwain a Chyfathrebu
Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen.
Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
Sylwi ar batrymau neu dueddiadau mewn amrywiaeth eang o dystiolaeth/data a dod i gasgliadau allweddol, gan amlinellu’r costau, y manteision, y risgiau a’r ymatebion posib
Gweld y Darlun Cyflawn
Bod yn effro i faterion a thueddiadau newydd a allai effeithio
ar eu gwaith eu hunain a’u tîm, neu a allai fod o fudd i’r gwaith hwnnw.
Meini Prawf Penodol i’r Swydd
- Profiad o weithio yn sector y gwasanaethau ar gyfer cyflawnwyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
- Wedi cymhwyso hyd at lefel Gradd Feistr o leiaf mewn pwnc cysylltiedig (ee seicoleg, troseddeg)
- Profiad o arwain prosiectau cymhleth, amlasiantaethol yn y system cyfiawnder troseddol
Proses Asesu
Gwybodaeth arall
- Dim ond i’r rheini sydd eisoes yn Weision Sifil y mae’r cyfleoedd hyn yn agored (ar sail benthyciad yn unig).
- Ni ddisgwylir ichi gael eich trosglwyddo i Lywodraeth Cymru yn barhaol.
- Mae’r rôl ar gael ar eich gradd arferol os byddwch yn symud ar draws, ond hefyd yn agored i ymgeiswyr wneud cais am ddyrchafiad dros dro, ond byddwch yn dychwelyd i’ch adran eich hun ar eich gradd arferol ar ddiwedd y cyfnod.
- Gofalwch fod eich rheolwr llinell wedi cymeradwyo/awdurdodi eich rhyddhau.
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o bob proffesiwn, a’r rheini sydd â sgiliau arbenigol neu gyffredinol.
- Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan bobl ddu ac ethnig leiafrifol a phobl anabl, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi pob aelod o’n staff i ffynnu mewn amgylchedd gwaith cynhwysol.
- Rydym yn cefnogi trefniadau gweithio gartref a theilwra patrymau yn ôl amgylchiadau’r unigolyn. Yn y tymor byr, bydd y rhan fwyaf o’n gweithwyr yn gweithio gartref/o bell.
- Gan mai trefniant benthyg yw hwn, os daw’r swydd i ben, cofiwch y bydd disgwyl ichi ddychwelyd i’ch sefydliad presennol.
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.