Swydd Wag -- Uwch-Rheolwr Cyllid

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Llywodraeth Cymru
Cyllid
SEO - £41,700 - £49,370
£41,700
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae nifer o swyddi ar gael ar y radd hon yn y proffesiwn cyllid ar draws gwahanol Grwpiau yn Llywodraeth Cymru.

Bydd disgrifiadau manylach, mwy penodol, o’r rolau ar gael yn ddiweddarach yn y broses recriwtio.

Un broses recriwtio gyfunol ar gyfer pob rôl yw hon.

Disgrifir y swyddi hyn yn bennaf fel Partneriaid Busnes Cyllid sy'n cefnogi'r busnes, gan feithrin perthynas gref â'u cyfarwyddiaeth ac yn allanol, deall y busnes ac egluro gwybodaeth ariannol mewn modd dealladwy i’r rhai sy’n dal cyllidebau.

Bydd rhai o’r swyddi’n canolbwyntio’n fwy ar reoli cyllidebau mewnol a gallai eraill ymwneud yn fwy ag adroddiadau a pherfformiad cyrff allanol a ariennir gan y Llywodraeth.

Bydd angen i ddeiliad pob swydd gyfleu gwybodaeth am ddata ariannol a gwybodaeth arall yn glir, yn ogystal â darparu cyngor ariannol gwerthfawr, her a chefnogaeth, mewnwelediad strategol ac atebion busnes.

Bydd y swyddi’n golygu gweithio'n agos gydag arweinwyr polisi, Gweinidogion ac ymgynghorwyr ac aelodau eraill o'r tîm Cyllid ar draws y Gyfarwyddiaeth uniongyrchol a'r gymuned gyllid ehangach yn Llywodraeth Cymru – gan gynnwys Trysorlys Cymru.

Prif dasgau

Mae'r canlynol yn dasgau allweddol sy'n gyffredin i bob swydd sy'n cael ei hysbysebu:

  • Datblygu dealltwriaeth o'r busnes, ei randdeiliaid a'r hyn a gyflawnir ganddo.
  • Rhoi cyngor ar gydymffurfio â pholisïau, safonau, cyfrifoldebau a rheolaethau.
  • Trosi, perchnogi ac ychwanegu mewnwelediad at ddata ariannol i ddarparu gwybodaeth a thystiolaeth glir i gefnogi gweithgareddau a gofynion busnes.
  • Adolygu a chyfrannu at achosion busnes / dogfennau strategol
  • Arwain neu gyfrannu at y cylch cynllunio cyllidebol blynyddol, gan gynnwys cyllidebau Drafft a Therfynol ynghyd â rheoli yn ystod y flwyddyn drwy newidiadau i'r gyllideb atodol.
  • Arwain neu gyfrannu at y broses adrodd fisol ar gyfer y Prif Grŵp Gwariant (MEG) perthnasol.
  • Darparu cyngor ariannol arbenigol yn ôl y galw.
  • Rhoi cyngor ar gyfer papurau a sesiynau briffio i Weinidogion gan gynnwys papurau cyllideb a chabinet, sesiynau briffio ad hoc, pwyllgorau craffu a chyngor gweinidogol (MA).
  • Yn fewnol - gweithio'n agos gyda'r Cyfarwyddwr, y Dirprwy, y Pennaeth Cyllid a’r tîm Cyllid ehangach yn y gwaith o reoli cyllidebau'r MEG yn gyffredinol.
  • Yn allanol - datblygu a chynnal perthynas broffesiynol ac effeithiol gydag uwch-dimau cyllid rhanddeiliaid allanol, er mwyn darparu cyngor ariannol, her a chefnogaeth yn ôl y gofyn.
  • Cyfrannu at yr adroddiad ariannol misol i'r Bwrdd ar gyfer y MEG perthnasol, neu arwain arno o bosibl, o fewn amserlenni canolog y cytunwyd arnynt. Darparu diweddariadau rheolaidd ar faterion cyllidebol, gan dynnu sylw at risgiau a chyfleoedd, i'w defnyddio wrth friffio Tîm Cyfarwyddwr Gweithredol y Grŵp.
  • Nodi a monitro cyfleoedd a risgiau i'w cynnwys yng nghynllun Ariannol y Grŵp ac unrhyw adroddiad ariannol dilynol i'r bwrdd, a chynghori'r Pennaeth Cyllid yn briodol.
  • Darparu dadansoddiad a chyflwyniadau ad-hoc i yrru a chefnogi penderfyniadau busnes, megis opsiynau o ran effeithlonrwydd a lleihau costau, gan ddefnyddio'r holl ddata ac offer dadansoddi sydd ar gael.

