Swydd Wag -- Ymatebwr TGCh Caerdydd

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Digidol Data a Thechnoleg (DDaT) - Gwasanaethau TGCh
EO - £26,900 - £30,610
£25,030
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Y De-ddwyrain, Cymru gyfan, Y De-orllewin
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Yr Is-adran Gwasanaethau TGCh sy'n gyfrifol am reoli'r seilwaith TGCh corfforaethol ar gyfer Llywodraeth Cymru.

Mae'r Ymatebwr TGCh Rhanbarthol yn gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar y safle, gan sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu cynorthwyo ac yn cael cyfarwyddiadau yn unol â darpariaeth Gwasanaethau TGCh drwy ddarparu prosesau a gweithdrefnau safonol.

Mae'r rôl hon yn gofyn am Fetio Cenedlaethol at Ddibenion Diogelwch i lefel Gwiriad Diogelwch (Cliriad Diogelwch). (Os nad oes gan yr ymgeisydd llwyddiannus gliriad diogelwch eisoes, caiff y swydd ei chynnig ar yr amod y caiff gliriad diogelwch).

Caiff y swydd hon ei lleoli yng Nghaerdydd, ond bydd gofyn teithio ledled De Cymru, felly mae’n hanfodol i ddeiliad y swydd gael trwydded yrru ddilys.

Swyddi Gwag yn y Dyfodol

Hysbyseb yw hwn ar gyfer un swydd yn unig, ond mae’n debygol y bydd angen Ymatebwr TGCh ychwanegol ar y sefydliad i helpu yn swyddfa Bedwas o fewn y 6 mis nesaf.

Prif dasgau

Cyfrifoldebau Cyflawni Technegol / Gweithredol

  • Datrys problemau a thrwsio namau sylfaenol ar galedwedd y defnyddiwr nad yw bellach dan warant.
  • Yn gyfrifol am newid unrhyw offer diffygiol.
  • Yn gyfrifol am reoli lefelau stoc gan gynnwys y gronfa offer ar fenthyg.
  • Yn gyfrifol am waredu asedau yn unol â phrosesau a gweithdrefnau safonol.
  • Cydweithredu ac ymgysylltu yn dechnegol gyda’r darparwr o ran y datrysiad Gwasanaethau Argraffu.
  • Cynorthwyo defnyddwyr i newid defnyddiau traul argraffu yn ôl yr angen.
  • Cynnal gwiriadau dyddiol mewn ystafelloedd cyfarfod i sicrhau bod yr offer clyweled yn addas i'r diben ac yn gweithio'n iawn.
  • Datrys problemau sylfaenol gyda'r offer clyweled, gan uwchgyfeirio unrhyw broblemau i beirianwyr offer clyweled yn ôl yr angen er mwyn datrys y problemau hyn.
  • Rhoi cymorth a chyngor i staff Llywodraeth Cymru ar offer clyweled wrth iddynt drefnu cyfarfodydd a digwyddiadau, gan sicrhau bod yr offer angenrheidiol ar gael.
  • Rhoi hyfforddiant i ddefnyddwyr yn ôl yr angen, gan gynnwys:
    • unrhyw ofynion gwasanaeth penodol sy'n deillio o newidiadau i'r gwasanaeth.
    • materion y tu hwnt i'r cwmpas "sut ydw i'n..."
    • unrhyw gymorth i ddefnyddwyr ar y safle na ellir ei gael drwy'r Ddesg Wasanaeth neu ar y porth hunanwasanaeth.
  • Datblygu sgiliau defnyddwyr ar unrhyw swyddogaeth gwasanaeth newydd.
  • Logio galwadau gan ddefnyddio dull Rheoli Gwasanaeth TG Llywodraeth Cymru (Remedy) a rheoli'r achosion a neilltuwyd hyd y diwedd, gan ddilyn prosesau a gweithdrefnau safonol.
  • Rheoli ciwiau'r grŵp Digwyddiad/Datrysiad.
  • Datblygu tueddiadau drwy fonitro a dadansoddi galwadau, materion a cheisiadau am gymorth sy'n dod i law.
  • Cofnodi, rheoli ac uwchgyfeirio problemau gwasanaeth fel sy'n briodol.
  • Dadansoddi data hanesyddol i nodi a dileu digwyddiadau posibl cyn iddynt ddigwydd.
  • Nodi achosion sylfaenol digwyddiadau a'u hatal rhag digwydd eto.
  • Datblygu atebion dros dro neu ddatrysiadau eraill i ddigwyddiadau.
  • Diweddaru'r Gronfa Ddata Wybodaeth gyda dogfennau technegol perthnasol.
  • Defnyddio'r Gronfa Ddata Wybodaeth fel rhan o'r broses Rheoli Digwyddiad/Problem.
  • Sicrhau gwybodaeth lawn am brosesau TGCh craidd Llywodraeth Cymru bob amser.

