Swydd Wag -- Arweinydd Ymgysylltu Strategol – Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Y Tîm Diogelu, Eirioli a Chwynion
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
Gellir ystyried cyflog cychwynnol o hyd at bwynt 2 (£56,450) ar gyfer ymgeiswyr sy'n dangos y sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad hanfodol i lefel eithriadol Bydd y mwyafrif o Secondai yn cadw eu cyflog cyfredol gyda'u cyflogwyr; Gweler ‘Gwybodaeth Arall’ isod am dermau Secondiad
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Arall
Penodiad am gyfnod penodol/Secondiad
2 flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae'r gwaith o ddatblygu’r broses Adolygiad Diogelu Unedig Sengl yng Nghymru wedi'i wneud er mwyn:

  1. Adeiladu ar yr arferion da a ddaeth i'r amlwg o greu prosesau’r Adolygiad Ymarfer Oedolion a’r Adolygiad Ymarfer Plant a ddisodlodd y canllawiau Adolygiad Achos Difrifol blaenorol ym mis Ebrill 2016. Cafodd prosesau’r Adolygiad Ymarfer Oedolion a’r Adolygiad Ymarfer Plant eu gosod yn Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015[1] fel y gellir cael gwell dealltwriaeth o'r hyn a ddigwyddodd yn ystod digwyddiad, a pham y digwyddodd. Mae'r dull gweithredu yn gwella'r ddealltwriaeth o’r effaith a gafodd camau gweithredu sefydliadau ac asiantaethau ac yn ystyried a allai camau gweithredu gwahanol fod wedi arwain at ganlyniadau gwahanol i'r plentyn neu'r oedolyn a oedd yn wynebu risg. Y nod yn gyffredinol yw creu amgylchedd dysgu.
  2. Rhoi ar waith ganfyddiadau’r adolygiad academaidd yn 2018 dan arweiniad yr Athro Amanda Robinson (2018)[2] o Brifysgol Caerdydd ac adolygiad ymarferydd Llywodraeth Cymru (2018)[3]. Roedd yr adroddiadau yn dadansoddi cyd-destun presennol adolygiadau diogelu ochr yn ochr â sampl o Adolygiadau Lladdiad Domestig, Adolygiadau Ymarfer Oedolion, Adolygiadau Ymarfer Plant ac Adolygiadau Lladdiad Iechyd Meddwl. Amlygai’r adroddiadau hyn yr angen i wella’r trefniadau cydgysylltu, cydweithredu, cyfathrebu, a llywodraethiant wrth gynnal adolygiadau yng Nghymru. Gwnaeth yr adroddiadau argymhellion yn seiliedig ar eu canfyddiadau sy'n cael eu hadlewyrchu ym mhrosesau newydd y system Adolygiad Diogelu Unedig Sengl. Gwnaeth yr adroddiadau hefyd amlygu cymhlethdod y sefyllfa pan fydd cyrff datganoledig a chyrff heb eu datganoli yn cynnal adolygiadau ar wahân ac, mewn rhai achosion, yn ddiarwybod i Lywodraeth Cymru a heb ei chynnwys. Arweiniodd hyn yn y pen draw at yr argymhelliad y dylid pennu proses ar gyfer adolygiad sengl.

Yn seiliedig ar yr ymchwil uchod, mae’r broses Adolygiad Diogelu Unedig Sengl wedi ei datblygu i gryfhau’r cyd-destun adolygiadau yng Nghymru. Y nod yw:

