Swydd Wag -- Rheolwr Cyllid a Rheolwr Ymwrthedd Gwrthficrobaidd

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Cyllid a Strategaeth
HEO - £32,460 - £39,690
£32,460
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae’r swydd hon yn rhan o dîm Cyllid a Strategaeth Swyddfa’r Prif Filfeddyg.

Amcanion Swyddfa’r Prif Filfeddyg yw:

  • Diogelu iechyd y cyhoedd;
  • Sicrhau sefyllfa o fod yn barod i ddelio ag unrhyw ymlediad o glefydau anifeiliaid egsotig a rheoli clefydau anifeiliaid endemig;
  • Codi ymwybyddiaeth a gwella iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru; a
  • Mynd i’r afael â TB buchol drwy ein cynllun cyflawni.

Prif Ganlyniadau Strategol Swyddfa’r Prif Filfeddyg yw:

  • Bod gan Gymru anifeiliaid cynhyrchu iach;
  • Bod gan anifeiliaid yng Nghymru ansawdd bywyd da;
  • Bod gan bobl ffydd a hyder yn y ffordd y mae bwyd yn cael ei gynhyrchu ac yn y modd y diogelir iechyd y cyhoedd;
  • Bod gan Gymru economi wledig lewyrchus; a
  • Bod gan Gymru amgylchedd o safon uchel.

I gyflawni hyn, mae Swyddfa’r Prif Filfeddyg yn gweithio’n agos â Llywodraethau eraill y DU, cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, partneriaid gweithredol a rhanddeiliaid y diwydiant. Gwneir hyn er mwyn rheoli polisïau sy’n bodoli eisoes a datblygu rhai newydd mewn modd rhagweithiol a strategol.

Bydd y swydd hon yn gofyn am weithio’n agos â rhanddeiliaid y diwydiant er mwyn rheoli polisïau mewn modd rhagweithiol a strategol. Yn ogystal, bydd gofyn am ymwneud yn uniongyrchol â’r Prif Filfeddyg ac uwch gydweithwyr eraill yn Swyddfa’r Prif Filfeddyg.

Mae ein dull tuag at Iechyd a Lles Anifeiliaid wedi’i nodi yn Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid ac yn ein Cynllun Lles Anifeiliaid Cymru.

Un o’r prif egwyddorion sy’n sail i Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid yw bod “atal yn well na gwella” er mwyn lleihau clefydau anifeiliaid ac effeithiau ar les cysylltiedig. Bydd deiliad y swydd yn gweithio gydag arweinwyr polisi a Chynghorwyr Milfeddygol er mwyn integreiddio’r dull hwn i unrhyw gefnogaeth a pholisïau yn y dyfodol.

Mae’r rôl hon wedi’i gosod o fewn y Gangen Cyllid a Strategaeth a bydd yn cynnwys rheoli cysylltiadau a chyllidebau dau o’n partneriaid cyflenwi sef yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) a’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Wrth reoli cysylltiadau, bydd y rôl yn arwain ar ddatblygu Cytundebau Lefel Gwasanaeth a Dangosyddion Perfformiad Allweddol a chytuno arnynt. O ran y gwaith o reoli cyllidebau, mae’r rôl yn cynnwys monitro gwariant yn y flwyddyn a defnyddio data a ragwelir er mwyn cefnogi ymarferion rhagweld ehangach. Bydd y rôl yn gofyn am adrodd yn erbyn cyllidebau yn fisol i weithrediadau canolog, uwch gydweithwyr a chyfarwyddwyr. Mae’r rôl hefyd yn cynnwys gweithio gyda’n partneriaid cyflenwi er mwyn ystyried trefniadau rhagweld, adrodd ac anfonebu cywir, a’u datblygu.

Bydd y swydd hon hefyd yn caniatáu’r cyfle i gyflwyno deddfwriaeth yng Nghymru, er enghraifft, drwy gefnogi Prosiect Codi Tâl yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion. Bydd y prosiect yn cyflwyno system codi tâl decach am wasanaethau a gyflawnir gan yr Asiantaeth. Gan weithio’n uniongyrchol gyda chydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a Gweinyddiaethau eraill Prydain, bydd y rôl hon yn cyflwyno deddfwriaeth gyfatebol i Gymru a hynny drwy weithdrefnau negyddol a chadarnhaol.

Mae’r swydd hefyd yn gweithredu fel rheolwr polisi, gan gefnogi’r arweinydd polisi a’r Dirprwy Brif Filfeddyg yn uniongyrchol gyda’r gwaith o ddatblygu dulliau i fynd i’r afael ag Ymwrthedd Gwrthficrobaidd mewn anifeiliaid. Mae cyfle i weithio’n uniongyrchol â’r Grŵp Cyflawni ar Ymwrthedd Gwrthficrobaidd Anifeiliaid a’r Amgylchedd sy’n cynnwys cynrychiolwyr o’r diwydiant ffermio, y proffesiwn milfeddygol, Iechyd Cyhoeddus Cymru a swyddogion Llywodraeth Cymru, yn ogystal â sefydliadau rhanddeiliaid eraill yng Nghymru a ledled y DU.

