Swydd Wag -- Uwch-reolwr Rheoleiddio

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Rheoleiddio Tai
SEO - £41,700 - £49,370
Cynigir cyflog cychwynnol rhwng £41,700 a £45,970 i'r ymgeisydd llwyddiannus yn seiliedig ar ei sgiliau, ei wybodaeth a'i brofiad, a'i berfformiad yn y cyfweliad. Ni ellir trafod y cyflog a gynigir.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
Cyfnod Penodol/Secondiad 2 flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae tai yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. 

Mae’r Tîm Rheoleiddio yn cynnal y swyddogaeth reoleiddio ar ran Gweinidogion Cymru, a’i brif bwrpas yw amddiffyn tenantiaid a’r arian cyhoeddus sylweddol a fuddsoddir yn y sector cymdeithasau tai yng Nghymru. Mae rheoleiddio effeithiol hefyd yn sicrhau bod y sector yn parhau i fod yn ddeniadol i fuddsoddwyr preifat y mae eu cyllid yn ategu grantiau ar gyfer datblygu tai cymdeithasol newydd yng Nghymru. 

Mae Uwch-reolwyr Rheoleiddio yn gyfrifol am reoleiddio portffolio o Gymdeithasau Tai mewn amgylchedd gweithredu deinamig a heriol. Maent yn arwain tîm sy'n cynnal asesiadau rheoleiddiol o bob cymdeithas i wneud yn siŵr eu bod yn cydymffurfio â'r safonau rheoleiddio, bod trefniadau llywodraethu da ar waith a'u bod yn ariannol hyfyw – gan ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i denantiaid. Mae Uwch-reolwyr Rheoleiddio hefyd yn rheoli’n uniongyrchol Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig sy'n risg uwch/mwy cymhleth a/neu lle mae cryn bryderon rheoleiddiol.

Mae'r swydd yn gofyn am y gallu i ddatblygu perthynas weithio effeithiol â Byrddau, Prif Weithredwyr ac uwch staff, gan sicrhau bod perfformiad rheoleiddio’n cael ei oruchwylio. Mae hyn yn cynnwys asesu trefniadau llywodraethu, gan gynnwys diwylliant, ymddygiad ac arweinyddiaeth ar lefel bwrdd a lefel weithredol. Mae angen dadansoddi gwybodaeth gymhleth a meddu ar y gallu i reoli sgyrsiau anodd am berfformiad gwael a disgwyliadau i wella naill ai ag unigolion, neu fel rhan o dîm. 

Mae Uwch-reolwyr Rheoleiddio yn adrodd i'r Pennaeth Rheoleiddio.

