Swydd Wag -- Pennaeth yr Uned Cyfieithu Testun a Chyfieithu ar y Pryd

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Y Gwasanaeth Cyfieithu
Gradd 7 - £53,440 - £63,900
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Gwahanol leoliadau
Aberystwyth, Caerfyrddin, Caerdydd, Cyffordd Llandudno
2 Ebrill 2019

Pwrpas y swydd

Mae'r swydd hon yn un o dair swydd pennaeth uned yng Ngwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru. Dyma’r swydd sydd â chyfrifoldeb am arwain a rheoli’r uned sy’n darparu gwasanaethau cyfieithu testun (ac eithrio cyfieithu deddfwriaethol)  a chyfieithu ar y pryd  i Lywodraeth Cymru a’i Gweinidogion. Mae hwn yn wasanaeth sy’n hanfodol er mwyn galluogi’r sefydliad i  gydymffurfio â gofynion statudol o ran y Gymraeg ac i hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg gan y sefydliad.

Prif bwrpas y swydd yw rhoi arweiniad strategol a phroffesiynol clir a dibynadwy ar lefel gorfforaethol i’r Gweinidogion ac i swyddogion a chwsmeriaid y sefydliad ar faterion sy’n ymwneud â defnyddio gwasanaethau cyfieithu.

Prif dasgau

Arwain a rheoli

  • Arwain ar gyflenwi gwasanaethau cyfieithu testun (ac eithrio cyfieithu deddfwriaethol) a gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i Lywodraeth  Cymru, gan ddarparu gwasanaeth prydlon ac effeithiol o’r safon uchaf ar gyfer y sefydliad.
  • Arwain uned o uwch-gyfieithwyr, cyfieithwyr a chyfieithwyr dan hyfforddiant sy’n gweithio mewn 5 lleoliad gwahanol ledled y wlad a bod yn rheolwr llinell ar 3 Arweinydd (Band Rheoli 1) y timau o fewn yr uned honno.
  • Annog a meithrin aelodau’r uned i ddatblygu eu sgiliau fel gweision sifil ac fel cyfieithwyr ac i ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus.

Cyflenwi gwasanaethau cyfieithu sy’n cefnogi polisi’r Gymraeg

  • Deall swyddogaeth cyfieithu yng nghyd-destun polisi’r Gymraeg ac ymwneud yn broffesiynol â rhanddeiliaid allanol ac â swyddogion y Llywodraeth sy’n arwain ar bolisi’r Gymraeg ac ar gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg.
  • Arwain ar y ffordd y mae'r Gwasanaeth Cyfieithu yn cynllunio a chyflenwi ei waith er mwyn diwallu gofynion y sefydliad.
  • Cynnig arweiniad clir, proffesiynol ac awdurdodol ynghylch cyflenwi gwaith cyfieithu i’r Gwasanaeth Cyfieithu ac i gwsmeriaid, a rhoi cyngor safadwy hefyd ar lefel ffurfiol i’r Gweinidogion ac i’r sefydliad ar gyflenwi gwasanaethau cyfieithu.

Darparu gwasanaethau effeithiol

  • Gwneud y defnydd gorau, mwyaf effeithlon o adnoddau cyfieithu mewnol ac allanol, ac o systemau technoleg, i ddiwallu’r gofyn.
  • Rhoi trefniadau effeithiol ar waith ar gyfer defnyddio contractau cyfieithu a chomisiynu gwaith cyfieithu gan ddarparwyr allanol, a bod yn atebol i bennaeth y Gwasanaeth Cyfieithu am ddefnydd yr adnodd allanol a’r gwariant ar y gyllideb.

Adolygu a gwella ffyrdd o weithio

  • Meithrin perthynas waith effeithiol gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad er mwyn codi ymwybyddiaeth am y gwasanaethau cyfieithu a ddarperir gan yr uned, gyda golwg ar hwyluso’r broses gyfieithu a rheoli disgwyliadau.
  • Adolygu gweithdrefnau er mwyn gwella arferion gwaith yn barhaus, gan roi newid ar waith mewn modd cyfrifol a chynaliadwy sy’n fanteisiol i’r Gwasanaeth Cyfieithu ac i’r sefydliad.
  • Bod yn gyfrifol am adolygu a rhoi ar waith weithdrefnau a llif gwaith syml ac effeithiol ar gyfer cyflenwi gwasanaethau cyfieithu a chasglu gwybodaeth reoli.

