Swydd Wag -- Hyrwyddwr Cyflogaeth i Bobl Anabl x1

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
Y Gyfarwyddiaeth Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg
SEO - £41,700 - £49,370
Cynigir cyflog cychwynnol rhwng £41,700 a £45,970 i'r ymgeisydd llwyddiannus yn seiliedig ar ei sgiliau, gwybodaeth a phrofiad a pherfformiad yn y cyfweliad. Nid yw'r ystod hon yn agored i drafodaeth.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan, Lleoliad arall
Rydym yn gweithredu dull hybrid o weithio, sy'n cynnig trefniant hyblyg o rhan lleoliad sy'n eich galluogi i gyfuno gweithio o adref a’r swyddfa. Y nod yw rhoi cydbwysedd i'ch cefnogi i weithio'n fwy hyblyg yn y lle a'r amser cywir, mewn ffordd sy'n gweithio i'r sefydliad ac i chi. Bydd eich trefniadau gwaith yn cael eu trafod a'u cytuno â'ch rheolwr llinell pan fyddwch yn ymuno.
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau.

Pwrpas y swydd

Mae Llywodraeth Cymru, drwy ei Gynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau, wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i gynyddu nifer y bobl anabl sydd mewn gwaith.

Ar hyn o bryd, mae nifer o rwystrau'n atal pobl anabl rhag cael gwaith, aros mewn gwaith a chamu ymlaen, fel arferion gweithio anhyblyg a diffyg ymwybyddiaeth neu ddealltwriaeth ymhlith cyflogwyr o arferion gweithio hygyrch. Mae pobl anabl ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith o gymharu â phobl nad ydynt yn anabl, ac mae angen i hyn newid er mwyn cefnogi twf o fewn yr economi yng Nghymru.

Bydd yr Hyrwyddwr Cyflogaeth i Bobl Anabl yn rhan o rwydwaith o bartneriaid a fydd eirioli ar gyfer cyflogi pobl anabl, gan hyrwyddo'r model cymdeithasol o anabledd. Bydd cymorth penodol ar gael i fusnesau bach a chanolig drwy wasanaeth Busnes Cymru, a bydd angen i ddeiliad/deiliaid y swydd weithio ochr yn ochr â'r gwasanaeth er mwyn sicrhau bod y busnesau y maent yn ymgysylltu â nhw yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda chyflogwyr ar draws Cymru i gynyddu ymwybyddiaeth o'r doniau a'r sgiliau sydd gan bobl anabl, i'w helpu i addasu eu harferion recriwtio ar gyfer eu gweithlu, ac i ddangos iddynt sut i gael gafael ar y cymorth sydd ar gael i helpu pobl anabl i weithio. Byddant yn darparu cyngor cytbwys annibynnol gan gynnig arbenigedd, helpu cyflogwyr i ddenu ymgeiswyr anabl a dileu rhwystrau yn y gweithle er mwyn galluogi cyflogeion anabl i wireddu eu potensial a defnyddio eu doniau er budd busnesau.

Bydd deiliad y swydd yn gweithio gyda chyflogwyr ar draws Cymru i gynyddu ymwybyddiaeth o'r doniau a'r sgiliau sydd gan bobl anabl, i'w helpu i addasu eu harferion recriwtio ar gyfer eu gweithlu, ac i ddangos iddynt sut i gael gafael ar y cymorth sydd ar gael i helpu pobl anabl i weithio. Byddant yn darparu cyngor cytbwys annibynnol gan gynnig arbenigedd, helpu cyflogwyr i ddenu ymgeiswyr anabl a dileu rhwystrau yn y gweithle er mwyn galluogi cyflogeion anabl i wireddu eu potensial a defnyddio eu doniau er budd busnesau.

Bydd y deiliad swydd hefyd yn cefnogi Llywodraeth Cymru i fod yn esiampl nodedig o ran arferion recriwtio i Bobl Anabl a chael eu galw i

defnyddio'u profiad byw i gyfoethogi polisïau a datblygiadau rhaglenni Llywodraeth Cymru yn arbennig mewn perthynas â Chyflogeg a Sgiliau.

Bydd gan deiliaid y swydd dealltwriaeth o'r rhwystrau a wynebir gan bobl anabl wrth ymgeisio am swydd a tra yn gweithio, ynghyd â gwybodaeth a phrofiad o ddeddfwriaeth cydraddoldeb. 

Bydd gofyn i ddeiliad y swydd gwrdd â phartneriaid a chyflogwyr ac efallai y bydd angen rhywfaint o deithio.

