Swydd Wag -- Rolau Amrywiol Gradd EO - Benthyciad o’r Tu Allan (Ar agor)
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
Rydym yn awyddus i wneud yn fawr o arbenigedd staff o bob rhan o’r Gwasanaeth Sifil er mwyn cael effaith ymarferol a chadarnhaol yn ystod y cyfnod digynsail hwn.
Fel arfer, band cyflog Swyddog Gweithredol (EO) yw’r lefel gyntaf â chyfrifoldebau rheoli pobl. Gall y rôl rheoli gynnwys trefnu llwyth gwaith, monitro llif gwaith, rheoli perfformiad, hyfforddi a datblygu, mentora a chymell/coetsio.
Rydym yn chwilio am ystod amrywiol o weision sifil i weithio mewn amrywiaeth o rolau cyffrous ar radd EO ar draws Llywodraeth Cymru.
Bydd y swyddi'n gofyn am wybodaeth, sgiliau a phrofiadau ar draws yr ystod eang o nodweddion gradd EO, ond bydd rolau swyddi yn amrywio.
Bydd y rolau sydd ar gael ar draws yr holl Grwpiau yn Llywodraeth Cymru a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu paru â swyddi â blaenoriaeth. Felly, wrth wneud cais am un o'r rolau hyn, rydych chi'n cytuno i symud i swydd yr ystyrir ei bod yn fwyaf priodol ar y sail y wybodaeth a roddwch i ni.
Prif dasgau
1) Yr hyn y bydd y sefydliad yn ei ddisgwyl gennych mewn rôl Swyddog Gweithredol (EO).
- Byddwch yn gallu gweithio’n annibynnol ar dasgau bob dydd, gan roi cyngor i unigolion mewn swyddi uwch a chefnogi blaenoriaethau adrannol.
- Byddwch yn unigolyn hyblyg, rhagweithiol a brwdfrydig, gan weithio ar draws timau os oes angen er mwyn cyflawni amcanion busnes y sefydliad; byddwch yn deall eich meysydd cyfrifoldeb ac yn dangos ymwybyddiaeth o effaith ehangach eich camau gweithredu.
- Bydd gennych ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r cysylltiadau rhwng eich maes gwaith, meysydd gwaith eraill a strwythur ehangach y sefydliad.
2) Yr hyn y bydd eich tîm yn ei ddisgwyl.
- Byddwch yn gallu rheoli’ch llwyth gwaith a’ch blaenoriaethau eich hun i sicrhau bod amcanion yn cael eu cyflawni yn brydlon ac i safon uchel, gan ddefnyddio’ch blaengarwch a’ch penderfyniadau eich hun.
- Byddwch yn buddsoddi amser yn eich datblygiad personol, gan osod esiampl dda a chynorthwyo datblygiad eraill. Byddwch yn darparu cyfleoedd ac anogaeth i unigolion ddatblygu, gan rannu’ch gwybodaeth a’ch profiad.
- Byddwch yn rheoli/goruchwylio, yn datblygu, yn cymell ac yn cefnogi grwpiau amrywiol o staff a chydweithwyr, gan fanteisio’n llawn ar staff ac adnoddau eraill. Byddwch yn cefnogi ac yn cynnwys yr holl staff a chydweithwyr mewn ffordd weithredol, gan eu trin yn deg a pharchu pawb fel unigolion.
3) Yr hyn y bydd rhanddeiliaid allweddol yn ei ddisgwyl.
- Byddwch yn sefydlu perthynas waith broffesiynol gyda grŵp amrywiol o randdeiliaid a chwsmeriaid mewnol ac allanol er mwyn sicrhau canlyniadau.
- Byddwch yn cyfathrebu mewn ffordd effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig, gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu priodol.
Cyfleoedd datblygu
Dyddiad Cau
Hyderus o ran Anabledd
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
Proses Asesu
Gweler y pecyn ymgeisydd yma.
Bydd ein hysbysebion Adran Arall o’r Llywodraeth yn rhedeg nes ein bod wedi llenwi pob rôl wag. O ganlyniad, ni fydd dyddiad cau a bydd ceisiadau’n cael eu didoli a’u penodi wrth iddynt ddod i law. Bydd y drefn deilyngdod yn seiliedig ar amseriad y ceisiadau. Unwaith y byddwn yn agos at lenwi ein holl swyddi gwag, byddwn yn cysylltu â phob ymgeisydd sydd wedi dechrau llunio cais i roi gwybod i chi y bydd yr hysbyseb yn cau ymhen pythefnos o ddyddiad anfon yr e-bost.
Gwybodaeth arall
Penodiadau a Thelerau ac Amodau
- Dim ond i Weision Sifil presennol mae cyfleoedd benthyciad o’r tu allan ar gael (ar sail benthyg yn unig).
- Mae rolau i’w cael ar gyfer cyfleoedd tymor byr (6-12 mis) neu gyfleoedd tymor hir (hyd at ddwy flynedd).
- Ni ddisgwylir i chi drosglwyddo’n barhaol i Lywodraeth Cymru.
- Mae’r holl rolau ar gael ar radd y swydd barhaol ac ar sail symud ar draws yn unig.
