Swydd Wag -- Swyddi Uwch yn y Gwasanaeth TG (SEO) – Nifer o Swyddi

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
DDaT - Gwasanaethau TGCh
SEO - £41,700 - £49,370
£41,700
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Benthyciad
Hyd at 2 flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w Gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwelliannau sylweddol i'w phortffolio TG dros y blynyddoedd diwethaf ac fe'i hystyrir yn un o brif sefydliadau sector cyhoeddus y DU o ran ei allu digidol a TG.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal nifer o brosiectau TG yn ddiweddar megis rhoi’r gorau i ddefnyddio e-bost Mewnrwyd Ddiogel y Llywodraeth (GSI) a mabwysiadu Office 365 a Teams, gan gyflwyno gliniaduron ac offer newydd i staff ar gyfer gweithio gartref, ail-wampio ystafelloedd cyfarfod ac ystafelloedd cydweithio i gefnogi gweithio hybrid a symud llawer iawn o gymwysiadau i Microsoft Azure. Gyda chymorth strategaeth sefydliadol newydd, WG2025, sy’n pennu amcanion uchelgeisiol ar gyfer gwelliannau mewnol ac allanol, rydym ar ddechrau rhaglenni newydd i gael gwared ar hen gymwysiadau a gwneud y gorau o'n gwasanaethau cwmwl.  Bydd y mentrau hyn yn symud mwy o’n swyddogaethau o dan Dynamics 365, yn adnewyddu'r rhwydwaith gwifrau a di-wifr, yn datblygu a gweithredu Windows 11 ar draws yr ystâd, yn gwella ein platfformau cydweithio er mwyn gallu rhoi’r gorau i hen blatfformau, a gwella'r wybodaeth a'r canllawiau am ein gwasanaethau presennol sydd ar gael i'n defnyddwyr a'n cwsmeriaid.

Mae'r Is-adran Gwasanaethau TG yn hanfodol i waith Llywodraeth Cymru. Cafodd gwaith ei staff dros bandemig COVID-19 ei gydnabod gyda Gwobr arbennig yr Ysgrifennydd Parhaol yng Ngwobrau Llywodraeth Cymru 2021.

Dyma’r math o swyddi a allai fod ar gael i'w paru:

  • Uwch Ddatblygwyr
  • Uwch Beirianwyr Rhwydwaith
  • Uwch Benseiri Technegol
  • Uwch Benseiri Seilwaith
  • Uwch Reolwyr Pontio’r Gwasanaeth

Mae’r rhain yn rolau amrywiol a phwysig sy’n rhoi cymorth a gwasanaeth hanfodol i ragor na 5000 o ddefnyddwyr.

Prif dasgau

Efallai na fydd angen pob un o’r prif dasgau a ddisgrifir isod ar gyfer swydd unigol ac efallai y bydd gofyn am dasgau eraill. Bydd mwy o bwyslais ar wybodaeth a gallu technegol ar gyfer datblygwyr, penseiri neu beirianyddion.

Beth bydd eich sefydliad yn disgwyl i chi wneud?

  • Cyfrannu at gynnal Strategaeth Gwasanaethau TG trwy ddarparu gwasanaethau TG diogel, effeithiol a chydymffurfiol.
  • Cadw bys ar byls egwyddorion y technolegau a’r gwasanaethau perthnasol er mwyn gwella gwasanaethau sy’n bod a datblygu rhai newydd.
  • Bod yn arbenigwr yn eich maes trwy ddarparu cyngor, arweiniad a chymorth

Beth bydd eich tîm yn disgwyl i chi wneud?

  • Arwain a/neu reoli’r gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau presennol a newydd
  • Cefnogi ac annog cydweithwyr yn y Gwasanaeth TG i ddod i ddeall gwasanaethau a thechnolegau ar draws Ystâd Llywodraeth Cymru
  • Rhoi cymorth fel rheolwr llinell o ddydd i ddydd i’ch tîm
  • Cynghori a chefnogi cydweithwyr mewnol ar faterion technegol a gwasanaeth.
  • Gofalu fod unrhyw staff rydych yn rheolwr llinell arnynt yn cael eu datblygu trwy gyngor a chymorth ar gyfer hyfforddiant a datblygiad proffesiynol.

Beth bydd eich rhanddeiliaid yn disgwyl i chi wneud?

  • Gofalu bod prosesau gweithredol yn cael eu cyfathrebu’n effeithiol i helpu i ddylunio a darparu gwasanaethau ac atebion a chymorth pharhaus.
  • Datblygu a chynnal cysylltiadau strategol â’r gymuned DDaT ehangach.
  • Gweithio gyda sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus lle gwelir meysydd o fuddiant cyffredin.

