Swydd Wag -- Pennaeth y Gangen Partneriaeth ac Integreiddio

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Partneriaethau ac Integreiddio
Gradd 6 - £67,100 - £76,990
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae'r swydd hon yn ganolog i ddarparu Cymru Iachach – Ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol sy'n gosod integreiddio gwasanaethau fel rhywbeth allweddol i gyflawni gwell canlyniadau llesiant i bobl. Mae'n swydd uwch yn y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio lle bydd deiliad y swydd yn gweithio'n uniongyrchol gyda Gweinidogion ac yn aml gyda rhanddeiliaid allanol ar lefel uwch.

Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu polisïau’n ymwneud â’r canlynol:

  • integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol a darparu gwasanaethau cymdeithasol;
  • ymarfer comisiynu iechyd a gofal integredig gan gynnwys goruchwylio'r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol;
  • gweithredu Rhan 9 a Rhan 2 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
  • rheoli rhaglen y Gronfa Gofal Integredig;
  • gweithredu adrannau perthnasol o'r Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol.

Bydd deiliad y swydd yn arwain ac yn ymgysylltu gydag ystod eang o drefniadau arweinyddiaeth cenedlaethol a rhanbarthol. Bydd yn meithrin ac yn rheoli perthnasoedd effeithiol â sefydliadau arweiniol allweddol e.e. Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, y Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau, Bwrdd Arwain WCCIS, a CGGC.

Felly, bydd y swydd yn cynnwys:

  • darparu cyngor gweinidogol;
  • cysylltu â rhanddeiliaid mewnol, traws-lywodraethol yn ogystal â rhanddeiliaid a phartneriaid allanol, a dylanwadu arnynt;
  • cynrychioli Llywodraeth Cymru;
  • rheoli rhaglenni grant perthnasol;
  • coladu a dadansoddi tystiolaeth a monitro a gwerthuso'r ddarpariaeth.

 

Prif dasgau

Arweinyddiaeth y rhaglen

  • Rheoli rhaglen y Gronfa Gofal Integredig gan sicrhau gwerth am arian, effaith amlwg ac ymateb i argymhellion archwilio.

Arweinyddiaeth a Rheolaeth

  • Darparu arweiniad traws-lywodraethol ar integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol a chomisiynu gwasanaethau, gan gynnwys darparu cyfeiriad polisi i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol a phartneriaid;
  • Rhoi arweiniad i'r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol fel aelod o'r grŵp Gweithredol;
  • Darparu arweiniad a rheolaeth i'r gangen, datblygu cynlluniau gweithredol a rheoli perfformiad perthnasol a monitro a chymryd cyfrifoldeb am gyflawni amcanion y cytunwyd arnynt.

Arwain prosiectau

  • Arwain wrth ddatblygu a gweithredu deddfwriaeth e.e. codau ymarfer, a chanllawiau statudol;
  • Rheoli prosiectau ar gyfer datblygu a gweithredu gwaith strategaeth perthnasol, gan gynnwys cydweithio â Chyfarwyddiaethau eraill, rheoli risg a strategaethau cyfathrebu.

Polisi

  • Swyddogaeth arweiniol o ran datblygu polisïau mewn perthynas ag integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol a gweithio’n rhanbarthol, datblygu'r farchnad ac ailgydbwyso, datblygu'r sector gwerth cymdeithasol, comisiynu iechyd a gofal integredig.
  • Sicrhau cyngor a briff o safon uchel i Weinidogion - casglu, dadansoddi a chyflwyno gwybodaeth berthnasol mewn ffordd sy'n cefnogi penderfyniadau.
  • Sicrhau dealltwriaeth gyfredol o'r materion strategol allweddol sy'n wynebu’r maes iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru drwy gysylltu a rhwydweithio â rhanddeiliaid.

Ymgynghorol, Ymgynghoriaeth ac ymchwil

  • Cychwyn a chyfarwyddo defnydd effeithiol o ymchwil a gwerthusiad wrth ddatblygu polisïau pan fo angen;
  • Cynllunio a chyflawni perthnasoedd cryf â rhanddeiliaid (mewnol ac allanol) gan wneud defnydd creadigol o opsiynau cyfathrebu a gweithio ar draws ffiniau traddodiadol a thu hwnt iddynt.

