Swydd Wag -- Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru

Egwyddorion Recriwtio

Wrth recriwtio, mae prosesau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor o ddethol yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y disgrifir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Uwch Wasanaeth Sifil 1
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Secondiad
Mae’r swydd hon yn cael ei chynnig ar sail secondiad am hyd at 4 blynedd, ac mae’n bosib i’r ymgeisydd llwyddiannus gadw ei delerau ac amodau presennol, gan gynnwys ei gyflog.
Cymru gyfan
Mae’r swydd hon yn cwmpasu Cymru gyfan a gall deiliad y swydd weithio yn unrhyw un o Swyddfeydd Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, disgwylir y bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio’n rheolaidd yn y brif swyddfa yng Nghaerdydd ac y bydd ar gael i gynnal cyswllt â Gweinidogion ac Uwch Swyddogion ond gellir caniatáu rhywfaint o hyblygrwydd. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd deithio dros rannau o Gymru, Llundain a rhanbarthau eraill yn y DU hefyd.

Dyddiad Cau

18/10/17 23:55

Pwrpas y Swydd

Mae rhagoriaeth mewn gwyddoniaeth a manteisio arni’n ffactor galluogi allweddol ar gyfer cyflawni Rhaglen Lywodraethu Cymru – Symud Cymru Ymlaen. Ein nod yw adeiladu sylfaen wyddoniaeth gref a dynamig sy’n cefnogi datblygiad economaidd a chenedlaethol Cymru.

 

Diben y Swydd

Mae gan y Prif Gynghorydd Gwyddonol rôl gyffrous a blaenllaw o ran gweithio tuag at y nodau hyn, gan roi cyngor o safon uchel i Weinidogion Cymru a swyddogion y Llywodraeth, dangos arweinyddiaeth a chreadigrwydd i feithrin partneriaethau a hybu cydweithio ar draws sectorau. Wrth graidd y gwaith mae nod eang, sef cefnogi twf economi Cymru, trwy sicrhau rhagor o swyddi a’r rheiny’n swyddi mwy crefftus, trwy gyflwyno Cymru fel lle y mae gwyddoniaeth, ymchwil ac arloesi’n cael eu cefnogi a’u gwneud yn dda, a thrwy greu amgylchedd i helpu pobl i achub ar gyfleoedd a manteisio i’r eithaf arnynt.

Mae gwerthfawrogi amrywiaeth a chydraddoldeb yn flaenoriaeth uchel i Lywodraeth Cymru ac rydym am gyflogi unigolyn sydd wedi’i ysgogi ac a allai hyrwyddo a chynnwys yr egwyddorion hyn yn eu maes cyfrifoldeb.  Mae hyn yn cynnwys ystyried anghenion Cymru o ran sgiliau yn y dyfodol, gan ddefnyddio dull cadarnhaol o ysgogi a chynyddu’r diddordeb mewn pynciau STEMM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth), gyda phwyslais penodol ar gynyddu nifer y menywod a’r merched sy’n dilyn gyrfaoedd yn y sector gwyddoniaeth.


Cyfrifoldebau allweddol

Rhoi cyngor gwyddonol o’r safon uchaf i Brif Weinidog Cymru, ei Gabinet a’i weinyddiaeth gan ymgynghori fel y bo’n briodol ag arweinwyr proffesiynol ac arweinwyr polisi eraill, gan helpu i bennu lliw a llun polisi’r Llywodraeth a’r broses o lunio’r polisi. Yn ddelfrydol bydd gennych rhywfaint o brofiad o weithio gyda’r Llywodraeth i ddeall pwysigrwydd y cyd-destun gwleidyddol.  Rhoi cyngor gwyddonol i bwyllgorau cynghori allanol fel y bo’n ofynnol.