 

Gallai tasgau eraill mwy penodol i’r rôl gynnwys:

  • Rheoli cyllidebol gan gynnwys yr holl waith cynnal a chadw ar gyfer cyllidebau adrannol ar system ariannol SAP a’r holl ddiweddariadau cyllidebol misol i alluogi adrodd ariannol cywir.
  • Helpu â gwasanaethau atal twyll.
  • Delio ag elfennau ariannol y trefniadau trawsffiniol â Lloegr, Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig eraill.
  • Helpu i adolygu ceisiadau cyfalaf ac achosion busnes, gan gydnabod ac asesu goblygiadau refeniw parhaus.
  • Cytuno ar gyllid a’i ddarparu i sefydliadau allanol.
  • Cysylltu ag arweinwyr polisi a’u cefnogi â rheolaeth ariannol sefydliadau allanol.
  • Cynnal gwerthusiad cynhwysfawr ac asesiad perfformiad o ffurflenni monitro ariannol a gyflwynir gan sefydliadau sy'n cael eu hariannu'n allanol.
  • Helpu i ddatblygu systemau i werthuso pob agwedd ar berfformiad ariannol, gan ddarparu cefnogaeth ddadansoddol a gwerthuso data ariannol. Drafftio canllawiau monitro ariannol blynyddol cynhwysfawr yn unol â'r egwyddorion perthnasol a nodir yn y Llawlyfr Blynyddol ar gyfer Cyfrifon a chynhyrchu canllawiau a deunydd cyfathrebu cysylltiedig drwy Gylchlythyrau’r Llywodraeth.
  • Cydgrynhoi symiau mawr o ddata ariannol a data perfformiad i gynhyrchu gwybodaeth ar sail Cymru gyfan, gan ymgymryd â dadansoddi cymharol.
  • Cyfrannu at arfarniadau ariannol o gynlluniau strategol tymor byr a chanolig, gan gyrff allanol, a rhoi cyngor i uwch-swyddogion ar faterion cymeradwyaeth/diffyg cymeradwyaeth.

 

Rheoli a Goruchwylio Staff

Sylwer: Bydd rhywfaint o gyfrifoldeb rheoli llinell mewn rhai, ond nid pob un, o’r rolau.

Darparu rheolaeth linell uniongyrchol i Swyddogion Cyllid gan sicrhau perfformiad effeithiol drwy gefnogaeth a goruchwyliaeth a mynd i'r afael â materion perfformiad gwael a sicrhau bod  digon o gyfleoedd datblygu personol a datblygu proffesiynol parhaus yn cael eu darparu.

Hefyd, bydd disgwyl i bob rôl ddarparu coetsio a hyfforddiant sy’n berthnasol i'r busnes.

Cyfleoedd datblygu

Bydd gan y swyddi hyn gysylltiad rheolaidd ag uwch-staff mewnol, gan gynnwys Cyfarwyddwyr polisi a'u Dirprwyon yn ogystal ag arweinwyr cyllid eraill ar draws y sefydliad. Mewn rhai rolau bydd cyswllt sylweddol â rhanddeiliaid allanol, felly bydd hyn yn rhoi cyfle i ddatblygu gwybodaeth am weithio yn y sectorau penodol hynny yng Nghymru. Bydd rhai o'r rolau hyn hefyd yn cynnwys gweithio gyda Gweinidogion ac ymgynghorwyr ac adrannau eraill Llywodraeth y DU.

Bydd disgwyl i ddeiliaid y swyddi fodloni gofynion datblygu proffesiynol parhaus eu corff proffesiynol a byddant yn cael eu hannog i gymryd rhan yn rhaglenni datblygu staff cyllid Llywodraeth Cymru.

Bydd disgwyl i ddeiliaid y rolau hefyd, yn achlysurol, ddirprwyo ar ran y rolau Cyllid uwch eraill o fewn y tîm ac ymgymryd â dyletswyddau a phrosiectau eraill fel y cytunir arnynt gyda Phennaeth Cyllid pob Grŵp.

