Swydd Wag -- Pennaeth yr Uned Cyfieithu Deddfwriaeth

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Llywodraeth Cymru
Y Gwasanaeth Cyfieithu
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
£50,870
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

  • Dyma swydd arbenigol yn y Gwasanaeth Cyfieithu sy’n arwain ac yn cynghori ar bob agwedd ar faterion cyfieithu deddfwriaeth yn Llywodraeth Cymru, gan gydweithio’n agos â’r proffesiwn cyfreithiol yn y sefydliad.
  • Mae hon yn un o dair swydd pennaeth uned yng Ngwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru. (Y ddwy swydd arall yw Pennaeth yr Uned Cyfieithu Testun a Chyfieithu ar y Pryd a Phennaeth yr Unedau Datblygu a Busnes. Mae’r tri phennaeth uned yn atebol i Bennaeth y Gwasanaeth Cyfieithu.)
  • Yr Uned Cyfieithu Deddfwriaeth yw’r uned sy’n cyfieithu deddfwriaeth Llywodraeth Cymru a’i Gweinidogion. Mae hwn yn wasanaeth sy’n hanfodol er mwyn galluogi’r sefydliad i sicrhau bod deddfwriaeth Cymru ar gael i bobl Cymru yn hwylus yn y ddwy iaith yn unol â gofynion statudol a threfniadaethol.
  • Pwrpas y swydd yw arwain a rheoli’r Uned Cyfieithu Deddfwriaeth; rhoi arweiniad strategol a phroffesiynol clir a dibynadwy ar lefel gorfforaethol i’r Gweinidogion ac i gydweithwyr ar draws y sefydliad, ac ar brydiau i randdeiliaid allanol, ar faterion sy’n ymwneud â chyfieithu’r ddeddfwriaeth.

Prif dasgau

Arwain a rheoli

  • Arwain ar gyflenwi gwasanaethau cyfieithu deddfwriaeth i Lywodraeth Cymru, gan ddarparu gwasanaeth prydlon ac effeithiol o’r safon uchaf ar gyfer y sefydliad.
  • Arwain uned o uwch-gyfieithwyr, cyfieithwyr a chyfieithwyr dan hyfforddiant sy’n gweithio fel arfer mewn 5 lleoliad gwahanol ledled y wlad – neu’n gweithio gartref - a bod yn rheolwr llinell ar 2 Ieithydd Deddfwriaethol (SEO) sy’n arwain y ddau dîm o fewn yr uned honno.
  • Annog a meithrin aelodau’r uned i ddatblygu holl ystod y sgiliau angenrheidiol fel cyfieithwyr deddfwriaethol  ac i ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus o fewn y Gwasanaeth Cyfieithu ac o fewn y gwasanaeth sifil ehangach.

Cyflenwi gwasanaethau cyfieithu testun deddfwriaethol sy’n cefnogi deddfu yn y Gymraeg a’r Saesneg

  • Deall swyddogaeth cyfieithu testun deddfwriaethol yng nghyd-destun deddfu yn y Gymraeg a’r Saesneg o dan y setliad datganoli.
  • Ymwneud yn broffesiynol â swyddogion y Llywodraeth sy’n arwain ar ddeddfu yn y Gymraeg a’r Saesneg ac ar gyflawni gofynion statudol a rheolau sefydlog y Senedd o ran deddfu yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Arwain ar y ffordd y mae'r Uned Cyfieithu Deddfwriaeth yn cynllunio a chyflenwi ei gwaith cyfieithu er mwyn diwallu gofynion y sefydliad.
  • Cynnig arweiniad clir, proffesiynol ac awdurdodol ynghylch cyfieithu testun deddfwriaethol i’r Uned, i’r Gwasanaeth Cyfieithu’n ehangach, ac i gydweithwyr ar draws y sefydliad, a rhoi cyngor safadwy ar lefel ffurfiol i’r Gweinidogion ac i’r sefydliad ar gyfieithu testun deddfwriaethol.

Darparu gwasanaethau effeithiol

  • Gwneud y defnydd gorau, mwyaf effeithlon o adnoddau cyfieithu mewnol ac allanol, ac o systemau technoleg, i ddiwallu’r gofyn.
  • Rhoi trefniadau effeithiol ar waith yn ôl y gofyn ar gyfer defnyddio contractau cyfieithu a chomisiynu gwaith cyfieithu yn briodol gan ddarparwyr allanol, a bod yn atebol i bennaeth y Gwasanaeth Cyfieithu am ddefnydd yr adnodd allanol a’r gwariant ar y gyllideb.

Adolygu a gwella ffyrdd o weithio

  • Adolygu gweithdrefnau mewnol yr uned er mwyn gwella arferion gwaith yn barhaus, a chyfrannu at ddatblygiad ehangach y Gwasanaeth Cyfieithu gan roi newid ar waith mewn modd cyfrifol a chynaliadwy sy’n fanteisiol i’r sefydliad.
  • Arwain cyfraniad yr uned a chynrychioli’r Gwasanaeth Cyfieithu ar bob adolygiad o’r systemau a’r gweithdrefnau deddfu er mwyn sicrhau bod pob agwedd ar lunio’r testun Cymraeg yn cael ei hystyried mewn ffordd sy’n hwyluso’r gwaith o gyfieithu’r ddeddfwriaeth i’r safon uchaf posibl.

