Swydd Wag -- Rolau Amrywiol Gradd TS - Benthyciad o’r Tu Allan (Ar agor)

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Llywodraeth Cymru
Cymorth Tîm - £22,150 - £25,620
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Benthyciad
Hyd at 2 flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.

Pwrpas y swydd

  • Rydym yn awyddus i wneud yn fawr o arbenigedd staff o bob rhan o’r Gwasanaeth Sifil er mwyn cael effaith ymarferol a chadarnhaol yn ystod y cyfnod digynsail hwn.
  • Rydym yn chwilio am ystod amrywiol o weision sifil i weithio mewn amrywiaeth o rolau cyffrous ar Cymorth Tîm (AO) ar draws Llywodraeth Cymru.
  • Bydd y swyddi'n gofyn am wybodaeth, sgiliau a phrofiadau ar draws yr ystod eang o nodweddion gradd Cymorth Tîm (AO), ond bydd rolau swyddi yn amrywio.
  • Bydd y rolau sydd ar gael ar draws yr holl Grwpiau yn Llywodraeth Cymru a bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu paru â swyddi â blaenoriaeth. Felly, wrth wneud cais am un o'r rolau hyn, rydych chi'n cytuno i symud i swydd yr ystyrir ei bod yn fwyaf priodol ar y sail y wybodaeth a roddwch i ni.

Prif dasgau

  • Rydym yn chwilio am unigolion i allu darparu gwasanaeth proffesiynol, cyfeillgar a chywir i’n cwsmeriaid; mae hyn yn debygol o gynnwys ateb galwadau ffôn, e-byst, drafftio llythyrau / gohebiaeth wedi’u llenwi’n barod, ac ailgyfeirio cwsmeriaid at gydweithiwr priodol am gymorth pellach, pan fo angen.
  • Byddwch yn cael cyfle i gyfrannu at drefnu cyfarfodydd a digwyddiadau, a helpu timau gyda ffeilio electronig a threfnu cyffredinol.
  • Rydym angen unigolion sy’n gymwys a phrofiadol i ddefnyddio TGCh, boed i reoli taenlenni / cronfeydd data neu brosesu taliadau ariannol yn gywir ar-lein.
  • Bydd angen i chi fod yn hyblyg yn eich dull gweithio a gallu gweithio ar draws timau eraill pan fo angen.

Cyfleoedd datblygu

Dyma gyfle gwych i greu effaith trwy ddod â’ch gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad gwerthfawr i adran wahanol yn y llywodraeth. Hefyd, bydd modd i chi feithrin eich gallu a’ch set sgiliau trwy fod yn rhan o ystod eang o waith hollbwysig, yn cynnwys blaenoriaethau fel ymateb i COVID-19 a threfniadau pontio’r UE.

Dyddiad Cau

06/09/22 16:00

Hyderus o ran Anabledd

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Soniwch am amser pan fuoch chi’n gweithio fel rhan o dîm, yn cynorthwyo eraill i sicrhau bod prosiect neu ddarn o waith yn cael ei gyflawni’n effeithiol?

  • Sut wnaethoch chi eu cynorthwyo?
  • Beth oedd yr effaith a’r canlyniad?

Proses Asesu

Gweler y pecyn ymgeisydd yma.

Bydd ein hysbysebion Adran Arall o’r Llywodraeth yn rhedeg nes ein bod wedi llenwi pob rôl wag. O ganlyniad, ni fydd dyddiad cau a bydd ceisiadau’n cael eu didoli  wrth iddynt ddod i law. Bydd y drefn deilyngdod yn seiliedig ar amseriad y ceisiadau. Unwaith y byddwn yn agos at lenwi ein holl swyddi gwag, byddwn yn cysylltu â phob ymgeisydd sydd wedi dechrau llunio cais i roi gwybod i chi y bydd yr hysbyseb yn cau ymhen pythefnos o ddyddiad anfon yr e-bost.

