Swydd Wag -- Arbenigwr Gwella Iechyd – Tybaco Anghyfreithlon
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
Rydym yn chwilio am Swyddog Safonau Masnach profiadol a chymwysedig, sy’n ymwybodol o’r heriau sy’n gysylltiedig â thybaco anghyfreithlon, i ymgymryd â’r swydd hon.
Bydd deiliad y swydd yn arwain y gwaith o weithredu Rhaglen Tybaco Anghyfreithlon Cymru, sydd â’r nod o fynd i’r afael â chyflenwi a defnyddio tybaco anghyfreithlon yng Nghymru. Bydd yn gyfrifol am leihau’r rhan y mae tybaco anghyfreithlon yn ei chwarae yn y farchnad, gan godi ymwybyddiaeth yn y gymuned, a chyfeirio prynwyr at wasanaethau cymorth. Bydd yn gweithio gyda rhwydwaith eang o randdeiliaid gan ddarparu arweinyddiaeth iddynt er mwyn atal tybaco anghyfreithlon rhag tarfu ar y gwaith o weithredu Cynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco 2017-2020, a chynlluniau dilynol. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cyfrannu at y weledigaeth hirdymor a nodir yn y cynllun Cymru Iachach: Ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Prif dasgau
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am weithredu Rhaglen Tybaco Anghyfreithlon Cymru.
Bydd deiliad y swydd yn gwneud y canlynol:
- Creu ac arwain cynghrair o randdeiliaid sydd â diddordeb yn y cyflenwad a’r galw sy’n gysylltiedig â thybaco anghyfreithlon yng Nghymru.
- Gweithio gydag asiantaethau gorfodi i wella systemau adrodd a datblygu llwybrau i sicrhau bod adroddiadau gwybodaeth yn cyrraedd y sefydliadau priodol.
- Datblygu trefniadau ar gyfer adrodd ar berfformiad er mwyn monitro gweithgarwch gorfodi awdurdodau lleol yn erbyn adroddiadau gwybodaeth. Bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu bwydo’n ôl i’r Bwrdd Strategol ar gyfer Rheoli Tybaco.
- Gweithio gyda chyrff gorfodi a rhanddeiliaid i sicrhau bod y gweithgarwch a gyflawnir i fynd i’r afael â thybaco anghyfreithlon yn cael cyhoeddusrwydd, a bod y gost o werthu tybaco anghyfreithlon yn cael ei deall yn fwy helaeth.
- Gweithio gydag adrannau’r Llywodraeth i gryfhau’r trefniadau gorfodi presennol, gan sicrhau bod y rheini sy’n gwerthu tybaco yn anghyfreithlon yn wynebu canlyniadau mwy difrifol. Byddai’r gwaith hwn yn cynnwys:
- Gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a rhanddeiliaid i gynnal ymgyrch yn y gymuned, gan sicrhau sylw yn y wasg a fydd yn lleihau pa mor gyfforddus y mae pobl yn teimlo ynghylch tybaco anghyfreithlon yn eu cymuned. Byddai’r gweithgarwch hwn yn canolbwyntio ar negeseuon a fyddai wedi eu cytuno a’u profi ymlaen llaw.
- Bod yn gyfarwydd â’r ymchwil berthnasol ddiweddaraf.
- Datblygu systemau i fesur effeithiau’r ymyriadau polisi.
- Rhoi cyngor ar ddefnyddio cyllideb ar gyfer rhaglenni bach i gefnogi’r gwaith gorfodi mewn perthynas â thybaco anghyfreithlon a gwaith cyfathrebu cysylltiedig.
- Darparu cysylltiad hanfodol rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a Safonau Masnach er mwyn cefnogi mesurau iechyd y cyhoedd.
- Adolygu sut y gallai’r polisi presennol gefnogi’r Rhaglen, yn ogystal â sut y gellid cryfhau’r ddeddfwriaeth a’r polisïau sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd i fynd i’r afael â thybaco anghyfreithlon.
- Rhoi cyngor a chymorth i arweinwyr polisi ar bob agwedd ar dybaco anghyfreithlon, fel y bo angen.
Cyfleoedd datblygu
Mae’r swydd yn gyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus weithredu rhaglen o waith amrywiol i fynd i’r afael â thybaco anghyfreithlon yng Nghymru. Bydd yn rhaid wrth arweinyddiaeth gref ar gyfer pob agwedd ar y rôl yn ogystal â meddu ar y gallu i gydlynu gwahanol ffrydiau gwaith a rhwydwaith eang o randdeiliaid. Mae’r swydd hon yn gyfle i ennill profiad o arwain a datblygu ymyriadau addas ar lefel Cymru gyfan.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd yn ennill profiad o weithio ar draws y llywodraeth, yn ogystal â gweithio i ddatblygu polisi a gweithredu deddfwriaeth sy’n ymwneud â thybaco. Bydd hynny’n cynnwys rhoi cyngor i swyddogion polisi, y Prif Swyddog Meddygol, a Gweinidogion.
Dyddiad Cau
Cymhwystra
Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:
- Fisâu a Mewnfudo y DU - GOV.UK (Saesneg yn unig)
- Rheolau Cenedligrwydd – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.
Hyderus o ran Anabledd
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
Cymwyseddau
- Gweld y Darlun Cyflawn: Ceisio deall sut y mae’r gwasanaethau, y gweithgareddau a’r strategaethau yn y maes yn ategu ei gilydd i greu gwerth ar gyfer y cwsmer/defnyddiwr.
- Newid a Gwella: Mynd ati i annog awgrymiadau gan amrywiaeth eang o ffynonellau a rhanddeiliaid, a’u defnyddio i ddylanwadu ar eu syniadau eu hunain.
- Gwneud Penderfyniadau Effeithiol: Nodi amrywiaeth eang o ffynonellau gwybodaeth berthnasol a dibynadwy, a chydnabod, lle bo hynny’n angenrheidiol, bod angen casglu data newydd o ffynonellau mewnol ac allanol.
- Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth: Meithrin cysylltiadau ag amrywiaeth o randdeiliaid i gefnogi’r broses o wireddu canlyniadau busnes.
Meini Prawf Penodol i’r Swydd
- Rhaid i ddeiliad y swydd fod yn swyddog Safonau Masnach cymwysedig, sy’n meddu ar gymhwyster perthnasol ac sy’n aelod o sefydliad proffesiynol.
- Rhaid bod gennych brofiad o ddatblygu ymgyrch gyfathrebu neu hyrwyddo ymwybyddiaeth yn y gymuned.
- Mae’n ddymunol bod gennych arbenigedd a gwybodaeth o ran sut y mae tybaco anghyfreithlon yn cael ei gyflenwi, ei werthu, a’i ddefnyddio yng Nghymru er mwyn ichi allu datblygu ymyriadau priodol ac effeithiol.
Proses Asesu
Gwybodaeth arall
- Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
- Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
- Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
- Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Anghydfod a Chwynion
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.