Swydd Wag -- Cyfarwyddwr Clinigol

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru
Gradd 6 - £67,100 - £76,990
Secondiad - Yn dibynnu ar y cyflog cyfredol
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Secondiad
Dwy flynedd
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
Hydref 2019

Pwrpas y swydd

Diben y rôl hon yw darparu arbenigedd clinigol a gwasanaeth proffesiynol uwch i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru er mwyn sicrhau bod ein gwaith yn cadw hygrededd proffesiynol ac yn adlewyrchu arfer gorau. 

Efallai hefyd y gofynnir i ddeiliad y swydd gyflawni rôl Rheolwr Cydberthnasau a/neu roi adborth i sefydliadau a'u herio yn dilyn arolygiadau ac adolygiadau.

Prif dasgau

  • Darparu gwasanaeth clinigol arbenigol ac arweinyddiaeth a chyngor proffesiynol o fewn AGIC.
  • Darparu cyngor a chymorth proffesiynol o ansawdd uchel i'r Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwyr a chyfrannu at benderfyniadau Uwch-dîm Arwain AGIC.
  • Arwain, cyfarwyddo a datblygu Adolygwyr Cymheiriaid Clinigol AGIC a chynnal safon uchel o arolygu ym mhob maes gwaith.
  • Datblygu a chynnal cydberthnasau gwaith mewnol ac allanol effeithiol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol, gan gynnwys rheoleiddwyr gwasanaethau a phroffesiynol eraill a'r llywodraeth.
  • Sicrhau bod gwaith AGIC yn seiliedig ar dystiolaeth ar y cyd â'r Colegau Brenhinol, Datblygu Polisi Cenedlaethol, Safonau a Chanllawiau clinigol a phroffesiynol.
  • Darparu cyngor clinigol a phroffesiynol i staff AGIC wrth gynnal a chadw a datblygu methodolegau adolygu i sicrhau eu bod yn adlewyrchu materion cyfredol a safonau arfer gorau cydnabyddedig.
  • Dylanwadu drwy rwydweithiau clinigol a phroffesiynol er mwyn helpu i sicrhau bod canfyddiadau arolygiadau AGIC yn cyfrannu at waith gwella cenedlaethol
  • Defnyddio rhwydweithiau proffesiynol i helpu AGIC i gael gafael ar gyngor proffesiynol priodol mewn meysydd lle nad oes gan ddeiliad y swydd brofiad nac arbenigedd personol
  • Cymhwyso gwybodaeth broffesiynol i gefnogi prosesau i hyfforddi, datblygu a chynorthwyo staff AGIC er mwyn datblygu eu sgiliau a'u harbenigedd a datblygu eu gwybodaeth am y gwasanaeth
  • Ymgymryd â rôl sicrhau ansawdd cynhyrchion a phrosesau cyfathrebu AGIC er mwyn sicrhau ansawdd a gwella galluogrwydd sefydliadol.

Cyfleoedd datblygu

Mae'r swydd yn cynnig cyfle i weithiwr proffesiynol clinigol profiadol ennill profiad ehangach wrth gyflawni gwaith arolygu a rheoleiddio. Mae'r swydd hefyd yn cynnig cyfle i ennill profiad ym maes datblygu methodolegau newydd ar gyfer arolygiadau'r GIG a'r sector annibynnol a chyfrannu at wella safonau'r gwasanaeth ledled Cymru.

Dyddiad Cau

16/09/19 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

Clwstwr Strategol – Pennu Cyfeiriad - Gwneud Penderfyniadau Effeithiol  

  • Dehongli beth yw'r prif faterion mewn problemau cymhleth a chadarnhau dealltwriaeth neu ddisgwyliadau rhanddeiliaid, er mwyn chwilio am yr opsiwn gorau.

Clwstwr Pobl – Ymgysylltu â Phobl Arwain a Chyfathrebu  

  • Ymwneud yn hyderus â rhanddeiliaid a chydweithwyr ar bob lefel I ennyn ymrwymiad at gyrraedd nodau

Y Clwstwr Pobl – Ymwneud â Phobl - Cydweithio a Phartneru  

  • Mynd ati i feithrin a chynnal rhwydwaith o gydweithwyr a chysylltiadau, er mwyn bwrw ati ag amcanion a buddiannau sy'n gyffredin rhyngddynt.

Y Clwstwr Perfformiad – Gwireddu Canlyniadau - Rheoli Gwasanaeth Safonol  

  • Gweld sut y mae'r maes busnes yn cymharu â'r disgwyliadau ar gyfer gwasanaethau i gwsmeriaid yn ogystal ag arferion gorau'r diwydiant, a nodi'r gwelliannau sydd eu hangen i gynlluniau.

Meini prawf sy'n benodol i'r swydd:

Cofrestriad cyfredol â chorff proffesiynol sy'n berthnasol i'r swydd a gradd lefel meistr o leiaf mewn pwnc sy'n gysylltiedig ag iechyd. 

O leiaf 15 mlynedd o brofiad o weithio mewn uwch-rolau clinigol a rheoli yn y GIG mewn amrywiaeth o feysydd gwasanaeth megis gofal eilaidd acíwt, gofal trydyddol arbenigol, gofal cymunedol a gofal sylfaenol. Yn ddelfrydol, bydd y profiad hwn wedi meithrin y canlynol:

  • Dealltwriaeth dda o arolygu, ymchwilio, archwilio a gwella, adolygiadau a rheoleiddio proffesiynol mewn lleoliadau gofal iechyd.
  • Profiad o ymchwilio a rheoleiddio annibynnol, gyda dealltwriaeth dda o fframweithiau cyfreithiol a rheoliadol.

Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig a'r gallu i gyfathrebu'n glir ac effeithiol â staff proffesiynol a'r cyhoedd. Dylai hyn gynnwys y gallu i ddadansoddi a dehongli llawer iawn o wybodaeth a chyfathrebu canfyddiadau.







 

Proses Asesu

Ffurfir y cyfweliad o 2 elfen, y cyfweliad ei hun a thasg ysgrifennedig.

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.
Kate Chamberlain 0300 062 8642

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych anabledd sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig ag anabledd, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.