Priodoleddau

  • Yn canolbwyntio ar Wasanaeth Cwsmeriaid - sicrhau gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel ar gyfer pob ymholiad am gymorth a chadw at egwyddorion rheoli gwasanaethau.
  • Gwybodaeth ragorol am adnoddau rheoli gwasanaethau TG (ITSM).
  • Sgiliau rheoli pobl.
  • Gallu gweithio mewn amgylchedd sy'n eich rhoi dan bwysau, a gweithio i derfynau amser.
  • Gallu rheoli amser a blaenoriaethau yn briodol.
  • Gallu gweithio fel rhan o dîm.
  • Agwedd gadarnhaol tuag at ddysgu a datblygu.
  • Datrys problemau yn effeithiol.
  • Sgiliau datrys problemau rhagorol a'r dycnwch i wneud hynny.
  • Sgiliau adrodd rhagorol.
  • Gallu cynnig atebion i broblem.
  • Sicrhau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth dda o brosesau ITIL.

Cyfleoedd datblygu

Byddwch yn rhan o broffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg Llywodraeth Cymru. Mae hwn yn broffesiwn sy'n tyfu o fewn Llywodraeth Cymru ac fe gewch gyfle i fod yn rhan o'r gymuned ac i ddatblygu rôl y gymuned honno o fewn Llywodraeth Cymru.

Dyddiad Cau

26/10/20 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau;

1. Gwneud penderfyniadau effeithiol - Cynnal dadansoddiadau priodol i gefnogi penderfyniadau neu argymhellion.

2. Arwain a chyfathrebu – Gweithredu mewn modd teg a pharchus wrth ymdrin ag eraill.

3. Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth – Cyfrannu’n rhagweithiol i waith y tîm cyfan.

4. Rheoli gwasanaeth safonol - Bod yn atebol am faterion, gan ganolbwyntio ar ddarparu’r ateb cywir a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gwsmeriaid a phartneriaid cyflenwi.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd;

1. Y gallu i weithio mewn tîm technegol gan gefnogi ystod o ddefnyddwyr ar draws sawl safle gan ddarparu cymorth yn lleol ac o bell.

2. Y gallu i gefnogi caledwedd a meddalwedd gan gynnwys Windows 10 ac office 365 mewn amgylchedd proffesiynol.

3. Dealltwriaeth lawn o brosesau ITIL.

Proses Asesu

Y Cam Sifftio

Caiff ceisiadau’r ymgeiswyr eu hasesu mewn dau gan:

  • Cynhelir sifft gychwynnol yn erbyn y tri maen prawf a restrir yn yr adran ‘Meini Prawf Penodol i’r Swydd’.
  • Yna, bydd ceisiadau’r ymgeiswyr hynny sydd wedi pasio’r sifft gychwynnol yn cael eu hasesu ymhellach yn erbyn y pedwar ymddygiad a restrir yn yr adran ‘Cymwyseddau’.

Cyfweliadau

Yn sgil y cyfyngiadau presennol ar gadw pellter cymdeithasol, bydd pob cyfweliad yn cael ei gynnal yn rhithiol. Bydd yr ymgeiswyr hynny sy’n cael gwahoddiad i’r cam cyfweld yn derbyn canllawiau pellach.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Allison Lewis - Allison.Lewis@gov.wales - 03000 251530

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.