Swydd Wag -- Swyddog Codau Deddfwriaethol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Swyddfa'r Prif Weinidog
Swyddfa Codau Deddfwriaethol
HEO - £32,460 - £39,690
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Pwrpas y rôl hon yw helpu i gyflawni rhaglen y Llywodraeth i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.

Amcanion allweddol y rôl hon yw rheoli gweithrediad a darpariaeth gwefan Cyfraith Cymru, gan gynnwys ymchwilio, comisiynu a threfnu cynnwys newydd, a rheoli perthnasedd parhaus o’r cynnwys presennol.

Mae rhan o'r rôl yn cynnwys rheoli tîm bychan sy'n helpu i gynnal a diweddaru gwefan legislation.gov.uk a gwyddoniadur ar-lein Llywodraeth Cymru o gyfreithiau Cymru, a chofrestru is-ddeddfwriaeth (gan gynnwys offerynnau statudol).  

Bydd y rôl hefyd yn cwmpasu datblygu polisi fel rhan o'r rhaglen ehangach o wella hygyrchedd cyfraith Cymru, a bod yn gyfrifol am sefydlu a darparu dyletswyddau ysgrifenyddol yn ddwyieithog i Fwrdd Golygyddol Cyfraith Cymru.

Prif dasgau

Gwefan Cyfraith Cymru

Arwain ar ymchwilio, comisiynu a threfnu cynnwys newydd ar gyfer y wefan. Bydd hyn yn cynnwys rheoli'r wefan, a bydd deiliad y swydd yn:

  • adolygu y cynnwys ddwyieithog presennol er mwyn nodi lle mae angen ei ddiweddaru neu angen deunydd newydd, comisiynu cynnwys newydd a newid i’r cynnwys ac yna diweddaru'r wefan;
  • gweithredu gwelliannau a chytunwyd i'r wefan sy'n ystyried ymchwil defnyddwyr a gweithgareddau datblygu eraill;
  • darparu dyletswyddau ysgrifenyddol yn ddwyieithog i Fwrdd Golygyddol y wefan (ar ôl ei sefydlu). Bydd dyletswydd cynnar y rôl yn cynnwys gweithio gyda Phennaeth Swyddfa'r Cod deddfwriaethol i sefydlu'r Bwrdd.

Gwefan legislation.gov.uk, gan gynnwys 'CymruLex'

Goruchwylio'r gwaith o gyflwyno rhaglen o ddiweddaru a threfnu Deddfau ac offerynnau statudol Cymru ar wefan legislation.gov.uk. Bydd hyn yn cynnwys:

  • i ddechrau, canfod (ar y cyd ag uwch olygyddion yn yr Archifau Gwladol (TNA)) pa ddeddfwriaeth y mae'n ofynnol i’w diweddaru'n ôl-weithredol, a dyfeisio dull graddol o sicrhau bod yr holl newidiadau a'r anodiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud i ddeddfwriaeth a wnaed gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Gweinidogion Cymru ers 1999;
  • wedyn cyflwyno'r dull y cytunwyd arno ar gyfer adolygu ac anodi ar gyfer deddfwriaeth presennol, a gweithredu'r rhaglen barhaus o ddiweddaru yng ngoleuni newidiadau deddfwriaethol newydd.

Bydd y gwaith hwn yn galw am lynu'n agos at brosesau a chonfensiynau golygyddol y TNA a bydd yn golygu goruchwylio gwaith y anodwyr a cydlynwyr deddfwriaethol er mwyn sicrhau bod holl ddiwygiadau deddfwriaethol Cymru yn cael eu diweddaru a'u hanodi (gan gynnwys y adolygu ôl-weithredol ac anodi holl ddeddfwriaeth Cymru a wnaed ers 1999).

Gan weithio gyda Phennaeth Swyddfa'r Cod a'r swyddog codau deddfwriaethol eraill yn y tîm, bydd y swydd hon hefyd yn rhan o ddatblygu cynnyrch newydd ' CymruLex ' a gaiff ei gynnal ar wefan legislation.gov.uk. Yn benodol bydd y swydd hon yn gweithio ar nodi effeithiau a pherthnasoedd rhwng diwygiadau ac anodiadau a thagio deddfwriaeth i'w chynnwys yng nghynnyrch CymruLex.

Bydd deiliad y swydd hefyd yn gweinyddu gwariant canolog ar gostau cynhyrchu offerynnau statudol ac ar gostau cyfieithu (drwy archebion prynu a gwirio/ardystio anfonebau i mewn).

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau golygyddol arbenigol a phrofiad o ddefnyddio ystod o feddalwedd cyhoeddi.

Bydd deiliad y swydd yn derbyn hyfforddiant dwys gan y tîm golygu o fewn yr Archifdy Gwladol, a bydd yn gallu cael gafael ar gymorth a chyngor parhaus gan yr TNA.

Bydd deiliad y swydd yn rhan o'r tîm sy'n cyflawni blaenoriaeth y Cwnsler Cyffredinol i wella hygyrchedd cyfraith Cymru, a bydd yn gweithio gyda chydweithwyr ym mhob rhan o'r Llywodraeth i gyflawni hyn. Bydd y swydd hefyd yn cael cyfle i gysylltu â chydweithwyr yng Nghomisiwn y Cynulliad Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, yn ogystal ag aelodau allweddol o ' gymuned Cymru'r gyfraith '

Dyddiad Cau

02/11/20 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Rhugl
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau;

1. Gweld y darlun cyflawn – mynd ati i chwilio am brofiadau i ddatblygu dealltwriaeth o’u gwaith eu hunain ac o feysydd busnes a’u timau, a rhannu’r profiadau hynny.
 
2. Arwain a chyfathrebu – cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen.
 
3. Cydweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Meithrin cysylltiadau ag amrywiaeth o randdeiliaid i gefnogi'r broses o wireddu canlyniadau busnes.
 
4. Cyflawni’n Brydlon – cynllunio ymlaen llaw ond gan ailystyried llwythau gwaith a blaenoriaethau os bydd sefyllfaoedd yn newid neu os bydd y galwadau ar unigolion yn gwrthdaro


Meini Prawf Penodol i’r Swydd;

1. Sgiliau trefnu a chyfathrebu cryf, gan gynnwys briffio a drafftio adroddiadau a chyngor.

2. Profiad profedig o weithio drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg mewn amgylchedd busnes dwyieithog.

3. Profiad profedig o sgiliau darllen a golygu gan gynnwys adnabod arddulliau, rheolau, cywiro cystrawen, gwirio ffeithiau, a dal camgymeriadau atalnodi.

Proses Asesu

Bydd ymgeiswyr yn cynnal asesiad byr cyn y cyfweliad i ganfod faint o gyfarwydd ydynt â deddfwriaeth dwyieithog, a'u profiad o brawfddarllen a golygu.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Claire Fife - Claire.Fife@gov.wales - 03000 250375

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.