Swydd Wag -- Cynghorydd/Arweinydd Gweithredu Nyth/Nest

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Partneriaeth ac Integreddio/ Y Gangen CAMHS ac Anhwylderau Bwyta
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
£51,380 neu gyflog eich hun
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Arall
Cyfnod penodedig neu secondiad
Cyfnod penodedig o ddwy flynedd (potensial am estyniad yn unol â chylch rhaglen RIF)
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae iechyd meddwl yn faes proffil uchel a thrawsbynciol i Lywodraeth Cymru, a hwn yw'r maes gwariant unigol mwyaf o fewn y GIG.    

Lleolir y swydd hon yn y Gangen Partneriaeth ac Integreiddio Gwasanaethau Cymdeithasol sy'n arwain ar ddatblygu polisi a deddfwriaeth gan gynnwys mewn perthynas ag ymyrraeth gynnar ac atal Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, modelau newydd o ofal cymdeithasol, cyd-gynhyrchu a'r Gronfa Buddsoddi Rhanbarthol. Er hynny, bydd y swydd hon yn cael ei hintegreiddio'n llawn â'r tîm Iechyd Meddwl a Grwpiau Agored i Niwed sydd â chyfrifoldeb polisi dros lywio'r gwaith o weithredu Nyth/Nest ar draws Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol.

Mae elfen allweddol ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i'r dull dim drws anghywir yn fframwaith cynllunio Nyth/Nest wedi'i datblygu i sicrhau dull 'system gyfan' ar gyfer datblygu gwasanaethau iechyd meddwl, llesiant a chymorth i fabanod, plant, pobl ifanc, rhieni, gofalwyr a'u teuluoedd ehangach ledled Cymru. Mae gweithredu'r fframwaith yn elfen allweddol ar ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu sef Blaenoriaethu ailgynllunio gwasanaethau i wella dulliau ataliol, mynd i’r afael â stigma a hyrwyddo dull dim drws anghywir o ddarparu cymorth iechyd meddwl.  Mae'r swydd hon, sy'n dod o dan y Dirprwy Weinidog  Iechyd Meddwl a Llesiant a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, yn allweddol i hwyluso a sefydlu'r broses o weithredu'r Fframwaith.

Mae'r Is-adran Iechyd Meddwl a Grwpiau Agored i Niwed a'r Is-adran Dyfodol ac Integreiddio Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod Fframwaith Nest//Nyth yn cael ei roi ar waith mewn ffordd gadarn a chyflym gan roi sylw i ansawdd gan bob bwrdd partneriaeth rhanbarthol ledled Cymru.     

Bydd angen i'r cynghorydd/arweinydd gweithredu gefnogi gwaith Llywodraeth Cymru wrth barhau i weithredu Fframwaith Nyth/Nest gan ddatblygu, yn ôl yr angen, ganllawiau a pholisi tra'n gweithio gyda rhanddeiliaid allanol i feithrin gwybodaeth ac arbenigedd y fframwaith gan gynnwys drwy'r Gymuned ymarfer ar gyfer iechyd meddwl emosiynol, gan gasglu, adlewyrchu a thyfu'r arfer da ar draws y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol.    

Bydd y swydd yn para am gyfnod penodol am ddwy flynedd gyda'r potensial ar gyfer estyniad.

Prif dasgau

Byddai gan y swydd fynediad at gyllideb fach ar gyfer cymorth Nyth/Nest penodol ad hoc i'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol mewn meysydd heriol.

Y tasgau allweddol ar gyfer y swydd yw:

  • Sbarduno'r gwaith o gyflawni blaenoriaeth weinidogol allweddol drwy roi her a chymorth i bartneriaid allanol wrth iddynt weithredu Fframwaith Nyth/Nest. 
  • Datblygu canllawiau gweithredu angenrheidiol, gan ddefnyddio barn i gydbwyso uchelgais â chyflawni ymarferol.
  • Arwain gwaith gyda rhanddeiliaid allanol i feithrin gwybodaeth ac arbenigedd y fframwaith gan gynnwys drwy'r Gymuned ymarfer a ariennir gan Lywodraeth Cymru.  
  • Cyd-gynhyrchu pecyn o hyfforddiant (gan gynnwys deunyddiau) i gryfhau arbenigedd proffesiynol a gwybodaeth am Nyth/Nest a'i ofynion ledled Cymru.    
  • Gweithio'n rhagweithiol gydag uwch gydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru, mewn asiantaethau statudol ac yn y trydydd sector i sicrhau bod Nyth/Nest yn cael blaenoriaeth ganddynt a sicrhau eu bod yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o natur drawsbynciol fframwaith Nyth/Nest fel dull system gyfan – gan gynnwys ymgysylltu cysylltiedig â rhanddeiliaid   
  • Cynnal perthynas dda â chyrff allanol gan gynnwys darparwyr gwasanaethau, sefydliadau'r trydydd sector, defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr, a chynrychioli Llywodraeth Cymru mewn digwyddiadau swyddogol o bryd i'w gilydd.
  • Pan fydd Nyth/Nest yn ymwreiddio ar lefel RPB, byddai'r rôl yn cefnogi rhywfaint o'r gwaith cynnar ar y camau nesaf  mewn perthynas ag ehangu cwmpas tuag at ddull pob oed.
  • Arwain ar ddatblygu meini prawf ar gyfer Cyllid  Buddsoddi  Rhanbarthol ar gyfer prosiectau Nyth/Nest, i weithio gyda'r tîm ehangach i asesu a chymeradwyo cynigion (a amcangyfrifir yn rhyw £20m) yn unol â'r bwriad polisi
  • Datblygu mecanweithiau adrodd ar gynnydd a defnyddio'r data sydd ar gael mewn perthynas â sbarduno gwaith cyflawni a llywio datblygu polisi yn y dyfodol  
  • Mynychu grwpiau Cymru gyfan perthnasol gydag uwch randdeiliaid fel blaenoriaeth i'r Gweinidogion a Chyfarwyddwyr y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
  • Arwain a rheoli busnes y llywodraeth yn ymwneud â gweithredu Nyth/Nest a phrosiectau RIF cysylltiedig. 
  • Gweithredu yn unol â'r ddirprwyaeth a roddir i'r rôl mewn perthynas â rheoli'r gyllideb fach ar gyfer cymorth gweithredu Nyth/Nest penodol ad hoc i'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol mewn meysydd heriol.  Cefnogi Pennaeth/Dirprwy Bennaeth yr Is-adran a Phennaeth y Gangen i ddatblygu a chyflawni polisi iechyd meddwl yng Nghymru yn unol â Strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl Cymru a'r cynllun cyflawni cysylltiedig.

