Swydd Wag -- Rheolwr Diwygio Caffael x2

Gweithio i'r Gwasanaeth Sifil

Mae prosesau recriwtio Llywodraeth Cymru wedi’u seilio ar yr egwyddor o ddethol ar gyfer penodiad yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig) yn nodi'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan weision sifil.

Manylion y Swydd

Y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Caffael Masnachol
HEO - £32,460 - £39,690
£31,210
Amser llawn (croesewir ceisiadau gan bobl sydd am weithio'n llawn amser, rhan-amser neu rannu'r swydd)
Parhaol
Cymru gyfan
Mae ‘Cymru gyfan’ yn golygu bod hyblygrwydd o ran ble gall y swydd gael ei lleoli. Mae hyn yn ddibynnol ar anghenion y busnes.   Nodwch, nid yw bob amser yn bosib i ganiatáu cais am leoliad swyddfa penodol, ond fe fyddwn yn ystyried pob cais.
I'w gadarnhau

Pwrpas y swydd

Mae'r tîm Diwygio Caffael yn gweithio ar ddatblygu a chyflawni diwygiadau caffael yn effeithiol yn dilyn ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.

Bydd y Swyddog Polisi Diwygio Caffael yn allweddol o ran cefnogi'r gwaith o ddatblygu deddfwriaeth gaffael, datblygu polisi a’i weithredu.

Bydd deiliad y swydd yn ymgysylltu â rhanddeiliaid a chydweithwyr mewnol ac allanol o fewn y Gyfarwyddiaeth Caffael Masnachol ar faterion sy'n ymwneud â Diwygio Caffael er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd.

Bydd deiliad y swydd, ar y cyd â rhanddeiliaid, yn datblygu canllawiau a gynlluniwyd i gefnogi cyrff cyhoeddus i'w gweithredu.

Prif dasgau

  • Gweithio gydag arweinwyr polisi a sefydliadau partner i gasglu gwybodaeth am feysydd diwygio caffael posibl;
  • Ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws sector cyhoeddus Cymru, cyrff proffesiynol a chyflenwyr i gasglu barn mewn perthynas â diwygio caffael;
  • Cyfathrebu â Llywodraeth y DU a'r Gweinyddiaethau Datganoledig eraill ynghylch cynigion diwygio y gallant fod yn eu dilyn, gan adolygu sefyllfaoedd polisi ar gyfer Awdurdodau Contractio Cymru;  
  • Ymgysylltu â chydweithwyr polisi ar draws Llywodraeth Cymru i sicrhau bod ysgogwyr Polisi Llywodraeth Cymru yn cael eu hystyried a'u cynnwys lle bo angen fel rhan o waith diwygio caffael.
  • Drafftio briffiau cychwynnol a gohebiaeth yn ôl yr angen ar gyfer rhanddeiliaid a Gweinidogion, o fewn yr amserlenni y cytunwyd arnynt.
  • Casglu a gwerthuso gwybodaeth am ganllawiau statudol ar gyfer Diwygio Caffael gyda rhanddeiliaid;
  • Darparu cymorth ymarferol i gyrff cyhoeddus o ran gweithredu Diwygio Caffael.
  • Ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill o’r fath sy'n gymesur â'r swydd.

Cyfleoedd datblygu

Mae proffil uchel y swyddogaeth Caffael Masnachol yn golygu dod i gysylltiad ag uwch swyddogion yn Llywodraeth Cymru.

Dyddiad Cau

21/10/21 16:00

Cymhwystra

Mae swyddi sy’n rhan o'r ymgyrch recriwtio hon yn agored ar y cyfan i wladolion y DU, y rhai sydd â'r hawl i aros a gweithio yn y DU a'r rhai sy'n bodloni Rheolau Cenedligrwydd y Gwasanaeth Sifil yn unig. Gwiriwch eich cymhwystra yma:

Cyn cael ei benodi, bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd llwyddiannus gyflwyno dogfennau gwreiddiol, derbyniol fel rhan o'r gwiriadau cyn cyflogi. Os daw’n amlwg yn nes ymlaen yn y broses nad ydych chi’n gymwys i wneud cais, bydd eich cais neu’r cynnig yn cael ei dynnu’n ôl.

Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau sy’n croesawu amrywiaeth ac sy’n hyrwyddo cyfle cyfartal. Mae hyn yn seiliedig ar Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a bydd yn dilyn hyn ym mhob cam o’r broses recriwtio. Ein nod yw sicrhau bod yr ymrwymiadau hyn hefyd yn cael eu hymwreiddio yn ein harferion gwaith bob dydd gyda’n holl gwsmeriaid, cydweithwyr a phartneriaid.

