Swydd Wag -- Golygydd Testunau Deddfwriaethol Dwyieithog

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
Yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol
HEO - £32,460 - £39,690
£32,460
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Cynorthwyo’r Uwch-olygydd Testunau Deddfwriaethol i ddarparu gwasanaeth gwirio cyfwerthedd ieithyddol ar gyfer yr Adran Gwasanaethau Cyfreithiol i sicrhau ansawdd wrth gynhyrchu is-ddeddfwriaeth ddwyieithog fanwl gywir sy'n gyfwerth yn y ddwy iaith. 

Mae Adran Gwasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am ddrafftio yn ddwyieithog pob is-ddeddfwriaeth gyffredinol a lunnir gan Weinidogion Cymru, y Prif Weinidog yn gweithredu ar ei ben ei hun, neu pan fo hynny'n briodol y Cwnsler Cyffredinol, yn ogystal â dogfennau cyfreithiol dwyieithog eraill.

Caiff pob testun deddfwriaethol dwyieithog ei wirio a'i olygu'n drwyadl er mwyn sicrhau cywirdeb ieithyddol a chyfwerthedd cyfreithiol rhwng y ddwy iaith.

Mae swm yr is-ddeddfwriaeth ddwyieithog a lunnir gan Weinidogion Cymru yn gofyn am wasanaeth golygu testunau deddfwriaethol penodol, a leolir yn Adran Gwasanaethau Cyfreithiol Llywodraeth Cymru, er mwyn hwyluso’r broses o gymhwyso canllawiau drafftio Llywodraeth Cymru yn gywir ac yn gyson yn ogystal â'r derminoleg a ddefnyddir mewn deddfwriaeth ddwyieithog ddrafft a baratowyd gan y cyfreithwyr pwnc perthnasol. Mae'n ofynnol i ddeilydd y swydd arbenigo yn y gwaith o wirio a golygu testunau is-ddeddfwriaeth ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg yn ôl y galw, gan weithio'n agos gyda’r Uwch-olygydd Testunau Deddfwriaethol Dwyieithog, cyfreithwyr drafftio a thîm arbenigol Llywodraeth Cymru o gyfieithwyr deddfwriaethol.   

 

 Os hoffech gael unrhyw wybodaeth ychwanegol am y swyddi hyn, gallwch gysylltu â:

Prif dasgau

Gan adrodd yn uniongyrchol i’r Uwch-olygydd Testunau Deddfwriaethol Dwyieithog, y tasgau allweddol sy’n ofynnol ar gyfer y swydd yw:

  • Craffu ar destunau cyfreithiol Cymraeg a Saesneg i sicrhau eu bod yn cyfateb. Bydd hyn yn cynnwys drafftiau dwyieithog terfynol o Offerynnau Statudol cyffredinol Cymru, is-deddfwriaeth leol ac fel arall, ac ystod o ddogfennau deddfwriaethol dwyieithog amrywiol;
  • Craffu ar ddiwygiadau ychwanegol gan gyfreithwyr i destunau deddfwriaethol yn ôl y galw a chynghori ar newidiadau o fewn yr amserlenni penodedig ar gyfer gwneud neu osod ar ffurf drafft;
  • Cysylltu â’r uwch-olygydd testunau, cyfreithwyr drafftio a chyfieithwyr deddfwriaethol arbenigol os bydd angen gwneud cywiriadau, a/neu os oes angen terminoleg amgen;
  • Cadw at gyngor ar ddrafftio a therminoleg gan Gynghorwyr Cyfreithiol Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad y Senedd neu sy’n cael ei adrodd i’r Senedd;
  • Cynorthwyo cyfreithwyr drafftio yn ôl yr angen i wirio’r Offerynnau Statudol cadarnhaol drafft yn brydlon pan gânt eu diwygio ar ôl eu tynnu yn ôl gan Weinidogion Cymru;
  • Cynnal a mewnbynnu gwybodaeth i system ar gyfer rheoli a chofnodi hynt fersiynau drafft terfynol y dogfennau dwyieithog ar gyfer golygu testun cyn eu cyflwyno'n ffurfiol gan gleientiaid polisi i Weinidogion;
  • Cyfrannu unrhyw wybodaeth a allai fod yn ofynnol i gronfeydd data gwybodaeth WSI sy’n cael eu cynnal gan Swyddfa’r Codau Deddfwriaethol at ddibenion cynhyrchu adroddiadau ystadegol cyfredol a hanesyddol mewn perthynas â deddfwriaeth a wnaed gan Weinidogion Cymru.

Cyfleoedd datblygu

Bydd eich profiad yn rhoi dealltwriaeth unigryw i chi o sut mae deddfwriaeth ddwyieithog yn cael ei pharatoi a’i llunio yng Nghymru a'r prosesau dan sylw. Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle i weithio o fewn amgylchedd cyfreithiol proffesiynol sydd wrth galon llywodraeth ddatganoledig, yn flaenllaw yn y broses o ddeddfu a llunio polisïau ac ar flaen y gad o ran datblygiadau cyfansoddiadol mawr.

