Swydd Wag -- Prif Arolygydd Cynllunio Yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol

Egwyddorion Recriwtio

Wrth recriwtio, mae prosesau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor o ddethol yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored, fel y disgrifir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Uwch Wasanaeth Sifil 1
tua £71,000
Amser llawn (dydy hyn ddim yn addas i bobl sydd am weithio'n rhan-amser neu rannu'r swydd).
Parhaol
Cymru gyfan

Dyddiad Cau

27/09/21 12:00

Pwrpas y Swydd

Bydd y Prif Arolygydd Cynllunio yn gyfrifol am arwain a rheoli Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylcheddol Cymru yn gyffredinol, gan sicrhau ei bod yn effeithiol ac yn addas i'r diben.  Mae hyn yn cynnwys arwain ar faterion gweithredol a phroffesiynol o fewn yr Arolygiaeth. Hefyd disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus gyfrannu at y gwaith o reoli Llywodraeth Cymru yn ei chyfanrwydd, pan fydd hyn yn gyson â’r rôl. Yn ogystal bydd angen i ddeiliad y swydd chwarae rôl arweiniol yn y gwasanaeth cynllunio yng Nghymru, lle mae’r Prif Arolygydd Cynllunio yn darparu barn wrthrychol, ddiduedd sy'n cael ei pharchu ar y proffesiwn cynllunio a'r ffordd mae'r system gynllunio yn cael ei gweithredu yng Nghymru – a sut i wella’r system honno, ar gyfer pob rhanddeiliad gan gynnwys Gweinidogion Cymru.  Mae'r Prif Arolygydd Cynllunio hefyd yn cynrychioli Cymru mewn cyfarfodydd ar lefel y DU a chyda Phrif Arolygwyr Cynllunio ac uwch swyddogion polisi gweinyddiaethau eraill.

Mae arolygwyr yn farnu ar yr amgylchedd a’r amgylchedd adeiledig, gan gyflafareddu mewn anghydfodau ynghylch defnydd tir a materion amgylcheddol.  O ystyried yr amrediad o waith a wneir, mae'n ofynnol i’r Prif Arolygydd ac Arolygwyr Cynllunio feddu ar yr amrediad eang o wybodaeth am y polisïau a’r ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i waith Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylcheddol Cymru. Bydd y Prif Arolygydd Cynllunio yn gyfrifol am sicrhau bod penderfyniadau'n gwbl ddiduedd. Bydd yn ofynnol hefyd iddo roi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch sicrhau didueddrwydd, neu unrhyw ganfyddiad gan eraill mewn perthynas â didueddrwydd, yn uniongyrchol i'r Ysgrifennydd Parhaol.

Bydd deiliad y swydd hon yn gweithio'n uniongyrchol gyda swyddogion awdurdodau lleol ac aelodau etholedig i'w cynorthwyo i fabwysiadu Cynllun Datblygu Strategol a Lleol. Bydd yn gwneud hyn drwy ddarparu hyfforddiant ac uwchsgilio aelodau a swyddogion llywodraeth leol i sicrhau bod cynlluniau’n cael eu harchwilio’n ddidrafferth, yn ogystal â rhoi cyngor diduedd ar elfennau allweddol o'r sail dystiolaeth. Mae'r Prif Arolygydd Cynllunio yn pennu'r safon ar gyfer y safonau tystiolaeth sy'n ategu'r cynllun, a bydd disgwyl iddo hefyd gynnig cyngor anffurfiol ar y strategaeth a'r sail dystiolaeth sy'n ategu'r cynlluniau drafft. 

Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am gyllideb y rhaglen o £3 miliwn ar gyfer gweithredu'r gwasanaeth, yn ogystal â rheoli’r incwm o ffioedd a enillir drwy brosesu gwaith achos amrywiol ar ran eraill.  Mae’r incwm hwn o ffioedd yn gwrthbwyso costau gweithredu'r gwasanaeth, ac fel arfer mae’n werth rhyw £1 miliwn y flwyddyn. 