Cydweithio ag eraill

  • Cydweithio’n agos â Phennaeth y Gwasanaeth Cyfieithu a chyda’r ddau bennaeth uned arall – sef Pennaeth yr Uned Cyfieithu Testun a Chyfieithu ar y Pryd, a Phennaeth yr Unedau Datblygu a Busnes - er mwyn llywio’r holl agweddau ar waith y Gwasanaeth Cyfieithu yn hwylus ac yn effeithiol.
  • Meithrin perthynas waith effeithiol â chydweithwyr mewn adrannau eraill o’r sefydliad, yn enwedig y sawl sy’n drafftio ac yn rheoli deddfwriaeth, ynghyd ag eraill yn y maes cyfiawnder,  er mwyn codi ymwybyddiaeth am y gwasanaethau cyfieithu deddfwriaeth a hwyluso’r broses gyfieithu.
  • Rhwydweithio’n effeithiol â rhanddeiliaid allanol gyda golwg ar godi ymwybyddiaeth am waith cyfieithu deddfwriaeth yn Llywodraeth Cymru, rhannu arbenigedd, dylanwadu a dysgu gan eraill er budd y sefydliad, a chyfrannu’n adeiladol at hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yn y maes cyfiawnder yng Nghymru.
  • Arwain neu gyfrannu at brosiectau penodol ar gais rheolwyr a chyfarwyddwyr y sefydliad.

Cyfleoedd datblygu

  • Cyfle i arwain uned gyfieithu arbenigol sy’n rhan o wasanaeth cyfieithu mawr, amlddisgyblaeth yn un o sefydliadau mwyaf nodedig Cymru ac i gydweithio â chyfreithwyr ac eraill i gyfrannu at ddatblygu dulliau o ddeddfu yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Cyfle i fod yn aelod o wasanaeth canolog sy’n cyfrannu gwasanaeth allweddol ac arbenigedd ieithyddol i’r Llywodraeth ddatganoledig ac i’r Gweinidogion sy’n gwasanaethu pobl Cymru.
  • Cyfle i gyfuno sgiliau arwain ac arbenigedd ieithyddol ynghyd â dysgu a meithrin sgiliau ym maes deddfwriaeth mewn swydd unigryw yng nghanol bwrlwm gwleidyddiaeth Cymru.
  • Cyfle i ymgymryd â dylestwyddau swydd reoli uchel ei phroffil yn y proffesiwn cyfieithu yng Nghymru ac yn y Gwasanaeth Sifil yng Nghymru. 

Dyddiad Cau

16/12/20 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Rhugl
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

  1. Arwain a Chyfathrebu - Ymwneud yn hyderus â rhanddeiliaid a chydweithwyr ar bob lefel i ennyn ymrwymiad at gyrraedd nodau.

  2. Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Gweithio fel aelodau effeithiol o dîm, gan reoli deinameg timau wrth weithio ar draws ffiniau Adrannol a ffiniau eraill.
  3. Gwella Gallu Pawb - Bod yn batrwm i eraill o ran dysgu yn y gweithle ac annog cyfleoedd i bob aelod o staff ddatblygu, meithrin eu doniau a rheoli eu gyrfa.
  4. Managing a Quality Service - Ensure the service offer thoroughly considers customers’ needs and a broad range of available methods to meet this, including new technology where relevant.

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

  1. Gradd neu gymhwyster cyfatebol, a thystiolaeth glir o feddu ar sgiliau cyfieithu cadarn a chaboledig yn y Gymraeg a’r Saesneg, sy’n hanfodol i ennyn hygrededd a pharch tîm o gyfieithwyr proffesiynol a sefydliad cenedlaethol sy’n gweithio yn y ddwy iaith.

  2. Profiad o arwain neu reoli ym maes cyfieithu neu mewn disgyblaeth debyg ac o gynnig cyngor strategol arbenigol dibynadwy i gydweithwyr ar lefel sefydliadol.
  3. Crebwyll ac ymwybyddiaeth wleidyddol gadarn. Y parodrwydd i ddysgu a meithrin dealltwriaeth a sgiliau ym maes deddfwriaeth, y drefn ddeddfu, a’r gweithdrefnau sefydliadol a gwleidyddol sy’n gyd-destun hanfodol ar gyfer cyfieithu deddfwriaeth mewn sefydliad cenedlaethol fel Llywodraeth Cymru.

Proses Asesu

Cam 1: Cyflwyno ffurflen gais. Disgwylir ichi gyflwyno eich atebion yn Gymraeg, ac eithrio yn achos y pedwerydd cymhwysedd, sef Managing a quality service. Disgwylir ichi ateb hwn yn Saesneg.


Cam 2: O lwyddo ar Gam 1 y broses, gwahoddir yr ymgeiswyr i brawf ysgrifenedig a chyfweliad drwy gyfrwng system rithwir Teams yn ystod yr w/d 18 Ionawr 2021.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Disgwylir i’r sawl a benodir aros yn ei swydd am ddwy flynedd cyn gwneud cais i symud o’r Gwasanaeth Cyfieithu i swydd arall yn Llywodraeth Cymru.


Os hoffech ragor o wybodaeth am y swydd, croeso ichi e-bostio Pennaeth y Gwasanaeth Cyfieithu, meinir.pritchard@llyw.cymru i drefnu sgwrs ffôn neu i drefnu i gwrdd am sgwrs rithwir dros Teams.

Meinir Pritchard - meinir.pritchard@llyw.cymru

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.