Cydweithio ag eraill

  • Arwain neu gyfrannu at brosiectau penodol ar gais rheolwyr a chyfarwyddwyr y sefydliad.
  • Cydweithio’n agos â Phennaeth y Gwasanaeth Cyfieithu a chyda dau bennaeth cyfieithu arall ar yr un lefel – sef pennaeth yr Uned Cyfieithu Deddfwriaethol, a phennaeth yr Unedau Datblygu a Busnes.

Cyfrannu’n adeiladol tuag at waith y tîm  rheoli uwch er mwyn llywio’r holl agweddau ar waith y Gwasanaeth Cyfieithu yn hwylus ac yn effeithiol. 

Cyfleoedd datblygu

  • Cyfle i arwain uned gyfieithu sy’n rhan o wasanaeth cyfieithu mawr, amlddisgyblaeth yn un o sefydliadau mwyaf nodedig Cymru ac i gyfrannu at agenda’r Gymraeg yn y sefydliad.
  • Cyfle i fod yn aelod o wasanaeth canolog sy’n cyfrannu gwasanaeth allweddol ac arbenigedd ieithyddol i’r Llywodraeth ddatganoledig ac i’r Gweinidogion sy’n gwasanaethu pobl Cymru.
  • Cyfle i gyfuno sgiliau arwain ac arbenigedd ieithyddol mewn swydd gyffrous yng nghanol bwrlwm gwleidyddiaeth Cymru.
  • Cyfle i ymgymryd â dylestwyddau swydd reoli uchel ei phroffil yn y proffesiwn cyfieithu yng Nghymru ac yng ngwasanaeth sifil Cymru. 

Dyddiad Cau

08/03/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Hanfodol
Deall pob deunydd mewn sefyllfa waith yn iawn
Rhugl
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Gallu paratoi deunydd ysgrifenedig ar gyfer pob sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Y broses ymgeisio

Cam 1: Cyflwyno ffurflen gais. Disgwylir ichi baratoi datganiad cymhwysedd yn cyflwyno tystiolaeth o'r cymwyseddau a'r meini prawf penodol isod yn Gymraeg, ac eithrio yn achos y pedwerydd cymhwysedd, sef 'Managing a quality service'. Disgwylir ichi ateb hwn yn Saesneg. Bydd hefyd gofyn i chi gyflwyno CV fel rhan o'ch cais arlein. 

Cymwyseddau:

  1. Gweld y Darlun Cyflawn - Ystyried y sefyllfa o safbwynt y llywodraeth gyfan er mwyn sicrhau bod gweithgareddau a pholisïau yn cyd-fynd â’i gilydd.
  2. Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth - Chwilio am ganlyniadau adeiladol i drafodaethau, gan herio rhagdybiaethau ond bod yn barod i gyfaddawdu pan fydd hynny’n helpu i symud pethau yn eu blaenau.
  3. Gwella Gallu Pawb - Hyfforddi a chefnogi cydweithwyr i gymryd cyfrifoldeb am eu datblygiad eu hunain (drwy eu gwneud yn atebol a thrwy roi aseiniadau amrywiol ac adborth parhaus).
  4. Managing a quality service - Ensure the service offer thoroughly considers customers’ needs and a broad range of available methods to meet this, including new technology where relevant.

Meini Prawf Penodol i'r Swydd:

  1. Gradd neu gymhwyster cyfatebol, a thystiolaeth glir o feddu ar sgiliau cadarn a chaboledig yn y Gymraeg a’r Saesneg sy’n hanfodol i ennyn hygrededd a pharch tîm o gyfieithwyr proffesiynol a sefydliad cenedlaethol sy’n gweithio yn y ddwy iaith.
  2. Profiad o arwain neu reoli ym maes cyfieithu neu mewn disgyblaeth debyg ac o gynnig cyngor strategol arbenigol dibynadwy i gwsmeriaid ar lefel sefydliadol.
  3. Crebwyll ac ymwybyddiaeth wleidyddol gadarn. Y parodrwydd i ddysgu a meithrin dealltwriaeth o’r drefn a’r gweithdrefnau sefydliadol a gwleidyddol sy’n gyd-destun hanfodol ar gyfer darparu gwasanaeth cyfieithu mewn sefydliad cenedlaethol fel Llywodraeth Cymru. 

Cam 2: O lwyddo ar Gam 1 y broses, gwahoddir yr ymgeiswyr i brawf ysgrifenedig a chyfweliad yng Nghaerdydd yn ystod yr w/d 1 Ebrill.

Proses Asesu

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Meinir Pritchard 03000 253959 / meinir.pritchard@llyw.cymru

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.