Cynrychioli Llywodraeth Cymru yn rhyngwladol ar faterion gwyddoniaeth a thechnoleg.  Byddwch yn pennu y blaenoriaethau o ran ymchwil gwyddonol yng Nghymru ac yn ystyried y ffordd orau o gyflawni a gwireddu manteision ymchwil gwyddonol a sut y gellir sicrhau cydbwysedd rhwng y rhain â blaenoriaethau sy’n cystadlu.  Bod yn rhagweithiol o ran hybu arloesi, ymchwil a’r broses o’u masnacheiddio trwy gysylltiadau mwy effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru, darparwyr ymchwil a diwydiant. Adnabod cyfleoedd newydd a mwy o ffyrdd i ddenu mewnfuddsoddiadau i Gymru. Mae hyn yn mynd yn fwyfwy pwysig, yn enwedig wrth ystyried materion fel effaith y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, y cyd-destun ariannol yn y dyfodol a’r heriau y mae’r materion hyn yn eu codi sy’n galw am ymdrech pro-actif ac arloesol i Gymru.


Mae rhestr gyflawn o'r cyfrifoldebau allweddol a gofynion y swydd ar gael yn y Disgrifiad Swydd a Manyleb Person.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu mewn modd sy'n analluogi pobl sydd â nam neu gyflwr iechyd, neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pawb (neu'r rheini sy’n aelodau posibl o staff) berfformio ar eu gorau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd ("nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd").

Rydym yn gwarantu y byddwn yn cynnig cyfweliad i unrhyw un sy'n anabl os bydd ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod yn rhaid ichi ddarparu tystiolaeth yn eich cais i ddangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau sydd wedi eu nodi fel rhai hanfodol. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac i hwyluso datblygiad eu gyrfa.

Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddem yn eich cefnogi pe baech yn llwyddiannus, e-bostiwch DesgCymorthCydwasanaethau@llyw.Cymru cyn gynted â phosibl, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac i ateb eich cwestiynau.

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Proses Asesu

Sut i ymgeisio

Dylid cyflwyno ffurflen gais wedi'i llenwi, CV diweddar, ynghyd â datganiad personol o'ch addasrwydd ar gyfer y swydd erbyn y dyddiad cau.  Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch SCSrecruitment@cymru.gsi.gov.uk i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.


I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru.  Fe fydd angen cyfeiriad e-bost arnoch i gofrestru.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio’r Uwch Wasanaeth Sifil o fewn Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol yr Uwch Wasanaeth Sifil (dolen).  Mae canllawiau pellach ar Baratoi eich Datganiad Personol (dolen) hefyd ar gael.


Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Gwybodaeth arall am y swydd

Rôl lawn-amser yw hon; fodd bynnag, rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sy’n dymuno gweithio’n rhan-amser ond byddai disgwyl iddynt ymrwymo i weithio o leiaf 3.5 diwrnod yr wythnos.

Cyn y gellir cadarnhau penodiad yr ymgeisydd llwyddiannus, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal camau gwirio cefndir a diogelwch. Fel rhan o hyn, bydd arnom angen cadarnhau pwy ydych, gwirio eich hanes cyflogaeth dros y pum mlynedd ddiwethaf, eich cenedligrwydd a’ch statws mewnfudo, eich Iechyd, a’ch cofnod troseddol (euogfarnau heb eu disbyddu yn unig). Mae’n rhaid bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus gliriad diogelwch neu ei fod yn barod i gael gwiriad diogelwch i lefel Gwiriad Diogelwch (SC) cyn ymgymryd â’r swydd. Gall y graddfeydd amser ar gyfer cliriad diogelwch amrywio; fodd bynnag, ar ôl derbyn gwaith papur wedi’i gwblhau gall gymryd rhwng 10 a 12 wythnos.

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal yn Swyddfeydd Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd ar 22 Tachwedd 2017. 

Os hoffech drafod y swydd hon ymhellach, cysylltwch â Chris Hale, Pennaeth Gweithrediadau, Is-adran y Prif Gynghorydd Gwyddonol ar 03000 615996.

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.