  • creu un broses ar gyfer adolygiad sengl sy'n ymgorffori dull amlasiantaeth ac sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer un neu ragor o'r adolygiadau canlynol: Adolygiadau Ymarfer Oedolion; Adolygiadau Ymarfer Plant; Adolygiadau Lladdiad Domestig; Adolygiadau Lladdiad Iechyd Meddwl ac Adolygiadau Lladdiad ag Arf Ymosodol;
  • creu corff cenedlaethol sy'n darparu rôl gydgysylltu/weithredol i oruchwylio'r broses yn ei chyfanrwydd (Hyb Cydgysylltu Adolygiadau Diogelu Unedig Sengl);
  • sicrhau bod y trefniadau llywodraethiant y cytunwyd arnynt ar waith a’u bod yn effeithiol;
  • sicrhau ei fod yn dangos cysylltiadau clir rhwng y rhanbarthau a chyrff cenedlaethol gan barchu unrhyw amrywiadau mewn trefniadau rhanbarthol ar yr un pryd;
  • cadw'r adroddiad adolygu terfynol mewn ystorfa ganolog (Cronfa Gwybodaeth Ddiogelu Cymru) a hwyluso hyfforddiant ar lefel Cymru gyfan a dysgu ar lefel leol, ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol.

Mae Adolygiadau Diogelu Sengl Unedig yn cael eu cydnabod fwyfwy fel ysgogiad strategol i'r llywodraeth gyflawni ei hagenda ddiogelu a’i gwella. Cafodd statws Llywodraeth Cymru ei godi fel sefydliad ag iddo agwedd ochelgar tuag at y dyfodol, sy’n arloesi ac sydd ag uchelgais i gyflawni proses mor unigryw. Mae dylanwad a rôl arwain Llywodraeth Cymru wedi’u cryfhau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol felly.

Mae datblygiad yr Adolygiad Diogelu Sengl Unedig bellach yn symud i’r cyfnod gweithredu. Er mwyn sicrhau bod ethos ac enw da yn cael eu cynnal a'u bodloni, rhaid sicrhau bod sefyllfa strategol a thactegol yr Adolygiad Diogelu Unedig Sengl yn cael ei chynnal er mwyn cyflawni ei amcanion.

Mae rheoli cysylltiadau hanfodol â chyrff llywodraethu eraill yn fwy eang, yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y buddsoddiad a wneir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei rannu a'i ddefnyddio'n fwy eang i ddiogelu cymunedau.

Bydd y swydd hon sydd newydd ei chreu yn darparu arweinyddiaeth strategol a bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl "lysgenhadol", gan gynghori a diweddaru Gweinidogion Cymru a Gweinidogion Llywodraeth y DU, Cadeiryddion, Prif Swyddogion Gweithredol, Byrddau, Pwyllgorau Gweithredol a Chyfarwyddwyr ar faterion allweddol cyfredol sy'n dod i'r amlwg, strategaethau negodi hirdymor a rheoli cysylltiadau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.


[1] Rheoliadau Byrddau Diogelu (Swyddogaethau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2015. https://www.legislation.gov.uk/cy/wsi/2015/1466/contents/made

[2] Robinson, A., Rees, A. a Dehaghani, R. (2018) 'Findings from a thematic analysis of reviews into adult deaths in Wales: Domestic Homicide Reviews, Adult Practice Reviews and Mental Health Homicide Reviews’

[3] James, L. (2018) 'Domestic Homicide Reviews in Wales: Illuminate the Past to Make the Future Safer’

