Swydd Wag -- Datblygwr Arweiniol (Drupal)

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Swyddfa'r Prif Weinidog
Cyfathrebu Digidol
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
Y cyflog cychwynnol fel rheol yw £51,380. Gellir cynnig cyflog cychwynnol o hyd at £57,190 ar gyfer ymgeiswyr eithriadol yn seiliedig ar eu sgiliau a'u profiad. Fydd hwn yn pwynt 3 ar raddfa 4 pwynt hyd at £61,440 Gallwch ddisgwyl derbyn cynyddran i’r pwynt nesaf ar y raddfa ar ôl 1 blwyddyn o wasanaeth.
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan, Tu allan i Gymru
DU - gweithio o bell
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Y cefndir:

Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru, ac mae ganddi gyllideb flynyddol o oddeutu £15 biliwn. Mae'n gyfrifol am agweddau allweddol ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru gan gynnwys iechyd, addysg, yr economi, trafnidiaeth, amaethyddiaeth a'r amgylchedd.

Mae gweithlu o dros 5,000 o weision sifil yn cefnogi Gweinidogion Cymru mewn swyddfeydd yng Nghymru, Llundain, Brwsel, a gwledydd eraill dramor.

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio denu pobl sy'n gallu darparu cymorth a chyngor rhagorol, sy'n gallu ffocysu adnoddau a chanddynt egni ac arbenigedd.

Mae trawsnewid ein gwasanaethau cyhoeddus yn ddigidol yn hanfodol o ran cyflenwi'r gwasanaethau y mae pobl Cymru eu hangen ac yn eu disgwyl. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru'n cyflenwi nifer o wasanaethau digidol i bobl a busnesau ar draws Cymru. Rydym hefyd yn darparu gwybodaeth ar ein gwefannau. 

O dan arweiniad ein Prif Swyddog Digidol, mae Llywodraeth Cymru yn cyflenwi mwy a mwy o wasanaethau ar-lein.

Mae'r rôl hon yn perthyn i’r is-adran gyfathrebu sy'n gyfrifol am ddarparu a goruchwylio llwyfannau cyfathrebu corfforaethol sy'n darparu gwybodaeth am bolisïau a strategaethau i ddinasyddion a rhanddeiliaid.

Y Rôl:

Fel y Datblygwr Arweiniol byddwch yn gyfrifol am reoli'r datblygiadau ar gyfer amrywiaeth o brosiectau cysylltiedig.  Byddwch yn llywio’r ffyrdd y mae'r tîm yn gweithio ac yn fedrus mewn amrywiaeth eang o systemau technegol. Byddwch yn gallu nodi technoleg a dulliau gweithredu priodol, gan benderfynu pryd y dylid ysgrifennu meddalwedd.

 

Prif dasgau

  • Gweithio gyda chydweithwyr i gynllunio nodweddion, gwaith uwchraddio ac integreiddio sy'n canolbwyntio ar roi’r profiad gorau i’r defnyddiwr. Arwain gwaith datblygu ar gyfer gwefannau dwyieithog pwysig â phroffil uchel a microwefannau ar draws sawl parth.
  • Trosi problemau busnes yn ddyluniadau technegol; rhagddychmygu'r gwasanaeth delfrydol ar gyfer defnyddwyr ac ymchwilio i wahanol ddulliau o ddatblygu atebion i broblemau ac o greu syniadau am ddyluniadau posibl sy'n addas i'r diben.
  • Defnyddio safonau modern/safonau’r diwydiant ar gyfer offer a thechnegau rhaglennu drwy gydol y cylch datblygu a phrofi. Hyfforddi ac arwain eraill i wella eu dealltwriaeth a'u gwybodaeth o'r safonau ac ysgwyddo cyfrifoldeb technegol am bob cam a fersiwn o brosiect datblygu meddalwedd.
  • Defnyddio gwybodaeth a phrofiad technegol ac arbenigedd i adolygu manylebau a, phan fo angen, cydweithio ag eraill fel tîm y prosiect, i gynllunio, creu, profi a dogfennu datblygiadau.
  • Nodi, lleoli a thrwsio'n fedrus wallau cymhleth neu rhai sy’n cael effaith ar wasanaeth.
  • Sefydlu a chydgysylltu system o gyflenwi ac integreiddio parhaus i sicrhau arferion gwaith effeithlon tra'n gweithio mewn amgylchedd hyblyg fel y gellir cyflawni prosiectau a briffiau heb amharu ar amgylcheddau ‘byw’ y cynnyrch, a thrwy hynny gynnal profiad di-dor i ddefnyddwyr.
  • Cael y wybodaeth ddiweddaraf am arferion diogelwch Drupal a chynnal codau CMS â’r patsys a’r diweddariadau perthnasol a mwyaf newydd er mwyn sicrhau diogelwch y codau.
  • Dylunio, gweithredu a rheoli rheolaethau i gynnal diogelwch, cyfrinachedd a chywirdeb systemau gwybodaeth drwy gydymffurfio â rheoliadau, polisïau a safonau perthnasol. 

