Swydd Wag -- Rheolwr Tîm – Arolygu Gwasanaethau Oedolion

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Arolygiaeth Gofal Cymru
SEO - £41,700 - £49,370
Gellid ystyried cyflog cychwynnol hyd at bwynt 3 (£43,760) os bydd y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad hanfodol yn cael eu dangos
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Gogledd Cymru
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

AGC yw rheoleiddiwr annibynnol gofal cymdeithasol a gofal plant.  Mae AGC yn cofrestru, yn arolygu ac yn gweithredu i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru.  Mae arolygu a gorfodi yn swyddogaethau allweddol er mwyn darparu gwasanaethau rheoleiddiedig diogel ac o ansawdd uchel i ddinasyddion Cymru. 

Prif dasgau'r Rheolwr Tîm yw rheoli tîm o rhwng 6 ac 8 Arolygydd er mwyn sicrhau bod gwasanaethau gofal rheoleiddiedig i oedolion a phlant yn darparu gofal diogel o ansawdd da, ac yn annog ac yn ysgogi gwelliant.  Bydd y Rheolwr Tîm yn cynorthwyo ac yn cefnogi'r Uwch-reolwr gyda'r gwaith o reoli'r gwasanaeth yn effeithiol, yn amserol ac yn effeithlon. 

Bydd Rheolwyr Tîm yn atebol i Uwch-reolwr. Bydd ganddynt rôl bwysig i'w chwarae er mwyn sicrhau y caiff cyfrifoldebau craidd AGC eu cyflawni'n effeithiol ac yn amserol ym mhob agwedd ar wasanaethau gofal cymdeithasol plant sy'n derbyn gofal ac oedolion. 

Prif dasgau

Rheoli tîm o Arolygwyr yn effeithiol o ddydd i ddydd.

Sicrhau y darperir sesiynau goruchwylio myfyriol rheolaidd i arolygwyr dynodedig ac y caiff eu perfformiad ei reoli'n effeithiol.

Hyrwyddo a chyfrannu at ymwreiddio'r defnydd o systemau digidol a TGCh yn AGC.

Cefnogi datblygiad staff y tîm drwy roi hyfforddiant sefydlu, sesiynau briffio a gweithredu fel mentor neu hyfforddwr gydag arolygwyr rheoleiddio a nodir ac aelodau o'r staff. Monitro ac arsylwi ar arferion arolygu er mwyn nodi a rhannu arferion da a meysydd i'w datblygu'n broffesiynol.

Bod yn gyfrifol am ddyrannu gwaith i arolygwyr dynodedig yn amserol ac yn effeithlon, yn unol â phrosesau a gofynion sefydliadol.

Helpu'r Uwch-reolwr perthnasol a'r Pennaeth Arolygu Gwasanaethau Oedolion a Phlant i gyfrannu at y gwaith o sicrhau ymatebion amserol a chyflawn i bob sylw, canmoliaeth a chŵyn, a cheisiadau o dan y Ddeddf Diogelu Data yn unol â phrosesau a gofynion sefydliadol.

Gwneud penderfyniadau rheoli achosion a gorfodi yn unol â'r dyletswyddau dirprwyedig a nodir yng nghanllawiau sicrhau gwelliant a gorfodi AGC.

Gweithio'n agos gydag uwch-reolwyr timau Arolygu Awdurdodau Lleol i rannu gwybodaeth.

Bod yn gyfrifol am reoli gweithgareddau rheoleiddio a pherfformiad drwy gyfrannu'n effeithiol at ddewis, recriwtio a sefydlu staff.

Gweithredu fel rheolwr llinell a goruchwylio'r trefniadau ar gyfer sicrhau atebolrwydd a chydymffurfiaeth o ran safonau ac ansawdd pob gweithgaredd arolygu a rheoleiddio ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a Phlant.

Bod yn rheolwr llinell cryf a gweladwy i arolygwyr rheoleiddio gan ddangos ymrwymiad personol i werthoedd a nodau'r sefydliad ar bob lefel o weithgarwch.

Bod yn gyfrifol am hyrwyddo diwylliant o welliant parhaus, lle caiff materion amrywiaeth a chydraddoldeb eu hystyried yn llawn a'u hintegreiddio mewn ymarfer rheoleiddio, a gweithredu fel hyrwyddwr newid fel sy'n ofynnol gan y sefydliad.

Bod yn gyfrifol am sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau a gweithdrefnau Iechyd a Diogelwch Llywodraeth Cymru yn y maes cyfrifoldeb.

Helpu i gynnal archwiliadau ac adolygiadau sicrhau ansawdd yn ôl y gofyn.

Helpu arolygwyr gyda gweithgarwch arolygu cymhleth a heriol yn ôl y gofyn.