Cyfleoedd datblygu

Bydd y rolau hyn yn rhan o broffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg (DDaT) Llywodraeth Cymru. Mae hwn yn broffesiwn sy’n tyfu, a byddwch yn cael y cyfle i fod yn rhan o’i lunio a’i dyfu. Bydd y swyddi’n rhoi’r cyfle i chi ddeall sut mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ac yn cefnogi technoleg i ddarparu i’w cwsmeriaid.

Dyddiad Cau

28/04/23 16:00

Hyderus o ran Anabledd

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

Gofynnir i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth yn y ffurf ganlynol yn eu cais:

  1. Datganiad Personol – rhowch drosolwg byr o’ch sgiliau a pham rydych yn gwneud cais i symud. (300 gair)
  2. Rheoli Gwasanaeth Safonol – Datblygu, rhoi ar waith, cynnal ac adolygu systemau a gwasanaethau gan sicrhau eu bod o safon broffesiynol uchel. (500 gair)

Meini prawf:

  • Rhaid bod gennych brofiad mewn TG neu o Ddarparu Gwasanaeth
  • Profiad o gyflawni mewn amgylchedd sy’n symud yn gyflym, yn ddymunol
  • Bydd rhai swyddi’n gofyn i chi ddangos gallu a gwybodaeth dechnegol sy’n berthnasol i’r swydd. Dylech ymgorffori hynny yn eich Datganiad Personol.

Proses Asesu

Y mae hon yn hysbyseb ‘agored’ fydd yn rhedeg tan y dyddiad cau a nodir uchod.  Y mae hyn yn golygu y bydd ceisiadau yn cael eu sifftio, a bydd ymgeiswyr yn symud drwy’r broses asesu, pan ddaw’r ceisiadau i law. Unwaith y byddwn yn agos at lenwi ein swyddi gweigion byddwn yn cysylltu â phob ymgeisydd sydd wedi dechrau cais i roi gwybod y bydd yr hysbyseb yn cau ymhen pythefnos o ddyddiad yr e-bost.

Am ragor o wybodaeth ar y broses asesu gweler y pecyn ymgeisydd yma.

Gweler ‘Sut i Wneud Cais’ isod am ragor o gyfarwyddyd ar sut i gyflwyno ffurflen gais am y cyfle hwn.

Gwybodaeth arall

Penodi ac Amodau a Thelerau

  • Mae’r swydd hon ar fenthyg, o’r tu allan, ac yn agored i Weision Sifil (fel benthyciad yn unig). Fe’i cynigir i gyflogedigion y gwasanaeth sifil sydd ar gontract parhaol neu gyfnod penodol ac sydd wedi’u penodi i’w swydd bresennol trwy gystadleuaeth deg ac agored. Bydd y rheini sydd ar gontract cyfnod penodol ond yn cael eu penodi am weddill eu contract. Nid yw’r rheini sydd ar gontract parhaol neu gyfnod penodol nad ydynt yn gweithio ar hyn o bryd yn y gwasanaeth sifil yn gymwys i ymgeisio.
  • Cynigir swyddi tymor byr (6-12 mis) neu dymor hir ((hyd at 2 flynedd).
  • Ni fydd trosglwyddiad parhaol ar draws i Lywodraeth Cymru ar gael.
  • Bydd yr holl swyddi ar gael ar eich gradd bresennol ac fel trosglwyddiadau ar draws yn unig. Ni fydd yn gyfle i chi gael dyrchafiad dros dro.
  • Ni fydd hwn yn gyfle i chi gael dyrchafiad dros dro na dyrchafiad parhaol, ond bydd llawer o’r swyddi’n cynnig cyfle i chi ddysgu sgiliau newydd, i ennill profiad gwerthfawr ac i ehangu’ch rhwydweithiau.
  • Fe wnawn ein gorau i’ch paru â swydd ar sail y dystiolaeth a nodwch yn eich ffurflen gais.
  • Ni allwn warantu cynnig swydd na swydd benodol i chi.
  • Os llwyddwn i’ch paru â swydd, byddwch yn symud o dan drefniadau ffurfiol Benthyg o’r Tu Allan h.y. byddwch yn cael eich symud i Amodau a Thelerau Llywodraeth Cymru os bydd y benthyciad yn para mwy na 6 mis.
  • Byddwch yn ennill y cyflog sydd agosaf i’ch cyflog presennol ar y pwynt cyflog o fewn y raddfa gyflogau, heb ddioddef cam Telerau a buddion Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru | LLYW.CYMRU
  • Gofalwch eich bod wedi cael cymeradwyaeth eich rheolwr llinell i’ch rhyddhau.
  • Rhaid i chi fod ar gael ar unwaith ar ôl eich rhyddhau. Pan fyddwch wedi’ch paru â swydd, disgwylir ichi ddechrau ar y swydd honno’n fuan.
  • Er nad yw sgiliau Cymraeg yn angenrheidiol ar gyfer cael eich dewis ar gyfer yr ymgyrch hon, rydyn ni’n annog ymgeiswyr sy’n gallu gweithio’n ddwyieithog i ymgeisio.
  • Gan mai ar fenthyg y byddwch chi, cofiwch pan ddaw’r swydd i ben neu pan fydd eich contract â’r sefydliad gwreiddiol ar fin dod i ben, bydd disgwyl i chi fynd yn ôl i’ch sefydliad gwreiddiol.
ExternalRecruitment@gov.wales / RecriwtioAllanol@llyw.cymru