Cyfleoedd datblygu

Byddwch yn rhan o broffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg Llywodraeth Cymru.  Mae hwn yn broffesiwn sy'n tyfu ac fe gewch gyfle i fod yn rhan o'r gwaith o'i lywio a'i ehangu.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu sgiliau a galluoedd ein staff a'u hannog i ddefnyddio pum diwrnod y flwyddyn i ddysgu. 

I gefnogi hyn, rydym yn cynnig ystod o gyfleoedd a allai gynnwys:

Cynadleddau / Cysgodi / Mentora / Dysgu seiliedig ar waith / cymwysterau / hyfforddi.

Bod yn rhagweithiol wrth greu cysylltiadau ag amrywiaeth eang o dimau Llywodraeth Cymru a phartneriaid allanol gan gynnwys Llywodraethau eraill yn y DU.

Dyddiad Cau

31/01/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Mae'r sgiliau technegol a ganlyn yn HANFODOL ar gyfer llwyddo yn y rôl hon. Byddwch cystal â sicrhau eich bod yn amgáu CV sy'n dangos eich gallu mewn perthynas â'r sgiliau hyn.

  • Gradd mewn maes technoleg perthnasol fel Cyfrifiadureg, peirianneg meddalwedd neu brofiad cyfatebol.
  • Profiad masnachol sylweddol ym maes datblygu ar y we, gydag arbenigedd mewn PHP.
  • Profiad amlwg o ddefnyddio JavaScript / JQuery.
  • Profiad o strwythuro / dylunio Drupal datgysylltiedig ar raddfa fawr (GraphQL/JSON API / REST API).
  • Profiad mewn HTML5, SCSS (Sass), CSS3 a Twig.
  • Arbenigedd mewn fframwaith PHP Symfony.
  • Profiad o ysgrifennu ymholiadau SQL.
  • Profiad o bob elfen o ddatblygu a ffurfweddu Drupal 9+ ar gyfer defnydd amlieithog ac aml-barth yn AWS a’r defnydd o’r offeryn llinell orchymyn Rush.
  • Profiad o ddylunio, adeiladu a chynnal Modiwlau Drupal pwrpasol dibynadwy a themâu pwrpasol gyda gwybodaeth am y modiwl Nodweddion Drupal.
  • Profiad o waith integreiddio API cymhleth.
  • Profiad o offer rheoli fersiynau cod (e.e. Git), gan weithio mewn amgylchedd hyblyg.
  • Profiad o ddefnyddio llwyfannau profi awtomataidd a phrofion uned (PHPUnit / Behat / Nightwatch).

Proses Asesu

I wneud cais am y rôl hon, gofynnir ichi amgáu'r canlynol:

  • CV cyfredol, dim mwy na dwy ochr A4 gan gynnwys tystiolaeth o'r sgiliau hanfodol sy'n benodol i'r swydd. 

Os byddwch yn llwyddiannus yn y cam sifftio, cewch eich gwahodd i gyfweliad. Bydd y cyfweliad yn canolbwyntio ar eich sgiliau a phrofiad mewn perthynas â gofynion hanfodol y swydd. Efallai y byddwn yn cynnwys prawf neu asesiad hefyd, os yw’n briodol.

