Swydd Wag -- Lleoliad Israddedig Ymchwil Gymdeithasol
Egwyddorion Recriwtio
Manylion y Swydd
Pwrpas y swydd
Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru. Mae'r Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth yn rhan greiddiol o swyddogaeth ddadansoddol y Llywodraeth. Mae'r Is-adran yn cynnwys tua 40 o ymchwilwyr cymdeithasol sy'n gweithio'n agos gyda dadansoddwyr polisi a dadansoddwyr eraill (e.e. ystadegwyr, economegwyr) i ddarparu cyngor a thystiolaeth ddadansoddol i gefnogi penderfyniadau polisi allweddol mewn meysydd datganoledig megis addysg, iechyd a'r amgylchedd. Mae dadansoddwyr yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddarparu tystiolaeth o safon i gefnogi'r broses o lunio polisïau ac i gefnogi Llywodraeth Cymru yn gyffredinol.
Mae'r swyddi hyn ar agor i israddedigion ar leoliad blwyddyn ryngosod rhwng ail a thrydedd flwyddyn eu cwrs astudio. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus wedi'u lleoli yn yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth, gan weithio'n agos gydag ymchwilwyr cymdeithasol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu a chynnal gwahanol fathau o brosiectau ymchwil. Bydd cyfrifoldebau'r ymgeiswyr llwyddiannus yn amrywio gan ddibynnu ar y tîm; a bydd yr union swyddi yn dibynnu ar ddiddordebau, sgiliau a phrofiadau'r ymgeiswyr llwyddiannus. Mae tair swydd ar gael, pob un wedi'i lleoli mewn tîm gwahanol yn yr Is-adran. Ein nod yw llenwi swyddi yn y timau canlynol:
Swydd Un: yn y Tîm Ymchwil Gorfforaethol
Bydd y rôl hon yn cynnwys gwaith ymchwil a dadansoddi gan ddefnyddio ystod o ddulliau a ffynonellau data i helpu i lywio gwelliannau i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio. Bydd hyn yn cynnwys cynllunio, cynnal ac adrodd ar brosiectau ymchwil sylfaenol (er enghraifft, arolygon) gyda staff a rhanddeiliaid Llywodraeth Cymru yn ogystal â dadansoddi data sefydliadol eraill (megis data gweinyddol). Bydd y swydd hefyd yn cynnwys adolygu tystiolaeth a datblygu canllawiau i'r tîm ar yr arferion gorau i'w defnyddio ym maes ymchwil gymdeithasol. Hefyd, bydd cyfle i helpu gyda chyfrifoldebau corfforaethol, megis llunio bwletinau ar gyfer yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol.
Swydd dau: yn y Tîm Ymchwil Dyfodol Cynaliadwy
Bydd y rôl hon yn cynnwys gweithio'n agos gydag ymchwilwyr ar ystod eang o feysydd, gan gynnwys tai, yr amgylchedd a materion gwledig. Bydd y rôl yn cynnwys helpu i gynllunio, cynnal, dadansoddi ac adrodd ar ymchwil sylfaenol ac eilaidd. Bydd tasgau yn debygol o gynnwys adolygu tystiolaeth, datblygu a gweinyddu arolygon bach ar-lein, a chynorthwyo gydag ymchwil ansoddol. Hefyd, bydd cyfle i helpu gyda chyfrifoldebau corfforaethol, megis darparu cymorth gweinyddol i Bwyllgor Ymchwil Gymdeithasol Llywodraeth Cymru.
Swydd Tri: yn y Tîm Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus
Prif amcan y lleoliad yw rhoi cymorth ymchwil i nifer o brosiectau ymchwil a gwerthuso Llywodraeth Cymru. Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu at ddatblygu a chynnal gwahanol fathau o brosiectau ymchwil, megis adolygiadau llenyddiaeth a gwerthusiadau. Bydd y rôl hon yn cynnwys helpu i gynllunio, rheoli ac adrodd ar ymchwil gymdeithasol. Hefyd, bydd cyfle i helpu gyda chyfrifoldebau corfforaethol.
Prif dasgau
Bydd tasgau allweddol yr ymgeiswyr llwyddiannus yn dibynnu ar ba dîm y cânt eu rhoi ynddo, ond byddant yn cynnwys cyfuniad o'r canlynol:
- Helpu i reoli gwaith ymchwil a sicrhau ei ansawdd
- Cynorthwyo prosiectau ymchwil sy'n defnyddio dulliau ansoddol (e.e. cyfweliadau manwl, grwpiau ffocws) a dulliau meintiol (e.e. gwaith arolygu, dadansoddi ystadegol, gwybodaeth fonitro ac adrodd)
- Cynllunio, dadansoddi a chyfuno gwaith ymchwil
- Ymchwilio i lenyddiaeth a’i hadolygu
- Gweithio gyda dadansoddwyr ar draws Llywodraeth Cymru
- Darparu cymorth gweinyddol mewn ymarferion casglu data
- Paratoi adroddiadau i'w cyhoeddi ar dudalennau gwe ymchwil gymdeithasol Llywodraeth Cymru neu i'w defnyddio'n fewnol
- Rheoli prosiectau
- Cyflawni tasgau gweinyddol, megis trefnu cyfarfodydd, seminarau a digwyddiadau, cymryd a chadw cofnodion.
