Swydd Wag -- Lleoli Myfyrwyr Israddedig Ystadegau x 4

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Llywodraeth Cymru
Proffesiwn Ystadegau
Cymorth Tîm - £22,150 - £25,620
£21,300
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Tymor penodol
12 Mis
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae'r hysbyseb hon am leoliadau myfyrwyr israddedig ystadegau blwyddyn o hyd, i ddechrau yn haf 2023. Mae pedair swydd ar gael. Nodwch mai cynllun yw hwn ar gyfer israddedigion ar eu blwyddyn rhyng-gwrs mewn prifysgol neu fyfyrwyr sydd wedi penderfynu cymryd blwyddyn i ffwrdd ar ôl eu hail flwyddyn mewn prifysgol. Nid yw'r swyddi hyn ar agor i raddedigion.

Rôl ystadegwyr Llywodraeth Cymru yw cefnogi gwneud penderfyniadau, dyrannu adnoddau, ymchwilio a thrafod o fewn y llywodraeth a'r gymuned ehangach drwy ddarparu gwasanaethau ystadegol dibynadwy ac effeithlon. Ymdrinnir ag ystod eang o bynciau gan ystadegwyr Llywodraeth Cymru gan gynnwys addysg, iechyd, tai, tlodi, cyfiawnder cymdeithasol, diwydiant, yr economi, llywodraeth leol, trafnidiaeth, yr amgylchedd, amaethyddiaeth, demograffeg a'r iaith Gymraeg. Mae'r rhan fwyaf o'n hystadegwyr yn gweithio gyda'i gilydd mewn canolbwynt canolog o ddadansoddwyr a elwir yn Is-adran Gwasanaethau Ystadegol; fodd bynnag mae nifer fechan o dimau ystadegol wedi eu gosod o fewn adrannau polisi Llywodraeth Cymru hefyd.

Diben cyffredinol rôl ein myfyrwyr ystadegau yw darparu cymorth ar gyfer Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag anghenion a phrosiectau ystadegol.

Rydym yn eich annog i bori trwy ein gwefan er mwyn deall y gwaith yr ydym yn ei wneud a'r mathau o gyhoeddiadau ystadegol y gall ymgeiswyr llwyddiannus fod yn rhan o'u cynhyrchu.

https://llyw.cymru/ystadegau-ac-ymchwil  

Prif dasgau

Diffinnir y tasgau allweddol gan y prosiectau penodol y bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus eu cyflawni. Bydd enghreifftiau yn cynnwys y canlynol:

  • Paratoi adroddiadau ystadegol, gan nodi’r negeseuon allweddol, canfod tueddiadau ac ysgrifennu sylwebaeth ystyrlon sy’n dweud y stori gyda data.
  • Datblygu tablau ystadegol a delweddu data i helpu i ddangos negeseuon yn y data.
  • Ateb ceisiadau am ddata a dadansoddiad o amrywiaeth o ffynonellau mewnol ac allanol.
  • Rheoli a thrin data, gan gynnwys storio data yn effeithlon ac awtomeiddio prosesau ystadegol.
  • Dilysu data a sicrhau ansawdd yr allbynnau ystadegol.

Cyfleoedd datblygu

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ennill amrywiaeth eang o brofiad o waith ystadegol, gan ddysgu am yr amgylchedd lle mae data yn cael eu rheoli ac ystadegau yn cael eu cynhyrchu. Bydd deiliad y swydd yn gweithio'n agos gyda, ac yn cael eu mentora gan staff ystadegol profiadol ac yn cael mynediad i hyfforddiant penodol ac yn y gwaith, er enghraifft, mewn perthynas â sgiliau TG fel MS-Excel, SQL ac SAS.

Dyddiad Cau

06/12/22 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Ymddygiadau cymhwysedd sydd eu hangen ar gyfer y rôl

Cyfathrebu a dylanwadu

  • Cyfathrebu'n glir ac yn gryno ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Sgiliau sy’n benodol i’r swydd

  • Y gallu i ddatblygu a defnyddio gwybodaeth am ddadansoddi a sicrhau ansawdd y data a chynhyrchu allbynnau ystadegol.

Cydweithio

  • Cyfrannu'n rhagweithiol at waith y tîm cyfan a bod yn agored bob amser i ymgymryd â rolau newydd a gwahanol.

Sgiliau sy’n benodol i’r swydd

  • Gwybodaeth weithredol dda am o leiaf un pecyn ystadegol neu iaith raglennu (fel. MS-Excel, SAS, SPSS, R, VBA, Python, SQL).

Cyflawni’n Brydlon

  • Gweithio gyda ffocws ac yn gyflym bob amser i gyflawni’r dasg yn brydlon ac i safon uchel.

Sgiliau sy’n benodol i’r swydd

  • Myfyriwr/myfyrwraig prifysgol israddedig yn astudio ar gyfer gradd mewn disgyblaeth rifog (megis ystadegau, mathemateg, economeg, seicoleg neu ddaearyddiaeth) lle mae’r radd yn cynnwys elfen ystadegol. 

Datblygu eich Hunan ac Eraill

  • Canfod bylchau yn eich sgiliau a’ch gwybodaeth a chynllunio sut i ddatblygu’r rhain.

Meini prawf penodol i'r swydd

  • Y gallu i ddatblygu a defnyddio gwybodaeth am ddadansoddi a sicrhau ansawdd y data a chynhyrchu allbynnau ystadegol.
Gwybodaeth weithredol dda am o leiaf un pecyn ystadegol neu iaith raglennu (fel. MS-Excel, SAS, SPSS, R, VBA, Python, SQL).
Myfyriwr/myfyrwraig prifysgol israddedig yn astudio ar gyfer gradd mewn disgyblaeth rifog (megis ystadegau, mathemateg, economeg, seicoleg neu ddaearyddiaeth) lle mae’r radd yn cynnwys elfen ystadegol.