Cyfleoedd datblygu

Maes gwaith uchel ei broffil yw hwn a fydd yn cynnig  cyfleoedd i friffio'r Gweinidogion a datblygu perthynas agos â chydweithwyr, gan gynnwys ar lefel uwch ar draws Llywodraeth Cymru a chyda rhanddeiliaid allanol allweddol, megis RPBs, Comisiynydd Plant Cymru, ac asiantaethau sy'n gyfrifol am blant a phobl ifanc.     

Mae'r swydd yn cynnig y cyfle i fireinio ystod o sgiliau allweddol mewn maes polisi diddorol ac uchel ei broffil, gan arwain ar feysydd gwaith allweddol sy'n flaenoriaeth i'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, y Gweinidog Addysg ac uwch reolwyr Llywodraeth Cymru.  

Bydd deiliad y swydd yn cael cyfle i chwarae rhan uniongyrchol yn y gwaith o ddatblygu a chyflwyno'r Gymuned Ymarfer.

Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn gyfrannu at amrywiaeth o wasanaethau a fydd yn effeithio'n uniongyrchol ar blant a phobl ifanc ledled Cymru. Mae'n gyfle heriol, ond gwerth chweil, i weithio'n uniongyrchol ar lefel genedlaethol gydag arweinwyr mewn sefydliadau rhanddeiliaid a swyddogion a Gweinidogion Llywodraeth Cymru.  

Dyddiad Cau

27/05/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Clwstwr Strategol - Gweld y Darlun Cyflawn 

  • Sicrhau bod materion perthnasol sy’n gysylltiedig â’u gweithgareddau/meysydd polisi yn cael eu bwydo’n effeithiol i drafodaethau ynghylch strategaethau a’r darlun cyflawn

Arwain a Chyfathrebu 

  • Bod yn amlwg i staff a rhanddeiliaid eu gweld a chynnal gweithgareddau rheolaidd er mwyn ennyn diddordeb pobl sy’n gweithio yn eu maes ac ennill eu hymddiriedaeth.

Cyflawni'n Brydlon

  • Bod yn batrwm i eraill wrth gefnogi a sbarduno timau er mwyn meithrin hyder yn eu gallu i wireddu canlyniadau.

Rheoli Gwasanaeth Safonol

  • Gwneud cynlluniau clir, ymarferol a hawdd eu rheoli ar gyfer cyflenwi gwasanaethau, gan ddefnyddio disgyblaethau rheoli rhaglenni a phrosiectau. 

Meini Prawf sy'n Benodol i'r Swydd 

  1. Gwybodaeth a dealltwriaeth fanwl o wasanaethau iechyd meddwl emosiynol ledled Cymru ac ymwybyddiaeth o Fframwaith Nyth/Nest a'i gyd-destun.
  2. Y gallu i reoli blaenoriaethau sy'n gwrthdaro er mwyn cyflawni amcan o fewn tîm trawsbynciol i gyflawni terfynau amser heriol mewn amgylchedd cyflym.
  3. Profiad llwyddiannus diweddar o arweinyddiaeth gan weithio ar lefel strategol, gan ysgogi partneriaid/delio â negodiadau partneriaeth cymhleth.

Proses Asesu

Bydd ymgeiswyr yn cael eu sifftio ac yna bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad lle byddant yn gwneud cyflwyniad dim mwy nac 10 munud cyn ymateb i gyfres o gwestiynau penodol yn ymwneud â'r swydd hon.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Matt Downton/Shelley Davies - MentalHealthandVulnerableGroups@gov.wales PartnershipandIntegration@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.