Swydd Wag -- Dylunydd Cynnwys

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yr Uned Dysgu Digidol
HEO - £32,460 - £39,690
£29,100
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Y Cefndir

Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru, ac mae ganddi gyllideb flynyddol o oddeutu £15 biliwn. Mae'n gyfrifol am agweddau allweddol ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru gan gynnwys iechyd, addysg, yr economi, trafnidiaeth, amaethyddiaeth a'r amgylchedd.

Mae gweithlu o dros 5,000 o weision sifil yn cefnogi Gweinidogion Cymru mewn swyddfeydd yng Nghymru, Llundain, Brwsel, a gwledydd eraill dramor.

Caiff blaenoriaethau Llywodraeth Cymru eu hamlinellu yn Symud Cymru Ymlaen. Yr uchelgais cyffredinol yw creu Cymru hunanhyderus, ffyniannus ac iach, a chreu cymdeithas deg. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi pennu blaenoriaethau clir ar gyfer Cymru yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd.

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio denu pobl sy'n gallu darparu cymorth a chyngor rhagorol, sy'n gallu ffocysu adnoddau a chanddynt egni ac arbenigedd. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn rhoi cyd-destun i'n gwaith.

Mae trawsnewid ein gwasanaethau cyhoeddus yn ddigidol yn hanfodol o ran cyflenwi'r gwasanaethau y mae pobl Cymru eu hangen ac yn eu disgwyl. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru'n cyflenwi nifer o wasanaethau digidol i bobl a busnesau ar draws Cymru. Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth ar ein gwefannau.

O dan arweiniad ein Prif Swyddog Digidol, mae Llywodraeth Cymru yn cyflenwi mwy a mwy o wasanaethau ar-lein. Mae'r Prif Swyddog Digidol yn darparu gwasanaeth ymgynghori ar arbenigedd digidol ac arbenigedd data ar draws Llywodraeth Cymru.

Dysgu yn y Gymru Ddigidol

Dysgu yn y Gymru Ddigidol yw rhaglen waith Llywodraeth Cymru i wella'r defnydd o dechnoleg ddigidol wrth addysgu a dysgu. Mae'r rhaglen addysg hollbwysig hon yn cynnig amrywiaeth gyson o gyfarpar ac adnoddau digidol dwyieithog, a ariennir yn ganolog, i randdeiliaid ledled Cymru, a all gefnogi a hwyluso'r gwaith o drawsnewid arferion addysg digidol.

Y Rôl

Rydym yn chwilio am ddylunydd cynnwys gwych i ymuno â'n tîm.

Byddwch yn gweithio mewn tîm bach o arbenigwyr cynnwys, sy'n rheoli ansawdd ein cynnwys digidol ar LLYW.CYMRU a Hwb. Byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda chydweithwyr yn y tîm digidol ehangach ac ar draws y sefydliad.

Byddwch yn olygydd medrus sydd â sgiliau rhagorol o ran rhoi sylw i fanylion. Byddwch yn gallu gweld yr hyn sydd ei angen ar ddefnyddwyr ac yn ysgrifennu mewn ffordd syml a chlir er mwyn diwallu'r anghenion. Bydd gennych hefyd yr hyder i hyrwyddo deunydd o ansawdd uchel o fewn y sefydliad.

Prif dasgau

• Dylunio ac ysgrifennu cynnwys ar gyfer LLYW.CYMRU a Hwb
• Sicrhau bod y cynnwys yn canolbwyntio ar y defnyddiwr ac yn bodloni'r safonau cyhoeddi yn gyson
• Trefnu, strwythuro a labelu cyrff cymhleth o wybodaeth yn hierarchaethau gwybodaeth sy'n hawdd eu defnyddio ac yn seiliedig ar dystiolaeth
• Adolygu, golygu a chyhoeddi cynnwys o fewn terfynau amser caeth, gan ddefnyddio systemau rheoli cynnwys
• Cydweithio ag arbenigwyr pwnc i sicrhau bod y cynnwys a gyhoeddir yn cael ei ddiweddaru'n barhaus neu ei archifo pan na fydd ei angen mwyach
• Cydweithio ag eraill i gydlynu'r broses o greu cynnwys digidol
• Llunio a chyhoeddi cynnwys ar gyfer ein sianeli digidol a gwerthuso'r effaith
• Darparu cyngor arbenigol i staff ar draws yr adran ar ddefnyddio sianeli cyfathrebu digidol yn effeithiol i gefnogi amcanion busnes
• Datblygu perthynas waith wych ar draws yr adran.

Cyfleoedd datblygu

Byddwch yn rhan o broffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg Llywodraeth Cymru. Mae hwn yn broffesiwn sy'n tyfu ac fe gewch gyfle i fod yn rhan o'r gwaith o'i lywio a'i ehangu. .
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu sgiliau a gallu ein staff a'u hannog i ddefnyddio pum diwrnod y flwyddyn i ddysgu. I gefnogi hyn, rydym yn cynnig ystod o gyfleoedd a allai gynnwys:
• Cysgodi
• Mentora
• Dysgu seiliedig ar waith
• Cymwysterau
• Coetsio
• Y Rhaglen Profiad Tymor Byr (STEP)
• Bod yn rhagweithiol wrth greu cysylltiadau ag amrywiaeth eang o dimau Llywodraeth Cymru a phartneriaid allanol gan gynnwys Llywodraethau eraill yn y DU.