Dyddiad Cau

27/03/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Rhugl
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

  • Gwneud Penderfyniadau Effeithiol - Nodi amrywiaeth eang o ffynonellau gwybodaeth berthnasol a dibynadwy a chydnabod, lle bo hynny’n angenrheidiol, bod angen casglu data newydd o ffynonellau mewnol ac allanol.
  • Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Gweithredu fel aelod o dîm, gan dreulio amser yn creu ffocws cyffredin ac ennyn ysbryd tîm.
  • Gweld y Darlun Cyflawn - Bod yn effro i faterion a thueddiadau newydd a allai effeithio ar eu gwaith eu hunain a’u tîm, neu a allai fod o fudd i’r gwaith hwnnw.
  • Newid a Gwella - Mynd ati i annog awgrymiadau gan amrywiaeth eang o ffynonellau a rhanddeiliaid, a’u defnyddio i ddylanwadu ar eu syniadau eu hunain.

Meini Prawf Penodol i'r Swydd

  1. Rhaid i ymgeiswyr fod yn gwbl fedrus yn y Gymraeg a’r Saesneg, gyda sgiliau ieithyddol yn y Gymraeg (deall, darllen, ysgrifennu a siarad) i safon gradd neu gyfatebol neu gymhwyster perthnasol arall (ee cymhwyster Cyfieithu Cymraeg proffesiynol).
  2. Rhaid i ymgeiswyr fedru dangos bod ganddynt ddigon o brofiad perthnasol o weithio’n ddwyieithog mewn amgylchedd cyfreithiol neu mewn amgylchedd proffesiynol a’r gallu i ddarparu cyngor i staff ar bob lefel ynghylch materion ieithyddol a gweithredol.
  3. Sgiliau TG da – bydd llawer o’r gwaith sy’n ymwneud â gwirio a golygu’r Offerynnau Statudol drafft yn cynnwys gwybod sut i ddefnyddio templed drafftio Offerynnau Statudol electronig pwrpasol. Fodd bynnag, bydd hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r templed, a hyfforddiant ar sgiliau TG mwy cyffredinol ar gael.  

Proses Asesu

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan y rhai sy'n cael eu tangynrychioli yn ein gweithlu ar hyn o bryd, fel pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, a phobl anabl.

Dylid cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg.

 

Cam ymgeisio

  • Ffurflen gais ar-lein wedi'i llenwi
  • CV diweddar yn nodi hanes eich gyrfa gyda chyfrifoldebau a chyflawniadau allweddol, gan gynnwys y cymwysterau proffesiynol angenrheidiol. Rydym yn argymell rhoi sylw penodol i "ddiben y swydd" a’r "tasgau allweddol" i sicrhau bod eich CV yn adlewyrchu'r sgiliau a'r profiad rydym yn chwilio amdanynt.
  • Datganiad personol sy’n mynd i'r afael â'r canlynol
    • y pedwar ymddygiad cymhwysedd a gynhwysir uchod;
    • y tri maen prawf penodol i'r swydd.

Rydym yn argymell anelu at oddeutu 200-300 gair ar gyfer pob un o'r 7 categori

  • Cwblhau gwybodaeth fonitro Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Rydym yn argymell eich bod yn darllen y canllawiau yn y dolenni atodedig i'ch cynorthwyo i wneud cais am y swyddi hyn. Maen nhw'n esbonio sut i ddangos tystiolaeth o'ch addasrwydd ar gyfer y swyddi.

Canllawiau Recriwtio ar gyfer Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Fframwaith Cymwyseddau'r Gwasanaeth Sifil (dolen)

Bydd y ceisiadau'n cael eu sifftio. Dim ond yr ymgeiswyr hynny sy'n bodloni'r gofynion sylfaenol fydd yn cael eu gwahodd i'r cam nesaf.

 

Prawf Golygu Testun Dwyieithog a Darparu Cyngor

Bydd yr ymgeiswyr sy'n llwyddiannus yn y cam sifftio yn cael eu gwahodd i sefyll prawf golygu testun dwyieithog a phrawf mewn darparu cyngor. Bydd trefniadau, dyddiad ac amser y prawf yn cael eu rhoi i’r ymgeiswyr sy’n llwyddiannus yn y cam sifftio o leiaf 5 diwrnod gwaith ymlaen llaw.

Dim ond yr ymgeiswyr hynny sy'n bodloni gofynion sylfaenol y prawf fydd yn cael eu gwahodd i'r cam nesaf.

 

Cam Cyfweld

Bydd ymgeiswyr sy'n bodloni gofynion sylfaenol y Prawf Golygu Testun Dwyieithog a Darparu Cyngor yn cael eu gwahodd i gyfweliad.

Bydd y meini prawf a'r cymwyseddau sy'n benodol i'r swydd hefyd yn cael eu hasesu yn y cam cyfweld.

Os bydd sgoriau cyffredinol yr ymgeiswyr yn gyfartal, bydd ffafriaeth yn cael ei rhoi i’r ymgeiswyr hynny sydd wedi cael sgoriau uwch yn y meini prawf sy'n benodol i'r swydd.

Bydd ymgeiswyr yn cael rhybudd o o leiaf 5 diwrnod gwaith o ddyddiad ac amser y cyfweliad.  

 

Adborth

Dim ond ar ôl i'r broses gael ei chwblhau y bydd adborth yn cael ei roi ar y cam sifftio.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
LegalRecruitment.WG.Legal@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.