Dyddiad Cau

31/05/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

  • Gwneud penderfyniadau effeithiol - Nodi amrywiaeth eang o ffynonellau gwybodaeth berthnasol a dibynadwy a chydnabod, lle bo hynny’n angenrheidiol, bod angen casglu data newydd o ffynonellau mewnol ac allanol
  • Gweithio ar y cyd ac mewn partneriaeth - Meithrin cysylltiadau ag amrywiaeth o randdeiliaid i gefnogi’r broses o wireddu canlyniadau busnes.
  • Sicrhau gwerth am arian - Gweithio'n hyderus gyda data ariannol a data rheoli perfformiad i baratoi rhagolygon, a rheoli a monitro’r cyllidebau yn unol â’r cynlluniau y cytunwyd arnynt.
  • Gweld y darlun cyflawn - Bod yn effro i faterion a thueddiadau newydd a allai effeithio ar eu gwaith eu hunain a'u tîm, neu a allai fod o fudd i'r gwaith hwnnw.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  1. Profiad mewn rôl gyllid sy'n dangos diwylliant o rannu gwybodaeth a chydweithio rhwng y timau busnes (neu dimau polisi), gwasanaethau cyllid a gwasanaethau corfforaethol eraill.
  2. Mae sgiliau cyfathrebu da yn hanfodol, yn ysgrifenedig ac ar lafar, gyda'r gallu i ddarparu briffiadau ac adroddiadau cyllid clir a chryno.
  3. Tystiolaeth o brofiad o weithio'n hyderus gyda gwybodaeth ariannol gymhleth, a meddu ar sgiliau uwch o ran taenlenni a dadansoddi.

 

Rhaid i ymgeiswyr hefyd fod yn gyfrifydd sydd wedi cymhwyso’n llawn neu wedi cymhwyso’n rhannol hyd at gam olaf arholiadau; wedi ennill neu’n astudio tuag at gymhwyster cyfrifyddiaeth cydnabyddedig – gan unrhyw gorff CCAB (ICAEW, ACCA, CIPFA, ICAS, CAI) neu CIMA.

Proses Asesu

Bydd y broses ymgeisio fel a ganlyn:

Cam 1: Bydd disgwyl i ymgeiswyr lenwi'r ffurflen gais ar-lein a llwytho’r dogfennau ategol canlynol:

  • CV o ddim mwy na 2 dudalen yn nodi hanes eich gyrfa gyda’r cyfrifoldebau a’r cyflawniadau allweddol. Rydym yn argymell eich bod yn rhoi sylw penodol i "bwrpas y swydd" a’r "tasgau allweddol" i sicrhau bod eich CV yn adlewyrchu'r sgiliau a'r profiad rydym yn chwilio amdanynt.
  • Copi o'ch cymhwyster cyfrifyddiaeth neu ddogfen sy'n manylu ar y cymhwyster cyfrifyddiaeth rydych yn astudio tuag ato a chopi o'r arholiadau a basiwyd, ynghyd ag enw'r darparwr addysgol a'ch rhif myfyriwr. Mae'r rhain yn swyddi amser llawn a fyddai'n caniatáu i unigolion gael nifer cyfyngedig o ddyddiau ychwanegol i ffwrdd i astudio, fel cefnogaeth.
  • Datganiad personol o ddim mwy na 2,100 gair. Bydd unrhyw destun y tu hwnt i hyn yn cael ei ddiystyru. Dylai hwn egluro sut mae eich cymwysterau proffesiynol, eich sgiliau, eich rhinweddau a'ch profiad proffesiynol yn cyfateb i:
    • y pedwar cymhwysedd; a
    • y tri maen prawf penodol i'r swydd.

Rydym yn argymell eich bod yn anelu at tua 300 gair ar gyfer pob un o'r 7 categori.

Cam 2: Bydd ymgeiswyr yr ystyrir eu bod yn bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer cam 2 yn cael eu gwahodd i gyfweliad ac asesiad. Bydd hyn ar ffurf asesiad technegol a chyfweliad a fydd yn asesu'r ymddygiadau cymhwysedd a’r meini prawf penodol i’r swydd. Bydd yr ymgeiswyr yn cael manylion y prawf technegol yn nes at yr amser.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Yn ogystal â’r cyflog sylfaenol, gall staff hefyd gael lwfans yn seiliedig ar eu hyfforddiant a’r cymwysterau y maent wedi’u hennill.

Y lwfans ar gyfer unigolion rhannol gymwys yw £3,400. Y lwfans ar gyfer unigolion cwbl gymwys yw £6,801, ond wedi’i gapio £3,750 uwchben uchafswm graddfa cyflog SEO.

Gareth Haven - ExternalRecruitment@gov.wales / RecriwtioAllanol@llyw.cymru

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.