Prif dasgau

  • Bod yn siaradwr ar ran Adolygiadau Diogelu Sengl Unedig yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
  • Cynrychioli Llywodraeth Cymru a'r Adolygiadau Diogelu Sengl Unedig mewn cyfarfodydd a digwyddiadau strategol i randdeiliaid.
  • Gweithio ar y cyd ag uwch-bartneriaid i sicrhau bod y gwaith o gyflawni Adolygiadau Diogelu Sengl Unedig yn parhau.
  • Hyrwyddo gwaith Llywodraeth Cymru a’r Adolygiadau Diogelu Sengl Unedig.
  • Bod yn gyswllt strategol i Gadeiryddion Byrddau Diogelu Rhanbarthol a Chadeiryddion Diogelwch Cymunedol.
  • Rhoi cyflwyniadau, fel sy’n ofynnol neu ar gais, i fyrddau rhanbarthol, cenedlaethol a’r DU ac mewn cyfarfodydd am Adolygiadau Diogelu Sengl Unedig.
  • Cynrychioli’r Adolygiadau Diogelu Sengl Unedig mewn cyfarfodydd gyda'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol.
  • Rhoi cyflwyniadau i'r Bwrdd Gweinidogol ar ganfyddiadau a themâu Adolygiadau Diogelu Sengl Unedig, ac unrhyw faterion a fydd yn cael eu huwchgyfeirio.
  • Bod yn aelod o Grŵp Strategaeth yr Adolygiadau Diogelu Sengl Unedig a Bwrdd Cronfa Wybodaeth Ddiogelu Cymru.
  • Bod yn gyswllt strategol i Fwrdd Adolygiadau Lladdiad ag Arf Ymosodol y Swyddfa Gartref (OWHR) fel cynrychiolydd Llywodraeth Cymru.
  • Bod yn gyswllt strategol i Adolygiadau Lladdiad Domestig y Swyddfa Gartref (DHR) a’r Panel Sicrhau Ansawdd.
  • Rhoi cyngor a chanllawiau i fyrddau perthnasol ar themâu hyfforddiant a dysgu a gafwyd o Gronfa Wybodaeth Ddiogelu Cymru.
  • Rhoi cymorth a chyngor i Adolygwyr ac aelodau'r Panel drwy gydol oes Adolygiadau Diogelu Sengl Unedig.
  • Darparu diweddariadau a gwybodaeth i arolygiaethau perthnasol yn ôl yr angen.
  • Monitro argymhellion Adolygiadau Diogelu Sengl Unedig a’u rhoi ar waith ar lefel genedlaethol.

Cyfleoedd datblygu

Cymerwch rôl arweiniol yn yr adran Gwasanaethau Cymdeithasol i weithredu model newydd arloesol ledled Cymru a fydd yn atal niwed yn y dyfodol ac yn achub bywydau yn y pen draw. Mae’n cynnwys cyfleoedd heb eu hail i ddatblygu sgiliau newydd – gan gynnwys cynghori a gweithio gydag uwch swyddogion a Gweinidogion, cymryd rhan mewn gwahanol feysydd o lywodraeth ddatganoledig a heb eu datganoli a gweithio gydag ystod eang o randdeiliaid allanol proffesiynol.

Dyddiad Cau

16/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Ymddygiad:

  • Newid a Gwella – Ystyried yr effaith gynyddol y bydd y broses o newid yn ei chael ar eu maes (diwylliant, strwythur, gwasanaeth a morâl).
  • Sicrhau Gwerth am Arian - Cadw cydbwysedd rhwng dyheadau polisïau a’r hyn a gaiff ei gyflawni, ac amlinellu risgiau a manteision gwahanol opsiynau i sicrhau gwerth am arian. Gwneud yn siwr bod yr holl benderfyniadau yn cynnwys gwybodaeth ariannol briodol.
  • Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth – Mynd ati i feithrin a chynnal rhwydwaith o gydweithwyr a chysylltiadau, er mwyn bwrw ati ag amcanion a buddiannau sy’n gyffredin rhyngddynt.
  • Gweld y Darlun Cyflawn – Rhagweld datblygiadau economaidd, cymdeithasol, gwleidyddol, amgylcheddol a thechnolegol i sicrhau bod gweithgareddau yn berthnasol ac yn cael eu targedu’n briodol.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd:

  1. Sgiliau rhyngbersonol cryf, gan gynnwys y gallu i weithio ar y cyd ac yn effeithiol ag eraill mewn pwyllgor neu fforwm gwneud penderfyniadau proffesiynol, gan gyfrannu'n adeiladol at drafodaethau, negodi rhwng safbwyntiau a gwerthoedd sy’n anghyson a llunio opsiynau i gyrraedd consensws.
  2. Y gallu i ddadansoddi, cyfuno a gwerthuso tystiolaeth o ffynonellau amrywiol mewn modd gwrthrychol ac yn feirniadol a nodi materion, dysgu a negeseuon allweddol gyda'r gallu a'r hyder i ymateb i sefyllfaoedd anodd mewn modd sensitif.
  3. Chwilfrydedd proffesiynol ac ysgogiad i ddysgu yn barhaus, gan feddu ar yr wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau deddfwriaethol, polisi a chymdeithasol perthnasol ym meysydd diogelu, atal lladdiadau, trais difrifol a diogelu'r cyhoedd.

