Swydd Wag -- Swyddog Adfywio, Benthyciadau a Gorfodi

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Adfywio Canolbarth Cymru, Gorfodi a Benthyciadau
HEO - £32,460 - £39,690
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
2 flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
'I' w gadarnhau'

Pwrpas y swydd

Pwrpas y swydd hon yw cefnogi gwaith Llywodraeth Cymru o gyflawni’r agenda gorfodi ar gyfer eiddo gwag a gweinyddu benthyciadau eiddo a benthyciadau Trawsnewid Trefi ledled Cymru. Bydd deiliad y swydd yn hwylusydd allweddol gyda phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector, a chydag adrannau eraill Llywodraeth Cymru mewn perthynas â benthyciadau eiddo, benthyciadau Trawsnewid Trefi a gwaith gorfodi ar eiddo gwag. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cefnogi cydweithwyr i gyflawni rhaglen adfywio Trawsnewid Trefi ar draws rhanbarth canolbarth Cymru.

Prif dasgau

Gorfodi

  • Cefnogi’r gwaith o gyflawni'r agenda gorfodi mewn perthynas ag eiddo gwag ar draws yr ardaloedd, gan weithredu fel hwylusydd allweddol gyda phartneriaid o dan arweiniad Pennaeth Adfywio Canolbarth Cymru, Gorfodi a Benthyciadau.
  • Goruchwylio’r gwaith o weinyddu'r Gronfa Orfodi gwerth £15.2m.
  • Helpu i ddatblygu/darparu mecanweithiau, offer a dulliau gweithredu sy'n hwyluso gwaith gorfodi.
  • Cynorthwyo gyda’r ymateb a chyflawni’r argymhellion gan ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol, a Chymunedau i eiddo gwag.
  • Gweithredu fel cyswllt ar gyfer ymholiadau sy'n ymwneud ag eiddo gwag.
  • Rhoi cymorth i dîm polisi'r Is-adran, yn enwedig mewn perthynas ag eiddo gwag.
  • Rhoi cymorth i Bennaeth Adfywio Canolbarth Cymru, Gorfodi a Benthyciadau, Penaethiaid Adfywio eraill a’r Dirprwy Gyfarwyddwr yn ôl y galw.

Benthyciadau (Eiddo a Thrawsnewid Trefi)

  • Delio â cheisiadau am gyllid ac asesu cynigion gan wirio eu bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau strategol, hyfywedd, gwerth am arian, argaeledd cyllideb ac ati. Darparu asesiadau cychwynnol o'r ceisiadau hyn i'w hadolygu gan yr arweinwyr perthnasol a gwneud argymhellion priodol i'r Panel Benthyciadau os yw'n briodol a'r Gweinidog Newid Hinsawdd;
  • Goruchwylio gwaith dosbarthu a derbyn ffurflenni monitro chwe misol gan Awdurdodau Lleol yn amserol ar gyfer y cynlluniau Benthyciadau Eiddo a Benthyciadau Trawsnewid Trefi. Dadansoddi'r ffurflenni ar lefel genedlaethol er mwyn darparu adroddiadau cynnydd a monitro a rhagolygon ariannol mewn pryd;
  • Cefnogi a chyfrannu at Rwydwaith Benthyciadau Cymru Gyfan a gweithgareddau cysylltiedig.
  • Datblygu a chynnal perthnasoedd effeithiol gyda phartneriaid cyflawni, gan sicrhau gwaith monitro prosiectau yn rheolaidd a chyflwyno hawliadau ariannol cywir o fewn yr amserlenni a ddymunir;
  • Cynnal cofrestr risg effeithiol ar gyfer gwaith yr Is-adran ac amserlen fonitro ar gyfer y prosiectau a'r rhaglenni sy'n derbyn cyllid.

Adfywio Canolbarth Cymru

  • Cefnogi'r rhaglen adfywio Trawsnewid Trefi ar draws y Canolbarth gan gynnwys taliadau ariannol a gwaith monitro.
  • Cysylltu’n rheolaidd ag awdurdodau lleol y Canolbarth (Ceredigion a Phowys) ar bob agwedd ar ddarparu rhaglenni a materion cysylltiedig.
  • Cefnogi a chyfrannu at Grŵp Gweithredu Canol Trefi Canolbarth Cymru a chyflawni ei Gynllun Gweithredu; a chynrychioli Adfywio Canolbarth Cymru, yn ôl y galw, mewn cyfarfodydd eraill.

Cyffredinol

  • Darparu cymorth busnes gweinidogol/llywodraeth ar draws y meysydd uchod.

Dirprwyo ar ran Pennaeth Adfywio Canolbarth Cymru, Benthyciadau a Gorfodi neu Rheolwr Prosiect Adfywio (Canolbarth Cymru, Gorfodi a Benthyciadau) yn ôl y galw.

