Swydd Wag -- Pennaeth Adolygiadau
Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil
Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
Arwain rhaglen AGIC o adolygiadau cenedlaethol ac adolygiadau lleol.
Arwain nifer bach o adolygiadau proffil uchel, yn ôl yr angen.
Cynnig arweinyddiaeth a chyfeiriad ar gyfer raglen AGIC o waith dilynol ar ôl adolygiadau
Rhoi cyngor proffesiynol i uwch-reolwyr AGIC ynghylch gweithgareddau adolygu.
Bydd deiliad y swydd yn aelod o Uwch Dîm Rheoli AGIC ac yn atebol i Bennaeth Uwchgyfeirio a Gorfodi AGIC.
Prif dasgau
Tasgau sy'n benodol i'r swydd
Cyfrifoldeb am oruchwylio, rheoli a chydgysylltu adolygiadau cenedlaethol ac adolygiadau lleol o'r dechrau i'r diwedd, gan gynnwys y canlynol:
- Rheoli gwaith adolygu mewn ffordd drylwyr a disgybledig, gan sicrhau y caiff adolygiadau eu cyflawni i'r safon orau ac yn unol ag amserlen
- Ymateb i waith adolygu/ymchwilio seiliedig ar risg y gelwir amdanynt, yn ôl y gofyn [llofruddiaethau, adolygiadau arbennig brys] gan weithredu fel swyddog arweiniol yr adolygiad lle y bo angen
- Sicrhau cydymffurfiaeth â fframweithiau statudol a sicrhau bod pob gweithred yn gyfreithlon
- Cymryd rôl arweiniol wrth sicrhau bod yr arbenigedd iechyd priodol yn cael ei gyfrannu at waith adolygu
- Gweithredu fel uwch-swyddog ymchwilio, gan gynnwys AGIC ac adolygwyr trydydd parti fel sy'n briodol
- Argymell camau uwchgyfeirio yn ôl yr angen
- Gweithio gyda'r Adran Gwasanaethau Cyfreithiol lle y bo'n berthnasol.
Mynd ati'n rhagweithiol i ddatblygu, cynllunio, goruchwylio a sicrhau ansawdd dull AGIC o adolygu.
Cyfrannu’n weithredol at Fwrdd Llywio Adolygiadau AGIC, sydd â goruchwyliaeth strategol dros waith adolygu AGIC.
Meithrin cydberthnasau cadarnhaol a sicrhau cyfathrebu effeithiol â phartneriaid mewnol ac allanol, gan gynnwys arolygiaethau eraill, cyrff y GIG, cleifion a'r cyhoedd.
Chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu fframwaith datblygu proffesiynol AGIC, gan sicrhau bod y staff yn cael eu cynorthwyo i wireddu eu potensial, drwy ddatblygu pecynnau hyfforddiant a llwybrau gyrfa.
Cydweithio â thimau arolygu, rheoleiddio a gwasanaethau eraill, ac â rhanddeiliaid fel y bo'n briodol, i rannu gwybodaeth a datblygu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer gwaith AGIC.
Sicrhau bod y gwaith adolygu yn cael ei gynnal yn effeithiol ac yn unol ag arferion gorau, gan gadw at bolisïau a gweithdrefnau AGIC.
Sefydlu fframwaith o ansawdd uchel ar gyfer polisïau, canllawiau a gweithdrefnau a'i adolygu'n barhaus, ynghyd â'r ddogfennaeth sydd ei hangen ar gyfer arferion adolygu effeithiol.
Rheoli cydberthnasau â chyrff gofal iechyd a chyrff nad ydynt yn rhai gofal iechyd sy'n berthnasol i gwmpas y swydd gan gynnwys, er enghraifft, yr Heddlu.
Sicrhau ansawdd prosesau adolygu cenedlaethol a lleol, er mwyn gwneud yn siŵr eu bod o safon uchel ac wedi'u llunio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y rhanddeiliaid allweddol.
Cynrychioli AGIC yn y cyfryngau yn ôl yr angen.
Cyflawni rôl Rheolwr Cydberthnasau ar gyfer bwrdd iechyd neu ymddiriedolaeth.
Tasgau cyffredin
Dirprwyo ar ran y Prif Weithredwr
Gweithio gyda'r Cyfarwyddwr ac uwch-reolwyr eraill i gytuno ar y rhaglen waith.
Rheoli tîm a chynnig arweinyddiaeth effeithiol a chefnogol yn unol â pholisïau Llywodraeth Cymru
Cydweithio â chydweithwyr yn AGIC
Cymryd rhan yng ngweithgareddau corfforaethol AGIC
Rheoli eu datblygiad proffesiynol parhaus eu hunain a datblygiad aelodau o'u tîm
Cynnal cenhadaeth, diben, rôl a gwerthoedd AGIC
Cyfleoedd datblygu
Dyddiad Cau
Cymhwystra
Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:
- Fisâu a Mewnfudo y DU - GOV.UK (Saesneg yn unig)
- Rheolau Cenedligrwydd – GOV.UK (Saesneg yn unig)
Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.
Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.
Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.
Hyderus o ran Anabledd
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd
Cymwyseddau:
Pennu cyfeiriad - Gwneud penderfyniadau effeithiol
Crynhoi a chyflwyno casgliadau rhesymol o amrywiaeth eang o dystiolaeth a data anghyflawn a chymhleth - gallu gweithredu neu benderfynu hyd yn oed pan na fydd y manylion yn glir.
Cydgysylltu â phobl - Arwain a chyfathrebu
Arwain drwy esiampl, gan gyfathrebu mewn ffordd onest ac uniongyrchol gydag uniondeb a didueddrwydd a hyrwyddo amgylchedd gwaith sy'n cefnogi gwerthoedd a chodau'r Gwasanaeth Sifil.
Cydgysylltu â phobl - Gallu Pawb
Bod yn fodel rôl ar gyfer dysgu yn y gweithle ac annog datblygiad a thalent a rheoli gyrfaoedd ar gyfer pob aelod o'r staff
Cyflawni canlyniadau - Cyflawni yn unol â therfynau amser
Adolygu, herio ac addasu lefelau perfformiad er mwn sicrhau y caiff canlyniadau o ansawdd eu darparu ar amser, gan wobrwyo llwyddiant.
Meini Prawf Penodol i’r Swydd:
- Gwybodaeth a phrofiad o ddylunio, arwain, rheoli a sicrhau ansawdd amrywiaeth o adolygiadau seiliedig ar wybodaeth, uchel eu proffil
- Gwybodaeth a phrofiad sylweddol o weithio yn y GIG neu gyda'r GIG a/neu systemau gofal iechyd cysylltiedig
- Profiad o ddatblygu ac arwain tîm i gyflawni canlyniadau llwyddiannus
Proses Asesu
Ar ôl i'r ceisiadau gael eu sifftio, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gyfweliad. Caiff pob cyfweliad ei gynnal yn rhithwir ar Microsoft Teams.
Bydd cyflwyniad ar ddechrau'r cyfweliad – darperir y testun yn y gwahoddiad i gael cyfweliad.
Gwybodaeth arall
- Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
- Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
- Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
- Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Mae hon yn swydd llawn amser sydd hefyd ar agor i ymgeiswyr rhan-amser a rhannu swydd.
Mae'n bosibl y bydd angen teithio ledled Cymru.
Bydd y swydd hon yn dibynnu ar wiriad datgeliad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Anghydfod a Chwynion
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.