Bydd angen i ddeiliad y swydd chwarae rôl arweiniol bwysig yn y proffesiwn a disgwylir iddo gymryd rhan yn rheolaidd mewn gweithgareddau academaidd a phroffesiynol i ddatblygu a gwella'r ffordd mae'r system gynllunio yng Nghymru yn cael ei rheoli.  Bydd angen i’r Prif Arolygydd Cynllunio hefyd weithio gydag aelodau o awdurdodau cynllunio lleol pan fydd pryderon wedi cael eu codi ynghylch pa mor aml mae penderfyniadau lleol yn cael eu gwrthdroi yn dilyn apêl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gweithredu mewn modd sy'n analluogi pobl sydd â nam neu gyflwr iechyd, neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pawb (neu'r rheini sy’n aelodau posibl o staff) berfformio ar eu gorau. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn defnyddio'r diffiniad meddygol o anabledd ("nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith sylweddol a hirdymor ar allu person i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd").

Rydym yn gwarantu y byddwn yn cynnig cyfweliad i unrhyw un sy'n anabl os bydd ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. Mae bodloni’r ‘meini prawf sylfaenol’ yn golygu bod yn rhaid ichi ddarparu tystiolaeth yn eich cais i ddangos eich bod yn bodloni’r lefel ofynnol ar gyfer pob cymhwysedd. Mae’n rhaid ichi hefyd feddu ar unrhyw gymwysterau, sgiliau neu brofiadau sydd wedi eu nodi fel rhai hanfodol. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl ac i hwyluso datblygiad eu gyrfa.

Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddem yn eich cefnogi pe baech yn llwyddiannus, e-bostiwch DesgCymorthCydwasanaethau@llyw.Cymru cyn gynted â phosibl, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac i ateb eich cwestiynau.

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda chymorth e.e. geiriadur
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda rhywfaint o wirio

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Proses Asesu

Amserlen fras

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 27 Medi 2021

Profion seicometrig: o fewn deg diwrnod i'r cyfarfod i lunio'r rhestr fer

Y cyfarfod i lunio’r rhestr fer: 6 Hydref 2021

Y Panel Rhanddeiliaid: yr wythnos yn dechrau ar 18 Hydref 2021

Yr ymarfer ysgrifennu adroddiadau: yr wythnos yn dechrau ar 18 Hydref 2021

Y Panel Cyfweld: 29 Hydref 2021

Sut i ymgeisio

Dylid cyflwyno ffurflen gais wedi'i llenwi, CV diweddar, ynghyd â datganiad personol o'ch addasrwydd ar gyfer y swydd erbyn y dyddiad cau.  Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch SCSrecruitment@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.


I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru.  Fe fydd angen cyfeiriad e-bost arnoch i gofrestru.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio’r Uwch Wasanaeth Sifil o fewn Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol yr Uwch Wasanaeth Sifil (dolen).  Mae canllawiau pellach ar Baratoi eich Datganiad Personol (dolen) hefyd ar gael.


Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Gwybodaeth arall am y swydd

Mae hon yn swydd amser llawn, er yr anogir pobl sydd am rannu swydd i wneud cais. Os byddwch yn gwneud cais fel partneriaeth rhannu swydd, disgwylir i'r trefniant fod ar waith pan fyddwch yn cyflwyno eich cais. Felly, dylech sicrhau ei bod yn glir ar eich ffurflen cais eich bod yn gwneud cais fel rhan o bartneriaeth rhannu swydd.

Amserlen fras

Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 27 Medi 2021

Profion seicometrig: o fewn deg diwrnod i'r cyfarfod i lunio'r rhestr fer

Y cyfarfod i lunio’r rhestr fer: 6 Hydref 2021

Y Panel Rhanddeiliaid: yr wythnos yn dechrau ar 18 Hydref 2021

Yr ymarfer ysgrifennu adroddiadau: yr wythnos yn dechrau ar 18 Hydref 2021

Y Panel Cyfweld: 29 Hydref 2021

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.