Cyfleoedd datblygu

Mae hwn yn benodiad sydd wedi’i ariannu gan raglen ar gyfer swydd hanfodol mewn maes polisi â blaenoriaeth uchel a phroffil uchel sy'n effeithio ar adfywio a thai.

Mae'r swydd yn cyfuno agweddau cenedlaethol (Gorfodi a Benthyciadau) ac agweddau rhanbarthol (Adfywio Canolbarth Cymru) gan roi cipolwg allweddol ar ymyriadau ar lefelau gwahanol. Mae natur drawsbynciol y rôl yn golygu y bydd deiliad y swydd yn dod i gysylltiad ag ystod eang o feysydd polisi a rhanddeiliaid eraill – yn fewnol ac yn allanol.

Dyddiad Cau

05/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen y rhan fwyaf o ddeunydd mewn sefyllfa waith
Rhugl
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Gallu paratoi'r rhan fwyaf o waith ysgrifenedig yn y Gymraeg

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Bydd y Cymwyseddau canlynol yn cael eu hasesu yn ystod y cam cyfweld.

Newid a gwella

  • Dod o hyd i ffyrdd o wella systemau a strwythurau i gyflenwi gan ddefnyddio adnoddau yn fwy effeithlon.

Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth

  • Bod yn barod i rannu adnoddau er mwyn helpu â gwaith sydd â mwy o flaenoriaeth iddo, gan fod yn ymarferol a chefnogi nodau cyffredin y sefydliad.

Sicrhau Gwerth am Arian

  • Argymell camau i sicrhau gwerth am arian ac effeithlonrwydd.

Cyflawni’n Brydlon

  • Monitro eu gwaith eu hunain a gwaith y tîm yn rheolaidd yn unol â cherrig milltir neu dargedau, a gweithredu’n brydlon i gadw gwaith ar y trywydd iawn a chynnal perfformiad.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

Bydd y meini prawf swydd-benodol canlynol yn cael eu hasesu ar y cam sifftio a chyfweld.

Yn eich CV a datganiad personol, rhowch dystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) i ddangos sut rydych yn bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i'r Swydd ar gyfer y rôl hon.

  • Y gallu i sefydlu a chynnal perthnasoedd effeithiol gydag ystod o randdeiliaid i gefnogi'r gwaith o gyflawni canlyniadau busnes.
  • Gallu dadansoddi a gwerthuso data a gwybodaeth er mwyn gwneud penderfyniadau ac argymhellion a ystyriwyd yn ofalus a’r gallu i gyfleu cymhlethdodau cysylltiedig yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
  • Profiad o ddefnyddio sgiliau a thechnegau rheoli prosiectau yn effeithiol i sicrhau canlyniadau, gan gynnwys nodi risgiau a chamau lliniaru.

Proses Asesu

Mae 3 cham i’r broses ymgeisio ac asesu:

Cam 1 – Cyflwyno CV a Datganiad Personol

Lanlwythwch eich CV (dim mwy na 2 dudalen) a Datganiad Personol. Rydym yn edrych yn arbennig i chi ddangos sut yr ydych yn bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i'r Swydd. Gallwch ddod o hyd i'r rhain yn yr adran Meini Prawf Penodol i'r Swydd yn yr hysbyseb.

  • Sylwch y byddwn yn asesu eich CV a'ch datganiad personol yn erbyn y meini prawf swydd-benodol a restrir isod. Sicrhewch fod eich datganiad personol yn nodi sut rydych yn bodloni'r Meini Prawf Penodol i'r Swydd. (tua 300 gair ar gyfer pob maen prawf).

Cam 2 – Sifftio ceisiadau

Ar ôl y dyddiad cau, bydd CVs a datganiadau personol pob ymgeisydd yn cael eu hasesu.

Os byddwch yn llwyddiannus ar y cam sifftio, cewch eich gwahodd i gyfweliad rhithwir dros Microsoft Teams. Gofynnir i ymgeiswyr roi cyflwyniad fel rhan o'r broses gyfweld. Byddwn yn rhoi rhybudd o bum diwrnod gwaith o leiaf o'r gofynion.

Cam 3 – Cyfweliad

Bydd eich cyfweliad yn seiliedig ar y Cymwyseddau a'r Meini Prawf Penodol i'r Swydd a amlinellir yn adrannau'r hysbyseb hon.

Ar y cam Cyfweld gofynnir cwestiynau i chi a fydd yn eich galluogi i ddarparu tystiolaeth (gan gynnwys enghreifftiau penodol) o sut yr ydych yn bodloni pob un o'r Meini Prawf Penodol i'r Swydd a’r Cymwyseddau sy'n ofynnol ar gyfer y rôl hon.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Mark Williams

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.