Swydd Wag -- Uwch Archwilydd Proffesiynol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Y Gwasanaeth Archwilio Mewnol
SEO - £41,700 - £49,370
Bydd y cyflog cychwynnol ar waelod y raddfa, ond mae’n bosibl y bydd cyflog uwch ar gael i ymgeisydd eithriadol. Bydd lwfans ychwanegol hyd at £6,801 y flwyddyn yn daladwy os oes gan ymgeiswyr gymwysterau archwilio/cyfrifyddiaeth proffesiynol perthnasol (IIA/CCAB).
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
'I'w gadarnhau'

Pwrpas y swydd

Mae'r Uwch Archwilydd yn arwain tîm o archwilwyr cymwysedig i gyflawni ein cynlluniau archwilio. Mae’r rhain yn cynnwys ystod o archwiliadau ariannol, archwiliadau seiliedig ar systemau ac archwiliadau gweithredol, a darparu cyngor archwilio i brosiectau a rhaglenni Llywodraeth Cymru.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am gylch archwilio llawn un (neu ragor) o Grwpiau Llywodraeth Cymru – o gynllunio a chwmpasu'r gwaith i gytuno ar yr adroddiadau terfynol gyda'r cleient, a’u cynhyrchu. 

Mae gennym hefyd rhai cleientiaid allanol yn sector cyhoeddus Cymru. Bydd gan yr Uwch Archwilydd ran arweiniol yn y gwaith o ddarparu gwasanaeth archwilio mewnol i’r Swyddog Atebol perthnasol fel rhan o gytundeb lefel gwasanaeth ac mewn modd sy'n parchu cyfrinachedd cleientiaid.

Ym mhob achos, yr Uwch Archwilydd sy’n sicrhau bod aseiniadau unigol yn cael eu cyflawni’n unol â’r amserlen, y gyllideb a’r safonau ansawdd a phroffesiynol y cytunwyd arnynt, ac mae'n allweddol yn y broses o reoli a datblygu staff iau yn ôl yr angen.

Prif dasgau

Rheoli Portffolio

  • Cynorthwyo i ddatblygu cynlluniau archwilio, sy’n seiliedig ar risg, ar gyfer Swyddogion Cyfrifyddu Ychwanegol.
  • Rhoi cymorth gweithredol ar gyfer cyfraniad y maes archwilio i broses Pwyllgorau Archwilio a Sicrhau Risg (ARAC) y Grŵp a Llywodraeth Cymru.
  • Rheoli'r llwyth gwaith penodol a neilltuir iddynt, monitro a sicrhau ansawdd gwaith archwilio a chymhwyso technegau archwilio priodol.
  • Sicrhau bod y gwaith archwilio’n cydymffurfio â safonau archwilio proffesiynol (PSIAS).
  • Build relationships and act as a ‘point of contact’ providing advice to Welsh Government officials and our clients on their systems, operations, activities, projects and programmes to help strengthen governance, risk management and internal control and increase efficiency, effectiveness and economy.
  • Cymryd rhan mewn ymchwiliadau arbennig, o dan gyfarwyddyd y Pennaeth Gwrth-dwyll ac arbenigwyr eraill fel y bo'n briodol.
  • Rhoi sicrwydd archwilio i brosiectau a rhaglenni digidol mawr.
  • Trafod a chydgysylltu ag Archwilio Cymru a swyddogaethau eraill sy’n darparu gwasanaeth archwilio yn Llywodraeth Cymru.

Rheoli Tîm

  • Sicrhau trefniadau gwerthuso perfformiad effeithiol ar gyfer aelodau'r tîm archwilio.
  • Datblygu a hyfforddi’r aelodau’r tîm a sicrhau bod trefniadau ar waith ar gyfer eu datblygiad proffesiynol parhaus a datblygiad eu gyrfa yn Llywodraeth Cymru.

Gwella Busnes

  • Bod â rôl arweiniol a rhagweithiol yn y gwaith o ddatblygu a chyflwyno ein Cynllun Gwella Sicrhau Ansawdd a’n Hasesiad Ansawdd Allanol 5 mlynedd i arloesi a gwella er mwyn cynyddu effaith, effeithlonrwydd, effeithiolrwydd, a gwerth am arian wrth ddarparu'r gwasanaeth archwilio.