Cyfleoedd datblygu
Mae'r swyddi'n cynnig cyfleoedd datblygu rhagorol, gan gynnwys:
- Dysgu sut mae ymchwil gymdeithasol yn cael ei chomisiynu, ei chynnal a'i defnyddio o fewn y Llywodraeth a chyrff a ariennir ganddi (e.e. Cyfoeth Naturiol Cymru)
- Datblygu dealltwriaeth o sut mae tystiolaeth yn gallu helpu i lywio a gwella'r broses o lunio polisïau a dulliau gweithio o fewn y sefydliad
- Datblygu sgiliau allweddol (megis sgiliau cyfathrebu, meddwl yn feirniadol a gweithio fel rhan o dîm, yn aml o fewn amserlen dynn)
- Mynychu cyrsiau, cynadleddau a seminarau perthnasol (gan gynnwys cyrsiau ar ddadansoddi meintiol ac ansoddol)
- Cyfleoedd i ddatblygu dealltwriaeth a chael profiad ymarferol o amrywiaeth o dechnegau ymchwil (megis cynllunio arolygon, cynnal cyfweliadau, dadansoddi a chyflwyno canfyddiadau, ysgrifennu adroddiadau ac egluro canfyddiadau ymchwil i gynulleidfa nad yw’n arbenigo yn y maes)
- Datblygu sgiliau rheoli prosiectau
- Cysgodi neu weithio gydag ymchwilwyr cymdeithasol, dadansoddwyr a swyddogion polisi o adrannau eraill yn Llywodraeth Cymru yn ystod y lleoliad. Mae’n bosibl y bydd cyfle hefyd i gydweithio â swyddogion o gyrff a ariennir gan y Llywodraeth.
Dyddiad Cau
Hyderus o ran Anabledd
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu mewn modd sy'n analluogi pobl sydd â nam neu gyflwr iechyd, neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pawb (neu'r rheini sy’n aelodau posibl o staff) berfformio ar eu gorau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd ("nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd").
Rydym yn gwarantu y byddwn yn cynnig cyfweliad i unrhyw un sy'n anabl os bydd ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod yn rhaid ichi ddarparu tystiolaeth yn eich cais i ddangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau sydd wedi eu nodi fel rhai hanfodol. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac i hwyluso datblygiad eu gyrfa.
Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddem yn eich cefnogi pe baech yn llwyddiannus, e-bostiwch DesgCymorthCydwasanaethau@llyw.Cymru cyn gynted â phosibl, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac i ateb eich cwestiynau.
Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog
Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni. Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Partneriaeth Gymdeithasol
O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.
Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
• PCS
• Prospect
• FDA
Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
• cyflog
• telerau ac amodau
• polisïau a gweithdrefnau
• newid sefydliadol
Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.
Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.
Ymddygiadau cymhwysedd sydd eu hangen ar gyfer y rôl
Newid a Gwella
- Adolygu arferion gweithio a meddwl am syniadau i wella’r ffordd y mae pethau’n cael eu gwneud
Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
- Cynnal dadansoddiadau priodol i gefnogi penderfyniadau neu argymhellion
Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth
- Cyfrannu’n rhagweithiol i waith y tîm cyfan
Cyflawni’n Brydlon
- Gweithio mewn modd trefnus, gan ddefnyddio eu gwybodaeth a’u harbenigedd i gyflawni’n brydlon a safonol
Meini prawf penodol i'r swydd
Proses Asesu
NODWCH: MAE’R CYNLLUN HWN YN AGORED I ISRADDEDIGION YN EU BLWYDDYN RYNGOSOD MEWN PRIFYSGOL NEU FYFYRWYR SYDD WEDI PENDERFYNU CYMRYD BLWYDDYN I FFWRDD AR ÔL EU HAIL FLWYDDYN MEWN PRIFYSGOL.
NID YW'R SWYDDI HYN AR AGOR I RADDEDIGION
Fel rhan o'r broses ymgeisio, bydd angen ichi ddarparu tystiolaeth yn erbyn pob un o'r cymwyseddau gofynnol a'r meini prawf penodol i'r swydd a nodir yn yr hysbyseb hon (hyd at 300 gair yr un ar gyfer pob cymhwysedd/maen prawf):
- Newid a Gwella
- Gwneud Penderfyniadau Effeithiol
- Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth
- Cyflawni’n Brydlon
- Penodol i'r Swydd 1
- Penodol i'r Swydd 2
- Penodol i'r Swydd 3
Hoffem argymell eich bod yn defnyddio'r cymwyseddau a'r meini prawf penodol i'r swydd fel penawdau, gan anelu at ysgrifennu 250-300 o eiriau o dan bob un.
Bydd yr ymgeiswyr sy'n llwyddo i basio'r cam sifftio yn cael eu hasesu drwy gyflwyniad a chyfweliad yn seiliedig ar gymwyseddau, a fydd yn cynnwys y cymwyseddau a'r meini prawf penodol i'r swydd a nodir yn yr hysbyseb hon.
Gwybodaeth arall
Sut i wneud cais
Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.
I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi. Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’. Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni. Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin. Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).
Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.