Swydd Wag -- Cyfarwyddwr Anweithredol ar gyfer Bwrdd Llywodraeth Cymru

Manylion y Swydd

Llywodraeth Cymru
£347 y dydd
Rhan-amser
Disgwylir i Gyfarwyddwyr Anweithredol ar y Bwrdd roi ymrwymiad amser o dri diwrnod gwaith y mis, ar gyfartaledd.
Arall
Cyfarwyddwr Anweithredol
Penodir am gyfnod o ddwy flynedd i ddechrau gyda’r posibilrwydd o ymestyn y cyfnod hwn.
Cymru gyfan

Dyddiad Cau

02/02/22 23:55

Pwrpas y Swydd

Mae ein Cyfarwyddwyr Anweithredol yn aelodau o Fwrdd Llywodraeth Cymru sef y fforwm penderfynu strategol sy'n cefnogi'r Ysgrifennydd Parhaol. Mae ganddynt rôl hefyd ar is-bwyllgorau'r Bwrdd.

 

Byddwn yn dymuno penodi un Cyfarwyddwr Anweithredol cyn gynted â phosibl.  Penodir am gyfnod o ddwy flynedd i ddechrau gyda’r posibilrwydd o ymestyn y cyfnod hwn.

 

Mae’r Cyfarwyddwyr Anweithredol yn cael tâl cydnabyddiaeth bach ar sail honorariwm o £347 y dydd ynghyd â unrhyw gostau teithio a disgwylir i Gyfarwyddwyr Anweithredol ar y Bwrdd roi ymrwymiad amser o dri diwrnod gwaith y mis, ar gyfartaledd. Gellir rhannu y cyfarfodydd dros nifer o ddiwrnodau yn unol â'r gofynion busnes. Bydd unrhyw gyfarfodydd ychwanegol yn amodol ar gytundeb rhwng yr unigolyn a'r Ysgrifennydd Parhaol. 

 

Disgwylir i'r Cyfarwyddwyr Anweithredol ymuno yng nghyfarfodydd misol y Bwrdd. Bydd eu presenoldeb yn un neu ragor o Is-bwyllgorau arbenigol y Bwrdd yn debygol o ddibynnu ar eu sgiliau a’u profiad penodol. Efallai y cânt eu gwahodd hefyd i fod yn bresennol yn nigwyddiadau Datblygu'r Bwrdd ddwywaith y flwyddyn a sesiynau ad hoc achlysurol.

 

Yn fras, mae cyfraniad y Cyfarwyddwyr Anweithredol yn cynnwys:

 

  • Cynnig persbectif allanol i drafodaethau'r Bwrdd sy’n seiliedig ar eu profiad a chan dynnu ar eu harbenigedd a’u gwybodaeth benodol
  • Cynnig her adeiladol i'r Bwrdd ar y ffordd orau o gyflawni blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru
  • Darparu cyngor ad hoc i’r Bwrdd a’r Ysgrifennydd Parhaol yn y pwyllgor a’r tu allan iddo
  • Bod yn noddwr rhaglenni a phrosiectau penodol a/neu yn fentor i unigolion
  • Bod yn aelod o banel ar gyfer recriwtio i swyddi uwch
  • Cyflwyno gwybodaeth ymlaen llaw ar gyfer trafodaeth flynyddol y Prif Weinidog â'r Ysgrifennydd Parhaol am berfformiad.

 

Bydd yn ofynnol i’r Cyfarwyddwyr Anweithredol neilltuo'r amser angenrheidiol i baratoi ar gyfer cyfarfodydd o’r Bwrdd, a'r cyfleoedd hyfforddi a datblygu a gynigir.

 

Oherwydd y pandemig COVID 19 mae cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rhithiol ar hyn o bryd yn unol â'n dull o Weithio'n Glyfar. Ar gyfer unrhyw gyfarfodydd wyneb yn wyneb yn y dyfodol, fel arfer byddai disgwyl i'n Cyfarwyddwyr Anweithredol fynychu cyfarfodydd yn unrhyw o bedair swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghymru, sydd wedi’u lleoli yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful, Cyffordd Llandudno ac Aberystwyth. Rydym yn cefnogi teilwra patrymau i gyd-fynd ag amgylchiadau unigol aelodau’r bwrdd.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu mewn modd sy'n analluogi pobl sydd â nam neu gyflwr iechyd, neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pawb (neu'r rheini sy’n aelodau posibl o staff) berfformio ar eu gorau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd ("nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd").

Rydym yn gwarantu y byddwn yn cynnig cyfweliad i unrhyw un sy'n anabl os bydd ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod yn rhaid ichi ddarparu tystiolaeth yn eich cais i ddangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau sydd wedi eu nodi fel rhai hanfodol. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac i hwyluso datblygiad eu gyrfa.

Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddem yn eich cefnogi pe baech yn llwyddiannus, e-bostiwch DesgCymorthCydwasanaethau@llyw.Cymru cyn gynted â phosibl, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac i ateb eich cwestiynau.

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Gallu darllen y rhan fwyaf o ddeunydd mewn sefyllfa waith
Rhugl
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda rhywfaint o wirio

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Proses Asesu

Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad/cyflwyniad.

Sut i ymgeisio

Dylai ymgeiswyr gyflwyno cais, can gynnwys datganiad personol a CV manwl.

Gwybodaeth arall am y swydd

Recriwtio Dienw

Dylech ddileu eich enw o'ch CV a'ch datganiad personol pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais.

4 Mawrth 2022
Os oes gennych ymholiad ynglŷn â rôl y Cyfarwyddwyr Anweithredol, neu fusnes y Bwrdd, neu unrhyw gwestiwn am y broses ddethol, cysylltwch â SCSRecruitment@llyw.cymru.

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.