Bod yn gyfrifol am gysylltu â rheoleiddwyr eraill, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru, yr heddlu ac arolygiaethau eraill, er mwyn cefnogi proses reoleiddio effeithiol.

Bod yn gyfrifol am gysylltu ag awdurdodau lleol a byrddau iechyd mewn perthynas â diogelu ac ansawdd gwasanaethau a gomisiynir.

Cynnig cymorth i Uwch-reolwyr yn y tîm Arolygu Gwasanaethau Oedolion a Phlant wrth oruchwylio a monitro darparwyr sydd â sawl gwasanaeth, yn unol â chanllawiau AGC.

Ystyried sylwadau yn unol â'r rota y cytunwyd arno.

Casglu a darparu tystiolaeth i wrandawiadau'r Tribiwnlys Safonau Gofal, a bod yn bresennol ynddynt.

Gweithio'n agos gyda rheolwyr tîm yn y Tîm Cofrestru a Gorfodi a'r Tîm Arolygu Awdurdodau Lleol i rannu gwybodaeth a fydd yn llywio penderfyniadau.

Cymryd cyfrifoldeb am reoli eich perfformiad a'ch datblygiad proffesiynol eich hun, gan gynnwys sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau polisi a deddfwriaethol perthnasol a manteisio ar gyfleoedd datblygu priodol yn unol â phroses perfformiad a datblygiad Llywodraeth Cymru ac ar ôl trafod â'r Uwch-reolwr – Arolygu Gwasanaethau Oedolion.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn cynnig y cyfle i weithio mewn sefydliad dynamig sy'n hyrwyddo gwelliannau mewn gofal cymdeithasol drwy ddull gweithredu sy'n canolbwyntio ar y dinesydd.

Dyddiad Cau

08/03/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Rhugl
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau: 

Pennu Cyfeiriad – Gweld y Darlun Cyflawn


Ceisio deall y modd y mae gwasanaethau, gweithgareddau a strategaethau yn yr ardal yn gweithio gyda'i gilydd i roi gwerth i'r cwsmer/defnyddiwr.

 

Pennu Cyfeiriad – Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

Sylwi ar batrymau neu dueddiadau mewn amrywiaeth eang o dystiolaeth/data a dod i gasgliadau allweddol, gan amlinellu’r costau, y manteision, y risgiau a’r ymatebion posibl.

 

Ymgysylltu â Phobl – Arwain a Chyfathrebu

Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen.

 

Cyflawni Canlyniadau – Cyflawni'n Gyflym

Blaengynllunio ond ailasesu llwythau gwaith a blaenoriaethau os bydd sefyllfaoedd yn newid neu os bydd pobl yn wynebu gofynion sy'n gwrthdaro.

 

Meini Prawf Penodol i’r Swydd: 

Cymhwyster Gofal Cymdeithasol cydnabyddedig megis Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol (neu gymhwyster Gofal Cymdeithasol Cymru cyfatebol), cymhwyster nyrsio neu gymhwyster sy'n gysylltiedig â gofal iechyd, cymhwyster addysgu neu fod wedi'ch addysgu i lefel gradd a meddu ar Ddiploma Lefel 5 mewn Arwain Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ynghyd â phrofiad ôl-gymhwyso perthnasol o weithio mewn Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ar gyfer Gwasanaethau Oedolion a/neu Wasanaethau Plant ac Oedolion Iau.

Profiad o arwain, rheoli a datblygu tîm yn effeithiol.

Tystiolaeth o arwain a llywio'r gwaith o wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion a bodloni gofynion amrywiol defnyddwyr gwasanaethau/cwsmeriaid/defnyddwyr.

Proses Asesu

Ar ôl i'r ceisiadau gael eu sifftio, caiff yr ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i gyfweliad. Caiff pob cyfweliad ei gynnal yn rhithwir ar Microsoft Teams.

Bydd cyflwyniad ar ddechrau'r cyfweliad – darperir y testun yn y gwahoddiad i gael cyfweliad.

Cyn gwneud cais ar gyfer y rôl, e-bostiwch CIWHR@gov.wales i gael gwybodaeth a chanllawiau ychwanegol.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Mae lwfans o £1,000 y flwyddyn ar gael os ydych yn defnyddio eich car eich hun ac yn cyflenwi dros 2,000 o filltiroedd statudol y flwyddyn. Mae angen trwydded yrru ddilys ac yswiriant modur.

Mae'n hanfodol eich bod chi’n siarad Cymraeg ar gyfer y swydd hon ac mae wedi'i lleoli yn swyddfa Cyffordd Llandudno, Gogledd Cymru

Sue Millington - Sue.Millington@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.