Rydym wedi ymrwymo i fod yn sefydliad gwrth-hiliol a chynyddu amrywiaeth yn Llywodraeth Cymru, gan ddileu rhwystrau a chefnogi’n holl staff i gyflawni eu potensial. Rydym yn ymroi i recriwtio pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol a phobl anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb waeth beth fo’u hoedran, statws priodasol a phartneriaeth sifil (yn cynnwys yr un rhyw a’r rhyw arall), nam neu gyflwr iechyd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a chyfnod mamolaeth, hil, crefydd neu gred, hunaniaeth o ran rhywedd neu fynegiant rhywedd.

Rydym yn Hyrwyddwr Amrywiaeth Stonewall, yn sefydliad Hyderus o Ran Anabledd Lefel 3 (Arweinydd). Mae pump Rhwydwaith Staff a noddir gan y Bwrdd yn allweddol i gefnogi’r gwaith hwn a darparu cefnogaeth i gymheiriaid (Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAAS); Rhwydwaith Staff o Leiafrifoedd Ethnig (MESN); Materion y Meddwl (Iechyd a lles meddyliol); PRISM (Pobl lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol, Trawsryweddol, Rhyngrywiol +) a Menywod Ynghyd.

 

Hyderus o ran Anabledd

Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog 

Mae’r swydd wag hon yn rhan o’r fenter Gweithle Gwych i Gyn-Aelodau’r Lluoedd Arfog


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydliad dwyieithog, ac mae sgiliau Cymraeg yn gaffaeliad i ni.  Rydym yn annog ac yn cefnogi staff i ddysgu, datblygu a defnyddio’u sgiliau Cymraeg yn y gweithle.

 

Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y rheolwr llinell ar ran Llywodraeth Cymru, o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.

Ddim yn angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau'r gwaith hwn

Partneriaeth Gymdeithasol

O fewn Llywodraeth Cymru, mae'r berthynas rhwng y cyflogwr a'r undebau llafur yn seiliedig ar bartneriaeth gymdeithasol. Rydyn ni'n credu mai’r ffordd orau o gyflawni ein nodau yw drwy sicrhau bod rheolwyr ac undebau llafur yn cydweithio.

Ein 3 undeb llafur cydnabyddedig yw:
•         PCS
•         Prospect
•         FDA

Mae cytundeb partneriaeth yn sail i'r berthynas hon. Mae'r cytundeb yn nodi sut y mae ein hundebau yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar faterion fel:
•         cyflog
•         telerau ac amodau
•         polisïau a gweithdrefnau
•         newid sefydliadol

Mae ein cydweithwyr undebau llafur yn Llywodraeth Cymru yn cydweithio i roi cyfle i'w haelodau gael dweud eu dweud yn y gweithle. Maent yn sicrhau bod buddiannau eu haelodau yn cael eu hyrwyddo a'u diogelu. Maent hefyd yn helpu i leihau anghydraddoldebau a gwella telerau ac amodau.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes blaenorol rhagorol o weithio mewn partneriaeth gyda'i hundebau llafur. Rydyn ni'n annog staff i gymryd rhan. Rydyn ni'n eich cefnogi i ymuno ag undeb llafur cydnabyddedig, i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn y gweithle ac i ddysgu mwy am undebau llafur a gwaith partneriaeth.

Cymwyseddau / Meini prawf penodol i'r swydd

Cymwyseddau:

Gweld y Darlun Cyflawn

  • Meithrin dealltwriaeth o strategaeth eu maes eu hunain a sut y mae’r strategaeth honno yn cyfrannu at flaenoriaethau’r Adran

Arwain a Chyfathrebu

  • Cyfathrebu mewn modd clir a gonest sy’n ennyn diddordeb gyda phob rhanddeiliad a dal eu tir pan fo angen

Cyflawni’n Brydlon

  • Monitro eu gwaith eu hunain a gwaith y tîm yn rheolaidd yn unol â cherrig milltir neu dargedau, a gweithredu’n brydlon i gadw gwaith ar y trywydd iawn a chynnal perfformiad

Gweithio ar y cyd ac mewn Partneriaeth

  • Meithrin cysylltiadau ag amrywiaeth o randdeiliaid i gefnogi’r broses o wireddu canlyniadau busnes

Meini Prawf Penodol i’r Swydd

  1. Cymhwyster caffael – Gweithio tuag at neu wedi sicrhau CIPS lefel 4 o leiaf (Diploma neu gymhwyster cyfatebol) .
  2. Gwybodaeth am nodau polisi sy'n cyfrannu at yr agenda gaffael ac yn ei sbarduno megis Datganiad Polisi Caffael Cymru (WPPS) a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru); Cynhwysiant Cymdeithasol a Chynaliadwyedd Economaidd gan gynnwys Buddion Cymunedol, Cydraddoldeb ac Amrywiaeth;
  3. Tystiolaeth o gymhwyso polisi caffael yn ymarferol yng nghyd-destun y rheoliadau caffael cyhoeddus (Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, Rheoliadau Contractau Consesiwn 2016 a/neu Reoliadau Contractau Cyfleustodau 2016).