Sut i wneud cais

Dylai pob cais am y swydd wag hon gael ei gwneud ar system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.

I wneud cais am gyfle ar fenthyg o’r tu allan, bydd angen i chi baratoi ffurflen gais Symud ar Draws. Os na chaiff y ffurflen ei llenwi neu ei chyflyno, ni caiff y cais ei ystyried.

Ar y ffurflen Symud ar Draws, bydd gofyn i chi ddarparu’r canlynol:

Datganiad Personol - rhowch drosolwg byr o’ch sgiliau a pham rydych yn gwneud cais i symud. (300 gair)

Rheoli Gwasanaeth Safonol - bydd gofyn i chi sôn am gyfnod pan wnaethoch chi ddatblygu, rhoi ar waith, cynnal ac adolygu systemau a gwasanaethau gan sicrhau eu bod o safon broffesiynol uchel. (500 gair)

Bydd gofyn i chi hefyd nodi’ch sgiliau a’ch profiad, a hanes byr o’ch gyrfa.

Bydd y dystiolaeth a ddarparwyd yn eich ffurflen gais symud ar draws yn cael ei hasesu gan banel sifftio. Os bydd y panel yn credu ar sail y dystiolaeth eich bod yn gymwys, byddwch yn cael eich gwahodd i gyfweliad anffurfiol lle gofynnir i chi ddisgrifio’ch gwybodaeth, sgiliau a galluoedd technegol, ac am ragor o wybodaeth ar y cymwyseddau a meini prawf a restrwyd yn yr hysbysed swydd, os oes angen.

Os hoffech ragor o wybodaeth am y cyfleoedd a’r broses ddewis a pharu, darllenwch y pecyn atodedig i ymgeiswyr.

Os oes gennych nam sy’n eich rhwystro rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch externalrecruitment@gov.wales i ofyn am becyn ymgeiswyr mewn fformat arall, neu i ofyn am addasiad rhesymol er mwyn i chi allu cyflwyno’ch cais.

I wneud cais, bydd angen cyfrif arnoch ar ein system ar-lein. Cliciwch ar y botwm ‘Gwneud Cais’ isod. Byddwn yn gofyn ichi fewngofnodi os oes gennych gyfrif eisoes neu i ‘Gofrestru’ os nad oes gennych gyfrif eto. Dim ond ychydig funudau sydd ei angen i gofrestru. Ar ôl cofrestru a mewngofnodi, byddwch yn mynd yn syth i’r ffurflen gais ar-lein. Bydd angen i chi ei llenwi a’i chyflwyno cyn y dyddiad cau.

Os byddai’n well gennych wneud cais yn Saesneg, cliciwch ar y botwm ‘Newid Iaith / Change Language’ ar dop y dudalen ac fe gewch eich cymryd yn syth i fersiwn Saesneg yr hysbyseb a gallwch ymgeisio yn Saesneg o’r fan honno.

**Nodwch:  Os oes gennych gyfrif Appoint a’ch bod am ddiweddaru’ch enw defnyddiwr a chyfeiriad e-bost i’r cyfeiriad @llyw.cymru newydd, logiwch i mewn gan ddefnyddio’ch hen fanylion, cliciwch ar eich enw ar far y dewislen a dewis ‘Golygu Manylion Personol’ ar y gwymplen. Gallwch ddiweddaru’ch manylion personol ar y dudalen honno.**

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.