Prif dasgau

•    Gweithio'n agos gyda'r Pennaeth Rheoleiddio, y Rheolwyr Rheoleiddio a'r Uwch-ddadansoddwyr Ariannol i reoleiddio perfformiad Cymdeithasau Tai yn erbyn Fframwaith Safonau Rheoleiddio Llywodraeth Cymru.
•    Arwain y gwaith o asesu perfformiad rheoleiddio portffolio o gymdeithasau tai yn erbyn safonau rheoleiddio a fframwaith rheoleiddio Llywodraeth Cymru, a'r dyfarniad canlyniadol mewn perthynas â rheoleiddio sy'n darparu sicrwydd ynghylch perfformiad rheoleiddiol (llywodraethu, gwasanaethau tenantiaid a hyfywedd ariannol) i Weinidogion, tenantiaid, cyllidwyr, cydweithwyr mewnol a rhanddeiliaid eraill. 
•    Rheoli’n uniongyrchol bortffolio o Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig risg uwch/mwy cymhleth a/neu lle mae cryn bryderon ynghylch rheoleiddio, a chefnogi’r Pennaeth Rheoleiddio wrth ddadansoddi opsiynau ar gyfer ymatebion rheoleiddiol priodol, gan gynnwys cynnal dadansoddiadau risg o effeithiau strategaethau rheoli achosion ar gyllid/cyllidwyr.
•    Mynd ati ar y cyd â'r Uwch-ddadansoddwyr Ariannol i adolygu hyfywedd ariannol a chydnerthedd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru; drwy ddadansoddi cyfrifon rheoli, cynlluniau busnes a threfniadau trysorlys.
•    Creu a darparu cynllun blynyddol sy'n amlinellu'r rhaglen ar gyfer Dyfarniad y Rheoleiddiwr i ystyried amgylchedd gweithredu allanol dynamig sy'n newid.
•    Gweithio gyda rheolwyr rheoleiddio, datblygu a chynnal perthnasau gweithio adeiladol, cyd-reoleiddiol â'r portffolio o Gymdeithasau Tai wedi'u teilwra i'r sefydliadau unigol i sicrhau bod y lefel o oruchwyliaeth reoleiddiol sydd ei hangen ar waith, ac yn gymesur â'r risgiau sy'n bresennol. Yn aml mae Goruchwyliaeth Reoleiddiol yn golygu bod yn bresennol mewn cyfarfodydd bwrdd a digwyddiadau eraill y tu allan i oriau gwaith arferol.
•    Cysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys cyllidwyr a sefydliadau sy'n cynrychioli tenantiaid, i gynrychioli'r Tîm Rheoleiddio Tai a Llywodraeth Cymru yn broffesiynol i'r sector tai cymdeithasol a'i bartneriaid allweddol.
•    Gweithio gyda chydweithwyr, ymateb i geisiadau am Briffiau Gweinidogol, gohebiaeth ac achosion dyddiadur ac ati. 
•    Arwain a llinell-reoli Swyddogion Band Rheoli 2 (Band D) sy'n gyfrifol am gweithgareddau'r Tîm Rheoleiddiol, gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi ac yn gallu cael mynediad at hyfforddiant a chyfleoedd datblygu.
•    Arwain y broses sicrhau ansawdd i gymeradwyo dyfarniadau dros dro ar gyfer pob Cymdeithas Tai ym mhortffolio'r tîm.
•    Datblygu gwybodaeth fasnachol ac ariannol er mwyn sicrhau bod gan y tîm y ddealltwriaeth ariannol orau posibl er mwyn defnyddio dull effeithiol o reoleiddio ar sail risg.
•    Cyfrannu at adolygiadau, ymchwil, datblygu polisïau a gweithgareddau sicrwydd ansawdd annibynnol, ar y cyd â'r tîm Strategaeth a Pholisi i wella'r swyddogaeth reoleiddio yng Nghymru.

Cyfleoedd datblygu

Bydd y rôl yn rhoi'r cyfle i ddeiliad y swydd arwain y gwaith o reoleiddio landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru, datblygu gwybodaeth am fusnes cymdeithasau tai a meithrin perthynas â rhanddeiliaid. Mae hefyd yn rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau craidd sy'n ymwneud â'r gwasanaeth sifil, i weithio gydag uwch reolwyr a Rheoleiddwyr eraill yng Nghymru a'r DU ac i gynghori Gweinidogion.

Dyddiad Cau

12/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Bydd yr Ymddygiadau canlynol yn cael eu hasesu yn y cyfweliad.

