Swydd Wag -- Cynghorwr Milfeddygol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
Cynigir cyflog cychwynnol rhwng £51,380 a £61,440 i'r ymgeisydd llwyddiannus yn seiliedig ar ei sgiliau, ei wybodaeth, profiad a chymhendod, a pherfformiad yn y cyfweliad. Ni ellir trafod yr ystod hon.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
i'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae hon yn swydd allweddol yn Swyddfa'r Prif Swyddog Milfeddygol (OCVO) yn Llywodraeth Cymru (LlC).  Byddwch yn rhan o dîm sy'n gyfrifol am sicrhau a chodi safonau iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru, ac am ddiogelu iechyd y cyhoedd. 

Yn unol â Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid Llywodraeth Cymru, prif amcanion OCVO yw:

  • Diogelu rhag achosion o glefydau anifeiliaid egsotig a'u lledaenu a bod yn barod i ddelio ag unrhyw achosion;
  • Dilyn rhaglen i ddileu TB mewn gwartheg;
  • Rheoli clefyd endemig; a
  • Hyrwyddo safonau uwch er mwyn gwella iechyd a lles anifeiliaid.

Byddwch yn rhoi cyngor milfeddygol i Lywodraeth Cymru, y Prif Swyddog Milfeddygol (Cymru), y Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol (DCVO) a thimau polisi ar faterion sy'n ymwneud â pholisi iechyd a lles anifeiliaid.   Fel rhan o dîm milfeddygol OCVO, byddwch yn cael profiad ar draws ystod eang o bolisïau iechyd a lles anifeiliaid ac yn cael cyfle i ymgymryd ag arweinyddiaeth filfeddygol mewn meysydd gwaith penodol.   Mae'r swydd yn gyfle cyffrous i ddylanwadu'n gryf ar bolisi iechyd a lles anifeiliaid.  Cewch eich cefnogi'n llawn i gael effaith gref a chadarnhaol ar iechyd y cyhoedd milfeddygol ac i ddatblygu sgiliau perthnasol fel milfeddyg gwladol.

Bydd y swydd yn adrodd i'r Dirprwy Brif Swyddog Milfeddygol (DCVO).

Prif dasgau

 Bydd y rôl yn rhoi cyngor ac arweiniad milfeddygol ar y meysydd posibl canlynol:

  • Safonau a threfniadau masnach wedi ymadael a'r UE.
  • Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru
  • Atal a rheoli clefydau egsotig ac endemig
  • Ymateb brys i achosion o glefydau egsotig a chynllunio wrth gefn
  • Lles Anifeiliaid
  • Twbercwlosis mewn gwartheg i gefnogi Rhaglen Dileu TB Cymru

Bydd disgwyl i Ddeiliad y Swydd gyfrannu at feysydd sy'n cyd-fynd â'u cryfderau, eu diddordebau a'u profiad, a'u gofynion datblygu.

Bydd y tasgau allweddol yn cynnwys:

  • Arwain y gwaith o ddarparu cyngor milfeddygol allweddol i'r timau polisi o fewn OCVO.
  • Rhoi cymorth i'r Prif Swyddog Datblygu a'r Prif Swyddog Datblygu Lleol wrth ddarparu cyngor proffesiynol milfeddygol i Weinidogion a chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru.
  • Darparu swyddogaeth cwsmer deallus ar gyfer cyngor o ffynonellau allanol.
  • Rhoi cymorth ac arweiniad i Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru.
  • Cynrychioli OCVO fel sy'n ofynnol ar fyrddau rhanddeiliaid a phartneriaid cyflenwi allanol perthnasol Llywodraeth Cymru.
  • Datblygu perthynas weithio gref o fewn Llywodraeth Cymru a chyda partneriaid a rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, yr Asiantaeth Safonau Bwyd a phartneriaid cyflenwi milfeddygol Cymru.
  • Darparu cymorth ar draws tîm Milfeddygol Llywodraeth Cymru.
  • Ymgymryd â phrosiectau arbennig penodol fel y'u pennwyd gan y CVO a'r DCVO yn amrywio ar draws OCVO i gyd.

Os bydd argyfwng clefyd anifeiliaid, bydd yn ofynnol i Gynghorwyr Milfeddygol ddarparu cymorth.  Gall hyn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y swydd weithio y tu allan i oriau gwaith arferol ar fyr rybudd ac o bosibl i fod wedi'u lleoli yng Nghanolfan Cydgysylltu Argyfyngau Cymru, Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd am gyfnod yn ystod yr argyfwng.

Cyfleoedd datblygu

Bydd deiliad y swydd yn cael cyfle i ddatblygu dealltwriaeth gref o sut mae'r Prif Swyddog Arweiniol a'i thîm o Gynghorwyr Milfeddygol a Swyddogion Polisi o fewn OCVO wedi bod yn gyfrifol am godi safonau iechyd a lles pob anifail a gedwir yng Nghymru.  Bydd yn gyfle i ddysgu a bod yn rhan o rôl Llywodraeth Cymru o ran datblygu polisi, gweithio gyda Gweinidogion a bod ar flaen y gad o ran hybu iechyd a lles anifeiliaid ledled Cymru.

Mae'r swydd yn rhoi cyfle i ddod i gysylltiad ag ystod eang o waith milfeddygol y wlad, a chael profiad ohonynt, o safbwynt polisiau'r llywodraeth.  Darperir cymorth a hyfforddiant lawn i sicrhau bod deiliad y swydd yn elwa o'r cyfle hwn gymaint â phosibl.

Dyddiad Cau

20/05/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol:

  • Dadansoddi a gwerthuso data o wahanol ffynonellau er mwyn pennu manteision ac anfanteision a phennu risgiau, gan wneud penderfyniadau priodol.

Arwain a Chyfathrebu:

  • Ymwneud yn hyderus â rhanddeiliaid a chydweithwyr ar bob lefel i ennyn ymrwymiad at gyrraedd nodau.

Newid a Gwella:

  • Sylwi ar arwyddion bod pethau’n mynd o chwith ac ymateb yn gadarn i heriau mawr rhag cyflenwi.

Cydweithio a Gweithio mewn Partneriaeth:

  • Sicrhau bod partneriaid yn cael eu cynnwys yn y broses o wireddu canlyniadau busnes, drwy gydweithredu mewn ffordd sy’n sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer y cyhoedd.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  1. Ymrwymiad i gymhwyso egwyddorion meddygaeth filfeddygol y wladwriaeth.
  2. Gwybodaeth gadarn am y fframwaith cyfreithiol/rheoleiddiol cenedlaethol a rhyngwladol, fel sy'n berthnasol i'r rôl.
  3. Dealltwriaeth ymarferol o'r ystod o faterion sy'n gysylltiedig â thystiolaeth a ddatblygiad gwybodaeth filfeddygol.

Proses Asesu

Bydd ceisiadau'n cael eu sifftio, yna gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus gynnal ymarfer dadansoddol ac yna cyflwyniad 10 munud. Yn dilyn seibiant, gofynnir cwestiynau i'r ymgeiswyr ar ymddygiadau; cryfderau a meini prawf penodol i’r swydd.  Darllenwch y canllawiau yn yr adran 'Sut i Wneud Cais'.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Ar hyn o bryd, un swydd Cynghorydd Milfeddygol sydd yn wag.  Fodd bynnag, gellir cadw rhestr wrth gefn os bydd unrhyw swyddi Cynghorydd Milfeddygol pellach ar gael yn ystod y 12 mis nesaf.
Dr Gavin Watkins (DCVO) - Gavin.watkins@gov.wales - 03000 255003 / 07779 436401

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.