Datblygiad Personol

  • Cynnal eich cymhwyster(au) proffesiynol a chadw at ofynion y corff proffesiynol perthnasol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus. Bydd cyfleoedd ichi hefyd ddatblygu a gwella'ch sgiliau a'ch gwybodaeth fel Gwas Sifil ac fel gweithiwr cyflogedig yn Llywodraeth Cymru.

Cyfleoedd datblygu

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael profiad unigryw o weithio mewn Llywodraeth ddatganoledig, sy'n darparu ystod eang o wasanaethau cyhoeddus i bobl Cymru. Bydd eich gwaith yn cyfrannu at ddatblygu a darparu polisïau a gwasanaethau hanfodol yn ddiogel ac mewn ffyrdd sy'n amddiffyn buddiannau'r trethdalwr, gan gynnwys pan fo angen i Lywodraeth Cymru ymateb i ddigwyddiadau'r byd yn gyflym. Rydym hefyd yn darparu gwasanaeth archwilio i dri chorff cyhoeddus yng Nghymru.

Gyda'i gilydd, bydd hyn yn rhoi profiad gwerthfawr ichi o sut mae llywodraethiant, rheoli risg a rheolaethau yn gweithredu mewn ystod o amgylchiadau – ac yn rhoi'r offer a'r mewnwelediad ichi allu ychwanegu'r gwerth mwyaf posibl i'ch cleientiaid.

Bydd eich gwaith yn dod â chi i gysylltiad â lefelau uchaf Llywodraeth Cymru a bydd yn datblygu eich sgiliau fel rheolwr perthynas effeithiol.  

Byddwch yn ymuno â thîm archwilio mewnol a gafodd ganmoliaeth uchel yng Ngwobrau IIA y llynedd.  Bydd disgwyl ichi gynnal safonau proffesiynol uchel a byddwn yn cefnogi eich datblygiad proffesiynol parhaus yn ogystal â'ch datblygiad fel aelod o'r Gwasanaeth Sifil. Fel un o weithwyr Llywodraeth Cymru mae cymorth i ddatblygu’ch sgiliau yn y Gymraeg ar gael hefyd.  

Dyddiad Cau

10/04/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Proses Asesu

Rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth ar gyfer pob un o'r 4 ymddygiad a'r meini prawf profiad swydd 1 a 2 (maen prawf dymunol yw rhif 3, felly mae hwn yn ddewisol).

Bydd dau gam i’r broses sifftio:

  1. Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu yn erbyn meini prawf profiad swydd 1 a 2 (maen prawf dymunol yw rhif 3, felly mae hwn yn ddewisol). Bydd ymgeiswyr sy'n bodloni meini prawf profiad swydd 1 a 2 yn symud ymlaen i ail gam y broses sifftio.
  2. Bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu yn erbyn y 4 ymddygiad.

Bydd ymgeiswyr sy'n llwyddiannus yng nghamau 1 a 2 y sifft yn cael eu gwahodd i gyfweliad. Bydd y cyfweliad yn cynnwys cwestiynau yn seiliedig ar fframwaith Ymddygiadau'r Gwasanaeth Sifil a'r meini prawf profiad swydd.

Dolen i fframwaith: Proffiliau Llwyddiant - Ymddygiadau Gwasanaeth Sifil (publishing.service.gov.uk)

Bydd cyflwyniad 5 munud hefyd. Bydd manylion am bwnc y cyflwyniad yn cael eu rhannu â’r ymgeiswyr cyn y cyfweliad.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen Canllawiau Recriwtio Llywodraeth Cymru cyn cwblhau eich tystiolaeth ysgrifenedig ac wrth baratoi am gyfweliadau.  Mae’n bosibl y bydd ymgeiswyr yn gweld y dull STAR yn ddefnyddiol wrth roi tystiolaeth ar gyfer eu hymddygiadau.  

Dolen i'r Canllawiau Recriwtio ar gyfer Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Grant Vernon - grant.vernon@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.