Proses Asesu

Dros y broses asesu gyfan, byddwn yn asesu ymgeiswyr ar amrywiaeth o Ymddygiadau o’r Proffiliau Llwyddiant.

Cam Sifftio:

Cyn belled â’i fod yn cyrraedd cyn y dyddiad cau, bydd pob cais yn cael ei sifftio gan gynrychiolwyr y proffesiwn caffael.

Caiff ymgeiswyr nad ydyn nhw eisoes yn astudio Lefel 4 neu wedi ymrwymo i ennill MCIPS yn cael eu gwrthod yn y cam sifftio.

Caiff eich Datganiad Personol ei asesu ar sail yr Ymddygiadau yn adran ‘Cymwyseddau’ yr hysbyseb.  Dylai ymgeiswyr wneud yn siŵr eu bod yn rhoi digon o dystiolaeth yn eu Datganiad Personol i’w profiad allu cael ei asesu yn y cam sifftio ar sail yr ymddygiadau a restrir yn yr adran cymwyseddau.

Ni ddylai’ch Datganiad Personol fod yn hirach na 1500 o eiriau – bydd unrhyw beth dros y 1500 o eiriau yn cael ei ddiystyru.

Bydd y panel yn edrych ar eich CV i weld hanes eich gyrfa, ond ni fydd yn cyfrannu at eich sgôr yn y cam sifftio.  Ni ddylai’ch CV fod yn hirach na 2 ochr o dudalen A4 – mae gennym dempled ar gyfer eich CV os hoffech ei ddefnyddio.

Rydyn ni’n gobeithio cyhoeddi canlyniad y sifft ddechrau wythnos 28 Hydref 2021. Bydd rhai o’ch sgoriau yn y cam sifftio’n cyfrannu at ganlyniad yr asesiad.  Os byddwch yn llwyddiannus yn y cam sifftio, chewch chi ddim gweld sgoriau’r sifft tan ar ôl cwblhau’r broses asesu lawn.

Wrth roi tystiolaeth eich bod yn addas ar gyfer y swydd yn y cam sifftio, rydyn ni’n eich cynghori i ddefnyddio Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen)

Cam Asesu:

Bydd pob ymgeisydd sy’n llwyddiannus yn y cam sifftio yn cael ei wahodd i sesiwn asesu lle bydd gofyn ichi wneud dau ymarferiad;

Dadansoddi

Yn yr ymarferiad dadansoddi, bydd yr ymgeisydd yn cael llwyth o wybodaeth, o amrywiaeth o wahanol ffynonellau, am y pwnc Diwygio Caffael, gan gynnwys graffiau, tablau, papurau Llywodraeth, dogfennau cynghori ac erthyglau papur newydd. Mae’r cynnwys yn gymhleth a rhaid i’r ymgeisydd roi ymateb rhesymegol a chyflwyniad llafar byr i’r panel cyfweld.

Yr ymddygiadau sy’n cael eu hasesu – Cyfathrebu a Dylanwadu, Gweithio ar y Cyd, Gwneud Penderfyniadau Effeithiol, a Chyflawni’n Brydlon a sgiliau masnachol.

Cyfweliad

Bydd y cyfweliad yn eich holi am eich ymddygiadau ac am eich cryfderau. Byddwn yn eich holi hefyd am ymddygiadau sy’n benodol i’r proffesiwn. Bydd y cwestiynau ymddygiad yn gofyn ichi esbonio’n fanwl beth ydych yn gallu ei wneud a bydd y cwestiynau am eich cryfderau am wybod beth rydych chi’n ei fwynhau a’ch cymhellion sy’n berthnasol i ofynion eich gradd. 

Yr ymddygiadau sy’n cael eu hasesu – Arweinyddiaeth, Cyfathrebu a Dylanwadu, Datblygu’ch Hun ac Eraill, Gweithio ar y Cyd a Sgiliau Cyfathrebu.

Nid oes disgwyl na gofyn ichi baratoi ar gyfer y cwestiynau am eich cryfderau cyn y cyfweliad, ond dylech feddwl ychydig beth ydych chi’n mwynhau ei wneud a beth ydych chi’n ei wneud yn dda.