Ymddygiadau'r Gwasanaeth Sifil

  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Dangos hyder wrth wneud penderfyniadau anodd, hyd yn oed os ydynt yn profi'n amhoblogaidd. Ymgynghori ag eraill i sicrhau bod yr effeithiau posibl ar ddefnyddwyr terfynol wedi'u hystyried.
  • Arweinyddiaeth - Sicrhau bod gan gydweithwyr a rhanddeiliaid ddealltwriaeth glir o amcanion, gweithgareddau a fframiau amser. Ystyried effeithiau gweithgareddau eich hun a'r tîm ar randdeiliaid a defnyddwyr terfynol.
  • Cyfathrebu a Dylanwadu - Cyfathrebu mewn ffordd syml, onest ac ymgysylltiedig, gan ddewis arddulliau priodol i wneud y mwyaf o ddealltwriaeth ac effaith. Sicrhau bod negeseuon pwysig yn cael eu cyfathrebu â chydweithwyr a rhanddeiliaid yn barchus, gan ystyried amrywiaeth y buddiannau.
  • Cyflawni'n Brydlon -  Monitro gwaith eich hun a'ch tîm yn rheolaidd yn erbyn cerrig filltir gan sicrhau bod anghenion unigol yn cael eu hystyried wrth osod tasgau. Gweithredu'n brydlon i ailasesu llwythi gwaith a blaenoriaethau pan fo gofynion sy'n gwrthdaro i gynnal perfformiad. 

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

Bydd y meini prawf canlynol sy’n benodol i'r swydd yn cael eu hasesu yn y cam sifftio a’r cyfweliad.

Yn eich CV a'ch datganiad personol, rhowch dystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) i ddangos sut rydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd ar gyfer y rôl hon.

  1. Dealltwriaeth o lywodraethu ac asesu perfformiad.
  2. Dealltwriaeth o Fusnes Cymdeithasau Tai.
  3. Dealltwriaeth o reoleiddio/arolygu.

Proses Asesu

Mae 3 cham i'r broses ymgeisio ac asesu:

Cam 1 - Cyflwyno CV a Datganiad Personol

Lanlwythwch eich CV a'ch Datganiad Personol (dim mwy na 2 dudalen). Rydym am i chi ddangos yn arbennig sut rydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd. Rydym wedi’u rhestru yn adran Meini Prawf Penodol i’r Swydd yr hysbyseb.

  • Pwysig: byddwn yn asesu’ch CV a'ch datganiad personol ar sail y meini prawf sy’n benodol i’r swydd sy’n cael eu rhestru isod. Sicrhewch fod eich datganiad personol yn esbonio sut rydych chi'n bodloni'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd (tua 300 gair ar gyfer pob maen prawf).

Cam 2 – Sifftio’r CV

Ar ôl y dyddiad cau, byddwn yn asesu CVs a datganiadau personol yr holl ymgeiswyr.

 

Cam 3 – Cyfweliad

Dyddiad cyfweliadau: i'w gadarnhau.

Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddo i ddangos eu bod yn bodloni'r meini prawf gofynnol sy’n benodol i’r swydd yn cael eu gwahodd i gyfweliad.

Bydd eich cyfweliad yn seiliedig ar yr Ymddygiadau a'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd a ddisgrifir yn yr hysbyseb hon.

Yn y cyfweliad, gofynnir cwestiynau i chi a fydd yn gyfle ichi roi tystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) i ddangos sut ydych chi'n bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i’r Swydd a’r Ymddygiadau sydd eu hangen ar gyfer y rôl hon. Efallai y bydd gofyn i chi roi cyflwyniad byr (5 munud) i agor y cyfweliad – os bydd, anfonir y teitl/pwnc atoch ymlaen llaw.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Manteision Gweithio yn Llywodraeth Cymru

Ble caf i weithio?

Ar gyfer llawer o rolau, rydym o blaid cynnig ffordd hybrid o weithio – ‘Gweithio Clyfar’ fel y’i gelwir. Mae’n golygu cyfuniad o weithio gartref a gweithio yn y swyddfa.  Efallai y cewch gyfle i weithio gartref gan ddibynnu ar anghenion y busnes ac ymrwymiadau eich tîm.  Byddwch yn trafod ac yn cytuno ar eich trefniadau gweithio gyda’ch rheolwr llinell pan fyddwch yn ymuno.

