Swydd Wag -- Swyddog Deddfwriaeth y Gangen Orchmynion

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Y Gangen Orchmynion
EO - £26,900 - £30,610
£26,900
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Arall
Cyfnod Penodol/Secondiad 2 flynedd
Cyfnod Penodol/Secondiad 2 flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I’w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae'r Gangen Orchmynion yn dîm arbenigol sy'n gyfrifol am gynhyrchu a chadarnhau gorchmynion ar gyfer gwella a chynnal y rhwydwaith cefnffyrdd a thraffyrdd yng Nghymru, sicrhau cynlluniau ffyrdd awdurdodau lleol ac atal priffyrdd er mwyn gallu gwneud datblygiad lleol. Mae gwaith y Gangen Orchmynion yn arbenigol iawn sy'n cynnwys drafftio led-gyfreithiol o orchmynion statudol a sicrhau cydymffurfiaeth â gweithdrefnau statudol. Mae'r gangen yn rhan o dîm cyflenwi ehangach sy'n gyfrifol am ddatblygu a chynnal a chadw cefnffyrdd ledled Cymru. Y rôl hon yw sicrhau y cedwir at y gweithdrefnau a'r polisïau statudol a'u bod yn cael eu defnyddio'n gyson ac yn deg. Mae'r swydd yn gofyn am gysylltiad agos ag awdurdodau lleol, ymgynghorwyr, cydweithwyr peirianneg, cyfreithwyr, asiantau ac aelodau o'r cyhoedd. Bydd cyfrifoldeb rheoli llinell am un Cymorth Tîm.

Prif dasgau

  • Paratoi a gwirio gorchmynion drafft a threfnu cynlluniau / mapiau, a chysylltu ag ymgynghorwyr y cynllun, awdurdodau lleol, gwasanaethau cyfreithiol, datblygwyr ac aelodau'r cyhoedd sy'n ymwneud â:

i. Paratoi a gwneud Gorchmynion Llinell, Ffyrdd Ymyl a Phrynu Gorfodol o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 a Deddf Caffael Tir 1981;

ii. Rheoleiddio traffig cefnffyrdd yn barhaol a dros dro o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984;

iii. Cau priffyrdd o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 gan alluogi datblygiad preifat ac awdurdodau lleol i fwrw ymlaen.

  • Paratoi a chydlynu ymatebion i wrthwynebiadau a dderbyniwyd i orchmynion drafft.
  • Trefnu dosbarthiad dogfennau sy'n arwain at ymchwiliadau cyhoeddus ac arddangosfeydd gwybodaeth i'r cyhoedd.
  • Prosesu a gwneud argymhellion ar hysbysiadau malltod statudol, ceisiadau prynu dewisol a phryniadau ffafriol mewn perthynas â thir ac eiddo.
  • Goruchwylio a darparu cyngor ynghylch y broses benderfynu ar gyfer gorchmynion awdurdodau priffyrdd lleol a gyflwynir i'w cadarnhau.
  • Ceisiadau ymestyn prosesau i orchmynion rheoleiddio traffig dros dro awdurdodau lleol a chydsyniadau ar gyfer digwyddiadau arbennig.
  • Rhoi cyngor a drafftio ymatebion mewn cysylltiad â gohebiaeth gweinidogol a gohebiaeth arall.
  • Mynychu cyfarfodydd, arddangosfeydd cynllun ac ymchwiliadau cyhoeddus gyda rheolwr llinell a thîm prosiect pan fo angen.
  • Monitro a chysoni gwariant ariannol y gangen.
  • Cynorthwyo’r Arweinydd Tîm i fonitro a dosbarthu gwaith a dderbyniwyd drwy flwch post y gangen yn ôl yr angen, gan sicrhau bod y daflen waith ddyrannu yn cael ei chadw'n gyfredol.
  • Cyfrifoldeb rheoli llinell am un aelod o staff Cymorth Tîm.

