Swydd Wag -- Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar Ewrop, Swyddfa’r Prif Weinidog

Egwyddorion Recriwtio

Wrth recriwtio, mae prosesau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor o ddethol yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y disgrifir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Manylion y Swydd

Swyddfa'r Prif Weinidog
Uwch Wasanaeth Sifil 1
tua £71,000. 'Pro Rata' y tal yw £28.783
Rhan-amser
100 diwrnod y flwyddyn, sef tua 2 diwrnod yr wythnos, ond yn hyblyg ar draws y flwyddyn.
Tymor penodol
2 bwlyddyn
Cymru gyfan
Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus gwario amser yn Frwsel

Dyddiad Cau

29/10/21 12:00

Pwrpas y Swydd

Mae Llywodraeth Cymru yn sylweddoli mor bwysig i Gymru yw parhau â’n perthynas â'r UE. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i barhau i gynnal cysylltiadau da yn Ewrop ar lefel wleidyddol ac uwch-swyddogion, er mwyn gwneud y mwyaf o fuddiannau Cymru ar draws ystod eang o feysydd. Felly, rydym yn ceisio penodi Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar Ewrop fel Cynghorydd Polisi Arbenigol. Bydd gan ddeiliad y swydd brofiad sylweddol iawn eisoes o weithio yng nghyd-destun yr UE a bydd yn meddu ar ystod amrywiol o gysylltiadau perthnasol er lefel uchel. Mae angen i'r ymgeisydd llwyddiannus ddeall sut i wneud a rheoli cysylltiadau newydd a gwahanol a'u defnyddio i hyrwyddo buddiannau Cymru. Bydd angen i ddeiliad y swydd ddefnyddio llawer o grebwyll wrth ymdrin â ffeiliau a allai fod yn sensitif.


Bydd dylanwad yr UE ar lunio polisïau a'r fframwaith rheoleiddio yng Nghymru yn parhau'n sylweddol hyd y gellir rhagweld. Bydd y Cynghorydd Polisi Arbenigol ar Ewrop yn rhagweithiol wrth wneud cysylltiadau, casglu gwybodaeth berthnasol a gweithio ar draws Llywodraeth Cymru a chyda rhanddeiliaid i gefnogi datblygu blaenoriaethau polisi. Bydd hyn yn gofyn am sgiliau arwain strategol mewn amrywiaeth o feysydd polisi gan gynnwys newid yn yr hinsawdd, arloesi, addysg uwch ac eraill. Mae'r rôl yn gofyn am brofiad eang o weithio gyda sefydliadau'r UE a phrosesau llunio polisïau, yn ogystal â dealltwriaeth amlwg o sut mae'r UE yn gweithredu a'i agenda polisi eang bresennol. Bydd sgiliau cydweithredu/partneriaeth cryf yn hanfodol. Mae angen gwybodaeth dda ar yr ymgeisydd llwyddiannus hefyd am y cyd-destun polisi a gwleidyddol yng Nghymru i weithredu'n effeithiol.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu mewn modd sy'n analluogi pobl sydd â nam neu gyflwr iechyd, neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pawb (neu'r rheini sy’n aelodau posibl o staff) berfformio ar eu gorau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd ("nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd").

Rydym yn gwarantu y byddwn yn cynnig cyfweliad i unrhyw un sy'n anabl os bydd ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod yn rhaid ichi ddarparu tystiolaeth yn eich cais i ddangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau sydd wedi eu nodi fel rhai hanfodol. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac i hwyluso datblygiad eu gyrfa.

Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddem yn eich cefnogi pe baech yn llwyddiannus, e-bostiwch DesgCymorthCydwasanaethau@llyw.Cymru cyn gynted â phosibl, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac i ateb eich cwestiynau.

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Proses Asesu

Cynhelir cyfarfod byr gyda'r Prif Weinidog yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 15 Tachwedd.


Cyfweliadau Panel (gan gynnwys cyflwyniad)

Sut i ymgeisio

Dylid cyflwyno ffurflen gais wedi'i llenwi, CV diweddar, ynghyd â datganiad personol o'ch addasrwydd ar gyfer y swydd erbyn y dyddiad cau.  Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch SCSrecruitment@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.


I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru.  Fe fydd angen cyfeiriad e-bost arnoch i gofrestru.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio’r Uwch Wasanaeth Sifil o fewn Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol yr Uwch Wasanaeth Sifil (dolen).  Mae canllawiau pellach ar Baratoi eich Datganiad Personol (dolen) hefyd ar gael.


Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Gwybodaeth arall am y swydd

Dylech ddileu eich enw o'ch CV a'ch datganiad personol pan fyddwch yn cyflwyno'ch cais.

Rhaid bod gan yr ymgeisydd llwyddiannus gliriad diogelwch ar lefel Gwiriad Diogelwch cyn dechrau ar y swydd.

18fed o Dachwedd 2021
SCSRecruitment@gov.wales

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.