Gweinyddu Rheoliadau

  • Rhoi arweiniad, craffu a herio'r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar gyflawni:

-       rhan 9 o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant gan gynnwys cronfeydd ar y cyd, comisiynu ar y cyd ac ymgysylltu â rhanddeiliaid;

-       rhan 2 o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant sy’n gweithredu mewn perthynas ag Asesiadau a Chynllunio Anghenion y Boblogaeth;

-       Adrannau 53 – 60 o RISCA i sicrhau bod adroddiadau sefydlogrwydd y farchnad yn cael eu sefydlu.

Cyllid

  • Rheoli'r Gronfa Gofal Integredig gwerth £89m ac unrhyw arian cysylltiedig ychwanegol drwy’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol;
  • Sicrhau bod rheolaethau rheoli cyllidebau a phrosesau adrodd priodol ar waith ar gyfer cyllidebau canghennau.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd yn un proffil uchel ac mae'n cynnig cyfle i ddatblygu ystod eang o gydberthnasoedd gwaith mewnol ac allanol ar draws y gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Mae cyswllt sylweddol â Gweinidogion, uwch staff Llywodraeth Cymru a phartneriaid allanol.

Mae'r swydd hon yn ganolog i ddarparu Cymru Iachach – ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol a bydd deiliad y swydd yn cael cyfle sylweddol i ddylanwadu'n uniongyrchol ar integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol a'i lywio. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cael cyfle i ddatblygu ei sgiliau ymhellach ym meysydd rheoli rhaglenni a phrosiectau a chael trosolwg da o bolisi a darpariaeth Llywodraeth Cymru mewn maes sydd o bwys sylweddol.

Dyddiad Cau

01/02/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda chymorth e.e. geiriadur
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

Gweld y Darlun Cyflawn

  • Nodi beth yw goblygiadau blaenoriaethau a strategaethau gwleidyddol a sefydliadol i’w maes eu hunain er mwyn sicrhau bod cynlluniau a gweithgareddau’n adlewyrchu’r blaenoriaethau a’r strategaethau hynny.

Gweithio ar y Cyd ac mewn Partneriaeth

  • Mynd ati i feithrin a chynnal rhwydwaith o gydweithwyr a chysylltiadau, er mwyn bwrw ati ag amcanion a buddiannau sy’n gyffredin rhyngddynt.

Arwain a chyfathrebu

  • Egluro strategaethau a chynlluniau, gan gyfleu diben a chyfeiriad mewn modd clir a brwdfrydig.

Cyflawni’n brydlon

  • Cael y gorau o bobl drwy roi negeseuon brwdfrydig a chalonogol am flaenoriaethau, amcanion a disgwyliadau.


Meini Prawf Penodol i’r Swydd:

  1. Gwybodaeth gyfredol am y sector gofal cymdeithasol a deddfwriaeth a pholisi sy'n berthnasol i iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gyda'r gallu profedig i drosi hyn yn gyngor polisi grymus i uwch arweinwyr.
  2. Profiad sylweddol o ddarparu arweinyddiaeth a datblygu a gweithredu polisi o fewn amgylchedd partneriaeth amlasiantaethol.
  3. Hanes o reoli rhaglenni'n llwyddiannus, gan gynnwys sicrhau safonau llywodraethu uchel a phrosesau rheoli cyllideb priodol.

Proses Asesu

Bydd ceisiadau’n cael eu sifftio, ac yna bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu gwahodd i gyfweliad lle gofynnir iddynt roi cyflwyniad ac ateb unrhyw gwestiynau. Yna estynnir gwahoddiad i ymgeiswyr ateb cyfres o gwestiynau yn ymwneud â’r cymwyseddau sy’n ofynnol ar gyfer y swydd a’r tasgau penodol i’r swydd.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Matt Jenkins matt.jenkins@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.