Dyddiad Cau

19/02/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd


Fel rhan o'ch cais, dylech baratoi datganiad personol sy'n amlinellu sut rydych yn bodloni'r gofynion HANFODOL canlynol ar gyfer y rôl. Ni ddylai eich datganiad personol fod yn hirach na 2 ochr papur A4.

I lwyddo yn y rôl hon, byddwch:

• Yn gallu cyfathrebu â rhanddeiliaid yn glir ac yn rheolaidd, gan egluro anghenion ac ymrwymiadau drwy ymgynghori ac ystyried effeithiau, gan ganolbwyntio ar anghenion defnyddwyr ar yr un pryd (rheoli'r berthynas â rhanddeiliaid)
• Yn gallu cadw persbectif cyffredinol o ran materion busnes, digwyddiadau, gweithgareddau a dealltwriaeth o'u goblygiadau a'u heffaith hirdymor ehangach (meddwl yn strategol)
• Yn gallu dylunio cynnwys i ddiwallu anghenion defnyddwyr ac egluro iaith a phrosesau cymhleth (dylunio cynnwys gan ganolbwyntio ar y defnyddiwr).
• Gallu trefnu data am ddefnyddwyr, ei ddeall, a’i ddefnyddio i gynnig ffyrdd o ddylunio fydd yn diwallu anghenion dysgwyr (Ffocws ar y defnyddiwr).


Mae'r sgiliau technegol canlynol hefyd yn HANFODOL i lwyddo yn y rôl hon. Sicrhewch eich bod yn atodi CV sy'n dangos eich gallu yn y sgiliau hyn.

• Dros ddwy flynedd o brofiad golygu a hanes llwyddiannus o greu cynnwys sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr
• Profiad o weithio gyda rhanddeiliaid a defnyddio eich sgiliau negodi a dylanwadu i sicrhau canlyniadau
• Profiad o weithio gyda systemau cyhoeddi cynnwys a chanllaw arddull
CEIR darparu tystiolaeth ychwanegol mewn perthynas ag UNRHYW UN o'r galluoedd DYMUNOL canlynol sy'n benodol i'r swydd (a chaiff ei defnyddio i wahaniaethu rhwng ymgeiswyr a asesir ar lefel debyg). Dylech gynnwys y dystiolaeth hon yn eich CV.

• Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau golygu cryf ac, yn ddelfrydol, sydd â phrofiad yn GOV.UK.


I wneud cais ar gyfer y rôl hon, gofynnir ichi atodi'r canlynol:

• Datganiad Personol o'ch addasrwydd yn esbonio sut mae eich profiad a'ch sgiliau yn darparu tystiolaeth mewn perthynas â gofynion hanfodol y rôl. Ni ddylai eich Datganiad Personol fod yn hirach na 2 ochr papur A4.

• CV cyfredol yn cynnwys tystiolaeth o'r sgiliau technegol hanfodol ac unrhyw allu dymunol sy'n benodol i'r swydd lle bo'n berthnasol.

Os bydd eich cais yn llwyddo yn y cam sifftio, cewch eich gwahodd am gyfweliad. Bydd y cyfweliad yn canolbwyntio ar eich sgiliau a'ch profiad mewn perthynas â gofynion hanfodol y rôl. Mae'n bosibl y bydd yna brawf neu asesiad hefyd os yw'n briodol.

Yn dilyn y cyfweliad, os byddwch yn llwyddiannus, efallai y cadwn eich manylion am hyd at 12 mis ar restr wrth gefn rhag ofn y bydd yna swyddi tebyg yn codi.

NODER: Mae'n bwysig eich bod yn atodi'r ddwy ddogfen (y Datganiad Personol a'r CV) i'ch cais ar-lein er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y rôl hon.

Disgwylir i'r cyfweliadau gael eu cynnal erbyn 15/03/2019

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig amryw o fanteision i'w chyflogeion, gan gynnwys:

• Oriau hyblyg
• Gweithio hyblyg
• Cefnogaeth i wella neu feithrin sgiliau Cymraeg
• Trafodaethau rheolaidd am ddatblygiad a'r hyfforddiant sydd ei angen arnoch i ddatblygu yn eich swydd
• Cynnydd blynyddol yn eich cyflog: cewch gyrraedd brig eich graddfa gyflog o fewn 3-4 blynedd
• 31 diwrnod o wyliau blynyddol, yn ogystal â 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint. Trefniadau hael i gymryd diwrnodau absenoldeb fel rhiant.
• Cynllun pensiwn hael gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
• Cynllun Talebau Gofal Plant, yn arbed hyd at £933 y flwyddyn
• Cynllun Beicio i'r Gwaith: dewiswch feic newydd sbon sy'n costio hyd at £1000, gan arbed o leiaf 32%
• Blaensymiau Cyflog: gwnewch gais am flaenswm cyflog cyn y Nadolig, ar gyfer cyfarpar TGCh neu ar gyfer blaendaliadau tenantiaeth
• Benthyciadau Tocyn Tymor

Bill Bone - bill.bone@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.