Swydd Wag -- Pennaeth Llywodraeth Cymru Swyddfa Japan

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Swyddfa'r Prif Weinidog
Tîm Tramor
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
£51,380
Amser llawn (dydy hyn ddim yn addas i bobl sydd am weithio'n rhan-amser neu rannu'r swydd).
Tymor penodol
Mae hon yn swydd 2 flynedd gyda'r posibilrwydd o estyniad hyd at uchafswm o 4 blynedd. Mae telerau ac amodau dyletswyddau ar wahân yn berthnasol.
Lleoliad arall
Tokyo, Japan
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Prif bwrpas y swydd yw cynrychioli, gwarchod a hyrwyddo pob agwedd ar fuddiannau Llywodraeth Cymru yn y wlad, fel rhan o'r Tîm Tramor ehangach. Mae'r amcanion ar gyfer Swyddfa Japan Llywodraeth Cymru wedi'u nodi yng Nghynllun Gwlad blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer y wlad (sy'n cynnwys blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar draws yr holl bortffolios).

Mae'r swydd yn gofyn am gynhyrchu a chyflawni targedau FDI a darparu cynigion marchnata. Mesurir llwyddiant drwy adnabod arweinwyr ansawdd, integreiddio i rwydweithiau busnes cynhyrchiol, ymweliadau busnesau â Chymru a sicrhau prosiectau mewnfuddsoddi a chytundebau masnach.  Hefyd, bydd deiliad y swydd yn cydweithio'n agos â chydweithwyr ym mhob tîm perthnasol yng Nghymru i nodi cyfleoedd masnach (allforio), gan ddarparu arweiniad i fusnesau Cymru ar faterion fel amodau masnachu lleol a darparu teithiau masnach a chymorth masnach mewn marchnadoedd targed.

Bydd deiliad y swydd hefyd yn gyfrifol am gynrychioli Llywodraeth Cymru a hyrwyddo buddiannau Llywodraeth Cymru ym mhob maes polisi datganoledig, gan gynnwys cydweithredu academaidd, cryfhau cysylltiadau llywodraethol rhwng Cymru a Japan, a mentrau codi proffil eraill.

Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb rheolwr llinell am dri aelod o staff a leolir yn y wlad a bydd yn adrodd i Bennaeth Asia a’r Môr Tawel, a'r Dwyrain Canol (o fewn y tîm Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach. Bydd deiliad y swydd yn rhan o dîm ehangach tramor Llywodraeth Cymru, sydd â phresenoldeb yn UDA, Canada, Iwerddon, Ffrainc, Gwlad Belg, yr Almaen, Dubai, Qatar, India a Tsieina.

Bydd angen ymgysylltu'n rheolaidd ag uwch staff mewn corfforaethau, cyrff cyswllt a rhwydweithiau ehangach, gyda deiliad y swydd yn datblygu cysylltiadau lefel uchel ar draws y marchnadoedd allweddol. Bydd sefydlu perthynas weithio agos gydag Adran Masnach Ryngwladol a Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu Llywodraeth y DU yn arbennig o bwysig.

Mae'r gallu i siarad Japaneg ar lefel ymarferol yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.  Darperir hyfforddiant a chymorth.

Mae'r cyfle yn cael ei gynnig ar gytundeb tymor penodol 2+2 ac mae ar agor i staff Llywodraeth Cymru sydd eisoes yn gweithio dramor - a hynny ar sail swydd olynol.

Bydd deiliad y swydd wedi’i leoli’n bennaf yn Llysgenhadaeth Prydain yn Tokyo. Bydd yn gynrychiolydd achrededig o Lywodraeth Cymru/DU a disgwylir iddo gynnal ei hunan mewn ffordd briodol yn unol â chod ymddygiad FCDO. 

Oherwydd natur y swydd, bydd teithio a gweithio y tu allan i oriau arferol yn berthnasol. Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus deithio yn Japan ac i ddychwelyd i Gymru sawl tro fel y cytunwyd arno gan y rheolwr llinell.

Mae hon yn rôl sydd wedi’i lleoli dramor ac mae lwfansau dyletswyddau ar wahân yn berthnasol yn unol â pholisi Gweithio Dramor Llywodraeth Cymru. Os oes gennych ddiddordeb yn y rôl mae'n bwysig eich bod yn siarad â'r pwynt cyswllt a nodir i sicrhau eich bod yn deall y rôl yn llawn a sut mae'n gweithredu o fewn y rhwydwaith tramor o swyddfeydd. Dylai ymgeiswyr posib hefyd ymgynghori â'r polisi swyddi tramor ar y Byd Tramor a Dychwelyd i’r DU ar ôl gweithio dramor cyn gwneud cais.

Mae cliriad diogelwch i lefel 'SC' yn ofynnol i'r swydd. Os nad yw'r ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar y lefel hon o gliriad diogelwch, bydd angen iddo fod yn ei le cyn dechrau yn y swydd. Bydd hefyd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ymgymryd ag archwiliadau meddygol cyn dechrau yn y swydd.

Prif dasgau

Cyfleoedd datblygu

Dyddiad Cau

29/09/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Ymddygiad

Gweithio ar y Cyd ac Mewn Partneriaeth - Annog cyfraniadau gan amrywiaeth eang o staff drwy fod yn amlwg ac yn groesawgar

Meini prawf penodol i’r swydd

  1. Y gallu i gynrychioli Llywodraeth Cymru yn hyderus ar draws ystod eang o feysydd polisi.
  2. Ymwybyddiaeth o'r economi a chymdeithas Japan, neu'r gallu i ddatblygu'r ymwybyddiaeth honno'n gyflym. Mae'r gallu i siarad Japaneg ar lefel ymarferol ofynnol (pwynt 3 ar y matrics sgiliau iaith yn Atodiad A).
  3. Profiad neu ddealltwriaeth o gefnogi gweithrediadau busnes masnachol, yn arbennig (dymunol) cefnogi datblygiad allforio a/neu hyrwyddo mewnfuddsoddiad.

Proses Asesu

Bydd ceisiadau'n cael eu sifftio a'r ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad.

Fel rhan o'r broses gyfweld, bydd sgiliau iaith yn cael eu profi ar wahân.  Bydd galwad ar wahân yn cael ei threfnu gyda chyfieithydd i brofi sgiliau iaith.  Mae'r swydd yn gofyn am sgiliau iaith A3 'Yn gallu siarad mewn rhai sgyrsiau sy'n gysylltiedig â gwaith'

Bydd angen darparu cyflwyniad 5 min ar y cam cyfweld. Darparwch gyflwyniad 5 min ar sut y byddwch chi'n mynd ati i gyflawni'r rôl yn eich 6 mis cyntaf.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Paula Walsh - International Relations & Trade Deputy Director - OverseasOperations@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Mewnol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.