Swydd Wag -- Dadansoddwr Daearyddol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dearyddiaeth a Thechnoleg
HEO - £32,460 - £39,690
£29850 - £36500
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w Gadarnhau

Pwrpas y swydd

Seiliedig yn yr adran Daearyddiaeth a Thechnoleg yng Ngwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi ac yn gweithio ar draws adrannau, bydd y deiliad swydd yn darparu arbenigedd swyddogaeth mapio SGDd a dadansoddi gofodol penodol i roi cymorth cyflawni polisïau ar sail tystiolaeth ynglŷn â chylch gwaith llydan ar draws Llywodraeth Cymru.

Prif dasgau

  • Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhedeg offerynnau dadansoddi syml, creu modelau sylfaenol i awtomeiddio gweithlifoedd syml wrth symud at fodelau uwch i awtomeiddio gweithlifoedd gwyddor daear gymhleth, ieithoedd sgriptio sylfaenol i olygu priodoleddau, ysgrifennu sgriptiau byr trin data a rheoli ansawdd data.
  • Cysylltu â rhannau eraill o’r proffesiwn Daearyddiaeth a swyddogaeth ddadansoddol er mwyn cynorthwyo timau i archwilio a deall y defnydd o’r gweithlif gwyddor data mewn arferion presennol a chanfod cyfleoedd newydd i ddatblygu a graddio datrysiadau.
  • Gweithredu arbenigedd Daearyddol i gynorthwyo penderfynu Llywodraeth ar draws ystod eang o feysydd polisi yn enwedig wrth weithio gyda rhanddeiliaid anarbenigol.
  • Gweithio gyda chronfa ddata gofodol, ysgrifennu a gweithredu sgriptio, e.e. SQL
  • Darparu rheolaeth llinell i cartograffwyr SGDd Daearyddiaeth a Thechnoleg, mentoriaeth i brentisiaid am ddadansoddi gofodol a chartograffeg, sicrhau bod allbynnau dadansoddol daearofodol o ansawdd uchel ac yn ateb y gofyn trwy’r weithred o arferion gorau, polisïau a safonau sicrhau ac adrodd o allbynnau dadansoddol daearofodol.

Cyfleoedd datblygu

Bydd eich rôl yn ffurfio rhan o’r swyddogaeth ddadansoddol Daearyddiaeth Lywodraeth Cymru yn y proffesiwn Gwyddoniaeth a Pheirianneg y Llywodraeth. Proffesiwn sy’n tyfu ydy hwn a chewch chi’r cyfle i fod rhan o’i siapio a’i dyfu.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno tîm dadansoddol cyflawni cymorth SGDd cynghorol a thechnegol i gefnogi ystod eang o ardaloedd gwaith yn y sector cyhoeddus Cymru ehangach.

Dyn ni wedi ymrwymo i ddatblygu’r sgiliau a gallu ein staff a’u hannog i ddefnyddio pum diwrnod o ddysgu bob flwyddyn. Er mwyn cefnogi hyn, dyn ni’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd a gallai cynnwys:

•Cysgodi

•Mentora

•Dysgu mewn gwaith

•Cymwysterau

•Hyfforddiant

•Rhaglen Profiad Tymor Byr (STEP)

Gwneud cysylltiadau yn rhagweithiol a chydweithio ag ystod eang o dimau Llywodraeth Cymru a phartneriaid allanol yn gynnwys Llywodraethau eraill yn y DU.

Dyddiad Cau

13/03/20 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Nodi amrywiaeth eang o ffynonellau gwybodaeth berthnasol a dibynadwy a chydnabod, lle bo hynny’n angenrheidiol, bod angen casglu data newydd o ffynonellau mewnol ac allanol.
  • Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Meithrin cysylltiadau ag amrywiaeth o randdeiliaid i gefnogi’r broses o wireddu canlyniadau busnes.
  • Arwain a Chyfathrebu - Cyfathrebu’n brydlon drwy ddefnyddio arddulliau a chyfryngau priodol, gan gynnwys sianeli digidol, er mwyn sicrhau bod gymaint o ddealltwriaeth ac effaith â phosibl
  • Rheoli Gwasanaeth Safonol- Datblygu, gweithredu, cynnal ac adolygu systemau a safonau gwasanaethau er mwyn sicrhau rhagoriaeth ac arbenigedd proffesiynol ynghyd â gwerth am arian

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

  • Gwybodaeth a phrofiad o feddalwedd SGDd (QGIS a/neu Arc View) ar gyfer dadansoddi data
  • Gwybodaeth a phrofiad o weithio gyda chronfeydd data (SQL/PostGres) yn gynnwys meddalwedd ETL (FME)
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o ffynonellau gwahanol o ddata gofodol sylfaenol fel data Arolwg Ordnans a data a gyflenwir gan adrannau eraill y Llywodraeth.

Proses Asesu

Cyfweliad ffurfiol

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
David Roberts - 03000 251774 - david.roberts10@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.