Swydd Wag -- Swyddog Gorfodi Morol (gorfodi) x3

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Cangen Rheoli a Gorfodi. Is-adran y Môr a Physgodfeydd
EO - £26,900 - £30,610
£25,030
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Gogledd Cymru, Y De-orllewin
i'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae Cangen Rheoli a Gorfodi Is-adran y Môr a Physgodfeydd yn gyfrifol am bob agwedd ar bysgod, pysgota a gorfodi rheolau pysgodfeydd. Strategaeth Pysgodfeydd Cymru yw sail polisi pysgodfeydd Cymru. Un o brif feysydd y polisi Pysgodfeydd yw Pysgota Môr. Mae’r maes hwn yn dod â staff i gysylltiad uniongyrchol â’r diwydiant pysgota, y mesurau technegol sy’n rheoli pysgota a chyda rhannau eraill o’r DU ac Ewrop.

Prif ddiben y swydd hon yw darparu gwasanaethau a chynnal gweithgareddau archwilio a gorfodi ar ran Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r diwydiant pysgota, pobl sy’n cynnal gwaith adeiladu a gwaith carthu yn y môr, a rhanddeiliaid morol eraill yng Nghymru.  Fel rhan o dîm cenedlaethol, byddwch yn helpu i orfodi deddfwriaeth pysgodfeydd sy'n berthnasol i Gymru - gan gynnwys monitro'r pysgod sy'n cael eu glanio mewn porthladdoedd lleol, cadarnhau cywirdeb llyfrau log a datganiadau glanio, a lle bo angen, casglu tystiolaeth a pharatoi ffeiliau Ymchwiliadau a allai arwain at erlyniadau lle gallai fod gofyn ichi roi tystiolaeth. Bydd gofyn ichi hefyd gynllunio a gorfodi pysgodfeydd rhynglanwol masnachol (e.e. hela cocos a chregyn gleision â llaw).

Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd dreulio peth o'i amser ar y môr i wneud gwaith gorfodi ar un o gychod patrolio pysgodfeydd Llywodraeth Cymru.

Ambell waith, bydd gofyn i ddeiliad y swydd weithio fel rhan o Ganolfan Monitro Pysgodfeydd Cymru yn Aberdaugleddau.

Prif dasgau

  • Datblygu cynlluniau ar gyfer pysgodfeydd masnachol yng Nghymru a'u gorfodi;
  • Gorfodi rheolau pysgota masnachol ar y glannau;
  • Casglu a rhannu gwybodaeth am weithgareddau pysgota o gwmpas yr arfordir;
  • Gorfodi ar faterion amgylchedd y môr;
  • Casglu tystiolaeth, cynnal ymchwiliadau yn unol â Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol, paratoi ffeiliau achos ac o bosibl, ymddangos fel tyst mewn llys. 
  • Rhoi cyngor technegol i gydweithwyr ym maes polisi ar weithgareddau pysgota, gwasgariad pysgod, prosesu a materion eraill sy'n ymwneud â'r môr;
  • Casglu ystadegau pysgodfeydd ar gyfer porthladdoedd Cymru a chychod sy'n cael eu gweinyddu yng Nghymru;
  • Cael data samplu biolegol a chefnogi timau Gwyddoniaeth o fewn Is-adran y Môr a Physgodfeydd;
  • Cadw mewn cysylltiad rheolaidd â'r diwydiant pysgota, rhannau eraill Llywodraeth Cymru, Adrannau eraill y Llywodraeth, yr Heddlu, Awdurdodau Lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff statudol ac anstatudol.
  • Cynnal patrolau ar y môr fel y bo’r angen, gan weithredu fel swyddog gorfodi ar gwch. 
  • Defnyddio cychod a lansir ar y lan fel rhan o batrolau arfordirol neu forol. 

Cyfleoedd datblygu

Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus fynd ar fwrdd cychod i archwilio'r pysgod sydd wedi'u dal neu sy'n cael eu glanio. Rhaid felly wrth rywfaint o ffitrwydd corfforol.  

Bydd gofyn i unigolion hyfforddi i ddod yn Swyddog Gorfodi Morol llawn. Bydd angen rhyw flwyddyn o hyfforddiant a goruchwyliaeth a bydd yn cynnwys cyrsiau dwys mewn amrywiaeth o weithgareddau.

Dyddiad Cau

23/12/20 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda chymorth e.e. geiriadur
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau;

Gosod y Trywydd – Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Pwyso a mesur gwybodaeth gymhleth a chael rhagor o wybodaeth er mwyn gwneud y penderfyniadau cywir.

Ymwneud â Phobl – Arwain a Chyfathrebu

  • Bod yn hyderus wrth gynnal trafodaethau neu gyfweliadau anodd.

Ymwneud â Phobl - Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth

  • Annog gwaith tîm, gan newid dulliau gweithio er mwyn hwyluso cydweithredu er lles gwaith y tîm.

Gwireddu Canlyniadau – Cyflawni'n Brydlon

  • Ymddiddori yn yr hyn y maen nhw a’r tîm yn ceisio ei gyflawni, a bod yn gadarnhaol amdano.

Meini Prawf Penodol i'r Swydd;

  1. Sgiliau dadansoddi i brosesu gwybodaeth o nifer o ffynonellau. 
  2. Y gallu i gyfathrebu'n dda â chynulleidfaoedd amrywiol. 
  3. Gweithiwr brwd sy'n gallu ysgogi ei hun a gweithio'n dda ar ei ben ei hun ac fel aelod o dîm gwasgaredig. 

Proses Asesu

Bydd yr ymgeiswyr yn cael eu rhidyllu, yna bydd yr ymgeiswyr llwyddianus yn cael gwahoddiad i gyfweliad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Swyddi amser llawn yw'r rhain.  

Bydd y swydd hon yn dod o dan gontract oriau blynyddol Llywodraeth Cymru a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i staff weithio nifer penodol o oriau’r flwyddyn ond bydd angen gweithio mwy o oriau ar adegau penodol a llai ar adegau eraill.  Disgwylir i ddeiliad y swydd weithio oriau anghymdeithasol (gyda'r nos, dros nos ac ar benwythnos, i gyd-fynd â gweithgarwch pysgota) ac ar fwrdd Cychod Patrolio Pysgodfeydd Llywodraeth Cymru am hyd at 3 niwrnod ar y tro.

Gofynion hanfodol

  • Trwydded Yrru lawn y DU

Gofynion dymunol

  • Gwybodaeth a phrofiad o'r diwydiant pysgota neu wyddoniaeth forol
  • Yn deall Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol neu'n gweithio mewn rôl orfodi
  • Profiad o dreulio amser ar y môr
  • Tystysgrif meddygol morwyr ENG1 (rhaid i ymgeiswyr ei phasio yn y cyfnod prawf o 6 mis)
  • STCW - Technegau Goroesi Personol (rhaid i ymgeiswyr eu pasio yn y cyfnod prawf o 6 mis) 
  • Cymhwyster gyrru cwch modur neu fordwyo arall
Tim Croucher - Tim.croucher@gov.wales - 03000258757

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.