Gwybodaeth arall

  • Dim ond Gweision Sifil cyfredol sydd wedi eu recriwtio ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg, agored i’w hadran gartref gyfredol sy’n gymwys i ymgeisio.
  • Mae rolau i’w cael ar gyfer cyfleoedd tymor byr (6-12 mis) neu gyfleoedd tymor hir (hyd at ddwy flynedd).
  • Ni ddisgwylir i chi drosglwyddo’n barhaol i Lywodraeth Cymru.
  • Mae pob rôl ar gael ar radd sy’n gyfwerth â gradd barhaol (AO) a symud ar draws yn unig. Os nad ydych chi ar y radd a hysbysebwyd yn barhaol, bydd eich cais yn cael ei wrthod.
  • Ni fydd dyrchafiadau dros dro na dyrchafiadau parhaol ar gael trwy gyfrwng y cyfle hwn; fodd bynnag, bydd nifer o’r rolau’n cynnig cyfle i ennill profiad gwerthfawr, ehangu rhwydweithiau a dysgu sgiliau newydd.
  • Byddwn yn gwneud pob ymdrech i’ch paru â rôl ar sail y dystiolaeth a gyflwynwch yn eich ffurflen gais.
  • Ni allwn warantu y byddwch yn cael cynnig unrhyw swydd, neu swydd benodol.
  • Os cewch eich paru’n llwyddiannus â rôl, byddwch yn symud dan drefniadau ffurfiol Benthyciad o’r Tu Allan, h.y. byddwch yn symud i Delerau ac Amodau Llywodraeth Cymru.
  • Bydd eich cyflog parhaol yn cael ei baru â’r pwynt cyflog agosaf ar fand cyflog y radd, ac ni fyddwch ar eich colled https://llyw.cymru/telerau-buddion-gwasanaeth-sifil-llywodraeth-cymru
  • Mae angen i’ch rheolwr llinell a’ch cyflogwr gytuno i’ch rhyddhau chi pe byddai eich cais yn llwyddiannus. Yn anffodus, os nad ydynt yn cytuno, bydd eich cais yn cael ei wrthod gan na fyddwn yn gallu ei ystyried. Y rheswm am hyn yw bod disgwyl i chi ddechrau yn y swydd yn gyflym ar ôl i chi gael eich paru â swydd.
  • Rydym yn croesawu’n arbennig geisiadau gan Bobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl anabl, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi pob aelod o staff i ffynnu mewn amgylchedd gwaith cynhwysol.
  • Rydym yn gefnogol i’r arfer o weithio gartref a’r arfer o deilwra patrymau i weddu i amgylchiadau’r unigolyn. Yn y tymor byr, bydd mwyafrif y deiliaid swyddi yn gweithio gartref.
  • Er nad yw sgiliau iaith Gymraeg yn hanfodol ar gyfer proses ddethol yr ymgyrch hon, rydym yn annog ceisiadau gan unigolion a all weithio’n ddwyieithog.
  • Gan mai benthyciad yw hwn, pe bai’r swydd yn dod i ben dylech gadw mewn cof y bydd disgwyl i chi ddychwelyd i’ch sefydliad presennol.

 

HRTransitionTeam@gov.wales / TimTrawsnewidAD@llyw.cymru

Sut i wneud cais

Dylai pob cais am y swydd wag hon gael ei wneud ar-lein drwy system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. 

I wneud cais am gyfle benthyciad o’r tu allan, bydd angen i chi baratoi templed CV Symud ar Draws. Os na chaiff hwn ei lenwi a/neu ei gyflwyno, ni fydd y cais yn cael ei ystyried.

Yn y cais CV Symud ar Draws, bydd angen i chi gyflwyno 500 gair yn ymwneud â’r canlynol:

sicrhau bod prosiect neu ddarn o waith yn cael ei gyflawni’n effeithiol?

  • Sut wnaethoch chi eu cynorthwyo?
  • Beth oedd yr effaith a’r canlyniad?

Ymhellach, bydd angen i chi nodi eich sgiliau a’ch profiad, cyflwyno hanes byr o’ch gyrfa a nodi eich hoff ddewisiadau o ran Grŵp/Adran a maes gwaith craidd â blaenoriaeth.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y cyfleoedd a’r camau sy’n berthnasol i’r broses dethol a pharu yn y pecyn i ymgeiswyr sydd ynghlwm.

Os oes gennych chi anabledd a fyddai’n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, anfonwch e-bost i TimTrawsnewidAD@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat arall neu i ofyn am addasiad rhesymol yn ymwneud â’ch anabledd er mwyn cyflwyno eich cais.

I wneud cais, rhaid bod gennych chi gyfrif ar ein system ymgeisio ar-lein. Cliciwch y botwm 'Gwneud cais' isod, a gofynnir i chi 'Mewngofnodi' os oes gennych chi gyfrif yn barod, neu 'Cofrestru' os nad oes gennych chi gyfrif. Ychydig funudau yn unig y mae’n ei gymryd i gofrestru. Byddwch chi angen cyfeiriad e-bost i allu cofrestru. Ar ôl i chi gofrestru ar gyfer cyfrif a mewngofnodi, cewch eich tywys i’r ffurflen gais ar-lein; bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn llawn a’i chyflwyno cyn yr amser terfyn ar y dyddiad cau.  

Os hoffech chi wneud cais am y swydd wag hon yn Gymraeg, defnyddiwch y ddolen ‘Newid Iaith / Change Language’ ar frig y dudalen hon i fynd i fersiwn Gymraeg yr hysbyseb hon; gallwch chi wneud cais yn Gymraeg o’r fan honno.

**Noder: Os oes gennych chi gyfrif Penodi yn barod a’ch bod eisiau diweddaru eich enw defnyddiwr a’ch cyfeiriad e-bost i’r cyfeiriad @llyw.cymru newydd, mewngofnodwch gan ddefnyddio eich hen fanylion, cliciwch ar eich enw yn y ddewislen a dewiswch ‘Golygu Manylion Personol’ yn y gwymplen. Gallwch ddiweddaru unrhyw un o’ch manylion personol cofrestredig ar y dudalen hon.**

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.