Swydd Wag -- Syrfëwr Eiddo x3

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
Cyflawni Eiddo
SEO - £41,700 - £49,370
£41,700
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Arall
Parhaol x 2 Penodiad am gyfnod penodol o ddwy flynedd (a allai arwain at swydd barhaol)
Parhaol x 2 Penodiad am gyfnod penodol o ddwy flynedd (a allai arwain at swydd barhaol)
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae Ffyniant i Bawb – y cynllun gweithredu ar yr economi yn cynnwys ymrwymiadau sylweddol mewn perthynas â Chyflawni Seilwaith Eiddo. Mae'r ymrwymiadau hyn yn sail i'r Rhaglen Lywodraethu ac mae angen iddynt gael eu cyflawni rhwng nawr a diwedd y Senedd hon, a mwy na thebyg bydd y gwaith yn parhau i’r tymor canolig. 

Diben y swyddi yw rheoli, rhoi cyngor a darparu cymorth mewn perthynas ag amrediad o ymyriadau seilwaith eiddo ar gyfer datblygu, rheoli a gwerthu/caffael tir ac eiddo.  Mae hyn yn cynnwys ymyriadau a gynhelir yn uniongyrchol ar y cyd â phartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus a phartneriaid sector preifat, gan sicrhau bod gwerth a pherfformiad asedau eiddo Llywodraeth Cymru yn cael eu diogelu, a bod yr amcanion polisi ehangach yn cael eu cyflawni.

Er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau bydd disgwyl i ddeiliad y swydd deithio yn rheolaidd, weithiau i leoliadau anghysbell.

Prif dasgau

  • Negodi, rhoi ar waith a rheoli amrediad o brosiectau datblygu a gwerthu eiddo, a chynnal negodiadau yn unol ag amcanion a threfniadau llywodraethu'r adran.
  • Arfarnu a phrosesu pecynnau cymorth grant sy'n gysylltiedig ag eiddo, a darparu cyngor ynghylch adennill grantiau, gan gynnwys negodiadau uniongyrchol ag awdurdodau lleol a datblygwyr.
  • Cynrychioli'r adran ar gyrff cysylltu mewnol ac allanol, gweithgorau a phartneriaid, dirprwyo ar gyfer yr Uwch-reolwr Eiddo pan fydd angen a darparu mewnbwn arbenigol ar eiddo i dimau prosiect amlddisgyblaethol, gan arwain achosion.
  • Negodi telerau Cytundebau Cynllunio Trefol a Phriffyrdd a datrys problemau cyfreithiol ac ariannol a phroblemau mewn perthynas â rheoli cymorthdaliadau sy'n effeithio ar brosiectau. Hybu a chefnogi cydweithio ar weithgareddau tir ac eiddo ar draws y Llywodraeth ac ystad ehangach y sector cyhoeddus. Cefnogi'r sector cyhoeddus ehangach mewn perthynas â gwybodaeth ac arbenigedd proffesiynol.
  • Darparu Uwchgynlluniau a chaffael astudiaethau technegol i alluogi cyflwyno Ceisiadau Cynllunio.
  • Gwerthuso a monitro perfformiad prosiectau, gan ddarparu adroddiadau cynnydd rheolaidd ar gyfer rheolwyr llinell ac eraill, gan sicrhau bod unrhyw wahaniaethau, boed yn rhai a ragwelir neu rai gwirioneddol, mewn perthynas â thargedau cyllideb neu ariannol, allbynnau neu ganlyniadau'n cael eu nodi a'u hegluro cyn gynted ag y bo modd.
  • Caffael a rheoli ymgynghorwyr eiddo pan fydd angen.
  • Cyfrannu at lunio cyllidebau ar gyfer gwariant cyfalaf a refeniw a rheoli arian a chyllidebau prosiectau.
  • Cynnal unrhyw ddyletswyddau a chyfrifoldebau eraill sy'n gymesur â'r swydd a'r band cyflog.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle i ehangu eich gyrfa a chymryd rhan yn rhai o'r prosiectau eiddo mwyaf cyffrous ac arwyddocaol sy'n digwydd yng Nghymru, gydag amrywiaeth o ran maint a lleoliad.

Mae gwaith Seilwaith Eiddo yn hanfodol bwysig wrth sicrhau bod Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei chenhadaeth heriol i sicrhau cydnerthedd economaidd ac ailadeiladu, gan gefnogi'r gwaith o ddatblygu diwydiannau newydd yng Nghymru, mynd i'r afael â her newid hinsawdd a sicrhau canlyniadau yn dilyn y pandemig ar gyfer pob rhan o Gymru.

Dyddiad Cau

18/04/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Gweld y Darlun Cyflawn 

  • Bod yn effro i faterion a thueddiadau newydd a allai effeithio ar eu gwaith eu hunain a’u tîm, neu a allai fod o fudd i’r gwaith hwnnw.

Arwain a Chyfathrebu 

  • Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen.

Rheoli Gwasanaeth Safonol

  • Gwneud defnydd effeithiol o sgiliau a thechnegau rheoli prosiect i wireddu canlyniadau, gan gynnwys nodi risgiau a chamau i’w lliniaru.

Gwireddu Canlyniadau Masnachol

  • Nodi a deall termau, cysyniadau, polisïau a phrosesau cyfreithiol a masnachol perthnasol (gan gynnwys trefniadau cymeradwyo prosiectau a gweithdrefnau sicrwydd) i wireddu’r canlyniadau y cytunwyd arnynt.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  1. Syrfëwr Siartredig neu gyfatebol.
  2. Profiad cyffredinol o'r sector eiddo, yn ddelfrydol ym maes datblygu tir/eiddo, gyda phrofiad trwyadl mewn un maes penodol.
  3. Yr hygrededd a'r hyder i weithio gyda sefydliadau partner/rhanddeiliaid.

Proses Asesu

Bydd ceisiadau yn cael eu sifftio ac yna bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Bydd pob cyfweliad yn cael ei gynnal yn rhithwir trwy Microsoft Teams.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Jen Low / Martin Beynon - Property.Infrastructure@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.