Byddwn ni'n ystyried ceisiadau gennych i weithio mewn lleoliad penodol oherwydd eich amgylchiadau personol fel cyfrifoldebau gofalu neu a oes amhariad neu gyflwr ar eich iechyd. Dywedwch ble yr hoffech weithio yn eich CV, yn y blwch 'Dewis lleoliadau'.

Drwy ymgeisio am y rôl hon, byddwch yn barod i weithio yn un o'r lleoliadau canlynol fel eich prif swyddfa:

  • Caerdydd, Bedwas, Merthyr Tudful, Abertawe, Aberystwyth, Cyffordd Llandudno, Caerfyrddin

 

Beth yw’r manteision?

Mae nifer o fanteision gwych i weithio i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

Yr ystod cyflog ar gyfer y radd hon yw £41,700 - £49,370.

  • Bydd unigolion ar delerau ac amodau Llywodraeth Cymru yn cael 31 diwrnod o wyliau yn ogystal â deg diwrnod o wyliau cyhoeddus a braint.
  • Rydym yn cynnig trefniadau gweithio hyblyg i'ch helpu i daro’r cydbwysedd cywir rhwng bywyd a gwaith.
  • Byddwch hefyd yn cael bod yn aelod o Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil

Manteision eraill

  • Gweithio Hyblyg – Rydym yn helpu staff sydd am reoli’r cydbwysedd rhwng eu bywyd a’u gwaith trwy weithio gartref (gan ddibynnu ar anghenion y busnes ac os yw'n briodol ar gyfer y rôl)
  • Patrymau Gweithio – Mae opsiynau gwahanol ar gael: Llawn Amser, Rhan Amser, Rhannu Swydd, Oriau Cywasgedig, Amser Tymor ac ati (gan ddibynnu ar anghenion y busnes ac os yw'n briodol ar gyfer y rôl)
  • Cynllun Ceir Gwyrdd – i chi gael prydlesu car allyriadau carbon isel iawn newydd sbon a thalu amdano drwy’ch cyflog
  • Cyllid Cymorth – Benthyciadau cyn talu cyflog ar gyfer amrywiaeth o bethau gan gynnwys: tocynnau teithio tymor, gofal llygaid, offer TG, Cycle2Work a mwy
  • Absenoldeb rhiant – 26 wythnos o gyfnod mamolaeth/mabwysiadu ar gyflog llawn a 15 diwrnod o gyfnod tadolaeth
  • Awr Les – Awr les bwrpasol bob wythnos i'w defnyddio yn ystod oriau swyddfa. Boed er mwyn mynd am dro yn y parc lleol, ioga, myfyrdod neu amser yn y gampfa. Amser i chi yw hwn
  • Tâl – Incrementau cystadleuol drwy’r bandiau cyflog
  • Hyfforddiant a Dyrchafiad – Cyfleoedd hyfforddi a datblygu wedi'i deilwra i'ch rôl
  • Cynhwysiant ac Amrywiaeth – Rydym yn annog gweithle cyfoethog ac amrywiol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael bod nhw eu hunain, a does neb yn teimlo unrhyw wahaniaethu yn ei erbyn
  • Cysylltu â Staff – Mae gennym ystod eang o rwydweithiau bywiog a chroesawgar iawn, ar gyfer: Awtistiaeth, Gofalwyr, Merched Gyda'n Gilydd, PRISM (ein rhwydwaith LGBTQ+) a llawer mwy
  • Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol – Timau ymroddedig i roi cymorth a chefnogaeth i staff pan fydd eu hangen fwyaf
  • Iechyd Meddwl – Rhaglen Cymorth i Weithwyr a llinell gymorth bwrpasol i gefnogi staff i ofalu am eu hiechyd meddwl
  • Offer TG modern – Gliniaduron Office 365 i roi mwy o hyblygrwydd i chi o ran pryd, sut a ble i weithio
  • Tri Undeb – Mae gennym dri undeb ar hyn o bryd

Ian Walters - 07890 520184

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.