Proses Asesu

Meini prawf cymhwysedd

NODER BOD Y CYNLLUN HWN YN AGORED I FYFYRWYR ISRADDEDIG YN EU BLWYDDYN RHYNG-GWRS MEWN PRIFYSGOL, NEU I FYFYRWYR SYDD, AR ÔL EU HAIL FLWYDDYN MEWN PRIFYSGOL, WEDI DEWIS CYMRYD BLWYDDYN ALLAN.

NI DDYLAI GRADDEDIGION GYFLWYNO CAIS

Ffurflen gais

Cliciwch yma i wneud cais ar-lein à  Gwefan recriwtio Llywodraeth Cymru

Yn eich cais, rhowch dystiolaeth yn erbyn pob un o'r pedwar ymddygiad gwasanaeth sifil a’r tair maen prawf penodol i'r swydd a nodir yn yr hysbyseb hon (hyd at uchafswm o 300 o eiriau ar gyfer pob ymddygiad / maen prawf):

  • Cyfathrebu a dylanwadu
  • Cydweithio
  • Cyflawni’n Brydlon
  • Datblygu eich hunan ac eraill
  • Sgiliau sy’n benodol i’r swydd 1
  • Sgiliau sy’n benodol i’r swydd 2
  • Sgiliau sy’n benodol i’r swydd 3

Fel canllaw, rydym yn argymell eich bod yn anelu i ysgrifennu 250 i 300 o eiriau ar gyfer pob un. Gallai defnyddio’r ‘dechneg STAR’ eich cynorthwyo i strwythuro eich tystiolaeth. Ar gyfer Sgiliau sy’n benodol i’r swydd 3 dylech nodi enw eich rhaglen gradd a rhestru’r elfennau ystadegol rydych wedi eu hastudio. 

Er mwyn lleihau tuedd o fewn y broses ymgeisio, byddwn yn sifftio tystiolaeth ymgeiswyr heb fanylion adnabod, felly peidiwch â chynnwys unrhyw wybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych chi o fewn eich tystiolaeth. Mae hyn yn cynnwys eich enw ac enw'r sefydliad lle rydych yn astudio.

Prawf dewis lluosog a sifftio

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr sefyll prawf rhifedd ac ystadegau ar-lein ar 7/12/2022. Bydd ymgeiswyr yn derbyn copi o'r prawf dewis lluosog trwy e-bost am 2pm ar 7/12/2022 a bydd ganddynt tan 3pm (yr un diwrnod) i ddychwelyd eu hatebion i Rebecca.Gillard@llyw.cymru. Ni ddisgwylir y bydd angen i ymgeiswyr adolygu ar gyfer y prawf rhifedd.

Bydd ceisiadau'r rhai sy'n llwyddo i basio'r prawf dewis lluosog, yna'n cael eu hystyried gan y panel recriwtio.

Anogir ymgeiswyr sydd angen addasiadau recriwtio (e.e. amser ychwanegol yn y prawf) i gysylltu â'r tîm recriwtio cyn gynted â phosib yn ystod y broses ymgeisio. 

Cyfweliad

Bydd y rhai sy’n llwyddiannus ar ôl y sifft yn cael eu gwahodd i gyfweliad ar-lein. Bydd y cyfweliad ar-lein yn cael ei gynnal dros Microsoft Teams. Cyn eich cyfweliad, byddwch yn cael tablau o ddata i'w dadansoddi. Gofynnir i chi roi cyflwyniad pum munud ar y data ar ddechrau eich cyfweliad. Yna bydd y cyfweliad yn parhau gyda chymysgedd o gwestiynau technegol, sefyllfaol (beth fyddech chi'n ei wneud os...?) ac ymddygiad yn y gorffennol (allwch chi roi enghraifft i mi o amser pan...?), yn ymdrin â’r ymddygiadau a’r meini prawf penodol i’r swydd a restrir yn yr hysbyseb hon.

Diben y lleoliad gwaith hwn i fyfyrwyr israddedig yw rhoi cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus ddatblygu ei sgiliau ym maes ystadegau llywodraeth. Fel y cyfryw, mae un o ymddygiadau gofynnol y lleoliad gwaith hwn wedi’i ddewis o lefel 2 Ymddygiadau Proffiliau Llwyddiant y Gwasanaeth Sifil (Cyfathrebu a Dylanwadu). Dyma’r lefel sy’n rhoi’r cyfle i’r ymgeisydd llwyddiannus fagu profiad priodol i gefnogi ei gymwysterau academaidd. Bydd cymorth digonol yn cael ei roi i’r ymgeisydd llwyddiannus drwy gydol y lleoliad gwaith i’w alluogi i ddysgu’r sgiliau a’r ymddygiadau angenrheidiol i weithredu ar y lefel uwch hon yn y dyfodol.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Er mwyn helpu i esbonio'r broses ymgeisio ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am ein lleoliadau gwaith, byddwn yn cynnal dau weminar MS Teams ar y dyddiadau canlynol:

  • 12:00-12:45 ddydd Iau 24 Tachwedd
  • 12:00-12:45 ddydd Mawrth 29 Tachwedd

Ymunwch ar eich cyfrifiadur neu ap symudol: Cliciwch yma i ymuno yn y cyfarfod

Dyddiad cau: 6 Rhagfyr 2022, 16:00

Pwynt Cyswllt: E-bostiwch unrhyw gwestiynau sydd gennych am y lleoliad hwn i GyrfaoeddYstadegau@llyw.cymru 

Rebecca Gillard - statscareers1@gov.wales - +443000258124

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.