Cyfleoedd datblygu

Oherwydd yr amrywiaeth o waith a wneir gan y rôl hon, bydd cyfle gan ddeiliad y swydd i ddatblygu sgiliau mewn sawl maes gwahanol. Yn bennaf, bydd yn datblygu gwybodaeth helaeth am y ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â chynhyrchu gwahanol fathau o orchmynion o dan Ddeddf Priffyrdd 1980, Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 a Deddf Caffael Tir 1981. Mae gan y rôl ddyletswyddau ariannol a fydd yn rhoi profiad i ddeiliad y swydd o ran monitro a rhagweld ariannol. Mae'r rôl hefyd yn cyfrannu'n sylweddol at brosiectau ffyrdd newydd a chynnal a chadw cefnffyrdd presennol lle bydd cyfle i ddeiliad y swydd ddatblygu sgiliau rheoli prosiectau.

Bydd deiliad y swydd yn datblygu profiad helaeth ym maes gweithredu cynlluniau ffyrdd mawr a bydd yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gynnal a chadw'r rhwydwaith cefnffyrdd a thraffordd bresennol ledled Cymru. Bydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldebau rheoli llinell, gyda chefnogaeth ei arweinydd tîm, a fydd yn datblygu eu sgiliau rheoli.

Bydd cyfle i ddeiliad y swydd weithio gyda chydweithwyr ar draws y portffolio.

Trafnidiaeth a phortffolio ehangach Newid Hinsawdd a Materion Gwledig er mwyn cyflawni'r blaenoriaethau o fewn y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol.

Dyddiad Cau

20/03/23 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau

Newid a Gwella

  • Deall technoleg a’i defnyddio i wireddu canlyniadau effeithlon ac effeithiol i’r busnes ac iddyn nhw’n bersonol.

Gwneud Penderfyniadau Effeithiol

  • Pwyso a mesur gwybodaeth gymhleth a chael rhagor o wybodaeth er mwyn gwneud y penderfyniadau cywir.

Arwain a Chyfathrebu

  • Bod yn hyderus wrth gynnal trafodaethau neu gyfweliadau anodd.

Rheoli Gwasanaeth Safonol

  • Annog ymlyniad wrth bolisïau, gweithdrefnau, rheoliadau a deddfwriaeth berthnasol, gan gynnwys diogelwch, cydraddoldeb ac amrywiaeth ac iechyd a diogelwch.

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  • Y gallu i allu gweithio i ddeddfwriaeth amrywiol a bod yn gyfforddus yn croeswirio mapiau a chynlluniau yn erbyn disgrifiadau gorchmynion.
  • Dawn/gallu i reoli elfen gyllid y rôl hon gan gynnwys cysoni cyfrifon neu ragweld cyllideb.
  • Gallu cyfathrebu'n gydymdeimladol ond yn hyderus pan fo'n ofynnol gydag eraill gan gynnwys y cyhoedd, awdurdodau lleol, ymgynghorwyr, asiantau a Chyfreithwyr.

Proses Asesu

Bydd angen gwneud cyflwyniad yn y cyfweliad.  Rhoddir pwnc y cyflwyniad pan anfonir y gwahoddiadau i gyfweliad.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Mae nifer fawr o'r tîm wedi'u lleoli ym Mharc Cathays, bydd angen teithio’n achlysurol i swyddfa Caerdydd, yn unol â'r angen busnes.


Hyderus o ran Anabledd

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y diffiniad cymdeithasol o anabledd, sy'n cydnabod bod rhwystrau mewn cymdeithas yn gallu analluogi pobl sydd â nam neu gyflwr iechyd, neu sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain. Rydym wedi ymrwymo i ddileu rhwystrau fel y gall pob aelod o staff (neu aelodau staff newydd posibl) berfformio ar eu gorau.

Rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw berson anabl sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol ar gyfer y swydd. Wrth 'feini prawf gofynnol' rydym yn golygu bod yn rhaid i chi roi tystiolaeth i ni, ar bob cam o'r broses asesu cyn cyfweliad, sy'n dangos eich bod yn gyffredinol yn bodloni'r gofynion disgrifiad swydd. Rydym wedi ymrwymo i gyflogi pobl anabl a datblygu eu gyrfa.