- Ni fydd dyrchafiadau dros dro na dyrchafiadau parhaol ar gael trwy gyfrwng y cyfle hwn; fodd bynnag, bydd nifer o’r rolau’n cynnig cyfle i ennill profiad gwerthfawr, ehangu rhwydweithiau a dysgu sgiliau newydd.
- Byddwn yn gwneud pob ymdrech i’ch paru â rôl ar sail y dystiolaeth a gyflwynwch yn eich ffurflen gais.
- Ni allwn warantu y byddwch yn cael cynnig unrhyw swydd, neu swydd benodol.
- Os cewch eich paru’n llwyddiannus â rôl, byddwch yn symud dan drefniadau ffurfiol Benthyciad o’r Tu Allan, h.y. byddwch yn symud i Delerau ac Amodau Llywodraeth Cymru.
- Bydd eich cyflog parhaol yn cael ei baru â’r pwynt cyflog agosaf ar fand cyflog y radd, ac ni fyddwch ar eich colled https://llyw.cymru/telerau-buddion-gwasanaeth-sifil-llywodraeth-cymru
- Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cael cymeradwyaeth/caniatâd gan eich rheolwr llinell i’ch rhyddhau.
- Rhaid i chi fod ar gael i’ch rhyddhau yn syth, oherwydd ar ôl i chi gael eich paru â rôl disgwylir i chi fynd i’r afael â’r swydd yn ddi-oed.
- Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o wahanol broffesiynau a’r rhai â sgiliau arbenigol neu gyffredinol.
- Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl anabl, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi pob aelod o staff i ffynnu mewn amgylchedd gwaith cynhwysol.
- Rydym yn gefnogol i’r arfer o weithio gartref a’r arfer o deilwra patrymau i weddu i amgylchiadau’r unigolyn. Yn y tymor byr, bydd mwyafrif y deiliaid swyddi yn gweithio gartref.
- Er nad yw sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer proses ddethol yr ymgyrch hon, rydym yn annog ceisiadau gan unigolion a all weithio’n ddwyieithog.
- Gan mai benthyciad yw hwn, pe bai’r swydd yn dod i ben dylech gadw mewn cof y bydd disgwyl i chi ddychwelyd i’ch sefydliad presennol.
Sut i wneud cais
I Wneud Cais
Dylai pob cais am y swydd wag hon gael ei wneud ar-lein drwy system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.
I wneud cais am gyfle benthyciad o’r tu allan, bydd angen i chi baratoi templed CV Symud ar Draws. Os na chaiff hwn ei lenwi a/neu ei gyflwyno, ni fydd y cais yn cael ei ystyried.
Yn y cais CV Symud ar Draws, bydd angen i chi gyflwyno 500 gair yn ymwneud â’r canlynol:
- Soniwch am adeg pan wnaethoch chi reoli staff a pherfformiad, adnoddau a phrosiectau i sicrhau bod modd cyflawni gwaith yn effeithiol.
- Beth fu’r effaith a’r canlyniad?
Ymhellach, bydd angen i chi nodi eich sgiliau a’ch profiad, cyflwyno hanes byr o’ch gyrfa a nodi eich hoff ddewisiadau o ran Grŵp/Adran a maes gwaith craidd â blaenoriaeth.
Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y cyfleoedd a’r camau sy’n berthnasol i’r broses dethol a pharu yn y pecyn i ymgeiswyr sydd ynghlwm.
Os oes gennych chi anabledd a fyddai’n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, anfonwch e-bost i TimTrawsnewidAD@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat arall neu i ofyn am addasiad rhesymol yn ymwneud â’ch anabledd er mwyn cyflwyno eich cais.
I wneud cais, rhaid bod gennych chi gyfrif ar ein system ymgeisio ar-lein. Cliciwch y botwm 'Gwneud cais' isod, a gofynnir i chi 'Mewngofnodi' os oes gennych chi gyfrif yn barod, neu 'Cofrestru' os nad oes gennych chi gyfrif. Ychydig funudau yn unig y mae’n ei gymryd i gofrestru. Byddwch chi angen cyfeiriad e-bost i allu cofrestru. Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer cyfrif a mewngofnodi, cewch eich tywys i’r ffurflen gais ar-lein; bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn llawn a’i chyflwyno cyn yr amser terfyn ar y dyddiad cau.
Os hoffech chi wneud cais am y swydd wag hon yn Gymraeg, defnyddiwch y ddolen ‘Newid Iaith / Change Language’ ar frig y dudalen hon i fynd i fersiwn Gymraeg yr hysbyseb hon; gallwch chi wneud cais yn Gymraeg o’r fan honno.
**Noder: Os oes gennych chi gyfrif Penodi yn barod a’ch bod eisiau diweddaru eich enw defnyddiwr a’ch cyfeiriad e-bost i’r cyfeiriad @llyw.cymru newydd, mewngofnodwch gan ddefnyddio eich hen fanylion, cliciwch ar eich enw yn y ddewislen a dewiswch ‘Golygu Manylion Personol’ yn y gwymplen. Gallwch ddiweddaru unrhyw un o’ch manylion personol cofrestredig ar y dudalen hon.**
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.