Mae cyllid wedi’i ddyrannu i gonsortiwm rhanddeiliaid a bydd angen gweithio’n agos gyda’r grŵp rhanddeiliaid allanol hwn gan rannu gwybodaeth a dysgu gan eraill er mwyn llywio ein dull o weithredu.

Bydd cyfleoedd i arwain ar ymgyrchoedd cyfathrebu, i weithio gydag uwch gydweithwyr ar draws Llywodraeth Cymru yn ogystal â chynrychioli’r gwasanaeth ar lefel y DU.

Bydd deiliad y swydd hefyd yn cael y cyfle i rannu profiadau, dysgu gan eraill a dod yn gyfarwydd â meysydd gwaith eraill Swyddfa’r Prif Filfeddyg er mwyn cefnogi cadernid busnes.

Mae’n bosibl y gellid gofyn i ddeiliad y swydd gefnogi blaenoriaethau ehangach Swyddfa’r Prif Filfeddyg, er enghraifft, yn ystod brigiadau o achosion o glefydau.

Prif dasgau

  • Meithrin dealltwriaeth drylwyr o feysydd polisi Swyddfa’r Prif Filfeddyg gan gyfrannu’n adeiladol at y gwaith o gyflawni canlyniadau cadarnhaol ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru.
  • Gweithio gyda Rheolwyr Cysylltiadau’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a’r Asiantaeth Safonau Bwyd er mwyn llunio Cytundebau Lefel Gwasanaeth yn flynyddol a sicrhau bod Prif Swyddog Milfeddygol Cymru yn gallu cytuno arnynt erbyn 31 Mawrth yn flynyddol.
  • Trefnu bod arweinwyr polisi o fewn Llywodraeth Cymru yn ystyried eu Hatodiadau a’u Dangosyddion Perfformiad Allweddol perthnasol, a’u bod yn cyfrannu at y gwaith o’u datblygu a’u clirio.
  • Monitro a rheoli unrhyw newidiadau i’r Cytundebau Lefel Gwasanaeth neu unrhyw anghydfodau sy’n codi. Yn ogystal, cefnogi eich tîm i fonitro prosesau anfonebu a pherfformio cyfredol er mwyn canfod meysydd ar gyfer gwella.
  • Cyfrifoldeb dros reoli a monitro gwybodaeth gywir am gyllidebau, cefnogi gyda gwariant misol a blynyddol cyllidebau a’u rhag-weld.
  • Arwain ar y gwaith o gyflwyno deddfwriaeth yng Nghymru er mwyn galluogi’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i godi tâl am wasanaethau a ddarperir i’r diwydiant.
  • Cynnal cysylltiadau gweithio agos a rhwydweithiau cadarn o fewn Llywodraeth Cymru, gyda gweinyddiaethau eraill y DU a chyda partneriaid cyflawni a rhanddeiliaid.
  • Rheoli dau swyddog EO.
  • Gweithio’n agos gydag eraill o fewn y tîm er mwyn rhoi cefnogaeth fel bo’r angen.

Cyfleoedd datblygu

Mae’r swydd yn cynnig amrywiaeth o sgiliau angenrheidiol er mwyn galluogi cynnydd.

Mae’r swydd yn cynnig y cyfle i ymgysylltu’n uniongyrchol â rhanddeiliaid a chynrychioli Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol mewn digwyddiadau proffil uchel fel Sioe Frenhinol Cymru a’r Ffair Aeaf.

Dyddiad Cau

09/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Dim sgiliau
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Dim sgiliau

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau;

Newid a Gwella

  • Gweithio gydag eraill i nodi meysydd i’w gwella a symleiddio prosesau i ddefnyddio llai o adnoddau.

Cyflawni’n Brydlon

  • Gweithredu'n brydlon i ailasesu llwythi gwaith a blaenoriaethau pan fo gofynion sy'n gwrthdaro i gynnal perfformiad.

Gweithio ar y Cyd

  • Sefydlu perthynas broffesiynol gydag ystod o randdeiliaid

Cyfathrebu a Dylanwadu

  • Cyfathrebu mewn ffordd syml, onest ac ymgysylltiedig, gan ddewis arddulliau priodol i wneud y mwyaf o ddealltwriaeth ac effaith.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd;

  1. Sgiliau drafftio da a’r gallu i gyflwyno pynciau cymhleth, yn eglur ac yn gryno, gan ystyried y gynulleidfa dan sylw.
  2. Gallu gweld y darlun cyflawn, ac yn effro i batrymau a bygythiadau newydd a allai effeithio ar waith deiliad y swydd a’r tîm yn ehangach.
  3. Bod yn hyblyg i weithio o fewn amgylchedd sy’n newid yn sydyn.

Proses Asesu

Bydd ceisiadau yn cael eu siffto a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Sian Timms - 03000 255 006

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.