Os oes gennych nam neu gyflwr iechyd, os ydych yn niwrowahanol neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, ac yn dymuno trafod addasiadau rhesymol ar gyfer unrhyw ran o'r broses recriwtio hon, neu drafod sut y byddem yn eich cefnogi pe baech yn llwyddiannus, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru  cyn gynted â phosibl, a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ac i ateb eich cwestiynau.


Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau sy'n croesawu amrywiaeth ac sy'n hyrwyddo cyfle cyfartal. Ategir hyn gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a rhaid dilyn hon ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn yn cael eu hymgorffori yn ein harferion gwaith o ddydd i ddydd gyda'n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym yn ymrwymedig i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru drwy gael gwared ar rwystrau a chefnogi ein holl staff i gyrraedd eu potensial. Rydym wedi ymrwymo i recriwtio menywod, pobl o gymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd yn yr Uwch Wasanaeth Sifil.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb beth bynnag fo'u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (o'r un rhyw a rhyw gwahanol), nam neu gyflwr iechyd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth rywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall ac yn sefydliad Hyderus o ran Anabledd ar Lefel 3 (Arweinydd). Mae pum Rhwydwaith Staff sy'n cael eu noddi gan y Bwrdd yn allweddol er mwyn cefnogi'r gwaith hwn ac er mwyn rhoi cefnogaeth gan gymheiriaid, sef Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith y Staff Ethnig Lleiafrifol (MESN); Materion y Meddwl (iechyd meddwl a llesiant); PRISM (Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol, Drawsryweddol, Ryngrywiol +) a Menywod Ynghyd.


Lle Gwych i Weithio i Gyn-filwyr

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r cynllun Gwneud y Gwasanaeth Sifil yn Weithle Gwych  i Gyn-Aelodau'r Lluoedd Arfog.


Manteision gweithio yn Llywodraeth Cymru

Lle alla i weithio?

Ar gyfer llawer o rolau, rydym yn gweithredu dull hybrid o weithio - a elwir yn 'Gweithio’n Glyfar'; mae hyn yn cynnwys cyfuniad o waith cartref a swyddfa.  Efallai y cewch gyfle i weithio o adref yn dibynnu ar yr anghenion busnes a'r ymrwymiadau ar gyfer eich tîm.  Bydd eich trefniadau gwaith yn cael eu trafod a'u cytuno â'ch rheolwr llinell pan fyddwch yn ymuno.

Byddwn ni'n ystyried ceisiadau i weithio mewn lleoliadau penodol yn seiliedig ar amgylchiadau personol fel cyfrifoldebau gofalu neu nam neu gyflwr iechyd. Dywedwch wrthym eich hoff leoliadau yn eich CV yn y blwch Dewisiadau lleoliad. 

Drwy ymgeisio am y rôl hon, byddwch yn barod i weithio yn un o'r lleoliadau canlynol fel eich swyddfa arferol:

  • Caerdydd, Bedwas, Merthyr Tudful, Abertawe, Aberystwyth, Llandudno, Caerfyrddin

Beth yw’r manteision?

Mae nifer o fanteision gwych i weithio i Lywodraeth Cymru, gan gynnwys:

  • Yr ystod cyflog ar gyfer y radd hon yw £26,900 i £30,610.
  • Bydd unigolion ar delerau ac amodau Llywodraeth Cymru yn cael 31 diwrnod o wyliau yn ogystal â 10 diwrnod o wyliau cyhoeddus a breintiau.  
  • Rydym yn cynnig oriau hyblyg i'ch helpu i gael cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith.  
  • Byddwch hefyd yn gallu ymaelodi â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil

Manteision eraill

  • Gweithio Hyblyg – Rydym yn cefnogi staff i reoli eu cydbwysedd bywyd-gwaith drwy weithio gartref (yn amodol ar angen busnes ac os yn briodol ar gyfer y rôl)
  • Patrymau Gwaith – Mae opsiynau gwahanol ar gael: Llawn amser, Rhan Amser, Rhannu Swyddi, Oriau Cyddwysedig, yn ystod y tymor ysgol etc. (yn amodol ar angen busnes ac os yw'n briodol ar gyfer y rôl)
James Saddler - TransportOrdersBranch@gov.wales

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.