Prif dasgau

  • Codi ymwybyddiaeth ymhlith cyflogwyr o fanteision cyflogi pobl anabl a phobl sydd â chyflyrau iechyd sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio; chwilio am gyfleoedd cydweithredol a'u hwyluso i wella lefelau cyflogaeth i bobl anabl.
  • Cysylltu â swyddogion polisi perthnasol o fewn Llywodraeth Cymru er mwyn rhannu arferion da a'r gwersi a ddysgwyd ar faterion cyflogaeth Pobl Anabl.
  • Gweithio yn drawsadrannol i wreiddio'r Model Cymdeithasol o Anabledd a chymryd rhan wrth asesu Asesiadau Effaith Integredig, Achosion Busnes a dyfarniadau/gwobrau.
  • Defnyddio profiad bywyd er mwyn cyfoethogi datblygiadau polisi a rhaglenni Llywodraeth Cymru, a rhoi cyngor ar ddatblygiadau corfforaethol megis cynnwys gwefannau.
  • Hyrwyddo recriwtio a chadw pobl anabl yn unol â'r model cymdeithasol o anabledd.
  • Hyrwyddo ffyrdd o ddileu rhwystrau sy'n rhoi pobl anabl dan fantais mewn prosesau recriwtio ac yn y gweithle.
  • Helpu cyflogwyr gyda 'datgelu' fel rhan o'u prosesau recriwtio a sicrhau eu bod yn mabwysiadu dull cynhwysol o weithio, a datblygu arferion arloesol newydd drwy ledaenu arferion gorau o gyflogwyr sy'n esiampl i eraill.
  • Helpu cyflogwyr i gael gafael ar gymorth cyflogaeth ar gyfer pobl anabl sydd wedi llwyddo i gael gwaith, neu lle mae posibilrwydd o swyddi newydd, a chynyddu dealltwriaeth o'r cymorth sydd ar gael i'r unigolyn a'r cyflogwyr, gan ddefnyddio gwybodaeth arbenigol lleol (e.e. cost addasiadau i'r gweithle, cysylltu ag arbenigwr i gael cyllid Mynediad i Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau).
  • Gweithio gyda phartneriaid traws sector a chysylltu â gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli e.e. Cynghorwyr Cyflogaeth i'r Anabl y Ganolfan Byd Gwaith, Remploy, Elite etc, er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf posibl.
  • Rhannu gwybodaeth efo rhanddeiliaid/ acyflogwyr sydd â phrofiad o recriwtio pobl anabl er mwyn hyrwyddo cyfleoedd a sicrhau cysylltiad â rhaglenni Llywodraeth Cymru.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r gwaith hwn yn gyfle i weithio gydag uwch-arweinwyr busnes ar draws Cymru.

Bydd y rôl yn cryfhau sgiliau a phrofiad yr ymgeisydd llwyddiannus o ran arwain a chyfathrebu.

Bydd deiliad y swydd yn rhoi arweiniad i fusnesau ac yn eu hysbrydoli i newid. Byddant yn cael cyfle i helpu busnesau i fod yn greadigol ac yn rhagweithiol wrth gyflawni canlyniadau

Dyddiad Cau

28/04/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Gallu darllen y rhan fwyaf o ddeunydd mewn sefyllfa waith
Gallu sgwrsio yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gwaith
Deall y rhan fwyaf o sgyrsiau mewn sefyllfa waith
Gallu paratoi'r rhan fwyaf o waith ysgrifenedig yn y Gymraeg

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

  1. Newid a Gwella - Mynd ati i annog awgrymiadau gan amrywiaeth eang o ffynonellau a rhanddeiliaid, a’u defnyddio i ddylanwadu ar eu syniadau eu hunain.
  2. Arwain a Chyfathrebu - Cydnabod, parchu a gwobrwyo eraill am eu cyfraniad a’u llwyddiant, gan roi gwerth ar wahaniaethau.
  3. Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Mynd ati i ofyn am adborth gan amrywiaeth o bobl.
  4. Rheoli Gwasanaeth Safonol - Datblygu cynigion i wella ansawdd gwasanaethau gydagamrywiaeth eang o staff, rhanddeiliaid neu bartneriaid
    cyflenwi.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

Oherwydd natur y rôl, rhaid i ddeiliad y post gael:

  1. Profiad o'r rhwystrau a wynebir gan bobl anabl mewn perthynas â chyflogaeth a gwybodaeth a phrofiad o ddeddfwriaeth cydraddoldeb.
  2. Y gallu i ddatblygu a chynnal perthnasau adeiladol ag ystod eang o randdeiliaid.
  3. Y gallu i ddylanwadu ac ysbrydoli newid. Y gallu i ddangos dealltwriaeth ymarferol o'r model cymdeithasol o anabledd.

Proses Asesu

  • Cam sifftio: Ystyried cais ysgrifenedig yn erbyn y cymwyseddau a'r meini prawf penodol i swyddi a amlinellir.
  • Cam cyfweliad: Os byddwch chi'n pasio'r sifft, fe'ch gwahoddir i gyfweliad yn seiliedig ar fanylion y swydd a'r cymwyseddau a amlinellir ar yr hysbyseb.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
  • Gweler y ddolen i'r Hysbysiad preifatrwydd Llywodraeth Cymru:
  • Mae pum Swydd Hyrwyddwr Cyflogaeth Pobl Anabl ar gael, ac mae dwy hysbyseb swydd yn cydredeg i gwmpasu'r pum swydd yma. Mae'r hysbysebion swyddi hyn yn union yr un fath ac eithrio'r gofynion Cymraeg penodedig. Mae'r hysbyseb swydd hon ar gyfer y swydd sy'n gofyn am sgiliau Cymraeg ar gychwyn er mwyn cyflawni'r gwaith yn foddhaol. Manylir ar y sgiliau Cymraeg sydd eu hangen o fewn yr hysbyseb swydd hon ac ni fydd person heb y lefelau sgiliau iaith angenrheidiol hyn yn cael eu hystyried ar gyfer y swydd hon. Nid yw sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y pedair swydd sy'n weddill, er fe fyddent o gymorth i gyflawni dyletswyddau'r swydd. Gellir gwneud cais am y swyddi hyn trwy'r hysbyseb swydd ar wahân, cyfeirnod Disabled People's Employment Champion x4 - Welsh Government (tal.net). Mae ymgeiswyr yn cael eu hannog i ymgeisio trwy'r ddwy hysbyseb swydd lle mae ganddyn nhw'r gallu angenrheidiol yn y Gymraeg. I ymgeiswyr sy'n gymwys i wneud cais am y ddwy hysbyseb, dim ond un cyfweliad fydd yna os yn llwyddiannus yn y broses sifftio.
  • Am fersiwn hygyrch o'r hysbyseb swydd hon, cliciwch yma. 
Samantha Huckle - spefw@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.