Dyma’r cryfderau o’r Geiriadur Cryfderau fydd yn cael eu profi yn y cyfweliad – Hyderus, Cynhwysol, Heriwr, Ataliwr a Threfnwr. Wrth roi tystiolaeth eich bod yn addas am y swydd yn y Camau Dadansoddi a Chyfweld, rydyn ni’n eich cynghori i gyfeirio at y Proffiliau Llwyddiant – Ymddygiadau’r Gwasanaeth Sifil (Success Profiles - GOV.UK (www.gov.uk) a Phroffiliau Llwyddiant – Geiriadur Cryfderau’r Gwasanaeth Sifil (Success Profiles - Civil Service Strengths Dictionary (publishing.service.gov.uk)

Gwybodaeth arall

  • Oni nodir fel arall yn y darn 'cyflog cychwynnol gwirioneddol', bydd pob ymgeisydd yn dechrau ar isafswm y raddfa gyflog y penodir iddi (mae hwn yn cynnwys gweision sifil presennol). Does dim modd trafod hyn.
  • Oni nodir fel arall yn 'math o gyfle', nid yw'r hysbyseb recriwtio hon ar agor ar sail Benthyciad neu Secondiad.
  • Am ragor o wybodaeth am y meini prawf cymhwystra ac amodau a thelerau swyddi Benthyciad a Secondiad yn Llywodraeth Cymru, gweler canllawiau allanol yr ymgeiswyr recriwtio.
  • Oni nodir fel arall yn 'Lleoliad y Swydd' dim ond yn y DU y gellir gweithio yn y rôl/rolau y recriwtir iddynt drwy’r ymgyrch hon, ac ni cheir gwneud hynny dramor.

Bydd y lwfansau proffesiynol yn cael eu cymhwyso yn unol â pholisïau Lwfansau Proffesiynol presennol Llywodraeth Cymru.  Ar hyn o bryd mae'r lefelau fel a ganlyn:

CYFRADDAU LWFANS CAFFAEL MASNACHOL

  • Lefel 4

HEO - £1,728,

  • MCIPS Llawn (Lefel 6) – Aelodaeth o Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi

HEO £4,607


Mae'r lwfansau hyn yn cael eu hadolygu a gallant newid yn y dyfodol.

Mae’n bosibl y bydd angen teithio ar draws Cymru a thu hwnt ar adegau ar gyfer y rôl. Gall rhywfaint o'r teithio hwn gynnwys aros dros nos.

Tracey Mayes - 03000 25013

Sut i wneud cais

Dylai pob cais ar gyfer y swydd hon gael ei gyflwyno ar-lein, gan ddefnyddio system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.  Os oes gennych nam sy’n golygu nad ydych chi’n gallu cyflwyno cais ar-lein, e-bostiwch DesgGymorthCydwasanaethau@llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio mewn fformat gwahanol, neu i ofyn am addasiad rhesymol yn gysylltiedig a nam, er mwyn cyflwyno’ch cais.

I gyflwyno cais, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif. I wneud hyn, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod.  Os oes gennych chi gyfrif yn barod, rhowch eich manylion mewngofnodi.  Os nad oes gennych chi gyfrif, pwyswch ‘Cofrestru’.  Dim ond ychydig funudau mae’n cymryd i lenwi’r ffurflen cofrestru, sydd angen cyfeiriad e-bost er mwyn ei chyflawni.  Unwaith i chi gofrestru a mewngofnodi, bydd y ffurflen gais yn agor ar y sgrin.  Mae angen i chi gwblhau’r ffurflen yn llwyr a’i hanfon erbyn yr amser terfyn ar y dyddiau cau. 

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Am ragor o wybodaeth ynghylch proses recriwtio Llywodraeth Cymru, gwelwch y Canllaw Recriwtio i Ymgeiswyr Allanol (dolen).

Wrth ddarparu tystiolaeth o’ch addasrwydd ar gyfer y swydd, rydym yn argymell eich bod yn cyfeirio at Fframwaith Cymwyseddau’r Gwasanaeth Sifil (dolen).

Anghydfod a Chwynion

Dylai unrhyw un sy’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg, neu sydd â chwyn am sut y cynhaliwyd y broses naill ai ysgrifennu at y Pennaeth Adnoddau, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays 2, Caerdydd CF10 3NQ neu e-bostio desggymorthcydwasanaethau@llyw.cymru. Os ydych chi’n anhapus â chanlyniad y gŵyn a godwyd gyda Llywodraeth Cymru ac yn teimlo nad yw egwyddorion penodi ar sail teilyngdod drwy gystadleuaeth deg ac agored wedi’u bodloni gallwch gyflwyno’ch cwyn i Gomisiwn y Gwasanaeth Sifil (Saesneg yn unig).

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.