Swydd Wag -- Syrfëwr Eiddo

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
Seilwaith Eiddo
SEO - £41,700 - £49,370
£41,700
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Y Canolbarth, Gogledd Cymru
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae'r swydd hon ar gyfer gweithiwr proffesiynol sy’n aelod cymwysedig / rhannol gymwysedig o RICS, rywun â'r profiad perthnasol o faes eiddo, i gefnogi Portffolio Tir ac Eiddo Seilwaith Eiddo y Gogledd (sy'n cynnwys Canolbarth Cymru), gan sicrhau y manteisir i’r eithaf ar werth a pherfformiad yr asedau eiddo adeiledig wrth gyflawni amcanion ehangach y rhaglen eiddo.

Bydd deiliad y swydd yn rheoli amrediad o ymyriadau sy'n gysylltiedig â seilwaith eiddo, ac yn rhoi cyngor a chymorth yn hyn o beth, er mwyn rheoli, caffael / gwerthu  a datblygu tir ac eiddo.  Mae hyn yn cynnwys ymyriadau a gynhelir yn uniongyrchol ac ar y cyd â phartneriaid eraill yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, gan sicrhau bod gwerth a pherfformiad asedau eiddo Llywodraeth Cymru a meddianwyr/defnyddwyr yn cael eu diogelu, a bod amcanion polisi ehangach yn cael eu cyflawni mewn modd diogel ac yn unol â'r gyfraith ar bob adeg.

Prif dasgau

  • Arwain y gwaith o negodi, gweithredu a rheoli amrediad o eiddo a phrosiectau, gan gynnwys gwerthu eiddo, a chynnal negodiadau ynghylch eiddo masnachol yn unol ag amcanion yr adran, trefniadau llywodraethu a deddfwriaeth Landlord a Thenant.
  • Trafod a datrys problemau cyfreithiol, ariannol a phroblemau sy'n gysylltiedig â chymorth gwladwriaethol sy'n effeithio ar brosiectau.
  • Hybu a chefnogi cydweithio mewn gweithgareddau tir ac eiddo ar draws y Llywodraeth ac ystad ehangach y sector cyhoeddus. Cefnogi'r sector cyhoeddus ehangach gan ddarparu  gwybodaeth ac arbenigedd proffesiynol.
  • Cynrychioli'r adran ar gyrff cysylltu mewnol ac allanol, gweithio mewn grwpiau a phartneriaethau, dirprwyo ar gyfer yr Uwch-reolwr Eiddo pan fydd angen a darparu mewnbwn arbenigol ar eiddo timau prosiect amlddisgyblaethol, gan arwain achosion.
  • Rheoli dau syrfewyr cynorthwyol yn uniongyrchol, rheoli llwythi achosion a darparu cymorth proffesiynol a mentora ar gyfer aelodau o'r tîm eiddo. Cynnal adolygiadau perfformiad, arfarniadau a chyfarfodydd un-i-un yn ôl yr angen.
  • Cynnig cymorth gweithredol i'r Rheolwr Contractau Rheoli Cyfleusterau er mwyn rheoli Vinci i sicrhau bod gwasanaethau o'r radd flaenaf yn cael eu darparu'n gyson, defnyddio dangosyddion perfformiad allweddol i sicrhau bod yr holl beryglon ffisegol yn y portffolio'n cael eu nodi a'u rheoli mewn modd boddhaol, a bod y portffolio'n cydymffurfio â Rheoliadau Iechyd a Diogelwch ar bob adeg.
  • Caffael a rheoli ymgynghorwyr technegol ac ymgynghorwyr eiddo eraill pan fydd angen.
  • Darparu adroddiadau prosiect cywir, wedi'u hysgrifennu'n glir, i'w hystyried a'u cymeradwyo gan Dîm Arwain yr Adran Eiddo.
  • Cyfrannu at y gwaith o lunio cyllidebau ar gyfer gwariant cyfalaf a refeniw a rheoli cyllid a chyllidebau prosiectau.
  • Manteisio i'r eithaf ar bob ffynhonnell gyllid, yn benodol cyfrifiadau taliadau gwasanaeth ac adennill cyfleustodau, gan weithredu trefniadau ar gyfer ailgodi tâl yn brydlon.
  • Gwerthuso a monitro perfformiad eiddo, gan ddarparu adroddiadau cynnydd i reolwyr llinell yn rheolaidd, a sicrhau bod unrhyw amrywiadau amcanestynedig neu wirioneddol o ran y gyllideb neu dargedau ariannol, allbynnau neu ganlyniadau'n cael eu nodi a'u hegluro cyn gynted ag y bo modd.
  • Darparu cymorth arbenigol i'r Uwch-reolwr Eiddo ar waith achosion, fel sy'n briodol i radd y swydd.
  • Darparu a chyfrannu at Fusnes y Llywodraeth a cheisiadau am wybodaeth mewn modd amserol, ac yn unol â'r polisïau a'r canllawiau perthnasol.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill sy'n gymesur â'r swydd a'r band cyflog.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i weithio mewn maes proffil uchel yn cyflawni ac yn cefnogi gweithgareddau datblygu economaidd yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru.  Mae'r swyddogaeth rheoli eiddo yn cefnogi amcanion ehangach yr adran a Llywodraeth Cymru.