Proses Asesu

Mae 3 cham i'r broses ymgeisio ac asesu:

Cam 1 -  Cwblhau cais ar-lein a Cyflwyno Datganiad Personol

Llwythwch eich Datganiad Personol i’r system. Yn benodol, rydym yn disgwyl ichi ddangos sut rydych yn bodloni pob un o'r Ymddygiadau a’r Meini Prawf Penodol i’r Swydd.  Mae’r rhain i’w gweld yn yr adran Ymddygiadau a Meini Prawf Penodol i’r Swydd yn yr hysbyseb.

  • Nodwch y byddwn yn asesu’ch Datganiad Personol yn erbyn pob un o'r 4 Ymddygiad a’r 3 maen prawf Penodol i’r Swydd a restrir isod. Gwnewch yn siŵr bod eich Datganiad Personol yn nodi sut rydych yn bodloni’r meysydd prawf hyn (tua 300 o eiriau ar gyfer pob maen prawf).

 

Cam 2 – Sifftio’r Datganiadau Personol

Bydd Datganiadau Personol pob un o’r ymgeiswyr yn cael eu hasesu yn erbyn y 4 Ymddygiad a’r 3 maen prawf Penodol i’r Swydd 

 

Cam 3 – Cyfweliad

Dyddiad y cyfweliadau i’w gadarnhau.

Bydd eich cyfweliad yn seiliedig ar yr Ymddygiadau a’r Meini Prawf Penodol i’r Swydd a nodir yn yr adrannau perthnasol o’r hysbyseb hon.

Fel rhan o'r cyfweliad, bydd gofyn i’r ymgeiswyr wneud cyflwyniad 5 munud; bydd y pwnc yn cael ei anfon gyda’r gwahoddiad i gyfweliad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
  • Bydd penodiadau trwy'r ymgyrch hon ar sail Penodiad Tymor Penodol, fodd bynnag, os ydych eisoes yn gyflogedig, gellir ystyried secondiad gan eich cyflogwr presennol.
  • Nid yw Gweision Sifil cyfredol yn gymwys i ymgeisio ar secondiad. [Os ydych chi’n Was Sifil eisoes gellir ystyried benthyciad.]
  • Mae'n ofynnol i Secondai barhau i gael ei gyflogi gan ei gyflogwr presennol trwy gydol y cyfnod secondiad, cadw telerau ac amodau’r cyflogwr (fel y nodir yn y Contract Cyflogaeth gyda'r cyflogwr) ac aros ar Gyflogres ei gyflogwr. Yna bydd y cyflogwr yn anfonebu Llywodraeth Cymru am ddarparu Gwasanaethau'r Secondai ar sail ôl-ddyledion chwarterol ar gyfer cyflog gwirioneddol (gan gynnwys Pensiwn, Yswiriant Gwladol ac ati).
  • Rydym ni'n rhagweld y bydd mwyafrif yr ymgeiswyr sy'n gofyn am secondiad trwy'r cyfle hwn yn symud ar draws, fel y byddent yn gallu aros ar yr un cyflog ag y maen nhw'n ei dderbyn gan eu cyflogwr. Dim ond mewn achosion eithriadol, e.e. lle byddai secondiad yn cyfateb i ddyrchafiad dros dro o ran cyflog, y caniateir hyblygrwydd. Yn y sefyllfa hon gall Llywodraeth Cymru fod yn barod i'r Secondai gael ei dalu ar leiafswm y Band Cyflog ar gyfer y Radd y’i penodir iddi, fodd bynnag, byddai angen i gyflogwr y Secondai gytuno â thelerau'r penodiad a'r cynnydd dros dro yng nghyflog y gweithiwr dros gyfnod y secondiad.
safeguardingandadvocacy@gov.wales / safeguardingandadvocacy@llyw.cymru

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.