Swydd Wag -- Cadw Prif Geidwad - Henebion Amrywiol x 5

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
Gwasanaethau Ymwelwyr
Cymorth Tîm - £22,150 - £25,620
22,150
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Lleoliad arall
Castell Cilgerren, Castell Dinbych, Castell Talacharn, Castell Oxwich, Abaty Glyn y Groes
'I'w gadarnhau'

Pwrpas y swydd

Ymhlith amcanion Cadw mae darparu profiad ymwelwyr o'r radd flaenaf yn yr eiddo sydd dan ein gofal, cynyddu perfformiad masnachol drwy wneud y mwyaf o ddefnydd ein henebion a chynyddu'r buddion i gymunedau drwy greu mwy o gyfleoedd i bobl fwynhau, dysgu a chymryd rhan mewn gweithgareddau treftadaeth. Mae gennym hefyd ran i’w chwarae wrth gynyddu ymwybyddiaeth a mwynhad o'r amgylchedd hanesyddol ehangach, a'r angen i ofalu amdano, er lles cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.

Bydd y swyddi hyn yn arwain tîm o geidwaid ac yn sicrhau rheolaeth weithredol effeithlon o'u timau a'u safleoedd. Byddant hefyd yn darparu safonau rhagorol o wasanaeth cwsmeriaid, wrth hefyd ddarparu’r lefelau uchaf posibl o ddiogelwch ymwelwyr, amddiffyniad i'w heneb a lles ar gyfer eu timau.  Bydd deiliaid y swyddi hefyd yn datblygu twf busnes eu safleoedd ac yn meithrin ymgysylltiad cymunedol ac yn sicrhau eu safle’n cael yr effaith fwyaf posib ar yr economi leol.

Prif dasgau

  • Rheoli safle diogel, taclus a hygyrch i ymwelwyr a hefyd sicrhau diogelwch eu heneb
  • Cydlynu eu tîm a'u gwirfoddolwyr fel bod ymwelwyr â'r safle yn cael croeso cynnes a dwyieithog a safon gyson uchel o wasanaeth cwsmeriaid.
  • Darparu ymateb effeithlon i ymholiadau cwsmeriaid a sicrhau bod cwynion yn cael eu hymchwilio a gwersi'n cael eu dysgu a'u cyfathrebu i'w tîm
  • Sicrhau bod diogelwch ymwelwyr a staff yn brif flaenoriaeth a bod ymchwiliad i unrhyw ddigwyddiadau a lliniaru yn cael eu rhoi ar waith er mwyn osgoi cael eu hailadrodd.
  • Rheoli perfformiad eu timau a meithrin ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth ardderchog i gwsmeriaid.
  • Sicrhau eu bod yn darparu gweithle diogel i'w timau a bod eu lles yn cael ei ddiogelu a bod unrhyw ymddygiadau annerbyniol yn cael sylw,
  • Sicrhau bod hyfforddiant gorfodol a swyddi penodol yn cael ei gynnal, bod anghenion hyfforddi a datblygu ychwanegol yn cael eu nodi, a chanlyniadau dysgu yn cael eu defnyddio yn y gweithle.
  • Rheoli adnoddau yn effeithiol a gweithio o fewn y gyllideb, a chynnal safonau diogelwch a'r gwasanaeth ymwelwyr.
  • Datblygu rhwydwaith o gysylltiadau lleol gyda chyrff twristiaeth a threftadaeth a busnesau lleol. Cynrychioli Cadw mewn digwyddiadau lleol a darparu cyswllt i randdeiliaid lleol
  • Gweithio gyda thimau Dysgu a Digwyddiadau Gydol Oes i ddatblygu a chyflwyno rhaglen o ddigwyddiadau masnachol neu gymunedol effeithiol dan arweiniad ceidwaid.
  • Datblygu strategaeth ragweithiol ar gyfer eu safle i recriwtio a chadw gwirfoddolwyr.
  • Gweithredu fel cyswllt arweiniol y safle ar gyfer llogi safleoedd, ymweliadau â'r cyfryngau a mynychu digwyddiadau a sioeau allgymorth arbennig.
  • Cynnal cofnodion cywir a sicrhau bod gweithdrefnau ariannol yn cael eu cynnal fel y nodir yn rheoliadau arian a chyfrifeg Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cwblhau ffurflenni misol yr heneb a rhoi canllawiau archwilio a llywodraethu ar waith.
  • Datblygu incwm manwerthu a masnachol ar gyfer eu safle a sicrhau bod yr ardal fanwerthu yn cael ei chyflwyno'n ddeniadol a'i stocio'n briodol.

Cyfleoedd datblygu

Mae’r swydd yn cynnwys gweithio gyda Gweinidogion ac uwch swyddogion y tu mewn ac allan i Lywodraeth Cymru. Bydd deiliad y swydd yn meithrin dealltwriaeth drylwyr o’r angen i ddarparu’r agenda fasnachol a chymdeithasol sy’n gysylltiedig â’r gwasanaeth amgylchedd hanesyddol.

Dyddiad Cau

07/04/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Ymddygiadau cymhwysedd sydd eu hangen ar gyfer y rôl

Newid a gwella - Adolygu arferion gweithio a meddwl am syniadau i wella’r ffordd y mae pethau’n cael eu gwneud.
Arwain a chyfathrebu -  Gweithredu mewn modd teg a pharchus wrth ymdrin ag eraill.
Cyflawni gwerth am arian - Trin rhifau yn hyderus, a chasglu gwybodaeth gan sicrhau bod data ariannol a pherfformiad yn gywir.
Cyflawni ar gyflymder – Cymryd rhan mewn gwaith i sicrhau ansawdd cynnyrch neu wasanaethau.

Meini prawf penodol i'r swydd

Profiad o arwain ac ysgogi tîm mewn amgylchedd cyhoeddus.
Gwerthfawrogiad da o wasanaeth cwsmeriaid ac ansawdd y ddarpariaeth.
Profiad o reoli a gwella safonau iechyd a diogelwch mewn gweithleoedd cymhleth a mannau cyhoeddus.

Proses Asesu

Bydd ceisiadau yn cael eu sifftio ac yna bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Bydd pob cyfweliad yn cael ei gynnal yn rhithwir trwy Microsoft Teams.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Castell Cilgerren, Castell Talacharn, Castell Oxwich, Abaty Glyn y Groes (Swyddi Tymhorol)

Castell Dinbych (Swydd trwy’r flwyddyn)

Paul Williams

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.