Mae'r portffolio tir ac eiddo yn amrywiol a bydd yn cynnig i ddeiliad y swydd lwyth gwaith eang ac amrywiol a fydd yn ategu ei ddatblygiad personol a phroffesiynol ym maes arolygu eiddo a rheoli ystadau masnachol. 

Mae'n darparu ymyrraeth a rôl bwysig wrth ddarparu a sicrhau argaeledd eiddo yn y farchnad fasnachol, ac wrth sicrhau bod gofod swyddfa ar gael ar gyfer cwmnïau buddsoddi lleol a chwmnïau buddsoddi nad ydynt yn lleol, boed yn fusnesau sydd eisoes yn bodoli neu fusnesau newydd.   

Dyddiad Cau

26/06/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

  1. Rheoli Gwasanaeth Safonol – Gweithio gyda’r tîm i bennu blaenoriaethau, nodau, amcanion ac amserlenni.
  2. Gwireddu Canlyniadau Masnachol – Gweithio gydag arbenigwyr masnachol i drafod yn effeithiol ac yn ddeallus â phartneriaid cyflawni er mwyn diffinio a/neu wella’r broses o ddarparu gwasanaethau.
  3. Arwain a Chyfathrebu – Cyfathrebu â phob rhanddeiliad mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb, a dal eich tir pan fydd angen.
  4. Cyflawni’n Brydlon – Monitro eich gwaith eich hun a gwaith eich tîm yn rheolaidd yn unol â cherrig milltir neu dargedau, a gweithredu’n brydlon i gadw gwaith ar y trywydd iawn a chynnal perfformiad.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  1. Profiad o arwain negodiadau eiddo cymhleth, ynghyd â'r sgiliau berthnasol, a gwybodaeth ymarferol a digonol am y gyfraith eiddo a chontractau perthnasol, gyda phwyslais penodol ar ddeddfwriaeth Landlord a Thenant.
  2. Gwybodaeth ymarferol drwyadl a manwl am reoli a darparu gwasanaethau rheoli cyfleuster ar gyfer adeilad, ynghyd â dealltwriaeth a phrofiad o'r maes hwn.
  3. Profiad o reoli tîm bach a'r gallu i gynllunio, rheoli, mentora a darparu arweiniad ar gyfer  syrfewyr eiddo eraill, ac i gefnogi amcanion ehangach yr adran.

Proses Asesu

Bydd ceisiadau yn cael eu sifftio ac yna bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Bydd pob cyfweliad yn cael ei gynnal yn rhithwir trwy Microsoft Teams.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Martin Williams - Property.Infrastructure@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.