Caiff eich cais ei asesu mewn tri cham:

  • Cynhelir sifft cyntaf gan edrych ar eich CV a’r sgiliau hanfodol i’r swydd. Fel rhan o’ch cais gofynnir i chi uwchlwytho copi o’ch CV. Ni ddylai’r CV fod yn fwy na 2 ochr A4. Bydd unrhyw beth arall heblaw 2 ochr A4 yn cael ei ddiystyru ac ni fydd yn rhan o’r sifft. Tynnwch eich enw a’ch cyfeiriad oddi ar eich CV er mwyn inni sifftio yn rhydd, heb enwau.
  • Bydd yr ymgeiswyr sy’n dod trwy’r sifft cyntaf yn cael eu gwahodd i wneud Ymarfer Technegol.
  • Bydd yr ymgeiswyr sy’n llwyddo yn yr Ymarfer Technegol yn cael eu gwahodd i gyfweliad.

Cewch ragor o wybodaeth am y camau hyn ar ôl y sifft cyntaf.

Trwy gydol y broses asesu, bydd yr ymgeiswyr yn cael eu hasesu gyferbyn âg Ymddygiadau Proffil Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil a fframwaith Galluedd y proffesiwn Data a Threchnoleg ddigidol (DDaT): Theoli Gwasanaeth o Ansawdd, Arweinyddiaeth, Thaglennu ac Adeiladu (peirianneg meddalwedd), Dull Gweithredu Safonau Modern a Chefnogi Gwasanaethau. Anwybyddwch unrhyw gyfeiriad at gymwyseddau a welwch o fewn ein system. 

Ar ôl y cyfweliad, os byddwch yn llwyddiannus mae’n bosibl y byddwn yn cadw eich manylion am hyd at 12 mis ar restr wrth gefn rhag ofn y daw swyddi tebyg eraill yn rhydd.

Disgwylir cynnal y cyfwleiadau ym mis chwefror.

 

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Mae amryw o fanteision i'w cael os ydych yn gweithio i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • Trafodaethau cyson ynghylch datblygiad a'r hyfforddiant sydd ei angen arnoch yn y swydd ac i fagu hyder
  • 31 o ddiwrnodau o wyliau blynyddol, a diwrnod ar gyfer y Nadolig a Phen-blwydd y Frenhines ar ben hynny
  • Absenoldeb rhiant hael, gan gynnwys 26 wythnos ar gyflog llawn i weithwyr cymwys
  • Cynllun Pensiwn hael gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
  • Cynllun Beicio i'r Gwaith: dewiswch feic newydd sbon sy'n costio hyd at £1000, gan arbed o leiaf 32%
  • Blaenswm Cyflog: gwnewch gais am flaenswm cyflog Nadolig, ar gyfer cyfarpar cyfrifiadurol neu ar gyfer Blaendaliadau Tenantiaeth
  • Benthyciadau Tocyn Tymor
  • Polisi Oriau Hyblyg

Ein Hymrwymiad i Gydraddoldeb:

Gan nad oes cynrychiolaeth ddigonol yn y sefydliad, caiff ymgeiswyr sy'n datgan eu bod yn anabl neu o gefndir du neu ethnig leiafrifol symud ymlaen yn awtomatig i'r Porth Asesu os yw eu cais yn bodloni'r meini prawf sylfaenol. Dim ond os bydd ymgeiswyr yn nodi'r wybodaeth hon yn eu ffurflen gais y bydd yn bosibl i ni wneud hyn. Bydd gwybodaeth am ymgeiswyr o gymunedau ethnig lleiafrifol yn cael ei chymryd o'r ffurflen monitro cydraddoldeb ac mae'n bwysig eich bod yn llenwi'r ffurflen hon fel rhan o'ch cais.

Y Rhestr Wrth Gefn:

Bydd ymgeiswyr llwyddiannus sydd wedi cyrraedd yr isafswm sgôr ar draws yr holl gymwyseddau  gofynnol yn cael cyfle i fod ar restr 'wrth gefn' Llywodraeth Cymru am 12 mis o ddyddiad cyhoeddi'r canlyniadau.  Os bydd swyddi ychwanegol yn cael eu creu neu os bydd swyddi presennol yn dod yn wag yn ystod yr adeg hon, mae'n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig y rôl i'r ymgeisydd hwnnw ar y rhestr wrth gefn sydd â'r sgôr uchaf.  Os bydd yn gwrthod y swydd, gall Llywodraeth Cymru gynnig y swydd i'r ymgeisydd â'r sgôr uchaf nesaf ac yn y blaen.

Aeddan Davies - aeddan.davies@gov.wales - 03000 251647

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.